BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Arolygiadau Gofal Iechyd) (Cymru) 2005 Rhif 424 (Cy.42)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050424w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 424 (Cy.42)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Arolygiadau Gofal Iechyd) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 1 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 75(1) a (2) ac adran 195 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[1] yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Arolygiadau Gofal Iechyd) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru yn unig.

    (3) Yn y Rheoliadau hyn - 

Y pŵer i ofyn am esboniad
     2.  - (1) Caiff y Cynulliad, neu bersonau a awdurdodwyd ganddo, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a ragnodwyd ym mharagraff (4) i ddarparu esboniad i'r Cynulliad neu i bersonau a awdurdodwyd felly (yn ôl y digwydd) - 

mewn amgylchiadau pan fo'r Cynulliad yn ystyried y byddai esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion Pennod 4 o Ran 2 o'r Ddeddf.

    (2) Caiff y Cynulliad, neu'r personau a awdurdodwyd ganddo, ei gwneud yn ofynnol i'r esboniad gael ei roi - 

    (3) Pan fo'r Cynulliad, neu'r personau a awdurdodwyd ganddo, yn ei gwneud yn ofynnol i'r esboniad gael ei roi'n bersonol, rhaid rhoi'r esboniad ar adeg ac mewn man a bennir gan y Cynulliad, a rhaid i'r Cynulliad roi hysbysiad rhesymol i'r person y mae'n ofynnol iddo roi'r esboniad o'r amser hwnnw a'r man hwnnw.

    (4) Dyma'r personau rhagnodedig - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

1 Mawrth 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru fel y'u nodir ym Mhennod 4 o Ran 2 ("Pennod 4") o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43).

Mae rheoliad 2 yn darparu y gall y Cynulliad, neu bersonau a awdurdodwyd ganddo, gael esboniad o ddogfennau neu wybodaeth a gafwyd gan y Cynulliad wrth iddo arfer ei swyddogaethau o dan Bennod 4.

Ni chynhyrchwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'n effeithio ar gostau busnes.


Notes:

[1] 2003 p.43. Gweler adran 148 o'r Ddeddf am y diffiniad o "prescribed".back

[2] Gweler adran 149 o'r Ddeddf am sut i ddehongli cyfeiriadau at ofal iechyd a ddarperir gan un person ar gyfer person arall. Gweler adran 45(2) o'r Ddeddf am y diffiniad o "health care". Gweler adran 148 o'r Ddeddf am y diffiniad o "Welsh NHS body".back

[3] 2000 p.22.back

[4] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091078 8


 © Crown copyright 2005

Prepared 8 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050424w.html