BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005 Rhif 45 (Cy.4)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050045w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 45 (Cy.4)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 13 Ionawr 2005 
  Yn dod i rym 15 Ionawr 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 15 Ionawr 2005 ac maent yn gymwys mewn perthynas â Chymru.

Dehongli
    
2.  - (1) Yn y Rheoliadau hyn  - 

    (2) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at un o offerynnau'r Gymuned yn gyfeiriad at yr offeryn hwnnw fel y'i diwygiwyd ar y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.

    (3) mae i ymadroddion eraill a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac y mae'r ymadroddion Saesneg sy'n cyfateb iddynt yn ymddangos yn Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn 795/2004 neu Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag a roddir i'r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Rheoliad y Cyngor, Rheoliad y Comisiwn 795/2004 neu Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yn ôl y digwydd.

Isafswm arwynebedd a dimensiynau parseli neilltir
     3. At ddibenion ail frawddeg Erthygl 54(4) o Reoliad y Cyngor, caniateir i dir gael ei neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu  - 

Safonau ychwanegol cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da mewn perthynas â neilltir
     4.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(2) o Reoliad y Comisiwn 795/2004 ac sy'n gymwys mewn perthynas â thir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu wedi'u nodi yn Atodlen 1.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (6), mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt yn Erthygl 32(2) o Reoliad y Comisiwn 795/2004 ac sy'n gymwys mewn perthynas â thir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd wedi'u nodi yn Atodlen 2.

    (3) mae'r safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) i fod yn gymwys i dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu a thir sydd wedi'i neilltuo at ddibenion di-fwyd yn y drefn honno yn ychwanegol at y safonau cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys i'r tir yn rhinwedd rheoliad 4 o Reoliadau Trawsgydymffurfio 2004.

    (4) Nid yw darpariaethau paragraffau (1) a (2) yn gymwys i dir  - 

i'r graddau y mae gofynion Atodlen 1 neu 2 yn anghydnaws â'r gofynion amgylcheddol neu'r gofynion coedwigo a bennwyd yn unol â'r Erthyglau hynny.

    (5) mae ffermwr yn esempt rhag unrhyw ofyniad penodol yn Atodlen 1 neu 2 mewn perthynas â neilltir penodol os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol mewn cais sy'n cael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglyn â'r gofyniad hwnnw, y dylai gael ei esemptio rhagddo  - 

    (6) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu bod unrhyw esemptiad a roddir yn unol â pharagraff (5) yn effeithiol tan ddyddiad a bennir yn yr esemptiad, neu hyd nes bod achlysur penodol, a bennir yn yr esemptiad, wedi digwydd.

    (7) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "chwynnyn penodol" yw unrhyw un o'r chwyn niweidiol a restrir yn adran 1(2) o Ddeddf Chwyn 1959[11], sef Rhododendron ponticum, clymog Japan (Reynoutria japonica), efwr enfawr (Heracleum mantegazzianum) neu ffromlys chwarennog (Impatiens glandulifera).

Cyfnewid tir cymwys a thir anghymwys
     5.  - (1) Mewn sefyllfa a bennir yn is-baragraff (a), (b) neu (c) o baragraff cyntaf Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004, caiff ffermwr wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol am dir nad yw fel arall yn gymwys ar gyfer hawl neilltir.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r cais gael ei wneud ar unrhyw ffurf y gall y Cynulliad Cenedlaethol ofyn yn rhesymol amdani, a phan fo'r ffermwr yn bwriadu cyfnewid y tir y mae'r cais yn cael ei wneud ar ei gyfer am dir arall sy'n gymwys ar gyfer hawl neilltir (gan gynnwys tir sy'n cael ei gyfrif yn gymwys ar gyfer hawl neilltir o ganlyniad i gais a ganiatawyd o dan y rheoliad hwn), rhaid iddo roi manylion am y tir hwnnw, yn ogystal â'r tir y mae'r cais yn cael ei wneud ar ei gyfer, yn ei gais.

    (3) Pan fo ffermwr yn dal unrhyw ran o'r tir y mae ei gais wedi'i wneud ar ei gyfer, neu unrhyw dir y mae'n bwriadu ei gyfnewid am y tir hwnnw, fel tenant, rhaid iddo gael cydsyniad ysgrifenedig ei landord â'r cyfnewid, a rhaid i'r cais gynnwys datganiad gan y ceisydd bod y cydsyniad hwnnw wedi'i sicrhau.

