BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 Rhif 1820 (Cy.148)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051820w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 1820 (Cy.148)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 5 Gorffennaf 2005 
  Yn dod i rym 16 Gorffennaf 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd sy'n cael ei achosi gan wastraff, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Rhestr Wastraffoedd (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 16 Gorffennaf 2005.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —

    (2) Yn y Rheoliadau hyn—

    (3) Yn y Rheoliadau hyn—

Effaith y Rhestr Wastraffoedd
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 2(3)(ch) ac yn sgil darpariaethau'r rheoliad hwn, mae'r Rhestr Wastraffoedd yn effeithiol at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, ac yn benodol at ddibenion —

ac yn unol â hynny y mae'r Rhestr Wastraffoedd a'r codau a'r penawdau penodau i'w cydnabod a'u defnyddio at y dibenion hynny.

    (2) Nid yw paragraff (1) yn lleihau effaith rheoliadau a wneir o dan adran 62A(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[
20] neu unrhyw benderfyniad o dan reoliadau 8 neu 9 o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

    (3) Yn ddarostyngedig i reoliad 2(3)(c), mae'r nodiadau yn y Cyflwyniad i'r Rhestr yn effeithiol at ddibenion—

    (4) Diffinnir yn llawn y gwahanol fathau o wastraff yn y Rhestr Wastraffoedd gan y cod chwe digid ar gyfer y gwastraff a chan benawdau pennod dau ddigid a phedwar digid yn eu trefn, ac yn unol â hynny, at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoli gwastraff neu wastraff peryglus—

    (5) Pan fo unrhyw ddarpariaeth (sut bynnag y caiff ei mynegi) o ddeddfiad yn gosod gofyniad bod cod chwe digid i'w roi, neu pan fo'n awdurdodi cyflawni unrhyw weithred neu'n awdurdodi hepgor unrhyw ofyniad ar yr amod y rhoddir y cod chwe digid, bernir na chydymffurfiwyd â'r gofyniad hwnnw neu â'r amod hwnnw onid y cod a roddir yw'r cod ar gyfer y gwastraff, neu wastraff peryglus, yn ôl y digwydd, yn y Rhestr Wastraffoedd.

    (6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), bernir bod gwastraff a farciwyd â seren yn y Rhestr Wastraffoedd wedi ei restru yn y Rhestr Wastraffoedd fel gwastraff peryglus at ddibenion rheoliad 6(a) o'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

    (7) Pan fo gwastraff a farciwyd â seren yn y Rhestr Wastraffoedd yn un neu ragor o sylweddau peryglus neu'n cynnwys un neu ragor o sylweddau peryglus, bernir ei fod yn wastraff peryglus—

Nodweddion a phriodoleddau sylweddau peryglus a ddosbarthwyd yn wastraff peryglus
     4. Mae gwastraff yn bodloni gofynion y rheoliad hwn o ran unrhyw un o'r priodoloeddau H3 i H8, H10[21] ac H11 o Atodiad III, pan fo'n arddangos un neu ragor o'r priodoleddau canlynol—

Diwygiadau canlyniadol
     5. Mae Atodlen 2 (sy'n gwneud diwygiadau canlyniadol i is-ddeddfwriaeth) yn effeithiol.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
23]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.

5 Gorffennaf 2005



ATODLEN 1
Rheoliad 2(2)(b)


THE LIST OF WASTES — THE ANNEX TO THE LIST OF WASTES DECISION






ATODLEN 2
Rheoliad 5

Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991

     1. Mae Rheoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Dyletswydd Gofal) 1991[
24] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

     2. Yn rheoliad 2(2)(a) yn lle "European Waste Catalogue" rhodder "List of Waste (Wales) Regulations 2005".

Rheoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002

     3. Mae Rheoliadau Tirlenwi (Cymru a Lloegr) 2002[25] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

     4. Ym mharagraff 5(1)(f) o Atodlen 1, yn lle "European Waste Catalogue" rhodder "List of Waste (Wales) Regulations 2005".

Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004

     5. Mae Rheoliadau'r Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004[26] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.

     6. Yn rheoliad 2(1), mae'r diffiniad o "Catalog Gwastraff Ewropeaidd" yn cael ei hepgor.

     7. Yn rheoliad 6(2)(b) yn lle "y Catalog Gwastraff Ewropeaidd" rhodder "Rheoliadau'r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005".

     8. Yn rheoliad 7(1)(b) yn lle "y Catalog Gwastraff Ewropeaidd" rhodder "Rheoliadau'r Rhestr Gwastraffoedd (Cymru) 2005".



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu (ac eithrio Erthygl 3) yng Nghymru Benderfyniad y Comisiwn 2000/532/EC ("Penderfyniad y Rhestr Wastraffoedd", fel y'i diwygiwyd gan Benderfyniadau 2001/118/EC, 2001/119/EC a 2001/573/EC) a fabwysiadodd y Rhestr Wastraffoedd. Mae testun wedi'i gydgrynhoi o'r penderfyniad ar gael yn:

Mae Erthygl 1(a) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff (75/442/EEC), y mae testun wedi'i gydgrynhoi ohoni ar gael yn:

ac indent cyntaf Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus (91/689/EEC), y mae testun wedi'i gydgrynhoi ohoni ar gael yn :

yn ei gwneud yn ofynnol i lunio rhestr wastraffoedd yn unol â'r weithdrefn yn Erthygl 18 o'r Gyfarwyddeb Gwastraff. Y rhestrau ym Mhenderfyniadau 94/3/EC a 94/904 a fabwysiadwyd yn unol ag Erthygl 1(a) o'r Gyfarwyddeb Gwastraff ac Erthygl 1(4) o Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus oedd y Catalog Gwastraff Ewropeaidd; ni throswyd y rhestri yn ffurfiol erioed.

Mae'r Rhestrau Gwastraff, a ddisodlodd "Catalog Gwastraff Ewropeaidd", yn darparu ar gyfer dosbarthu gwastraffoedd ac yn penderfynu, yn ddarostyngedig i'r canlynol, a ydynt yn wastraffoedd peryglus.

Mae rheoliad 6 o Reoliadau Gwastraff Peryglus (Cymru) 2005 ("y Rheoliadau Gwastraff Peryglus") yn diffinio gwastraff peryglus at ddibenion gweithredu'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus yng Nghymru. Mae paragraff (a) o'r rheoliad hwnnw yn darparu bod gwastraff yn beryglus os yw'n cael ei restru yn wastraff peryglus yn y Rheoliadau hyn. Defnyddir y diffiniad hefyd mewn Cyfarwyddebau eraill (er enghraifft, Cyfarwyddeb 1999/31/EC ar dirlenwi gwastraff a Chyfarwyddeb 1996/61/EC ynghylch dulliau integredig o atal a rheoli llygredd). Cynhwysir diwygiadau canlyniadol i ymgorffori'r rhestr hon yn y Rheoliadau hyn yn y ddeddfwriaeth weithredu berthnasol yn Atodlen 11 i'r Rheoliadau Gwastraff Peryglus.

Mae rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn yn darparu bod y Rhestr Wastraffoedd yn effeithiol at ddibenion sy'n gysylltiedig â rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, ac yn enwedig ar gyfer—

Mae rheoliad 3(4) yn rhoi effaith, at ddibenion rheoleiddio gwastraff a gwastraff peryglus, i'r codau chwe digid a'r penawdau penodau dau ddigid a phedwar digid yn y Rhestr Wastraffoedd.

