BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Pasbortau Ceffylau (Cymru) 2005 Rhif 231 (Cy.21)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050231w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 231 (Cy.21)

ANIFEILIAID, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Pasbortau Ceffylau (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 8 Chwefror 2005 
  Yn dod i rym 9 Chwefror 2005 


TREFN Y RHEOLIADAU

1. Enwi, cymhywso a chychwyn
2. Dehongli
3. Cyrff a awdurdodwyd i ddyroddi pasbortau
4. Pwerau a dyletswyddau cyrff sy'n dyroddi pasbortau
5. Cofnodion
6. Gwneud cais am basbort
7. Terfynau amser ar gyfer cael pasbort
8. Dyroddi pasbort
9. Tudalennau Adran IX mewn pasbortau sydd eisoes ar gael
10. Adnabod
11. Iaith pasbortau
12. Ceffylau sy'n dod i Gymru
13. Daganiad ynghylch cigydda ceffylau i'w bwyta gan bobl
14. Gwaharddiadau
15. Rhoi pasbort o'r newydd yn lle un a gollwyd neu a ddifrodwyd
16. Cyfyngiadau ar y defnydd o geffylau heb basbort
17. Gofynion gan bersonau sy'n rhoi cynhyrchion meddyginaethol milfeddygol
18. Dyletswyddau perchenogion
19. Cigydda ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl
20. Pwerau mynediad
21. Rhwystro
22. Tramgwyddau
23. Cosbau
24. Gorfodi
25. Dirymu

  ATODLEN Dogfen Adnabod ar gyfer Ceffylau Cofrestredig

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[
1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo yn rhinwedd yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, rhychwantu a chychwyn
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pasbortau Ceffylau (Cymru) 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau yn gymwys mewn perthynas â Chymru ac yn dod i rym ar 9 Chwefror 2005.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn  - 

ac ystyr "tudalennau Adran IX" yw'r tudalennau hynny.

Cyrff a awdurdodwyd i ddyroddi pasbortau
    
3.  - (1) Mae'r cyrff canlynol (y cyfeirir atynt yn y Rheoliadau hyn fel "cyrff sy'n dyroddi pasbortau") wedi'u hawdurdodi i ddyroddi pasbortau  - 

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol drwy hysbysiad ysgrifenedig dynnu awdurdodiad yn ôl o dan baragraff (1)(a) neu gofrestriad o dan baragraff (1)(ch) os yw wedi'i fodloni ar sail resymol nad yw cymdeithas neu gorff yn cydymffurfio â darpariaethau'r Rheoliadau hyn.

    (3) Ni chaiff neb ddyroddi dogfen sy'n honni drwy dwyll ei bod yn basbort.

Pwerau a dyletswyddau cyrff sy'n dyroddi pasbortau
     4.  - (1) Y corff sy'n dyroddi pasbortau yw'r "awdurdod cymwys" at ddibenion y pasbort.

    (2) Caiff corff sy'n dyroddi pasbortau ddileu pasbort a ddyroddwyd ganddo os yw wedi'i fodloni ar sail resymol  - 

    (3) Pan dychwelir pasbort am fod y ceffyl wedi marw, rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau farcio'r pasbort yn unol â hynny ond caiff wedyn ei ddychwelyd i'r perchennog os yw ei reolau'n caniatáu hynny.

Cofnodion
    
5.  - (1) Rhaid i gorff sy'n dyroddi pasbortau gadw cofnodion  - 

    (2) Rhaid iddo gadw'r cofnod hwn am dair blynedd ar ôl marwolaeth y ceffyl.

    (3) Rhaid i gorff sy'n dyroddi pasbortau roi gwybodaeth i'r Cynulliad Cenedlaethol o'i gofnodion yn y ffurf a chyda'r mynychder y caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol drwy hysbysiad ysgrifenedig.

Gwneud cais am basbort
    
6.  - (1) Rhaid gwneud cais am basbort  - 

    (2) Ni chaiff neb wneud cais am fwy nag un pasbort (heblaw am basbort yn lle un arall) ar gyfer ceffyl.