    (4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymeradwyo'r cais a wnaed o dan baragraff (1) os yw wedi'i fodloni  - 

    (5) Pan fo cymeradwyaeth wedi'i rhoi o dan baragraff (4) ond bod unrhyw ddatganiad a oedd wedi'i gynnwys gan y ffermwr yn y cais, neu unrhyw wybodaeth a oedd wedi'i rhoi mewn cysylltiad â'r cais, yn anwir mewn unrhyw fanylyn perthnasol, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddirymu'r gymeradwyaeth honno.

    (6) Yn y rheoliad hwn mae i "yn gymwys ar gyfer hawl neilltir", mewn perthynas â thir, yr ystyr a roddir i "eligible for set-aside entitlement" gan baragraff cyntaf Erthygl 54(2) o Reoliad y Cyngor.

Darpariaethau ynglyn â deunyddiau crai sy'n cael eu cynhyrchu at ddibenion di-fwyd
    
6.  - (1) mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i ddynodi fel yr awdurdod cymwys at ddibenion Pennod 16 o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 (defnyddio tir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer cynhyrchu deunyddiau crai at ddibenion di-fwyd).

    (2) Rhaid i ddeunyddiau crai y mae Erthygl 146(2)(b) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004 yn gymwys iddynt gael eu pwyso gan weithredydd cyfarpar pwyso cyhoeddus sy'n dal tystysgrif a ddyroddwyd o dan adran 18 o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985[
12].

    (3) At ddibenion Erthygl 146(4) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004, rhaid i rawnfwydydd a hadau olew y mae'r paragraff hwnnw'n gymwys iddynt gael eu dadnatureiddio drwy eu lliwio â lliw llachar.

    (4) At ddibenion Erthygl 157(1) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004, 15 Mai yn y flwyddyn y mae'r cais perthnasol i gael yr hawl neilltir gysylltiedig yn cael ei wneud yw'r diwrnod olaf y caniateir adneuo contract y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo yn swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.

    (5) At ddibenion Erthygl 157(3) o Reoliad y Comisiwn 1973/2004, 31 Ionawr yn y flwyddyn sy'n dilyn y flwyddyn y mae'r cais perthnasol i gael yr hawl neilltir gysylltiedig yn cael ei wneud yw'r diwrnod olaf y caniateir i gasglwr neu brosesydd cyntaf y mae'r paragraff hwnnw yn gymwys iddo ddarparu i'r Cynulliad Cenedlaethol yr wybodaeth a bennir yn y paragraff hwnnw.

    (6) Yn y rheoliad hwn  - 

Cadw cofnodion a dal gafael arnynt gan gasglwr a chan brosesydd
     7.  - (1) mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo ffermwr yn neilltuo tir at ddibenion di-fwyd, ac ym mharagraffau (2) i (5) mae cyfeiriadau at "deunyddiau crai" yn gyfeiriadau at ddeunyddiau crai a gynhyrchir ar y tir hwnnw.

    (2) Yn ystod unrhyw fis pan fydd casglwr yn prynu neu'n gwerthu unrhyw ddeunyddiau crai, rhaid iddo wneud cofnod o faint o bob deunydd crai y mae wedi'i brynu neu wedi'i werthu yn ystod y mis hwnnw, ac enwau a chyfeiriadau'r prynwyr neu'r proseswyr dilynol y mae wedi gwerthu'r deunyddiau crai hynny iddynt.

