BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005 Rhif 1310 (Cy.92) Rhif 1310 (Cy.92) Rhif 1310 (Cy.92) Rhif 1310 (Cy.92)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051310w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1310 (Cy.92)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 10 Mai 2005 
  Yn dod i rym 20 Mai 2005 

Ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â mesurau'n ymwneud â bwyd, gan gynnwys cynhyrchu cynradd o ran bwyd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 20 Mai 2005 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995
    
2.  - (1) I'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, diwygir Rheoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995[4] yn unol â pharagraffau (2) a (3).

    (2) Yn lle is-baragraff (2)(b) o reoliad 14 (amodau cyffredinol) rhodder yr is-baragraff a ganlyn  - 

    (3) Yn lle paragraff (9) o reoliad 14 rhodder y paragraff a ganlyn  - 

Diwygiad canlyniadol
     3. I'r graddau y mae Rheoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996[5] yn gymwys o ran Cymru, diwygir paragraff 7 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny (rheoliadau sy'n berthnasol i fasnach o fewn y Gymuned) drwy roi'r cyfeiriadau a ganlyn yn lle'r ymadrodd "The Meat (Hazard Analysis and Critical Control Point) (Wales) Regulations 2002"[6]  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

10 Mai 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran Cymru'n diwygio ymhellach Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela wedi'i Ffermio a Chig Cwningod (Hylendid ac Archwilio) 1995 (O.S. 1995/540, fel y'i diwygiwyd eisoes, ac sy'n rhychwantu Prydain Fawr i gyd) ac yn rhoi ar waith y rhan honno o Erthygl 5(1)(b) o Gyfarwyddeb y Cyngor 71/118/EEC sy'n ymwneud â phroblemau iechyd sy'n effeithio ar gynhyrchu cig dofednod ffres a'i roi ar y farchnad (atodwyd testun y Gyfarwyddeb uchod, ar ôl ei gyfuno, i Gyfarwyddeb y Cyngor 92/116/EEC (OJ Rhif L62, 15.3.93, t.1).) ac sy'n gwahardd rhoi cig dofednod ar y farchnad i'w fwyta gan bobl os cafodd ei drin â chyfryngau dal dŵr neu os y'i cafwyd o dan amodau technolegol debyg a'i fod, o ganlyniad, yn debygol o fod yn achos yr un risg.

    
2. Rhoddir y gwaharddiad uchod ar waith drwy ddiwygio'n briodol reoliad 14(2) o O.S. 1995/540 (rheoliad 2(2)).

    
3. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud newidiadau canlyniadol i reoliad 14(9) o O.S. 1995/540 (rheoliad 2(3)) ac i Atodlen 2 i Reoliadau Cynhyrchion sy'n Dod o Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) 1996 (O.S. 1996/3124, fel y'i diwygiwyd eisoes) (rheoliad 3).

    
4. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir yn y Rheoliadau hyn, y gwaharddiad y cyfeirir ato ym mharagraff 1. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Caerdydd, CF10 1EW.


Notes:

[1] O.S. 2003/2901.back

[2] 1972 p.68.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2001, t.1.back

[4] O.S. 1995/540. Fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1995/1763, O.S. 1995/2148, O.S. 1995/2200, O.S. 1997/1729, O.S. 2000/656, O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2002/47 (Cy.6) ac O.S. 2002/1476 (Cy.148).back

[5] O.S. 1996/3124, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/3023, O.S. 1998/994, O.S. 1999/683, O.S. 2000/656, O.S. 2000/1885 (Cy.131), O.S. 2000/2257 (Cy.150), O.S. 2001/1660 (Cy.119), O.S. 2001/2198 (Cy.158), O.S. 2001/2219 (Cy.159), O.S. 2002/47 (Cy.6), O.S. 2002/1476 (Cy.148), O.S. 2003/3229 (Cy. 309) ac O.S. 2004/1430 (Cy.144). Yn rhinwedd O.S.2004/1430 (Cy.144), mae O.S. 1996/3124 yn gymwys bellach mewn perthynas â masnach o fewn y Gymuned yn unig.back

[6] O.S. 2002/1476 (Cy.148).back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091125 3


 © Crown copyright 2005

Prepared 17 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051310w.html