BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 Rhif 36 (Cy.3)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050036w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 36 (Cy.3)

ADDYSG, CYMRU

Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005

  Wedi'i wneud 11 Ionawr 2005 
  Yn dod i rym 9 Chwefror 2005 

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 7(1) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau o'r farn y caiff Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, ar y cyd â'i holl swyddogaethau eraill, gyflawni'n briodol swyddogaethau ychwanegol a roddir drwy hyn, ac yntau wedi ymgynghori fel yr ymddengys ei bod yn briodol iddo ei wneud yn unol ag adran 7(2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi a chychwyn
     1. Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau Ychwanegol) 2005 a daw i rym ar 9 Chwefror 2005.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn  - 

Swyddogaethau Ychwanegol
     3.  - (1) Mae'r Cyngor, ac yntau wedi'i ddynodi yn unol â'r Rheoliadau, i gael swyddogaeth ystyried ceisiadau a rhoi awdurdodiadau i arfer proffesiwn athro neu athrawes ysgol yng Nghymru at ddiben y Gyfarwyddeb.

    (2) Mae'r Cyngor i roi cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd am y gofynion i gydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a gafwyd mewn gwladwriaeth berthnasol.



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
5].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

11 Ionawr 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau ychwanegol i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru. Ymhlith swyddogaethau'r Cyngor y mae sefydlu a chynnal cofrestr athrawon, cyhoeddi Cod Ymarfer, gosod safonau ymddygiad ac arferion proffesiynol a ddisgwylir gan athrawon cofrestredig, arfer pwerau disgyblu mewn perthynas ag athrawon cofrestredig a phobl sy'n gwneud cais am gael eu cofrestru a rhoi cyngor am faterion addysgu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r Cyngor wedi'i bennu'n awdurdod dynodedig at ddibenion Rheoliadau'r Cymunedau Ewropeaidd (Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol) (Y System Gyffredinol Gyntaf) 2005 a wnaed o dan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae'r Rheoliadau hynny yn rhoi effaith i Gyfarwyddeb 89/48/EEC ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfernir ar ôl cwblhau addysg a hyfforddiant proffesiynol sy'n para am dair blynedd o leiaf. Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaeth gweithredu fel awdurdod dynodedig i'r Cyngor. Ac yntau'n awdurdod dynodedig, mae'r Cyngor i ymdrin â cheisiadau oddi wrth bobl sydd wedi cymhwyso mewn gwladwriaeth berthnasol (aelod-wladwriaethau'r Gymuned Ewropeaidd, Gwlad yr Iâ, Norwy, Liechtenstein a'r Swistir) am gael cydnabod eu cymwysterau proffesiynol.

Hefyd, rhoddir swyddogaeth ychwanegol i'r Cyngor, sef rhoi gwybodaeth a chyngor i'r cyhoedd am ofynion cydnabod yng Nghymru gymwysterau addysgu a gafwyd mewn gwladwriaeth berthnasol.


Notes:

[1] 1998 p.30. Mae'r darpariaethau perthnasol yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adrannau 8 a 9 o'r Ddeddf a Gorchymyn Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru 1998 (O.S. 1998/2911 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2940 (Cy.281)). Diwygiwyd adran 7(3) gan baragraff 78 o Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] OJ Rhif L19, 24.1.89, t.16.back

[4] O.S. 2005/18.back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091059 1


  © Crown copyright 2005

Prepared 31 January 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050036w.html