    (3) Rhaid i gasglwr ddal ei afael ar y cofnodion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) tan y cynharaf o'r canlynol  - 

    (4) Ar unrhyw ddydd y mae prosesydd yn prynu, prosesu, dinistrio, gwerthu neu fel arall yn gwaredu unrhyw gynhyrchion a geir drwy brosesu deunyddiau crai o'r fath, rhaid iddo wneud cofnod sy'n dangos  - 

    (5) Rhaid i brosesydd ddal ei afael ar y cofnodion y cyfeirir atynt ym mharagraff (4) am ddwy flynedd o'r naill neu'r llall o'r dyddiadau canlynol  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
13]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Ionawr 2005



ATODLEN 1
Rheoliadau 2(1) a 4(1) a (4)


SAFONAU YCHWANEGOL CYFLWR AMAETHYDDOL AC AMGYLCHEDDOL DA SY'N GYMWYS MEWN PERTHYNAS Â THIR SYDD WEDI'I NEILLTUO ODDI WRTH WAITH CYNHYRCHU




RHAN A

Opsiynau rheoli ar gyfer tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu
     1.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) i (4), ar gyfer pob cae neu ran o gae sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu mewn blwyddyn galendr benodol, rhaid i ffermwr, yn ystod y flwyddyn honno, gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i un o'r opsiynau rheoli canlynol (fel y'u nodir ym mharagraffau 2, 3 a 4 yn ôl eu trefn)  - 

    (2) Yn 2005, ar gyfer pob rhan o gae y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo ac sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn y flwyddyn honno, caiff ffermwr gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i opsiwn y lleiniau o dan 10 metr (fel y'i nodir ym mharagraff 5).

    (3) Pan fo ffermwr yn 2006 neu unrhyw flwyddyn ar ôl hynny yn neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu dir y mae rheoliad 3 yn gymwys iddo, rhaid iddo gydymffurfio â'r amodau sy'n gymwys i opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau a nodwyd ym mharagraff 2 yn ystod y flwyddyn honno.

    (4) Pan fo ffermwr  - 

rhaid i'r ffermwr reoli'r tir yn unol â'r cynllun rheoli hwnnw yn lle cydymffurfio â'r amodau a nodir ym mharagraffau canlynol yr Atodlen hon a fyddai fel arall yn gymwys.

    (5) At ddibenion yr Atodlen hon  - 

    (6) Ym mharagraffau 2(1)(b), 3(1)(b), 4(1)(c) a 5(1)(b), ystyr "y cyfnod perthnasol" ("the relevant period") mewn perthynas â chae neu ran o gae (yn ôl y digwydd) sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu  - 

Opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau
     2.  - (1) Ar gyfer pob cae neu ran o gae sydd i'w reoli neu i'w rheoli yn unol ag opsiwn y gorchudd glas wedi'i hau, rhaid i ffermwr  - 

    (2) Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol â pharagraff (1)(a) yn gymwys  - 

Opsiwn yr aildyfiant naturiol
     3.  - (1) Ym mhob cae neu ran o gae sydd i'w reoli neu i'w rheoli yn unol ag opsiwn yr aildyfiant naturiol, rhaid i ffermwr  - 

    (2) Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol â pharagraff (1)(a) yn gymwys  - 

Opsiwn y gorchudd adar gwyllt
     4.  - (1) Ym mhob cae neu ran o gae sydd i'w reoli neu i'w rheoli yn unol ag opsiwn y gorchudd adar gwyllt, rhaid i ffermwr  - 

    (2) Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn gymwys  - 

Opsiwn y lleiniau o dan 10 metr
     5.  - (1) Ym mhob rhan o gae sydd i'w rheoli yn unol ag opsiwn y lleiniau o dan 10 metr, rhaid i ffermwr  - 

    (2) Nid yw'r gofyniad i sefydlu gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1)(a) yn gymwys yn 2005  - 

Torri neu ddifa'r gorchudd glas
     6.  - (1) Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1), rhaid i ffermwr wneud y naill neu'r llall o'r canlynol - 

    (2) Caiff ffermwr (pan fo'n torri'r gorchudd glas mewn cae neu ran o gae yn unol ag is-baragraff (1)(a)) yn achos cae sydd i'w neilltuo yn y flwyddyn ganlynol, adael heb ei dorri 25% o'r arwynebedd sydd wedi'i neilltuo yn y cae hwnnw, ar yr amod bod unrhyw arwynebedd a adewir heb ei dorri yn unol â'r paragraff hwn ac sydd hefyd wedi'i adael heb ei dorri yn ystod y ddwy flynedd flaenorol yn unol â'r paragraff hwn (neu baragraff 7(2)(b) o Atodlen 2 i Reoliadau Taliadau Arwynebedd Âr 1996) yn cael ei dorri yn unol ag is-baragraff (1) yn y flwyddyn ganlynol.

