BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 70 (Cy.8)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050070w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 70 (Cy.8)

IECHYD PLANHIGION, CYMRU

Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 18 Ionawr 2005 
  Yn dod i rym 31 Ionawr 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd gan adrannau 2, 3(1) i (4) a 4(1) o Ddeddf Iechyd Planhigion 1967[1] fel y'u darllenir gydag adran 20 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1972[2] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[3] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru a daw i rym ar 31 Ionawr 2005.

Diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993
    
2. Mae Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993[4] wedi'i ddiwygio, lle mae'n gymwys i Gymru, yn unol â'r Atodlen.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

18 Ionawr 2005



YR ATODLEN
    (1) Yn erthygl 2(1)  - 

    (2) Yn lle erthygl 3(1), is-baragraff (e), rhodder y canlynol:

    (3) Yn erthygl 9, ar ôl y geiriau "phytosanitary certificate" fel y maent yn ymddangos ym mharagraffau (1) a (2) ill dau, mewnosoder "or, in the case of imports from Switzerland of plants, plant products or other objects which are listed in Part A of Schedule 5A, a Swiss plant passport".

    (4) Yn Erthygl 11(2), ar ôl y geiriau "directly consigned to Great Britain", mewnosoder y geiriau "or, in the case of consignments from Switzerland of plants, plant products or other objects which are listed in Part A of Schedule 5A, a Swiss plant passport".

    (5) Yn Atodlen 1, Rhan B(a) (Pryfed, Gwiddon a Nematodau, ym Mhob Rhan o'u Datblygiad)  - 


    (6) Yn Atodlen 1, Rhan B(d) (Feirysau ac Organeddau Feirws-debyg) yn eitem 1, yn lle'r geiriau yn yr ail golofn, rhodder y canlynol:

    (7) Yn Atodlen 2, Rhan A, Adran 1(a) (Pryfed, Gwiddon a Nematodau, ym Mhob Rhan o'u Datblygiad) dileer eitem 14.

    (8) Yn Atodlen 2, Rhan A, Adran 2(a) (Pryfed, Gwiddon a Nematodau, ym Mhob Rhan o'u Datblygiad), ar ôl eitem 6, mewnosoder y canlynol:

"6a Eutetranychus orientalis Klein Plants of Citrus L., Fortunella Swingle, Poncirus Raf. and their hybrids, other than fruit and seeds".




BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050070w.html