Terfynau amser ar gyfer cael pasbort
    
7.  - (1) Rhaid i berchennog ceffyl a anwyd ar neu cyn 30 Tachwedd 2004 nad oes ganddo basbort eisoes ar gyfer y ceffyl hwnnw wneud cais am basbort iddo cyn 14 Chwefror 2005, neu erbyn chwe mis ar ôl ei eni, p'un bynnag yw'r diweddaraf.

    (2) Rhaid i berchennog ceffyl a anwyd ar ôl 30 Tachwedd 2004 gael pasbort iddo ar neu cyn 31 Rhagfyr ym mlwyddyn ei eni, neu erbyn chwe mis ar ôl ei eni, p'un bynnag yw'r diweddaraf.

Dyroddi pasbort
    
8.  - (1) Pan ddaw cais i law'r corff sy'n dyroddi pasbortau, ar yr amod y cydymffurfir â'i ofynion, rhaid iddo ddyroddi pasbort wedi'i gwblhau'n briodol yn y fformat a nodir yn yr Atodlen.

    (2) Yn achos ceffyl sydd naill ai wedi'i gofrestru neu sy'n gymwys i'w gofnodi mewn llyfr gre corff cydnabyddedig yn unol ag Erthygl 2(c) o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/426/EEC ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu symud a mewnforio ceffylau o drydydd gwledydd[
7], rhaid i'r pasbort gynnwys yr holl adrannau a bennir yn yr Atodlen.

    (3) Ym mhob achos arall rhaid i'r pasbort gynnwys o leiaf Adrannau I i IV a IX ond caiff gynnwys mwy o Adrannau neu'r holl Adrannau

Tudalennau Adran IX mewn pasbortau sydd eisoes ar gael
     9.  - (1) Yn achos ceffyl a anwyd cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym ac y mae ganddo eisoes ddogfen adnabod a ddyroddwyd gan gorff sy'n dyroddi pasbortau sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sy'n ofynnol gan reoliad 8(2) neu 8(3) ac eithrio tudalennau Adran IX, caiff pasbort gynnwys y ddogfen adnabod honno ynghyd â'r tudalennau Adran IX a gafodd y perchennog oddi wrth gorff sy'n dyroddi pasbortau, ar yr amod bod y ceisydd  - 

    (2) Mae rheoliad 6 yn gymwys i gais am dudalennau Adran IX fel y mae'n gymwys i gais am basbort.

    (3) Rhaid i dudalennau Adran IX gynnwys yr un Rhif neu'r un cod alffaniwmerig ag sydd yn Adran II o'r ddogfen adnabod wreiddiol.

Adnabod
    
10.  - (1) Rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau pan fydd yn dyroddi pasbort ddynodi'r ceffyl â Rhif neu god alffaniwmerig nas defnyddiwyd cyn hynny gan y corff hwnnw.

    (2) Rhaid iddo gofnodi'r Rhif neu'r cod alffaniwmerig yn Adran II o'r pasbort.

Iaith pasbortau
    
11.  - (1) Rhaid i Adrannau I i VIII o'r pasbortau a ddyroddir yng Nghymru fod yn Saesneg a Ffrangeg.

    (2) Rhaid i Adran IX fod yn Saesneg.

    (3) Caiff pasbort neu unrhyw ran ohono hefyd fod mewn iaith ychwanegol.

Ceffylau sy'n dod i Gymru
    
12.  - (1) Rhaid i berchennog ceffyl (neu, yn achos perchennog sy'n byw y tu allan i Gymru, y ceidwad) y daethpwyd â'r ceffyl i mewn i Gymru heb basbort (neu gyda dogfen a fyddai'n basbort oni bai am y ffaith nad yw'n cynnwys tudalennau Adran IX) wneud cais am basbort neu am dudalennau Adran IX o fewn 30 diwrnod ar ôl dod â'r ceffyl i mewn i Gymru.

    (2) Rhaid i basbort neu dudalennau Adran IX a ddyroddwyd yn dilyn cais a wnaed o dan baragraff (1) ddatgan na fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl.

    (3) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â cheffyl sy'n aros yng Nghymru am lai na 30 diwrnod.