Esemptiadau rhag y gofyniad i sefydlu gorchudd glas ar neilltir
     7.  - (1) Ym mhob cae neu ran o gae y mae unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2) yn cael ei weithredu, bydd ffermwr yn rhinwedd y ddarpariaeth hon yn cael ei drin fel un sy'n esempt rhag gofyniad i sefydlu gorchudd glas erbyn dechrau'r tymor gorchudd glas cyfredol, os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol nad oedd yn ymarferol sefydlu gorchudd glas erbyn hynny am resymau hinsoddol, ac, os yw'n cael ei drin fel un sy'n esempt, rhaid iddo sefydlu gorchudd glas cyn gynted ag y bo'n rhesymol bosibl ar ôl dechrau'r tymor gorchudd glas.

    (2) Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), nid oes rhaid i ffermwr sefydlu gorchudd glas ar lain o dir sy'n rhan o'r tir sydd wedi;'i neilltuo ac sy'n ffinio â'i ymyl, a honno'n llain hyd at  - 

    (3) Yn is-baragraff (2), ystyr "cnwd hadau" yw cnwd a dyfir fel bod modd cynaeafu hadau'r cnwd a'u hau i sefydlu cnwd pellach.

Esemptiadau rhag y gofyniad i gynnal a chadw gorchudd glas ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu
     8.  - (1) Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), nid yw'n ofynnol i ffermwr gynnal a chadw gorchudd glas ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu pan fo'r gorchudd glas hwnnw wedi'i ddifa ar ôl taenu plaleiddiad ar y tir ar neu ar ôl 15 Ebrill yn y flwyddyn gyfredol.

    (2) Ar gyfer pob cae neu ran o gae y mae unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), bydd ffermwr yn cael ei drin yn rhinwedd y ddarpariaeth hon fel un sy'n esempt rhag gofyniad i gynnal a chadw gorchudd glas os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol bod y gorchudd glas a sefydlodd wedi methu neu nad oedd modd iddo atal yn rhesymol y methiant hwnnw.

    (3) Bydd yr esemptiadau a grybwyllwyd yn is-baragraffau (1) a (2) yn gymwys  - 

    (4) Ym mhob cae neu ran o gae y gweithredir unrhyw un o'r opsiynau a grybwyllir ym mharagraff 1(1) neu (2), a lle mae ffermwr wedi dewis peidio â sefydlu gorchudd glas ar lain o dir yn unol â pharagraff 7(2), nid oes rhaid iddo gynnal a chadw unrhyw orchudd glas sydd wedyn yn ymsefydlu ar y llain honno.



RHAN B

Safonau cyffredinol sy'n gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu

Yr amodau sy'n gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu
     9. Mae darpariaethau paragraffau 10 i 15 o'r Atodlen hon yn gymwys i bob darn o dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac sy'n cael ei reoli gan ffermwr yn unol ag unrhyw un o ddarpariaethau paragraffau 1 i 8.

Gwahardd hau, a pharatoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu, a gwahardd trin y tir hwnnw
     10.  - (1) Yn ddarostyngedig i baragraffau 11 a 12, yn ystod y cyfnod neilltuo cyfredol, rhaid i ffermwr beidio â hau, na gwneud unrhyw waith paratoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu na thrin y tir hwnnw mewn unrhyw ffordd arall .

    (2) mae unrhyw gyfeiriad at ddyddiad ym mharagraff 11 neu 12 yn gyfeiriad at y dyddiad hwnnw sy'n dod o fewn y cyfnod neilltuo cyfredol.

Esemptiadau rhag y gwaharddiad ar hau, a pharatoi ar gyfer hau, cnwd ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu
     11.  - (1) Caiff ffermwr wneud paratoadau ar gyfer hau ar neu ar ôl 15 Gorffennaf.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff ffermwr hau unrhyw hadau ar neu ar ôl 15 Gorffennaf os yw'r hadau yn cael eu hau er mwyn cynhyrchu cnwd i'w gynaeafu yn y flwyddyn ganlynol.

    (3) Pan fo ffermwr yn hau tir glas ar dir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu yn unol â'r esemptiad yn is-baragraff (2), rhaid iddo beidio â phori unrhyw anifeiliaid ar y tir hwnnw yn ystod gweddill y flwyddyn gyfredol.

