BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005 Rhif 1647 (Cy.128)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051647w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1647 (Cy.128)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 21 Mehefin 2005 
  Yn dod i rym 24 Mehefin 2005 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN 1

Rhagarweiniol
1. Enwi, cymhwyso a chychwyn
2. Dehongli
3. Cwmpas

RHAN 2

Gofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau
4. Gorfodi Rheoliad 1935/2004
5. Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004

RHAN 3

Gofynion ar gyfer Finyl Clorid
6. Terfynau a therfynau ymfudiad
7. Dulliau Dadansoddi

RHAN 4

Y Gofynion ar gyfer Ffilm Seliwlos a Adfywiwyd
8. Rheolaethau a therfynau
9. Terfynau ymfudiad ar gyfer ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau
10. Arbed a darpariaethau trosiannol ac amddiffyniadau

RHAN 5

Cyffredinol
11. Tramgwyddau a chosbau
12. Gorfodi
13. Dadansoddi gan Fferyllydd y Llywodraeth
14. Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
15. Diwygiadau i Reoliadau 1998
16. Dirymiadau

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(2), 17(1) a (2), 26(1)(a) a (3), 31a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[
1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion cyffredinol a gofynion cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:



RHAN 1

Rhagarweiniol

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd (Cymru) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 24 Mehefin 2005.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at Erthygl â Rhif yn gyfeiriad at yr Erthygl sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn Rheoliad 1935/2004.

    (3) Mae i ymadroddion Saesneg eraill a'r ymadroddion Cymraeg cyfatebol a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Rheoliad 1935/2004 yr un ystyr yn y Rheoliadau hyn ag sydd iddynt yn y Rheoliad hwnnw.

Cwmpas
     3. Nid yw darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r deunyddiau ac eitemau hynny a bennir yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) o Erthygl 1(3).



RHAN 2

Gofynion Cyffredinol ar gyfer Deunyddiau ac Eitemau

Gorfodi Rheoliad 1935/2004
    
4. Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Erthygl 27 (trefniadau trosiannol), bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau canlynol Rheoliad 1935/2004 yn euog o dramgwydd —

Awdurdodau cymwys at ddibenion Rheoliad 1935/2004
    
5. Dynodir y cyrff canlynol fel awdurdodau cymwys at ddibenion darpariaethau Rheoliad 1935/2004 fel a bennir isod —



RHAN 3

Y gofynion ar gyfer Finyl Clorid

Terfynau a therfynau ymfudiad
    
6. —(1) O ran deunyddiau ac eitemau a weithgynhyrchir gan bolymerau finyl clorid neu gopolymerau —

    (2) Ni chaiff neb —

unrhyw ddeunydd neu eitem o'r fath nad yw'n cydymffurfio â'r rheoliad hwn.

Dulliau Dadansoddi
    
7. —(1) Y dull i'w ddefnyddio wrth ddadansoddi unrhyw sampl at ddibenion sefydlu mesur y monomer finyl clorid sy'n bresennol yn y deunydd neu'r eitem er mwyn penderfynu a yw'n cydymffurfio â rheoliad 6(1)(a) fydd y dull a bennir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn Rhif 80/766/EEC (sy'n gosod dull dadansoddi'r Gymuned ar gyfer rheolaeth swyddogol lefel monomer finyl clorid mewn deunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwydydd)[8].

    (2) Y dull i'w ddefnyddio wrth ddadansoddi unrhyw fwyd at ddibenion sefydlu mesur y finyl clorid sy'n bresennol yn y bwyd er mwyn penderfynu a yw deunydd neu eitem sydd neu a fu mewn cysylltiad â'r bwyd yn cydymffurfio â rheoliad 6(1)(b) fydd y dull a bennir yn yr Atodiad i Gyfarwyddeb y Comisiwn Rhif 81/432/EEC (sy'n gosod dull dadansoddi'r Gymuned ar gyfer rheolaeth swyddogol finyl clorid a ryddhawyd gan ddeunydd ac eitemau i fwydydd)[9].



