BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
2004 Rhif2919 (Cy.258)
AMAETHYDDIAETH, CYMRU
Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004
|
Wedi'u gwneud |
9 Tachwedd 2004 | |
|
Yn dod i rym |
30 Tachwedd 2004 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn -
Enwi a Chychwyn
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2004.
Cymhwyso
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i benderfyniad perthnasol a wneir mewn perthynas â ffermwr sydd â'i ddaliad wedi'i leoli, naill ai yn gyfan gwbl neu'n rhannol, yng Nghymru.
Dehongli
3.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
ystyr "y Cynulliad Cenedlaethol" ("the National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
mae i "daliad" yr un ystyr ag sydd i "holding" yn Erthygl 2(b) o Reoliad y Cyngor;
ystyr "Deddfwriaeth y Gymuned" ("the Community legislation") yw Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2237/2003 sydd yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso rhai cynlluniau cefnogi a ddarperir ar eu cyfer yn Nheitl IV o Reoliad y Cyngor [3], Rheoliad y Comisiwn (EC) 795/2004 sydd yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu y cynllun taliad sengl a ddisgrifir yn Rheoliad y Cyngor [4] a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cyd-gydymffurfiaeth, modiwleiddio a'r system weinyddu a rheoli cyfunol a ddarperi ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor [5];
mae i "ffermwr" yr un ystyr ag sydd i "farmer" yn Erthygl 2(a) o Reoliad y Cyngor;
ystyr "penderfyniad perthnasol" ("relevant determination") yw unrhyw benderfyniad gan y Cynulliad Cenedlaethol a wneir mewn perthynas â ffermwr yn unol â, neu mewn cysylltiad â deddfwriaeth y Gymuned;
ystyr "Rheoliad y Cyngor" ("the Council Regulation") yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003, sy'n pennu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac sy'n pennu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr [6])
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliadau hyn at offeryn y Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hynny fel ei ddiwygir ar y dyddiad y mae'r rheoliadau hyn yn cael eu gwneud.
Darparu gweithdrefn apelio
4.
- (1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gweithdrefn sydd, ar gais ffermwr, i'w chymhwyso er mwyn ystyried penderfyniad perthnasol ymhellach, a hynny ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd y weithdrefn yn gweithio fel apêl yn erbyn y penderfyniad perthnasol dan sylw.
(2) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlwyd yn unol â pharagraff (1) osod unrhyw ddyddiad cau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei ystyried yn angenrheidiol at ddibenion ei gwneud yn ofynnol i ffermwr gyflwyno iddo, ddogfennau a gwybodaeth berthnasol a rhybudd o fwriad ef neu hi i apelio yn erbyn penderfyniad perthnasol.
(3) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlwyd o dan baragraff (1) ddarparu ar gyfer apelio'n ysgrifenedig neu ar lafar i'r personau hynny y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu penodi at y diben hwnnw (heb fod mwy na thri ohonynt), gyda'r bwriad eu bod yn llunio adroddiad o'u casgliadau a'u hargymhellion o ran sut y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu'n derfynol ar yr apêl.
(4) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu unrhyw weithdrefn a grybwyllir ym mharagraff (3), caiff -
(a) talu i'r personau a benodir unrhyw dâl rhesymol am eu swyddogaethau o dan y weithdrefn honno, ac unrhyw lwfansau teithio a lwfansau eraill y bydd yn penderfynu arnynt; a
(b) codi ar unrhyw ffermwr, yr ystyrir ei apêl o dan y weithdrefn a sefydlwyd, unrhyw dâl y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei bennu (heb fod yn fwy na £100), mewn perthynas ag unrhyw gostau a dynnwyd ganddo wrth roi'r weithdrefn ar waith o ran yr apêl dan sylw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Tachwedd 2004
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i sefydlu gweithdrefn apelio ar gyfer ffermwyr sy'n gwrthwynebu ei benderfyniadiau o ran sut y mae'n gweinyddu Cynllun y Taliad Sengl ac amrywiol gynlluniau cymorth penodol eraill (sef yn benodol y Cynlluniau rheini sydd yn ymwneud â premiwm cnydau protein, y taliad arwynebedd am gnau, cymorth cnydau ynni, cymorth am datws starts, y premiwm godro (a thaliadau ychwanegol) a chymorth cynhyrchu hadau.
Cyflwynir ac fe weithredir y cynlluniau yma gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. L270, 21.10.2003, t.1), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2237/2003 (O.J. Rhif L339, 24.12.2003, t.52), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L141, 30.04.2004, t.1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 (O.J. Rhif L141, 30.04.2004, t.18).
Caiff unrhyw weithdrefn apelio a sefydlir yn unol â'r rheoliadau yma fod yn ffurf unai cyflwyniad ar lafar neu yn ysgrifenedig i bersonau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyda'r bwriad i'r personau hynny argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol sut y dylai benderfynu'n derfynol ar y mater.
Mae'r Rheoliadau yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu tâl a lwfansau i unrhyw bersonau a benodir felly, ac i godi tâl (nad sydd yn fwy na £100) yn sgîl costau'r weithdrefn.
Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau o hwnnw gan Adran Amgylchedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Notes:
[1]
Yn rhinwedd Gorchymyn y Cymunedau Ewropeaidd (Dynodi) (Rhif 3) (O.S. 1999/2788) ("y Gorchymyn"). Mae pŵer y Cynulliad Cenedlaethol, fel corff sydd wedi'i ddynodi mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, i wneud rheoliadau sy'n gymwys i ddaliadau sy'n cynnwys tir sydd wedi'i leoli o fewn y Deyrnas Unedig ond y tu allan i Gymru wedi'i gadarnhau gan baragraff 2(b) o Atodlen 2 i'r Gorchymyn.back
[2]
1972 p.68.back
[3]
OJ Rhif L339, 24.12.2003, t.52.back
[4]
OJ Rhif L141, 30.04.2004, t.1.back
[5]
OJ Rhif L141, 30.04.2004, t.18.back
[6]
OJ Rhif L270, 21.10.2003, t.1 fel ei ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 864/2004 (O.J. L161, 30.04.2004, t.48).back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11091029 X
|
© Crown copyright 2004 |
Prepared
17 November 2004
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20042919w.html