Datganiad ynghylch cigydda ceffylau i'w bwyta gan bobl
    
13.  - (1) Rhaid i berchennog ceffyl neu gynrychiolydd y perchennog, pan ddaw pasbort neu dudalennau Adran IX i law, lofnodi'r datganiad yn Adran IX, Rhan II neu III - A, a fwriedir cigydda'r ceffyl i'w fwyta gan bobl neu beidio.

    (2) Pan werthir y ceffyl, rhaid i'r datganiad gael ei lofnodi gan bob perchennog dilynol neu gynrychiolydd y perchennog.

    (3) Os llofnodir y datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) na fwriedir cigydda'r ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl, yna ni ellir newid y datganiad hwnnw.

Gwaharddiadau
    
14.  - (1) Ni chaiff neb  - 

    (2) Ni chaiff neb fod â dogfen yn ei feddiant sydd drwy dwyll yn honni ei bod yn basbort.

    (3) Mewn achosion yn erbyn person am dramgwydd o fethu cydymffurfio â pharagraff (2) mae'n amddiffyniad i'r person hwnnw brofi nad oedd yn ymwybodol nad oedd y ddogfen yn basbort.

Rhoi pasbort o'r newydd yn lle un a gollwyd neu a ddifrodwyd
    
15.  - (1) Os cafodd pasbort ei golli neu ei ddifrodi rhaid i berchennog y ceffyl, o fewn 30 diwrnod o ddarganfod y golled neu'r difrod, wneud cais am basbort o'r newydd ar gyfer y ceffyl hwnnw  - 

    (2) Rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau y gwneir cais iddo yn unol â pharagraff (1) ddyroddi pasbort o'r newydd wedi'i farcio â'r gair "Duplicate".

    (3) Os yw'r holl wybodaeth wreiddiol yn Adran IX yn ddarllenadwy rhaid i'r pasbort o'r newydd ailadrodd yr wybodaeth honno.

    (4) Os yw unrhyw wybodaeth yn Adran IX yn annarllenadwy rhaid i'r corff sy'n dyroddi pasbortau ddangos yn y pasbort o'r newydd na fwriedir cigydda'r ceffyl i'w fwyta gan bobl drwy gwblhau Rhan II o'r Adran honno.

Cyfyngiadau ar y defnydd o geffylau heb basbortau
    
16. Os dylid bod wedi dyroddi pasbort ar gyfer ceffyl, ar ôl 28 Chwefror 2005 ni chaiff neb  - 

oni bai fod pasbort gyda'r ceffyl.

Gofynion gan bersonau sy'n rhoi cynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol
    
17.  - (1) Os yw cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol i gael ei roi i geffyl, rhaid i'r person y mae pasbort y ceffyl yn ei feddiant drefnu ei fod ar gael i'r llawfeddyg milfeddygol neu berson arall sy'n rhoi'r cynnyrch.

    (2) Rhaid i'r llawfeddyg milfeddygol neu berson arall sy'n rhoi'r cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol  - 

    (3) Mewn achos ceffyl na chafwyd pasbort hyd yn hyn mewn perthynas ag ef neu nad yw ar gael am unrhyw reswm, neu os nad yw'r llawfeddyg milfeddygol mewn perthynas ag ef neu berson arall sy'n rhoi'r cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol wedi'i fodloni mai'r ceffyl yw'r un a ddisgrifir yn y pasbort, rhaid i'r llawfeddyg milfeddygol neu'r person arall sy'n rhoi'r cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol roi i'r ceidwad  - 

    (4) Rhaid i'r ceidwad gofnodi unrhyw wybodaeth a gafwyd o dan baragraff (3) yn y pasbort pan ddaw'r pasbort i law'r ceidwad.

Dyletswyddau perchenogion
     18.  - (1) Ar ôl 28 Chwefror 2005 ymlaen ni chaiff neb werthu ceffyl heb basbort.

    (2) Pan werthir ceffyl, rhaid i'r gwerthwr roi'r pasbortau i'r prynwr neu, mewn arwerthiannau, rhaid i'r arwerthwr roi'r pasbort i'r prynwr.

