BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2005 Rhif 774 (Cy.64)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050774w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 774 (Cy.64)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 16 Mawrth 2005 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976[1], adrannau 23(2)(a), (f)(ii), (5), 26(1), (2), 59(2), (3), 104(4), Atodlen 2, paragraffau 12, 13, 14, Atodlen 4, paragraff 4(1), (2)(d), Atodlen 5, paragraff 7(1), (2)(g), ac Atodlen 6, paragraff 10(1) o Ddeddf Plant 1989[2] a chan adrannau 1(4), 16(2), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) a (c), (7)(a) i (h), (j), (8)(c), 25(1), 33, 34(1), 35, 77(2) ac 118(4) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Plant 2004 (Diwygio Rheoliadau Amrywiol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983
    
2.  - (1) Diwygir Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983[4] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn rheoliad 15(1)(e), ar ôl y geiriau "children's guardian or reporting officer", mewnosoder y geiriau "or Welsh family proceedings officer"[5].

Diwygio Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991
     3.  - (1) Diwygir Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991[6] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Bob tro y mae'r geiriau "officers of the service" yn ymddangos yn rheoliad 11, mewnosoder y geiriau "and Welsh family proceedings officers" ar eu hôl.

Diwygio Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991
     4.  - (1) Diwygir Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991[7] yn unol â dapriaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (1) Yn rheoliad 2A(1)(c) ar ôl "Support Service", mewnosoder "or a Welsh family proceedings officer where the child is ordinarily resident in Wales".

Diwygio Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001
     5.  - (1) Diwygir Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001[8] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ar ddiwedd rheoliad 17, ychwaneger "a Chynulliad Cenedlaethol Cymru o ran ei swyddogaethau o dan adran 35 o Ddeddf Plant 2004".

Diwygio Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002
     6.  - (1) Diwygir Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002[9] yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (1) Yn rheoliad 15(2)(b) ar ôl "a Theuluoedd" mewnosoder "neu Swyddog Achosion Teuluol".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

16 Mawrth 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983, Rheoliadau Trefniadau ar gyfer Lleoli Plant (Cyffredinol) 1991, Rheoliadau Adolygu Achosion Plant 1991, Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru 2001 a Rheoliadau Cartrefi Plant (Cymru) 2002 sydd o ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd ("CAFCASS") yng Nghymru i swyddogion achosion teuluol Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Diwygir cyfeiriadau yn y pum set o reoliadau at warcheidwaid plant neu swyddogion cofnodi, swyddogion y gwasanaeth a'r Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd fel eu bod yn cynnwys cyfeiriad at swyddogion achosion teuluol Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y mae'n arfer ei swyddogaethau o dan adran 35 o Ddeddf Plant 2004.


Notes:

[1] 1976 p.36. Mae'r pwerau yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 9(5) o Ddeddf 1976 fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru, yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr, a'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Cynulliad Cymru yn gweithredu ar y cyd o ran Cymru a Lloegr.back

[2] 1989 p.41. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys Deddf 1989 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)).back

[3] 2000 p.14.back

[4] 1983 O.S. Rhif 1964.back

[5] Diffinnir "Welsh family proceedings officer" yn adran 35 o Ddeddf Plant 2004 (2004 p.31).back

[6] 1991 O.S. Rhif 890.back

[7] 1991 O.S. Rhif 895.back

[8] 2001 O.S. Rhif 2787 (Cy. 237).back

[9] 2002 O.S. Rhif 327.back

[10] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091101 6


 © Crown copyright 2005

Prepared 24 March 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20050774w.html