RHAN 4

Y Gofynion ar gyfer Ffilm Seliwlos a Adfywiwyd

Rheolaethau a therfynau
     8. —(1) Mae'r Rhan hon yn gymwys i ffilm seliwlos a adfywiwyd —

ac y bwriedir iddi ddod i gysylltiad â bwyd, neu wrth ei defnyddio i'r diben hwnnw ei bod yn dod i gysylltiad â bwyd.

    (2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliad hwn at Atodiad II yn gyfeiriad at Atodiad II i Gyfarwyddeb 93/10/EEC.

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff unrhyw berson weithgynhyrchu unrhyw ffilm seliwlos a adfywiwyd y bwriedir iddi ddod i gysylltiad â bwyd sy'n defnyddio unrhyw sylwedd neu grwp o sylweddau heblaw'r sylweddau a enwir neu a ddisgrifir —

onid yw'n unol â'r amodau a'r cyfyngiadau a bennir yn y cofnod cyfatebol yn yr ail golofn o'r Rhan briodol o Atodiad II, fel y'i darllenir gyda'r rhaglith i'r Atodiad hwnnw.

    (4) Ni chaiff neb weithgynhyrchu unrhyw gaenen sydd i'w rhoi ar ffilm y cyfeirir ati ym mharagraff (3)(b) sy'n defnyddio unrhyw sylwedd neu grwp o sylweddau heblaw'r sylweddau a restrir yn Atodlen 1, 2 neu 2A i Reoliadau 1998 onid yw'n unol â'r gofynion, cyfyngiadau a manylebau priodol a geir yn y Rheoliadau hynny ac yn yr Atodlenni iddynt.

    (5) Caniateir defnyddio sylweddau heblaw'r rhai a restrir yn Atodiad II fel lliwyddion neu ludyddion wrth weithgynhyrchu ffilm y mae paragraff (3)(a) yn gymwys iddi, ar yr amod y gweithgynhyrchir y ffilm honno yn y fath fodd nad yw'n trosglwyddo unrhyw liwydd neu ludydd i fwyd mewn unrhyw fesur y gellir ei ganfod.

    (6) Yn ddarostyngedig i reoliad 10 ni chaiff neb —

unrhyw ffilm seliwlos a adfywiwyd a weithgynhyrchwyd yn groes i ofynion paragraff (3) neu (4), neu sy'n methu cydymffurfio â pharagraff (8).

    (7) Ni chaiff neb ddefnyddio wrth gynnal busnes mewn cysylltiad â storio, paratoi, pecynnu, gwerthu neu weini bwyd —

    (8) Rhaid i ddatganiad ysgrifenedig sy'n tystio ei fod yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth sy'n gymwys ar ei gyfer fynd gydag unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o ffilm seliwlos a adfywiwyd yn y cyfnod marchnata ac eithrio'r cyfnod adwerthu, onis bwriedir iddo yn amlwg yn ôl ei natur ddod i gysylltiad â bwyd.

Terfynau ymfudiad ar gyfer ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau
    
9. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff neb weithgynhyrchu na mewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed gyda ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —

    (2) Yn achos unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed gyda ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —

y terfyn ymfudiad cyffredinol fydd 60 miligram o gyfansoddion a drosglwyddir y cilogram o fwyd.

    (3) Ni chaiff neb weithgynhyrchu na mewnforio unrhyw ddeunydd neu eitem a wnaed o ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau a weithgynhyrchwyd gydag unrhyw sylweddau a restrir yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau 1998 (monomerau awdurdodedig) —

    (4) Os mynegir y terfyn ymfudiad ar gyfer sylwedd a grybwyllir ym mharagraff (3) mewn miligramau y cilogram, yn achos ffilm seliwlos a adfywiwyd gyda chaenen o blastigau —

rhaid rhannu'r terfyn ymfudiad gan y ffactor trosi 6 er mwyn ei fynegi mewn miligramau o gyfansoddion a drosglwyddwyd fesul decimetr sgwâr o'r deunydd neu'r eitem mewn cysylltiad â bwyd.