Trin tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu at ddibenion rheoli chwyn
     12. Caiff ffermwr drin y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar unrhyw bryd ar neu ar ôl 1 Gorffennaf at ddibenion rheoli chwyn.

Amnewid y gorchudd glas a newid opsiynau rheoli
     13.  - (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), yn ystod unrhyw gyfnod y mae'n ofynnol i ffermwr gynnal a chadw gorchudd glas mewn cae neu ran o gae, caiff roi gorchudd arall, serch hynny, yn lle'r gorchudd glas hwnnw ar yr amod bod yr hadau yn cael eu hau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl difa'r gorchudd glas sy'n bodoli eisoes.

    (2) Rhaid i'r hadau sydd i'w hau er mwyn sefydlu gorchudd glas newydd yn lle'r hen un  - 

    (3) O ran y cae neu'r rhan o gae lle mae'r gorchudd glas wedi'i amnewid, rhaid i ffermwr gydymffurfio â'r amodau hynny a nodwyd yn Rhan A o'r Atodlen hon ac sy'n ymwneud ag un o'r opsiynau rheoli canlynol  - 

    (4) Pan fo ffermwr yn amnewid gorchudd glas yn unol ag is-baragraff (1), rhaid iddo beidio â phori unrhyw anifeiliaid ar y tir hwnnw, na chynaeafu unrhyw gnydau a gynhyrchir ar y tir hwnnw, yn ystod gweddill y flwyddyn gyfredol.

Defnyddio'r gorchudd glas
     14.  - (1) Rhaid i ffermwr sicrhau, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), na fydd unrhyw orchudd glas na thoriadau o unrhyw orchudd glas yn cael eu defnyddio i gynhyrchu hadau neu at unrhyw ddiben masnachol neu amaethyddol arall yn y flwyddyn gyfredol.

    (2) Caiff ffermwr  - 

    (3) Rhaid i ffermwr sicrhau na chaiff unrhyw doriadau o'r gorchudd glas eu symud oddi ar y neilltir o dan sylw ac eithrio yn unol ag is-baragraff (2) neu gyda chydsyniad ymlaen llaw gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Taenu gwrtaith, gwastraff, calch a gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu
     15.  - (1) Rhaid i ffermwr beidio â thaenu unrhyw wrtaith, gwastraff, calch na gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ac eithrio yn unol â'r is-baragraffau canlynol.

    (2) Caiff ffermwr daenu gwrteithiau ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu os yw'n bodloni'r Cynulliad Cenedlaethol cyn eu taenu fod y tir wedi'i leoli mewn ardal y mae'n hysbys ei fod yn cael ei defnyddio fel ardal ar gyfer bwyta gan wyddau yn y gaeaf a'i fod i'w reoli fel ardal o'r fath.

    (3) Drwy gydol y cyfnod neilltuo, caiff ffermwr daenu gwastraff organig ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu ar yr amod  - 

    (4) Rhaid i ffermwr beidio â storio na dadlwytho na gwaredu fel arall unrhyw wastraff ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu, ac eithrio ei fod yn cael storio gwastraff organig mewn cae sy'n cynnwys neu'n ffurfio rhan o'r neilltir lle mae'r gwastraff organig hwnnw i'w daenu ganddo ar y cae hwnnw yn unol ag is-baragraff (3).

    (5) Caiff ffermwr daenu gwrtaith yn ystod y flwyddyn gyfredol ar unrhyw barsel o dir amaethyddol sy'n cael ei reoli yn unol â pharagraff 4 lle bo gorchudd glas newydd yn cael ei sefydlu yn y flwyddyn honno, ar yr amod nad yw cyfanswm y nitrogen yn y gwrtaith hwnnw yn fwy na 30 cilogram yr hectar o dir y mae'n cael ei daenu arno.

    (6) Caiff ffermwr daenu calch neu gypswm ar y tir sydd wedi'i neilltuo oddi wrth waith cynhyrchu pan fo cnydau i'w tyfu ar y tir hwnnw yn y flwyddyn ganlynol.



