BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) a'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043094w.html

[New search] [Help]



2004 Rhif3094 (Cy.268)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) a'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004

  Wedi'u gwneud 23 Tachwedd 2004 
  Yn dod i rym 24 Tachwedd 2004 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 12, 33(5) a (6), 34(4), 44(5) a (6), 45(4) a (5), 48(5) a (6) a 116 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1], ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) a'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 24 Tachwedd 2004.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag awdurdodau yng Nghymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn - 

Dehongli Rheoliadau 1995
     2. Yn rheoliad 1(3) o Reoliadau 1995 - 

Cyfrifo'r symiau perthnasol ar gyfer blwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny
    
3. Ar ôl rheoliad 5 o Reoliadau 1995, mewnosoder y rheoliad a ganlyn - 

Cyfrifo sylfaen treth gyngor awdurdod bilio ar gyfer rhan o'i ardal
    
4. Diwygir rheoliad 6(2) o Reoliadau 1995 fel a ganlyn - 

Cyfrifo sylfaen y dreth gyngor at ddibenion awdurdod praeseptio mawr
    
5. Diwygir rheoliad 7 o Reoliadau 1995 fel a ganlyn - 

Y cyfnod rhagnodedig
    
6. Yn lle paragraff (3) o reoliad 8 o Reoliadau 1995, rhodder - 

Penderfynu ar sylfaen treth gyngor awdurdod bilio
    
7. Yn rheoliad 9(2) o Reoliadau 1995, yn lle "be, 5" rhodder "be, 5 or 5A".

Diwygio Rheoliadau 1998
    
8. Yn rheoliad 3(2) o Reoliadau 1998, yn lle "section 12" rhodder "section 12(4)".



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Tachwedd 2004



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995 ("Rheoliadau 1995") a Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998 ("Rheoliadau 1998").

Mae Rheoliadau 1995 yn darparu i awdurdodau bilio ac awdurdodau praeseptio mawr yng Nghymru gyfrifo sylfaen y dreth gyngor ar gyfer rhannau o'u hardaloedd neu eu hardaloedd cyfan. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1995 o ganlyniad i roi adran 75 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ("Deddf 2003") yn lle adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992").

Mae adran 12 o Ddeddf 1992 yn caniatáu i awdurdodau bilio yng Nghymru ostwng y disgownt sy'n gymwys o dan adran 11(2)(a) o Ddeddf 1992 i anheddau sy'n syrthio i ddosbarthau a ragnodir mewn rheoliadau at ddibenion adran 12(3) o Ddeddf 1992 o 50% i leiafswm o 10%. Mae adran 12 o Ddeddf 1992 hefyd yn caniatáu i awdurdodau bilio yng Nghymru leihau'r disgownt o 50% neu ei ddirwyn i ben ar gyfer anheddau sy'n syrthio i ddosbarthau eraill a ragnodir mewn rheoliadau at ddibenion adran 12(4) o Ddeddf 1992.

Mae dosbarthau ar anheddau wedi'u rhagnodi yn Rheoliadau y Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998. (Mae is-adrannau (3), (4) a (5) o adran 75 o Ddeddf 2003 yn cadw mewn grym effaith rheoliadau, sy'n rhagnodi'r dosbarthau ar anheddau ac a oedd yn bodoli yn union cyn i'r adran honno ddod i rym).

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o "the authority's list" a geir yn rheoliad 1(3) o Reoliadau 1995, er mwyn adlewyrchu bod adran 77 o Ddeddf 2003 wedi mewnosod adran 22B yn Neddf 1992.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn mewnosod diffiniad o "relevant percentage" yn rheoliad 1(3) o Reoliadau 1995. Mae hynny'n ychwanegol at y diffiniad o "appropriate percentage" gan fod adran 12 o Ddeddf 1992 yn caniatáu i awdurdod bilio ostwng y dreth gyngor sy'n daladwy o ganrannau ac eithrio'r ganran briodol (25%) neu ddwywaith y ganran briodol.