    (5) Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhaid cynnal gwiriad cydymffurfio â therfynau ymfudiad yn unol â darpariaethau Atodlenni 3 a 4 o Reoliadau 1998 fel y'u darllenir gyda rheoliad 6 o'r Rheoliadau hynny ac at ddibenion y paragraff hwn dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at ddeunydd plastig neu eitem blastig fel cyfeiriad at ffilm seliwlos a adfywiwyd â chaenen blastig.

    (6) Ni fydd paragraff (5) yn gymwys mewn unrhyw amgylchiadau pan fydd rheoliad 7(1) neu (2) yn gymwys.

Arbed a darpariaethau trosiannol ac amddiffyniadau
    
10. —(1) Er gwaethaf y dirymiadau yn rheoliad 16, o ran ffilm seliwlos a adfywiwyd a weithgynhyrchwyd cyn 29 Ebrill 1994 bydd yr amddiffyniadau yn rheoliad 6A o Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987[10] yn gymwys o ran tramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn yn yr un modd ac yr oeddent yn gymwys i dramgwyddau o dan y darpariaethau cyfatebol yn y Rheoliadau hynny.

    (2) Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan reoliad 8(3), (4), (6) neu (7), neu reoliad 9(1) neu (3) bydd yn amddiffyniad i brofi —

    (3) Mewn unrhyw achosion am dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn bydd yn amddiffyniad i brofi y bwriadwyd y deunydd neu'r eitem yr honnir bod tramgwydd wedi'i gyflawni yn ei gylch neu yn ei chylch ar gyfer ei allforio neu ei hallforio i wlad y mae ganddi ddeddfwriaeth gydweddol i'r Rheoliadau hyn a bod y deunydd neu'r eitem yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth honno.



RHAN 5

Cyffredinol

Tramgwyddau a chosbau
     11. —(1) Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i ddarpariaethau rheoliad 6(2), 8(3), (4), (6) neu (7), neu 9(1) neu (3) yn euog o dramgwydd.

    (2) Bydd unrhyw berson sy'n euog o dramgwydd o dan baragraff (1) neu o dan reoliad 4 yn agored —

Gorfodi
    
12. —(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd yn ei ardal a phob awdurdod iechyd porthladd yn ei ranbarth weithredu a gorfodi —

    (2) Rhaid i'r Asiantaeth hefyd weithredu a gorfodi darpariaethau Erthyglau 16(1) a 17(2).

Dadansoddi gan Fferyllydd y Llywodraeth
    
13. —(1) Caiff y llys lle dygir unrhyw achosion ger ei fron o dan y Rheoliadau hyn, os yw o'r farn bod hynny'n briodol at ddibenion yr achosion, beri —

yn cael eu hanfon at Fferyllydd y Llywodraeth a fydd yn cyflawni'r profion hynny y mae'n barnu eu bod yn briodol a throsglwyddo tystysgrif o'r canlyniad i'r llys, a thelir costau'r profion hynny gan yr erlynydd neu gan y person a gyhuddwyd yn ôl gorchmyniad y llys.

    (2) Os ceir achos pan ddygir apêl ond na chymerwyd camau o dan baragraff (1), bydd darpariaethau'r paragraff hwnnw'n gymwys o ran y llys sy'n gwrando ar yr apêl.

    (3) Rhaid i unrhyw dystysgrif o'r canlyniad i'r profion a drosglwyddir gan Fferyllydd y Llywodraeth o dan y rheoliad hwn gael ei llofnodi gan Fferyllydd y Llywodraeth neu ar ei ran, ond gellir gwneud y profion gan unrhyw berson o dan gyfarwyddyd y person sy'n llofnodi'r dystysgrif.

    (4) Rhaid ystyried bod unrhyw dystysgrif a drosglwyddir gan Fferyllydd y Llywodraeth yn unol â pharagraff (3) yn dystiolaeth o'r ffeithiau a nodir ynddi oni fydd unrhyw barti i'r achos yn gofyn i'r person a lofnododd y dystysgrif gael ei alw yn dyst.