    (3) Rhaid i'r perchennog newydd neu gynrychiolydd y perchennog, o fewn 30 diwrnod o'r prynu anfon at y corff sy'n dyroddi pasbortau a ddyroddodd y pasbort  - 

    (4) Rhaid i berson sydd â phasbort yn ei feddiant ei ddangos ar archiad rhesymol i'r corff sy'n dyroddi pasbortau a'i dyroddodd, ac ar archiad rhesymol rhaid iddo ei roi i'r corff hwnnw.

    (5) Rhaid i berchennog ceffyl sy'n marw neu sy'n cael ei gigydda anfon y pasbort i'r awdurdod sy'n dyroddi pasbortau o fewn 30 diwrnod ar ôl iddo farw.

Cigydda ceffyl er mwyn ei fwyta gan bobl
    
19. Ar ôl 28 Chwefror 2005 ni chaiff neb gigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl neu ei draddodi ar gyfer cigydda o'r fath onid yw ei basbort gydag ef a bod y datganiad yn Adran IX yn dangos y bwriedir cigydda'r anifail i'w fwyta gan bobl.

Pwerau mynediad
    
20.  - (1) Rhaid i arolygydd, wrth ddangos dogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos ei awdurdod, gael hawl ar bob adeg resymol, i fynd i unrhyw fangre (ac eithrio unrhyw fangre lle nad oes unrhyw geffyl yno ac a ddefnyddir fel annedd yn unig) at ddibenion gweinyddu a gorfodi'r Rheoliadau hyn; ac yn y rheoliad hwn mae "mangre" yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd.

    (2) Caiff arolygydd  - 

    (3) Ni chaiff neb ddifwyno, difodi neu ddileu unrhyw farc a roddwyd o dan baragraff (2) ac eithrio o dan awdurdod ysgrifenedig arolygydd.

    (4) Os bydd arolygydd yn mynd i unrhyw fangre nad yw wedi'i meddiannu, rhaid i'r arolygydd ei gadael wedi'i diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd pan aeth yno gyntaf.

    (5) Yn y rheoliad hwn ystyr "arolygydd" yw person a benodwyd at y diben gan awdurdod lleol neu'r Cynulliad Cenedlaethol i orfodi'r Rheoliadau hyn.

Rhwystro
    
21. Ni chaiff neb  - 

Tramgwyddau
    
22.  - (1) Tramgwydd yw i unrhyw berson neu gorff fethu â chydymffurfio â'r canlynol  - 

    (2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran  - 

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (3) At ddibenion paragraff (2), ystyr "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

    (4) Os bydd corff nad yw'n gorff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, a phrofir bod y tramgwydd hwnnw wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran unrhyw swyddog o'r corff hwnnw, bydd y swyddog hwnnw yn ogystal â'r corff yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

Cosbau
    
23.  - (1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o fethu cydymffurfio â rheoliad 3(3) (dyroddi dogfen sy'n honni ei bod yn basbort), rheoliad 17(2)(c) neu 17(4) (cwblhau pasbort ar ôl rhoi cynnyrch meddyginiaethol milfeddygol) neu reoliad 19 (cigydda ceffyl i'w fwyta gan bobl) yn atebol  - 

    (2) Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Gorfodi
    
24.  - (1) Yr awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

    (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gyfarwyddo, mewn perthynas ag achosion o ddisgrifiad penodol neu unrhyw achos penodol, fod dyletswydd i orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan y rheoliad hwn i'w chyflawni gan y Cynulliad Cenedlaethol ac nid gan yr awdurdod lleol.

Dirymu
    
25. Dirymir Gorchymyn Pasbortau Ceffylau 1997[9] a Gorchymyn Pasbortau Ceffylau (Diwygio) 1998[10] i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Chwefror 2005



ATODLEN
Rheoliad 8


Dogfen Adnabod ar gyfer Ceffylau Cofrestredig


PASBORTAU

Cyfarwyddiadau cyffredinol
     I. Rhaid i basbortau gynnwys yr holl gyfarwyddiadau sydd eu hangen er mwyn eu defnyddio a manylion yr awdurdod cymwys a'u dyroddodd.

