BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2005 Rhif 1351 (Cy.99)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051351w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1351 (Cy.99)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 17 Mai 2005 
  Yn dod i rym 31 Mai 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 156(4) o Ddeddf Tai 1985[1] sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1.  - (1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Blaenoriaeth Arwystlon) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 31 Mai 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.

Corff a bennir
    
2. Pennir y cyrff canlynol yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156[3] o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon)  - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Mai 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu pedwar corff yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 156 o Ddeddf Tai 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau o dan yr hawl i brynu), yn ogystal â'r cyrff hynny sydd eisoes wedi'u pennu gan yr adran honno neu mewn Gorchmynion blaenorol. Mae adran 156 o Deddf Tai 1985 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae adran 156 yn darparu bod yr atebolrwydd i ad-dalu gostyngiad a all godi o dan gyfamod gan y tenant sy'n ofynnol o dan adran 155 o Ddeddf 1985 yn gyfystyr ag arwystl cyfreithiol ar y tŷ annedd ond bod gan arwystl cyfreithiol sy'n sicrhau swm sy'n cael ei fenthyca i'r tenant gan sefydliad benthyca cymeradwy er mwyn galluogi'r tenant i arfer yr hawl i brynu, flaenoriaeth drosto.

At ddibenion yr adran mae cymdeithasau adeiladu, banciau, cwmnïau yswiriant, cymdeithasau cyfeillgar ac unrhyw gorff arall a bennir, neu y pennir ei ddosbarth neu ei ddisgrifiad, mewn gorchymyn a wneir, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn sefydliadau benthyca cymeradwy.

Mae cyrff o'r fath hefyd yn dod yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion adran 36 o Ddeddf 1985 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan awdurdodau lleol) ac adran 12 o Ddeddf Tai 1996 (blaenoriaeth arwystlon ar warediadau gwirfoddol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig).

Yn ychwanegol, gan fod adran 156 o Ddeddf Tai 1985 yn cael ei chymhwyso gan adran 171A (achosion lle y diogelir yr hawl i brynu) o'r Ddeddf honno at achosion lle y diogelir hawl tenant i brynu, a chan adran 17 (hawl tenant i gaffael annedd: darpariaethau atodol) o Ddeddf Tai 1996 at achosion lle y mae gan denant yr hawl i gaffael o dan adran 16 (hawl tenant i gaffael annedd) o'r Ddeddf honno, daw'r cyrff a bennwyd yn sefydliadau benthyca cymeradwy at ddibenion yr hawliau hynny.


Notes:

[1] 1985 p.68; diwygiwyd adran 156(4) gan Ddeddf Tai 1988 (p.50), Atodlen 17, paragraff 106 a chan Ran XIII o Atodlen 19 i Ddeddf Tai 1996 (p.52).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] Diwygiwyd adran 156 hefyd gan Ddeddf Tai a Chynllunio 1986 (p.63), Atodlen 5, paragraff 1(2) a (5) a chan adran 120(3) a (4) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p.28).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091131 8


 © Crown copyright 2005

Prepared 24 May 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051351w.html