BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042735w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif2735 (Cy.242)

ANIFEILIAID, CYMRU

Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 19 Hydref 2004 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2], mewn perthynas â mesurau yn y maes milfeddygol a ffytoiechydol ar gyfer gwarchod iechyd y cyhoedd, drwy ymarfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau TSE (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2004.

Diwygio Rheoliadau TSE (Cymru) 2002
    
2. Diwygir Rheoliadau TSE (Cymru) 2002[3] yn unol â'r Rheoliad hwn.

     3. Yn union ar ôl rheoliad 86 rhoddir  - 

     4. Yn union ar ôl Atodlen 6, mewnosodir yr Atodlen ganlynol - 





Arwyddwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

19 Hydref 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau TSE (Cymru) 2002, O.S. 2002/1416 (Cy.142).

Maent yn darparu ar gyfer gorfodi yng Nghymru Atodiad VII (ac eithrio paragraffau 1(a) a 2(a)) i Reoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n pennu rheolau ar gyfer gwarchod rhag, rheoli a dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol (OJ Rhif L. 147, 31.5.2001, t.1). Disodlwyd Atodiad VII i'r Rheoliad hwnnw gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 260/2003 sy'n diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor ynghylch dileu enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn anifeiliaid defeidiog a gafrog a rheolau masnachu anifeiliaid defeidiog a gafrog byw ac embryonau buchol (OJ Rhif L. 37, 13.02.2003, t.7). Cafodd yr Atodiad ei disodli gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1915/2003 (OJ Rhif L 283, 31.10.2003, t.29).

Maent yn ychwanegu Atodlen newydd i'r prif Reoliadau. Maent yn darparu mai'r Ysgrifennydd Gwladol yw'r awdurdod cymwys at ddibenion Atodiad VII i Reoliad y Gymuned (paragraff 1 o'r Atodlen).

Maent yn darparu ar gyfer hysbysebion i'w cyflwyno a gweithdrefnau hysbysu i'w dilyn pan gadarnheir presenoldeb enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy mewn defaid a geifr (paragraffau 2 i 8).

Mae Rhan II o'r Atodlen yn rheoleiddio symud defaid a geifr yn dilyn cyflwyno hysbysiad o dan Rhan 1 (paragraffau 9 i 13) ac yn darparu ar gyfer y rhanddirymiadau posibl a nodir yn Atodiad VII i reoliad yr EC (paragraff 14).

Mae Rhan III yn darparu cyfundrefn apelau ar gyfer hysbysiadau a gyflwynwyd yn unol â'r Atodlen.

Mae Rhan IV yn pennu iawndal ar gyfer anifeiliaid, embryonau ac wyau a ddifawyd yn unol â'r Atodlen,

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi a gellir cael copi oddi wrth o Adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S.1999/2027 fel ei ddiwygiwyd gan O.S. 2002/794.back

[2] 1972 p.68back

[3] O.S. 2002/1416 (Cy.142) fel ei ddiwygiwyd gan O.S. 2003/2756back

[4] This Schedule enforces Annex VII (other than paragraphs 1(a) and 2(a)) to Regulation (EC) No. 999/2001 of the European Parliament and of the Council laying down rules for the prevention, control and eradication of certain transmissible spongiform encephalopathies (OJ No. L 147, 31.5.2001, p. 1). Annex VII to that Regulation was first replaced in respect of ovine and caprine animals by Commission Regulation (EC) No 260/2003 amending Regulation (EC) No 999/2001 of the European Parliament and of the Council as regards the eradication of transmissible spongiform encephalopathies in ovine and caprine animals and rules for the trade in live ovine and caprine animals and bovine embryos (OJ No. L 37, 13/02/2003, p.7) and replaced again by Commission Regulation (EC) No. 1915/2003 as regards the trade and import of ovine and caprine animals and the measures following the confirmation of transmissible spongiform encephalopathies in bovine, ovine and caprine animals (OJ No. L 283, 31.10.2003, p. 29).back

[5] 1998 p38.back



English version



ISBN 0 11091011 7


  © Crown copyright 2004

Prepared 27 October 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042735w.html