BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Esboniadau ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol) 2005 Rhif 1510 (Cy.114)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051510w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1510 (Cy.114)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Esboniadau ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol) 2005

  Wedi'u gwneud 7 Mehefin 2005 
  Yn dod i rym 1 Gorffennaf 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 101(1) a (2) a 195(1) a (2) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1.  - (1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Esboniadau ynghylch Gwasanaethau Cymdeithasol) 2005 a deuant i rym ar 1 Gorffennaf 2005.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn - 

    (3) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn rheoliad 2 isod.

Pŵer i ofyn am esboniadau
    
2.  - (1) Yn unol â pharagraff (2) caiff y Cynulliad ofyn i unrhyw berson a ragnodir ym mharagraff (3) i roi iddo, neu i berson a awdurdodir ganddo, esboniad ar unrhyw un o'r canlynol - 

mewn achosion lle mae'r Cynulliad yn credu y byddai esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion y Bennod honno.

    (2) Rhaid i ofyniad o dan baragraff (1) gael ei roi ar ffurf hysbysiad ysgrifenedig y mae'n rhaid iddo hefyd - 

    (3) Y personau a ragnodir yw - 



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

7 Mehefin 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson a restrir yn rheoliad 2(3) roi esboniad i'r Cynulliad am unrhyw beth a restrir yn rheoliad 2(1), er enghraifft dogfen a gymerwyd o fangre gan un o arolygwyr awdurdodedig y Cynulliad o dan adran 99 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ("Deddf 2003").

Dim ond pan fo'r Cynulliad yn credu bod yr esboniad yn angenrheidiol neu'n hwylus at ddibenion Pennod 6 o Ran 2 o Ddeddf 2003 y caiff osod gofyniad i esbonio o dan y Rheoliadau hyn. O dan y Bennod honno mae gan y Cynulliad swyddogaeth o ran hyrwyddo gwelliant yn y modd y mae gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol Cymru yn cael eu darparu ac o ran ymgymryd ag adolygiadau o'r ffordd y mae awdurdodau lleol Cymru yn cyflawni eu swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ac o ran cynnal ymchwiliadau i'r ffordd y maent yn gwneud hynny. Rhaid i'r Cynulliad gydymffurfio hefyd â rheoliad 2(2) pan fydd yn gosod gofyniad i esbonio.

Effaith adran 101(3) o Ddeddf 2003 yw bod person sy'n methu â chydymffurfio, a hynny heb esgus rhesymol, ag unrhyw ofyniad a osodir o dan y Rheoliadau hyn yn euog o dramgwydd ac yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.


Notes:

[1] 2003 p.43. Gweler adran 148 o'r Ddeddf i gael y diffiniad o "prescribed".back

[2] 2000 p.22.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091146 6


 © Crown copyright 2005

Prepared 14 June 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051510w.html