    (5) Yn y rheoliad hwn mae'r term "profion" yn cynnwys archwiliad a dadansoddiad, a dehonglir "profi" yn unol â hynny.

Cymhwyso amrywiol ddarpariaethau'r Ddeddf
    
14. —(1) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf neu at Ran ohoni fel cyfeiriad at y Rheoliadau hyn —

    (2) Wrth gymhwyso adran 32 o'r Ddeddf (pwerau mynediad) at ddibenion y Rheoliadau hyn, dehonglir y cyfeiriadau yn is-adran (1) i'r Ddeddf fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at Reoliad 1935/2004.

    (3) Bydd darpariaethau canlynol y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn gyda'r addasiad y dehonglir unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf fel cyfeiriad at Reoliad 1935/2004 a'r Rheoliadau hyn —

    (4) Mae adran 34 o'r Ddeddf (terfyn amser ar gyfer erlyn) yn gymwys i dramgwyddau o dan y Rheoliadau hyn fel y mae'n gymwys i dramgwyddau y gellir eu cosbi o dan adran 35(2) o'r Ddeddf.

Diwygiadau i Reoliadau 1998
    
15. —(1) Diwygir Rheoliadau 1998 o ran Cymru yn unol â pharagraffau (2) i (6).

    (2) Yn rheoliad 2 (dehongli) —

    (3) Ym mharagraff (1)(b) o reoliad 6 (dull o brofi gallu deunyddiau neu eitemau plastig i drosglwyddo cyfansoddion a dulliau dadansoddi) yn lle "regulation 14(2) of the 1987 Regulations" rhodder "regulation 7(2) of the 2005 Regulations".

    (4) ym mharagraff (1) o reoliad 9 (gorfodi) yn lle "the 1987 Regulations" rhodder "the 2005 Regulations".

    (5) Yn rheoliad 11 (rhagdybiaeth o ran bwyd sydd i ddod i gysylltiad â deunydd plastig neu eitem blastig, gludydd neu ddeunydd neu eitem a orchuddiwyd â chaenen wyneb) yn lle "the 1987 Regulations" rhodder "Regulation (EC) No. 1935/2004 of the European Parliament and of the Council[12]".

    (6) Yn lle rheoliad 12 (cymhwyso darpariaethau eraill) rhodder y canlynol —

Dirymiadau
    
16. Dirymir y Rheoliadau canlynol neu rannau ohonynt i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru —



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[16]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Mehefin 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Deunyddiau ac Eitemau mewn Cysylltiad â Bwyd 1987 (O.S. 1987/1523, fel y'i diwygiwyd) ("Rheoliadau 1987") i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru, ac yn ailddeddfu neu'n ailddeddfu gyda diwygiadau ddarpariaethau penodol a geir yn y Rheoliadau hynny. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gorfodi Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1935/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar ddeunyddiau ac eitemau y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd ac yn diddymu Cyfarwyddebau 80/590/EEC a 89/109/EEC ("Rheoliad 1935/2004").

    
2. Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ddeunyddiau neu eitemau y tu allan i gwmpas Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 3). Y deunyddiau a ddynodir yn y Rheoliad hwnnw fel rhai sydd y tu allan i'w gwmpas yw deunyddiau ac eitemau a gyflenwir fel hynafolion, deunyddiau sy'n orchudd neu'n gaenen ac sy'n ffurfio rhan o'r bwyd ac y gellir eu bwyta gyda'r bwyd, a chyfarpar sefydlog cyhoeddus neu breifat i gyflenwi dŵr.

    
3. Mae Rhan 2 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gorfodi Rheoliad 1935/2004, (rheoliad 4). Mae Rheoliad 1935/2004 yn Rheoliad fframwaith ar ddeunyddiau ac eitemau mewn cysylltiad â bwyd, ac mae'n disodli Cyfarwyddebau 80/590/EEC ac 89/109/EEC, a weithredwyd gan Reoliadau 1987. Mae'r Rhan hon hefyd yn darparu ar gyfer dynodi'r awdurdodau cymwys at yr amrywiol ddibenion a ddynodir yn Rheoliad 1935/2004 (rheoliad 5).