ATODLEN 2
Rheoliad 4(2) a (4)


SAFONAU YCHWANEGOL CYFLWR AMAETHYDDOL AC AMGYLCHEDDOL DA SY'N GYMWYS MEWN PERTHYNAS Â THIR SYDD WEDI'I NEILLTUO AR GYFER DARPARU CNYDAU DI-FWYD


Taenu gwrteithiau a gwastraff ar dir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer darparu cnydau di-fwyd
Dim ond ar dir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer darparu cnydau di-fwyd y caiff ffermwr daenu gwrtaith neu wastraff cyhyd  - 



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Ionawr 2005. Maent yn gwneud darpariaeth yng Nghymru ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L 270, 21.10.2003, t. 1) ("Rheoliad y Cyngor"), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t. 1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 (O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 1) ("Rheoliad y Comisiwn 1973/2004") ynglyn â'r rhwymedigaeth i neilltuo tir o dan y Cynllun Taliad Sengl newydd ar gyfer ffermwyr ("y Cynllun"). Daeth y Cynllun ei hun i rym ar 1 Ionawr 2005.

Mae rheoliad 3 yn pennu isafswm maint ac isafswm lled y tir y caniateir ei neilltuo mewn sefyllfaoedd penodol fel y'u caniateir o dan Erthygl 54(4) o Reoliad y Cyngor. Wrth wneud hynny, mae'n rhan-ddirymu'r ddarpariaeth yn Erthygl 54(4) sydd fel arall yn pennu isafswm maint ac isafswm lled y tir y caniateir ei neilltuo.

Mae rheoliad 4, fel y'i darllenir gydag Atodlenni 1 a 2, yn pennu'r cyflyrau amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys i dir sy'n cael ei neilltuo o dan y Cynllun. Mae'r rhain yn gymwys yn ychwanegol at y cyflyrau amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys yn rhinwedd Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) 2004 (O.S. 2004 / 3280 (Cy.284)).

Mae rheoliad 5 yn caniatáu i ffermwyr wneud cais i dir na ellir ei neilltuo o dan y Cynllun gael ei gyfrif yn dir y caniateir ei neilltuo o dan y Cynllun. Mae Erthygl 33 o Reoliad y Comisiwn 795/2004 yn pennu ym mha achosion y gellir caniatáu hynny. Mewn rhai achosion, gall hyn olygu cyfnewid tir.

Mae rheoliad 6 yn pennu darpariaethau ynglyn â deunyddiau crai a dyfir ar dir sydd wedi'i neilltuo ar gyfer darparu deunyddiau i weithgynhyrchu o fewn y Gymuned Ewropeaidd gynhyrchion nad ydynt wedi'u bwriadu'n bennaf ar gyfer eu bwyta gan bobl neu anifeiliaid ("deunyddiau crai sy'n cael eu cynhyrchu at ddibenion di-fwyd") ac mae'n eu pennu fel a ganlyn  - 

Mae rheoliad 7 yn pennu'r cofnodion y mae rhaid i gasglwyr a phroseswyr cyntaf eu cadw ynghylch unrhyw ddeunyddiau crai a gynhyrchwyd at ddibenion di-fwyd ac a brynwyd ganddynt ac yn pennu hyd y cyfnod y dylid cadw'r cofnodion hynny.

Mae arfarniad rheoliadol ynglyn â'r Rheoliadau hyn wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1974/2004 (O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 85).back

[4] O.J. Rhif L 345, 20.11.2004, t. 1.back

[5] O.J. Rhif L 270, 21.10.2003, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 864/2004 (O.J. Rhif L 161, 30.4.2004, t. 48, fel y mae wedi'i gywiro drwy gorigendwm yn O.J. Rhif L 206, 9.6.2004, t. 20).back

[6] O.J. Rhif L 160, 26.6.1999, t. 1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor.back

[7] O.S. 2004 / 3280 (Cy.284).back

[8] 1981 p.69.back

[9] O.J. Rhif L160, 26.6.99, t.80, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1783/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.70).back

[10] 1993 p.10.back

[11] 1959 p.54.back

[12] 1985 p.72.back

[13] 1998 p.38.back

[14] O.S. 1996/3142, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[15] O.S. 1996/3142, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[16] O.S. 1998/3084.back



English version



ISBN 0 11 091060 5


  © Crown copyright 2005

Prepared 1 February 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050045w.html