BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 Rhif 757 (Cy.62)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050757w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 757 (Cy.62)

ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU

Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 15 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y deddfiadau a bennir yn yr Atodlen i'r offeryn hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus 2004 (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Diwygio is-ddeddfwriaeth
    
2.  - (1) Diwygir Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995[1] fel a ganlyn:

    (2) Yn erthygl 9, hepgorer y geiriau o "the Audit Commission's consent" hyd at y diwedd, ac yn eu lle rhodder "the consent of - 

     3.  - (1) Diwygir Gorchymyn Eithrio Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998[2] fel a ganlyn:

    (2) Yn erthygl 4(2)(c)(v), ar y diwedd, mewnosoder y geiriau "or the Auditor General for Wales".



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mawrth 2005



YR ATODLEN
Rhaglith


Deddfiadau sy'n rhoi pwerau a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cynulliad Cenedlaethol Cymru) 1999[4]




Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989[5] Adran 70(1) a (5) (fel y'i diwygiwyd, yn achos is- adran (5), gan Ddeddf Archwilio Cyhoeddus 2004[6], adran 66 ac Atodlen 2, paragraffau 10 a 12(1) a (4)).
Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996[7] Adrannau 106(1)(b) a 146(1).



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio, o ran Cymru, ddau offeryn statudol er mwyn eu gwneud yn unol â darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("y Ddeddf").

Mae'r Ddeddf yn rhoi nifer o swyddogaethau newydd i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Effaith mwyaf arwyddocaol y swyddogaethau newydd yw mai'r Archwilydd Cyffredinol, pan fydd y Ddeddf mewn grym yn llwyr, fydd yn arfer y rhan fwyaf o'r swyddogaethau a arferir ar hyn o bryd yng Nghymru gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr ("y Comisiwn Archwilio").

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn o ganlyniad i'r newid hwnnw.

Mae erthygl 2 yn diwygio Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cwmnïau) 1995, er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael cydsyniad Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na'r Comisiwn Archwilio, i benodi person i archwilio cyfrifon cwmnïau o dan eu rheolaeth o fewn ystyr adran 68 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

Mae erthygl 3 yn diwygio Gorchymyn Eithrio Contractau Adeiladu (Cymru a Lloegr) 1998, o ran Cymru, er mwyn darparu bod cyrff y mae eu cyfrifon yn ddarostyngedig i archwiliad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyflawni un o'r amodau ar gyfer cymhwyster i ymrwymo i gontract o dan y fenter cyllid preifat.


Notes:

[1] O.S. 1995/849.back

[2] O.S. 1998/648.back

[3] 1998 p.38.back

[4] O.S.1999/672.back

[5] 1989 p. 42.back

[6] 2004 p. 23.back

[7] 1996 p.53.back



English version



ISBN 0 11 091097 4


 © Crown copyright 2005

Prepared 22 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050757w.html