     II. Gwybodaeth a ddangosir ar basbortau.

A. Rhaid i basportau gynnwys yr wybodaeth ganlynol - 

     1. Adran I:

Y perchennog

Rhaid datgan enw'r perchennog neu enw ei asiant.

     2. Adrannau II a III:

Adnabod

Rhaid i'r awdurdod cymwys ddynodi'r ceffyl.

     3. Adran IV:

Cofnodion o wiriadau adnabod

Rhaid i'r awdurdod cymwys gadw cofnod o'r gwiriadau a wnaed o ran adnabod y ceffyl pan fo cyfreithiau a rheoliadau yn gwneud hynny'n ofynnol.

     4. Adrannau V a VI:

Cofnod brechiadau

Rhaid cofnodi pob brechiad yn Adran V (ffliw'r ceffylau yn unig) ac yn Adran VI (pob brechiad arall).

     5. Adran VII:

Profion iechyd mewn labordai

Rhaid cofnodi canlyniadau yr holl brofion a wneir i ganfod clefydau trosglwyddadwy.

     6. Adran IX:

Triniaeth Feddyginiaethol

Rhaid cwblhau Rhan I a Rhan II neu Ran III o'r Adran hon yn briodol yn unol â'r cyfarwyddiadau a geir yn yr Adran hon.

B. Caniateir cynnwys yr wybodaeth ganlynol mewn pasbortau  - 

Adran VIII:

Gofynion iechyd sylfaenol

Mae Adran VIII yn datgan y gofynion iechyd sylfaenol.

Mae'n rhestru'r clefydau y mae'n rhaid eu nodi ar y dystysgrif iechyd.

SECTION I

Details of ownership Détails de droit de proprieté
     1. For competitive purposes, the nationality of the horse is that of its owner.

     1. Pour les compétitions, la nationalité du cheval est celle de son propriétaire.

     2. On change of ownership the passport must immediately be lodged with the issuing organisation, association or official agency, giving the name and address of the new owner, for re-registration and forwarding to the new owner.

     2. En cas de changement de propriétaire, le passeport doit être immédiatement déposé auprés de l'organisation, l'association ou le service officiel l'ayant délivré avec le nom et l'adresse du nouveau proprietaire afin de le lui transmettre aprés réenregistrement.

     3. If there is more than one owner or the horse is owned by a company, then the name of the individual responsible for the horse must be entered in the passport together with his nationality. If the owners are of different nationalities, they have to determine the nationality of the horse.

     3. S'il y a plus d'un propriétaire ou si le cheval appartient a une société, le nom de la personne responsable pour le cheval doit être inscrit dans le passeport ainsi que sa nationalité. Si les propriétaires sont de nationalités différentes, ils doivent préciser la nationalité du cheval.

     4. When the Federation equestre internationale approves the leasing of a horse by a national equestrian federation, the details of these transactions must be recorded by the national equestrian federation concerned.

     4. Lorsque la Fédération equestre internationale approuva la location d'un cheval par une Fédération equestre nationale, les détails de ces transactions doivent étre enregistrés par la Fédération equestre nationale interessée.


Date d'enregistrement par l'organisation, l'association ou le service official Nom du propriétaire Adresse du propriétaire Nationalité du propriétaire Signautre du propriétaire Cache de l'organisation, association ou service officiel et signature
Date of registration, by the organisation, association or official agency Name of owner Address of owner Nationality of owner Signature of owner Organisation, association or official agency stam and signature
                             
                             
                             
                             
                             
                             


SECTION II

    (1) No d'identification:

Identification No:

         
    (2) Nom:

Name:

    (3) Sexe:

Sex:

    (4) Robe:

Colour:

    (5) Race:

Breed:

         
    (6) par:

by:

    (7a) et:

and:

    
         (7b) par:

by:

    
    (8) Date de naissance:

Date of foaling:

   
    (11) Certificat d'origine valide le par:

Origin certificate validated on by:

 
    (9) Lieu d'élevage:

Place where bred:

 -  Nom de l'autorité compétente:

Name of the competent authority:

      -  Adresse:

Address:

      -  No de téléphone:

Telephone number:

    (10) Naisseur(s):

Breeder(s):

 -  No de télécopie:

