BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 Rhif 761 (Cy.65)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050761w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 761 (Cy.65)

ARCHWILIO CYHOEDDUS, CYMRU

Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 15 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan y deddfiadau a bennir yn yr Atodlen i'r offeryn hwn, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r gorchymyn hwn yw Rheoliadau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.

Diwygio is-ddeddfwriaeth
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfarfodydd Cyhoeddus) 1991[1] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 3  - 

     3.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Grantiau) (Teithwyr a Phobl Wedi'u Dadleoli) 1993[2] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 7 - 

     4.  - (1) Diwygir Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997[3] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2, hepgorer y diffiniad o "the auditor", ac yn ei le rhodder y canlynol  - 

     5.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Cyhoeddi Adroddiadau Arolygiadau Awdurdodau Addysg Lleol) 1998[4] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (1)(f) o reoliad 4, ar y dechrau, mewnosoder "in relation to a local education authority in England,".

    (3) Ar ôl paragraff (1)(f) o reoliad 4, mewnosoder  - 

     6.  - (1) Diwygir Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000[5] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (6) o reoliad 7 - 

     7.  - (1) Diwygir Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001[6] fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 5(1) - 

     8.  - (1) Diwygir (Rheoliadau Grantiau Safonau Addysg (Cymru) 2002[7] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (5)(b) o reoliad 6 - 

     9.  - (1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Grantiau Cyfalaf) (Cymru) 2002[8] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (4)(b) o reoliad 5 - 

     10.  - (1) Rheoliadau Addysg (Cynllun Grant Dysgu'r Cynulliad) (Cymru) 2002[9] fel a ganlyn.

    (2) Ym mharagraff (6)(b) o reoliad 6 - 



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Mawrth 2005



YR ATODLEN
Rhaglith



RHAN 1  - 

Deddfiadau sy'n cynnwys pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru



Deddf Addysg 1996[11] Adran 484 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[12] a Deddf Addysg 2002[13].
Deddf Llywodraeth Leol 2000[14] Adran 73(1).



RHAN 2  - 

Deddfiadau sy'n rhoi swyddogaethau a drosglwyddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau 1999[15] (Erthygl 2 ac Atodlen 1)



Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[16] Adran 126(4) (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002[17]) ac adran 128(1) (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990[18]).
Deddf Diwygio Addysg 1988[19]) Adran 210 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Addysg 1996[20]) a Deddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[21])) ac adran 232.
Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 Adran 5 ac Atodlen 2, paragraff 7(2) a (3) (fel y'i diwygiwyd, yn achos paragraff (2), gan Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998[22], a Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004[23])).
Deddf Addysg 1996 Adrannau 489 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998) a 569(1).
Deddf Addysg 1997[24] Adran 39(3).
Deddf Llywodraeth Leol (Contractau) 1997[25] Adran 3(2)(e) ac (f) a (3) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw.
Deddf Iechyd 1999[26] Adran 31 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002[27]).



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Effaith gyffredinol darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 ("y Ddeddf") yw rhoi nifer o swyddogaethau newydd i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Effaith fwyaf arwyddocaol y swyddogaethau newydd yw mai'r Archwilydd Cyffredinol, pan fydd y Ddeddf mewn grym yn llwyr, fydd yn arfer y rhan fwyaf o'r swyddogaethau a arferir ar hyn o bryd yng Nghymru gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr ("y Comisiwn Archwilio").

Mae'r diwygiadau a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ganlyniad i'r newid hwnnw. Maent yn diwygio pum set o Reoliadau ym maes addysg, dwy set o ran y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a dwy set ym maes llywodraeth leol.

Yn y maes addysg, mae rheoliadau 3, 8, 9 a 10 yn diwygio'r gofynion, a osodir yn yr is-ddeddfwriaeth a ddiwygiwyd, ar gyfer ardystio grantiau. Ym mhob achos, mae'r diwygiadau'n darparu, o ran Cymru, y gwneir yr ardystio o hyn ymlaen gan archwilydd a benodwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru (yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio), neu gan archwilydd cymwys ar gyfer penodiad o'r fath.

