BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005 Rhif 586 (Cy.50)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050586w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 586 (Cy.50)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

IECHYD ANIFEILIAID

Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 8 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 31 Mawrth 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, a chan ei fod hefyd wedi'i ddynodi[3] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â mesurau yn y meysydd milfeddygol a ffytoiechydol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn - 

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Salmonela mewn Heidiau Dodwy (Pwerau Arolygu) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 31 Mawrth 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn - 

Dethol mangreoedd
    
3. Cynulliad Cenedlaethol Cymru fydd yn gyfrifol am ddethol y mangreoedd sydd i'w samplu, a hynny yn unol â'r Manylebion Technegol.

Pwerau arolygwyr  -  Mynediad
    
4. Os gofynnir i'r arolygydd am ddogfen a ddilyswyd yn briodol sy'n dangos awdurdod yr arolygydd fel arolygydd, a bod yr arolygydd yn dangos y ddogfen honno, bydd gan yr arolygydd yr hawl ar bob adeg resymol i fynd i'r mangreoedd samplu, yn unol â'r manylebion technegol, at ddibenion cymryd samplau fel sy'n ofynnol gan Benderfyniad y Comisiwn ac at ddibenion rheoliad 8.

Pwerau arolygwyr  -  Cyffredinol
    
5. At ddibenion cymryd samplau, fel sy'n ofynnol gan Benderfyniad y Comisiwn, ac at ddibenion rheoliadau 3 ac 8, caiff arolygydd - 

Tramgwyddau
    
6. Bydd unrhyw berson - 

yn euog o dramgwydd.

Cosbau
    
7.  - (1) Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

    (2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran - 

bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol neu'r bartneriaeth, yn euog o dramgwydd, a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

    (3) At ddibenion paragraff (2), mae "cyfarwyddwr", mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yn cynnwys aelod o'r corff corfforaethol.

Gorfodi
    
8.  - (1) Awdurdod lleol fydd yn gorfodi'r Rheoliadau hyn.

    (2) Caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyfarwyddo, mewn mathau penodol o achosion neu unrhyw achos penodol, mai Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac nid awdurdod lleol, sydd i weithredu'r swyddogaeth orfodi a osodir ar awdurdod lleol o dan baragraff (1).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Mawrth 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn rhoi Penderfyniad y Comisiwn 2004/665/EC ar waith, sydd yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau gynnal arolwg o ba mor gyffredin y mae salmonela ymhlith heidiau dodwy (O.J. Rhif L 303/30) a hynny yn unol â manylebion technegol penodol y cyfeirir atynt yn Erthygl 5 o Benderfyniad y Comisiwn.

Mae'r Rheoliadau hyn - 

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi gogyfer â'r offeryn hwn. Gellir cael copïau gan Is-adran Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 1999/2788.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2001/3495.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091084 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 16 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050586w.html