BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwyd a Addaswyd yn Enetig (Cymru) 2004 URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2004/20043220w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 7 Rhagfyr 2004 | ||
Yn dod i rym | 17 Rhagfyr 2004 |
Dehongli
2.
- (1) Yn y Rheoliadau hyn -
(2) Yn y Rheoliadau hyn -
(3) Mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad 1829/2003.
Cyflwyno ceisiadau am awdurdodiad i farchnata cynhyrchion
3.
Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw'r awdurdod cenedlaethol cymwys at ddibenion Pennod II o Reoliad 1829/2003[5].
Gorfodi
4.
Mae pob awdurdod bwyd, o fewn ei ardal, i orfodi a gweithredu darpariaethau'r Rheoliadau hyn a darpariaethau Pennod II o Reoliad 1829/2003.
Tramgwyddau a Chosbau
5.
- (1) Mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i'r ddarpariaeth Gymunedol benodedig y cyfeirir ati yn Rhan I o'r Atodlen neu'n methu â chydymffurfio â hi yn euog o dramgwydd ac yn agored -
(2) Mae unrhyw berson sydd yn mynd yn groes i unrhyw un o'r darpariaethau Cymunedol penodedig y cyfeirir atynt yn Rhan II o'r Atodlen, neu'n methu â chydymffurfio â hi, yn euog o dramgwydd ac yn agored, ar gollfarn ddiannod, i garchariad nad yw'n fwy na chwe mis neu i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i'r ddau.
Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
6.
- (1) Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1829/2003 fel y maent yn gymwys at ddibenion y Ddeddf -
(2) Mae adran 34 (terfyn amser i erlyniadau) yn gymwys i dramgwyddau o dan reoliad 5 fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.
Arolygu, cadw ac atafaelu bwyd sydd o dan amheuaeth
7.
- (1) Mae adran 8(3) o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel petai'n darllen fel a ganlyn -
(2) Mae adran 9 o'r Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel petai'n darllen fel a ganlyn -
and subsections (2) to (9) below apply where it appears to the authorised officer, taking account of all the information available to him, that the placing on the market of any food fails to comply with a specified Community provision.
(2) The authorised officer may either -
(b) seize the food and remove it in order to have it dealt with by a justice of the peace;
and any person who knowingly contravenes the requirements of a notice under paragraph (a) above is guilty of an offence.
(3) Where the authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(a) above, he or she is, as soon as is reasonably practicable and in any event within 21 days, to determine whether or not he or she is satisfied that the food complies with the specified Community provisions and -
(4) Where an authorised officer exercises the powers conferred by subsection (2)(b) or (3)(b) above, he or she is to inform the person in charge of the food of his or her intention to have it dealt with by a justice of the peace and -
(5) If it appears to a justice of the peace, on the basis of such evidence as he or she considers appropriate in the circumstances, that any food falling to be dealt with by him or her under this section fails to comply with a specified Community provision then subject to subsection (6) below he or she is to condemn the food and order -
(6) In the case of a food referred to in Article 3.1 which is the subject of an authorisation granted under Regulation 1829/2003 and has been produced in accordance with any conditions relating to that authorisation but does not bear the appropriate labelling as required by Article 13 the justice of the peace may, at his or her discretion, order -
(7) If a notice under subsection (2)(a) above is withdrawn, or the justice of the peace by whom any food falls to be dealt with under this section refuses to condemn it or to make an order for the proper labelling of the food, the food authority is to compensate the owner of the food for any depreciation in its value resulting from the action taken by the authorised officer.
(8) Any disputed question as to the right to or the amount of any compensation payable under subsection (7) above is to be determined by arbitration.
(9) In this section "specified Community provision" has the same meaning as in the Genetically Modified Food (Wales) Regulations 2004.".
Dirymu
8.
Mae Rheoliadau Bwydydd a Addaswyd yn Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000[6] drwy hyn wedi'u dirymu.
Diwygiadau canlyniadol
9.
- (1) Yn Rheoliadau Bwydydd Newydd a Chynhwysion Bwydydd Newydd 1997[7] -
(2) Yn y Rheoliadau Bwyd (Darpariaethau sy'n ymwneud â Labelu) (Cymru 2004[8], mae rheoliad 8 drwy hyn wedi'i ddirymu.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[9]).
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
7 Rhagfyr 2004
Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 1829 /2003 | Y Pwnc |
Erthygl 4.2 | Gwahardd rhoi bwyd ar y farchnad y cyfeirir ato yn Erthygl 3.1 onid oes awdurdodiad ar ei gyfer a'i fod yn bodloni amodau perthnasol yr awdurdodiad. |
Y Ddarpariaeth yn Rheoliad 1829 /2003 | Y Pwnc |
Erthygl 8.6 | Gofyniad bod cynhyrchion y mae'r Comisiwn wedi mabwysiadu mesur mewn perthynas â hwy o dan Erthygl 8.6 i'w cael eu tynnu oddi ar y farchnad. |
Erthygl 9.1 | Gofyniad bod yn rhaid i ddeiliad awdurdodiad a phartïon sy'n ymwneud â rhoi cynnyrch bwyd ar y farchnad gydymffurfio ag amodau neu gyfyngiadau a roddwyd ar awdurdodiad a chyda gofynion monitro ôl-farchnadol. |
Erthygl 9.3 | Gofyniad bod deiliad awdurdodiad yn hysbysu'r Comisiwn o unrhyw wybodaeth wyddonol neu dechnegol newydd sy'n ymwneud â chynnyrch, a allai ddylanwadu ar werthuso diogelwch wrth ddefnyddio'r bwyd neu ar unrhyw waharddiad neu gyfyngiad ar y bwyd mewn trydedd wlad. |
Erthygl 13 | Gofyniad am ddangosiadau labelu penodol. |
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y rheoliadau hyn a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â Nodyn Trosi. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.
[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1.back
[4] OJ Rhif L268, 18.10.03, t.1.back
[5] Ei chyfeiriad yng Nghymru yw Llawr 11 , Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW.back
[7] O.S. 1997/1335, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/253, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1925.back