    
4. Mae Rhan 3 yn cynnwys rheoliadau sy'n ailddeddfu, heb ddiwygio'n sylweddol, ddarpariaethau Rheoliadau 1987 sy'n ymwneud â finyl clorid (rheoliadau 6 & 7).

    
5. Mae Rhan 4 yn cynnwys rheoliadau sy'n ailddeddfu darpariaethau Rheoliadau 1987 sy'n ymwneud â ffilm seliwlos a adfywiwyd ("RCF"), fel y'i diwygiwyd yn ôl yr angen i weithredu gofynion Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC sy'n diwygio Cyfarwyddeb 93/10/EC (rheoliadau 8 & 9).

    
6. Yn benodol mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn —

     7. Mae rheoliad 9 yn cymhwyso i RCF â chaenen blastig y rheolaethau sy'n bodoli (sy'n deillio o Gyfarwyddeb y Comisiwn 2002/72 ac a weithredwyd gan Reoliadau Deunyddiau ac Eitemau Plastig mewn Cysylltiad â Bwyd 1998, O.S. 1998/1376 fel y'i diwygiwyd) ar ymfudiad o gyfansoddion o ddeunyddiau ac eitemau plastig i fwyd, yn benodol drwy —

     8. Mae rheoliad 10 yn cynnwys arbedion a darpariaethau trosiannol —

     9. Mae Rhan 5 o'r Rheoliadau hyn yn cynnwys darpariaethau gweinyddol a gorfodi cyffredinol —

     10. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn ac wedi'i roi yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y mae prif elfennau Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC wedi cael eu trosi i'r gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Stryd Wood, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1990 p. 16. Amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990.back

[2] Mae'r swyddogaethau a oedd gynt yn arferadwy gan "the Ministers" (sef, o ran Cymru a Lloegr ac yn gweithredu ar y cyd, y Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd a'r Ysgrifenyddion Gwladol a oedd yn eu trefn yn ymwneud ag iechyd yn Lloegr a bwyd a iechyd yng Nghymru ac, o ran yr Alban, yr Ysgrifennydd Gwladol) bellach yn arferadwy o ran Lloegr gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) ac mae paragraffau 12 a 21 o'r Atodlen honno yn diwygio yn eu trefn adrannau 17(2) a 48 o Ddeddf 1990. Diwygiwyd adran 48 hefyd gan Reoliadau Deddf Diogelwch Bwyd (Diwygio) 2004 (O.S. 2004/2990). Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Ministers" i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y'i darllenir gydag adran 40(3) o Ddeddf 1999 a throsglwyddwyd y swyddogaethau hynny, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran yr Alban, i Weinidogion yr Alban gan adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (1998 p. 46) fel y'i darllenir gydag adran 40(2) o Ddeddf 1999.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[4] OJ Rhif L93, 17.4.93, t.27, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/14/EC (OJ Rhif L27, 30.1.2004, t.48).back

[5] OJ Rhif L220, 15.8.2002, t.18, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2004/19/EC (OJ Rhif L71, 10.3.2004, t.8).back

[6] OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.back

[7] O.S. 1998/1376, fel y'i diwygiwyd o ran Cymru gan O.S. 2000/3162, O.S. 2002/2364, O.S. 2004/3113 ac O.S. 2005/325.back

[8] OJ Rhif L213, 16.8.90, t.42.back

[9] OJ Rhif L167, 24.6.81, t.6.back

[10] O.S. 1987/1523, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1991/1476 ac O.S. 1994/979.back

[11] O.S. 2005/1647 (Cy.128).back

[12] OJ Rhif L338, 13.11.2004, t.4.back

[13] O.S. 1987/1523.back

[14] O.S. 1991/1476.back

[15] O.S. 1994/979.back

[16] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091155 5


 © Crown copyright 2005

Prepared 28 June 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051647w.html