Fax number:

      -  Signature:

(nom en lettres capitales et qualite du signataire

Signature:

(Name in capital letters and capacity of signatory)

      -  Cachet:

Stamp:


SECTION III



Click here to view image

    (2) Nom  -  Name :

    (5) Race  -  Breed :

    (3) Sexe  - Sex:

    (4) Robe  - Colour:


    (19) Signalement relevé sous la mère par:

    Description taken with dam by:

    (20) Cironscription:

    District:

Tête:

Head:

    
Ant. G:

Foreleg L:

    
Ant. D:

Foreleg R:

    
Post G:

Hindleg L:

    
Post D:

Hindleg R:

    
Corps:

Body:

Marques:

Markings:

Le:

On:

    (21) Signature et cachet du vétérinaire agréé (ou de l'autorité competente)

Signature and stamp of qualified veterinary surgeon (or competent authority)

(en lettres capitales)

(in capital letters)


SECTION IV

Contrôles d'identité du cheval décrit dans ce passeport Identification of the horse described in this passport
L'identité du cheval doit être controlée chaque fois que les lois et réglements l'exigent: signer cette page signifie que le signalement du cheval présenté est conforme à celui de la page du signalement. The identity of the horse must be checked each time this is required by rules and regulations and certified that it conforms with the description given on the diagram page of its passport.

Date Ville et pays Motif du contrôle (concours, certificat sanitaire etc) Signature, nom en capitales et qualité de la personne ayant vérifié l'identité
     Town and country Purpose of control (event, health certificate, etc) Signature, name (printed) and status of official verifying the identification
                   
                   
                   
                   
                   
                   

SECTION V

Grippe équine seulement Equine influenza only
Enregistrement des vaccinations Vaccination record
Toute vaccination subie par le cheval doit être portée dans le cadre ci-dessous de façon lisible et précise avec le nom et la signature du vétérinaire. Details of every vaccination which the horse undergoes must be entered clearly and in detail, and certified with the name and signature of veterinarian.

Date Lieu Pays Vacin/Vaccine Nom en capitales et signature du véterinaire
     Place Country      Name (printed) and signature of veterinarian
               Nom Numéro du lot     
               Name Batch number     
                             
                             
                             
                             
                             

SECTION VI

Maladies autres que la grippe équine Diseases other than equine Influenza
Enregistrement des vaccinations Vaccination record
Toute vaccination subie par le cheval doit être portée dans le cadre ci-dessous de façon lisible et précise avec le nom et la signature du vétérinaire. Details of every vaccination which the horse undergoes must be entered clearly and in detail, and certified with the name and signature of veterinarian.

Date Lieu Pays Vacin/Vaccine Nom en capitales et signature du véterinaire
     Place Country      Name (printed) and signature of veterinarian
               Nom Numéro du lot Maladie(s)     
               Name Batch number Disease(s)     
                                  
                                  
                                  
                                  
                                  
                                  

SECTION VII

Contrôles sanitaires effectués par des laboratoires Laboratory health test
Le résultat de tout contrôle effectué par un vétérinaire pour une maladie transmissible ou par un laboratoire agrée par le service vétérinaire gouvernmental du pays doit être noté clairement et en détails par le vétérinaire qui représente l'autorité demandant le contrôle. The result of every test carried out for a transmissible disease by a veterinarian or a laboratory authorised by the government veterinary service of the country must be entered clearly and in detail by the veterinarian acting on behalf of the authority requesting the test.

Date Maladie transmissibles concernées Nature de l'examen Résultat de l'examen Laboratoire officiel d'analyse du prélèvement
Nom en capitales et signature du vétérinaire
     Transmissible disease tested for Type of Test Result of test Official laboratory to which sample is sent Name (printed) and signature of veterinarian
                             
                             
                             
                             
                             
                             

SECTION VIII

Exigences sanitaires de base


Les exigences ne sont pas valables pour l'introduction dans la Communauté


Basic health requirements


These requirements are not valid to enter the Community


Je soussigné [12] certifie que l'équidé décrit dans le passeport No . . . . . . . . . . . délivré par . . . . . . . . . . . satisfait aux conditions suivantes:

I, the undersigned [13], hereby certify that the equid described in passport No . . . . . . . . . . . issued by . . . . . . . . . . . satisfies the following conditions:

LA PRéSENTE CERTIFICATION EST VALABLE 10 JOURS À COMPTER DE LA DATE DE SA SIGNATURE PAR LE VéTéRINAIRE OFFICIEL.