Mae rheoliad 3(5) yn darparu na chydymffurfir ag unrhyw ofyniad (neu na fodlonir unrhyw amod) yn unrhyw ddeddfwriaeth bod y cod chwe digid cywir i'w roi ond os yw'r cod yn y Rhestr Wastraffoedd ar gyfer y gwastraff dan sylw yn cael ei roi. Mae rheoliad 3(6) yn darparu bod y seren yn y Rhestr Wastraffoedd i nodi bod y gwastraff dan sylw yn beryglus. Mae rheoliad 3(7) yn darparu pan fo gwastraff yn cael ei adnabod yn beryglus drwy gyfeirio at sylweddau peryglus, nid yw'r gwastraff ond yn beryglus pan fo'r gwerth terfyn yn rheoliad 4, neu Atodlen III o'r Gyfarwyddeb Gwastraff Peryglus, wedi'i fodloni. Mae rheoliad 4 yn nodi'r gwerthoedd terfyn crynodiad a geir yn Erthygl 2 o Benderfyniad y Rhestr Wastraffoedd.

Mae'r Rhestr Wastraffoedd yn cyfeirio at sylweddau fel rhai peryglus os ydynt yn cynnwys sylweddau peryglus. Mae sylwedd yn sylwedd peryglus os yw'n sylwedd peryglus yn unol â Rheoliadau Cemegion (Gwybodaeth am Beryglon a Phecynnu ar gyfer Cyflenwi) 2002 (O.S 2002/1689, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/3386) sy'n gweithredu Cyfarwyddeb y Sylweddau Peryglus (67/548/EEC) ym Mhrydain Fawr.

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi. Gellir cael copi ohono oddi wrth Is-adran yr Amgylchedd — Diogelu ac Ansawdd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] S.I. 2005/850.back

[2] 1972 p.68.back

[3] OJ Rhif L 194, 25.7.1975, t.39.back

[4] OJ Rhif L 78, 26.3.1991, t.32.back

[5] OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.48.back

[6] OJ Rhif L 135, 6.6.1996, t.32.back

[7] OJ Rhif L 284, 31.10.2003, t.1.back

[8] OJ Rhif L 196, 16.8.1967, t.1.back

[9] OJ Rhif L152, 30.4.2004, t.1.back

[10] OJ Rhif L 377, 31.12.1991, t.20.back

[11] OJ Rhif L 168, 2.7.1994, t.28.back

[12] OJ Rhif L 226, 6.9.2000, t.3.back

[13] OJ Rhif L 5, 7.1.1994, t.15.back

[14] OJ Rhif L 356, 31.12.1994, t.14.back

[15] OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.1.back

[16] OJ Rhif L 47, 16.2.2001, t.32.back

[17] (10) OJ Rhif L 203, 28.7.2001, t.18.back

[18] O.S. 2005/1806 (Cy.138).back

[19] O.S. 2002/1689, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/3384.back

[20] 1990 p.43.back

[21] Yng Nghyfarwyddeb 92/32/EEC sy'n diwygio am y seithfed gwaith Gyfarwyddeb 67/548/EEC cyflwynwyd y term 'toxic for reproduction'. Yn lle'r term 'teratogenic' rhoddwyd y term cyfatebol 'toxic for reproduction'. Ystyrir bod y term hwn yn unol â nodwedd H10 yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 91/689/EEC.back

[22] Yng Nghyfarwyddeb 92/32/EEC sy'n diwygio am y seithfed gwaith Gyfarwyddeb 67/548/EEC cyflwynwyd y term 'toxic for reproduction'. Yn lle'r term 'teratogenic' rhoddwyd y term cyfatebol 'toxic for reproduction'. Ystyrir bod y term hwn yn unol â nodwedd H10 yn Atodiad III i Gyfarwyddeb 91/689/EEC.back

[23] 1998 p.38.back

[24] O.S. 1991/2839; mae'r diwygiadau perthnasol yn O.S. 2002/1559.back

[25] O.S. 2002/1959; fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1375.back

[26] O.S. 2004/1490.back



English version



ISBN 0 11 091172 5


 © Crown copyright 2005

Prepared 14 July 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20051820w.html