Mae'r ddarpariaeth sy'n weddill o ran y maes addysg, rheoliad 5, yn darparu bod adroddiadau o arolygiadau awdurdodau addysg lleol yng Nghymru a gyflawnir o dan adran 38 o Ddeddf Addysg 1997 (fel y'i diwygiwyd) i'w hanfon at Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach nag at y Comisiwn Archwilio.

Mae rheoliadau 2 a 6 yn ymwneud â materion ynglŷn â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rheoliad 2 yn ymwneud â'r amgylchiadau pan fo'n rhaid i ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol gynnal cyfarfod cyhoeddus. Mae'n parhau'r sefyllfa bod yn rhaid cynnal cyfarfod pan fo ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn derbyn adroddiad buddiant cyhoeddus oddi wrth ei archwilydd. O ganlyniad i'r Ddeddf, gwneir yr adroddiadau hynny, o 1 Ebrill 2005 ymlaen, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio. Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliad 2 yn adlewyrchu hyn.

Mae rheoliad 6 yn darparu, pan fydd cyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac awdurdodau lleol yng Nghymru yn ymrwymo mewn trefniadau cronfa gyfun o dan Reoliadau Trefniadau Partneriaeth Cyrff Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac Awdurdodau Lleol (Cymru) 2000, y dylai cyfrifon y gronfa gyfun gael ei harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn hytrach na chan y Comisiwn Archwilio.

Diwygir yr is-ddeddfwriaeth ym maes llywodraeth leol gan reoliadau 4 a 7.

Mae rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o "the auditor" yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Contractau) 1997. Effaith y diwygiad yw, ar gyfer cyrff sy'n awdurdodau lleol at ddibenion y Rheoliadau hynny, ac sydd hefyd yn gyrff llywodraeth leol yng Nghymru at ddibenion adran 12 o'r Ddeddf, ystyr "the auditor" yw'r archwilydd a benodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 13 o'r Ddeddf. Mae hyn yn cael effaith ar y gofynion y mae'n rhaid i awdurdodau lleol penodol eu cyflawni er mwyn i gontract y maent yn ymrwymo iddo fod yn gontract ardystio o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Contractau) 1997.

Mae rheoliad 7 yn ychwanegu Archwilydd Cyffredinol Cymru at y rhestr o bersonau y caniateir i swyddogion monitro awdurdod lleol ddatgelu gwybodaeth iddo at ddibenion penodol, o dan Reoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) 2001.


Notes:

[1] O.S. 1991/482, fel y'i diwygiwyd gan adran 54(2) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 a pharagraff 4(1) o Atodlen 4 iddi, (p. 18).back

[2] O.S. 1993/569, fel y'i diwygiwyd gan adran 54(2) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 a pharagraff 4(1) o Atodlen 4 iddi (p. 18).back

[3] O.S. 1997/2862, fel y'i diwygiwyd gan adran 54(2) o Ddeddf y Comisiwn Archwilio 1998 a pharagraff 4(1) o Atodlen 4 iddi (p. 18).back

[4] O.S. 1998/880.back

[5] O.S. 2000/2993 (Cy. 193), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1390 (Cy. 140).back

[6] O.S. 2001/2281 (Cy. 171).back

[7] O.S.2002/438 (Cy. 56).back

[8] O.S.2002/679 (Cy. 76).back

[9] O.S.2002/1857 (Cy.181).back

[10] 1998 p.38.back

[11] 1996 p.56.back

[12] 1998 p. 31.back

[13] 2002 p. 32.back

[14] 2000 p.22.back

[15] O.S. 1999/672.back

[16] 1977 t.49.back

[17] 2002 p. 17.back

[18] 1990 p. 19.back

[19] 1998 p. 18.back

[20] 2004 p. 23.back

[21] 1988 p.40.back

[22] 1996 p. 56.back

[23] 1992 p. 13.back

[24] 1997 p.44.back

[25] 1997 p.65.back

[26] 1999 p.8.back

[27] 2002 p. 17.back



English version



ISBN 0 11 091098 2


 © Crown copyright 2005

Prepared 22 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050761w.html