THIS CERTIFICATION IS VALID FOR 10 DAYS FROM THE DATE OF SIGNATURE BY THE OFFICIAL VETERINARIAN.

Date Lieu Pour des raisons épidémiologiques partulières, un certificat sanitaire separé accompagne le présent passeport Nom en capitales et signature du vétérinaire officiel
Date Place For particular epidemiological reasons, a separate health certificate accompanies this passport Name in block letters and signature of official veterinarian
          Oui/non (barrer la mention inutile)

Yes/no (delete as appropriate)

    
          Oui/non (barrer la mention inutile)

Yes/no (delete as appropriate)

    
          Oui/non (barrer la mention inutile)

Yes/no (delete as appropriate)

    
          Oui/non (barrer la mention inutile)

Yes/no (delete as appropriate)

    
          Oui/non (barrer la mention inutile)

Yes/no (delete as appropriate)

    
          Oui/non (barrer la mention inutile)

Yes/no (delete as appropriate)

    

Maladies dont l'inclusion dans le certificat zoosanitaire joint au passeport doit être envisageé

Diseases for which an endorsement must be made on the health certificate attached to the passport

     1. Peste équine  -  African horse sickness.

     2. Stomatite vésiculeuse  -  vesicular stomatitis.

     3. Dourine  -  dourine.

     4. Morve  -  glanders.

     5. Encéphalomyelites équines (tous types)  -  equine encephalomyelitis (all types).

     6. Anéamie infectieuse  -  infectious anaemia.

     7. Rage  -  rabies.

     8. Fièvre charbonneuse  -  anthrax.

SECTION IX

MEDICINAL TREATMENT

IDENTIFICATION NUMBER OF ANIMAL (1) (9)

. . . . . . . . . . .

Part 1

Date and place of issue of this section: . . . . . . . . . . .

Competent authority issuing this section of the identification document: . . . . . . . . . . .

Part II (excludes the animal definitively from slaughter for human consumption, must be reconfirmed when the animal changes ownership)

I, the undersigned owner (2)/ representative of the owner (2) declare that the animal described in this identification document is not intended for slaughter for human consumption(3)
Date and Place Name in capitals and signature of the owner of the animal or his/her representative Name in capitals and signature of representative of competent authorities
              
              

Part III  -  A (only valid in connection with information in Part III  -  B)

I, the undersigned owner (2) / representative of the owner (2) declare that the animal described in this identification document is intended for slaughter for human consumption(4)
Date and Place Name in capitals and signature of the owner of the animal or his/her representative Name in capitals and signature of representative of competent authorities
              
              

Part III  -  B (information compulsory for equidae identified in accordance with Part III  -  A)

MEDICATION RECORD
               Veterinary surgeon applying and/or prescribing medicinal treatment
Date of last treatment with a medicinal product containing substances not included in Annex I, II, III or IV of Regulation (EEC) No 2377/90

[dd/mm/yyyy]

Place

     -  Country Code

 -  Postcode

 -  Place

Substance(s) incorporated in the medicinal product which is/are not included in Annex I, II, III or IV of Regulation (EEC) No 2377/90 (5) (6) Name: . . . . . (7)

Address: . . . . . (7)

Postcode: . . . . . (7)

Place: . . . . . (7)

Tel: . . . . . (8)

Signature
                        
                        
                        

(1) Identification number as indicated in Section II (1) of the identification document.

(2) Delete what is not applicable.

(3) The animal may be treated with medicinal products containing substances listed in Annex I, II, III or IV to Regulation (EEC) No 2377/90 and other substances. Recording of medicinal treatment in Part III  -  B is optional. The animal shall never be slaughtered for human consumption.

