BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005 Rhif 2291 (Cy.170)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052291w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2291 (Cy.170)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005

  Wedi'i wneud 16 Awst 2005 
  Yn dod i rym 1 Medi 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980[1] a phob pŵer galluogi arall[2]:—

     1. Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei adeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r gorchymyn hwn i rym.

    
2. Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

    
3. Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chaiff ei dosbarthu fel ffordd annosbarthedig o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n hysbysu Cyngor Gwynedd fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd.

    
4. Yn y Gorchymyn hwn:—

     5. Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2005 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005.



Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth.


S. C. Shouler
Cyfarwyddwr, Polisi Trafnidiaeth a Gweinyddu

Llywodraeth Cynulliad Cymru
Dyddiedig 16 Awst 2005



ATODLEN 1

LLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD


Llwybr sydd wedi'i leoli rhwng Blaenau Ffestiniog yn Sir Gwynedd a Chancoed ym Mwrdeistref Sirol Conwy, tua 0.212 km o hyd, gan ddechrau o bwynt ar y gefnffordd bresennol 38 metr i'r dwyrain o'r eiddo a adweinir fel Tŷ Mawr (a Tal y Waenydd House) ac yna yn mynd tua'r gogledd hyd at bwynt rhyw 38 metr i'r gogledd o'r eiddo a adweinir fel Rhif 18 Rhesdai Oakeley.



ATODLEN 2

DARN O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO Â BOD YN GEFNFFORDD


Y darn hwnnw o'r gefnffordd sy'n dechrau o bwynt ar y gefnffordd bresennol 19 metr i'r de-ddwyrain o gornel dde-ddwyreiniol yr eiddo a adweinir fel Rhif 1 Rhesdai Oakeley ac yna'n mynd tua'r gogledd-ddwyrain am tua 0.14 kilometr hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol tua 19 metr i'r gogledd o gornel ogledd-ddwyreiniol yr eiddo a adweinir fel Rhif 18 Rhesdai Oakeley.


Notes:

[1] 1980 p.66.back

[2] Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.back



English version



ISBN 0 11 091183 0


 © Crown copyright 2005

Prepared 22 August 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052291w.html