Mae rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 5A newydd yn Rheoliadau 1995. Mae hynny'n darparu i awdurdodau bilio gyfrifo "the relevant amounts" ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny. Mae'r swm perthnasol ar gyfer pob band o'r dreth gyngor yn fesur o'r nifer o anheddau sydd yn y band hwnnw ar ôl ystyried anheddau esempt a disgowntiau.

Canfyddir sylfaen y dreth gyngor ar gyfer ardal awdurdod bilio gyfan (eitem T yn adran 33(1) o Ddeddf 1992) drwy gyfuno'r swm perthnasol ar gyfer pob band o'r dreth gyngor a'i luosi gydag amcangyfrifiad yr awdurdod o'i raddfa gasglu (gweler rheoliad 3 o Reoliadau 1995). Wrth gyfrifo sylfaen y dreth ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 neu ar ôl hynny, mae rheoliad 5A yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod ystyried disgowntiau o dan adrannau 11 a 12 o Ddeddf 1992. Y dyddiad perthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005 yw 24 Tachwedd 2004 (mae'r rheoliad 5A(11)(a) newydd o Reoliadau 1995 fel y'i mewnosodir gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn cyfeirio at hyn). Ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 neu ar ôl hynny, y diwrnod perthnasol fydd 31 Hydref yn y flwyddyn ariannol sy'n dod cyn y flwyddyn y gwneir y cyfrifiadau ar ei chyfer.

Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod cyfeiriadau at y rheoliad 5A newydd yn rheoliad 6 o Reoliadau 1995. Mae'r rheoliad 6 hwnnw yn darparu ar gyfer cyfrifo sylfaen y dreth ar gyfer rhan o ardal awdurdod bilio. Caiff rheoliad 6 o Reoliadau 1995 hefyd ei ddiwygio, a 24 Tachwedd 2004 fydd y diwrnod perthnasol at ddibenion rheoliad 5A, ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005, os caiff eitem TP yn adran 34(4) ei gyfrifo yn ystod y cyfnod o 24 Tachwedd 2004 i 31 Ionawr 2005.

Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod yn rheoliad 7 o Reoliadau 1995 gyfeiriadau at y rheoliad 5A newydd ac i'r eitemau yn y cyfrifiadau yn y rheoliad 5A newydd. Mae'r rheoliad 7 hwnnw yn darparu ar gyfer cyfrifo sylfaen y dreth at ddibenion awdurdod praeseptio mawr.

Mae rheoliad 6 yn rhoi rheoliad 8(3) newydd yn Rheoliadau 1995 yn lle'r hen un fel bod y cyfnod rhagnodedig mewn perthynas â chyfrifiadau ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2005, yn gyfnod o 24 Tachwedd 2004 i 31 Ionawr 2005.

Mae rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod cyfeiriad at y rheoliad 5A newydd yn rheoliad 9 o Reoliadau 1995. Mae'r rheoliad 9 hwnnw yn darparu ar gyfer penderfynu ar sylfaen treth awdurdod bilio gan awdurdod praeseptio mawr pan fydd yr awdurdod bilio wedi peidio â hysbysu'r awdurdod praeseptio mawr o sylfaen ei dreth yn ystod y cyfnod rhagnodedig.

Mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 1998 er mwyn egluro bod y dosbarth ar anheddau a elwir Dosbarth C wedi'i ragnodi gan y rheoliad 3 hwnnw at ddibenion adran 12(4) o Ddeddf 1992.


Notes:

[1] 1992 p.14.back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] O.S. 1995/2561, fel y'i newidiwyd gan O.S. 1999/2935.back

[4] O.S. 1998/105, fel y'i newidiwyd gan O.S. 2004/452.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11091035 4


  © Crown copyright 2004

Prepared 30 November 2004


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043094w.html