(4) The animal may be treated with medicinal products containing substances listed in Annex I, II or III to Regulation (EEC) No 2377/90 and other substances excluding those listed in Annex IV to that Regulation. The animal can only be slaughtered for human consumption after the completion of the general withdrawal period of six months following the date of the last treatment, certified obligatory in Part III  -  B, with medicinal products containing substances other than those listed in Annex I, II or III to Regulation (EEC) No 2377/90.

(5) Verify through published Annexes to Regulation (EEC) No 2377/90.

(6) This information is optional. However, this information may allow the reduction of the withdrawal period, if the specified substance is included in Annex I, II or III to Regulation (EEC) No 2377/90 after it was administered. The minimum withdrawal times would then be those established in Article 4(4) or Directive 81/851/EEC.

(7) Name, address, postcode and place in printed letters.

(8) Telephone number including country code and regional code.

(9) Not required where this Section is issued together with the identification document.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/426/EC (OJ Rhif L224, 18/8/1990, t. 42), Cyfarwyddeb y Cyngor 90/427/EEC (OJ Rhif L224, 18/8/1990, t. 55) a Phenderfyniadau'r Comisiwn 92/353/EEC (OJ Rhif L192, 11/07/1992, t. 63), 93/623/EEC (OJ Rhif L298, 3/12/93, t. 45) a 2000/68/EC (OJ Rhif L23, 28.1.2000, t.72). Maent yn dirymu a disodli Gorchymyn Pasbortau Ceffylau 1997 a Gorchymyn Pasbortau Ceffylau (Diwygio) 1998 i'r graddau y maent yn berthnasol i Gymru.

Mae'r Rheoliadau'n pennu pa gyrff a awdurdodir i ddyroddi pasbortau a rhoi pwerau a dyletswyddau iddynt (rheoliadau 3 i 5), yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud cais am basbortau a'u dyroddi (rheoliadau 6 i 11 a'r Atodlen) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceffylau sy'n dod i Gymru (rheoliad 12).

Maent yn gwneud gofynion ynghylch y datganiad sydd i'w wneud ar y pasbort mewn perthynas â chigydda ceffylau i'w bwyta gan bobl (rheoliad 13).

Maent yn gwahardd difwyno pasbortau, yn ei gwneud yn dramgwydd i feddu pasbort ffug a yn gwneud darpariaeth i gael pasbortau yn lle'r rhai a gollwyd (rheoliadau 14 a 15).

Rhaid i'r pasbortau fod gyda'r ceffylau pan ddefnyddir hwy at ddibenion penodol (rheoliad 16).

Maent yn gosod dyletswyddau ar lawfeddygon milfeddygol i farcio'r pasbort pan fyddant yn rhoi meddyginiaethau milfeddygol (rheoliad 17).

Maent yn gwneud darpariaeth ynghylch gwerthu ceffyl (rheoliad 18) ac ynghylch cigydda ceffyl (rheoliad 19).

Maent yn cynnwys darpariaethau penodol ynghylch pwerau mynediad a rhwystro (rheoliadau 20 a 21).

O dan reoliadau 22 a 23, mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd y gellir ei gosbi  - 

Gorfodir hwy gan yr awdurdod lleol (rheoliad 24).

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-adran Iechyd Anifeiliad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] O.S. 1992/3045.back

[4] OJ Rhif L224, 18.8.1990, t. 55 - 59.back

[5] OJ Rhif L192, 11.7.92, t. 63.back

[6] OJ Rhif L23, 28.1.2000, t. 72.back

[7] OJ Rhif L224, 18.9.90, t. 42.back

[8] Mae rhestr o gynhyrchion meddyginiaethol milfeddygol a awdurdodwyd i'w rhoi i geffylau ac yn rhestru'r sylweddau gweithredol o dan enw'r cynnyrch ar gael ar wefan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol, www.vmd.gov.uk.back

[9] O.S. 1997/2789.back

[10] O.S. 1998/2367.back

[11] O.S. 1998 p.38.back

[12] Ce document doit étre signé dans les 48 heures précédant le déplacement international de l'équidé.back

[13] This document must be signed within 48 hours prior to international transport of the equid.back



English version



ISBN 0 11 091066 4


  © Crown copyright 2005

Prepared 16 February 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050231w.html