BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Gwybodaeth i Denantiaid Diogel) (Cymru) 2005 Rhif 2681 (Cy.187)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052681w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 2681 (Cy.187)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Gwybodaeth i Denantiaid Diogel) (Cymru) 2005

  Wedi'i wneud 27 Medi 2005 
  Yn dod i rym 28 Medi 2005 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 121AA a 121B o Ddeddf Tai 1985[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Hawl i Brynu) (Gwybodaeth i Denantiaid Diogel) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 28 Medi 2005.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn—

Materion y mae'n rhaid rhoi gwybodaeth amdanynt i denantiaid diogel
    
3. Mae'r materion a nodir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn faterion a bennir at ddibenion adran 121AA o'r Ddeddf.

Pryd y mae'n rhaid cyhoeddi'r ddogfen
    
4. —(1) Rhaid i landlord gyhoeddi'r ddogfen o fewn dau fis ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

    (2) Os bydd landlord yn diwygio'r ddogfen o dan adran 121AA(4) o'r Ddeddf rhaid iddo gyhoeddi'r ddogfen yn ei ffurf ddiwygiedig o fewn mis o'r diwygio.

Pryd y mae'n rhaid rhoi copi o'r ddogfen
    
5. —(1) Ar ôl cyhoeddi'r ddogfen yn unol ag erthygl 4(1) neu (2) rhaid i landlord roi copi o'r ddogfen—

    (2) Rhaid i landlord roi i bob un o'i denantiaid diogel gopi o fersiwn gyfredol y ddogfen o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o bum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad pan roddwyd y ddogfen yn unol ag erthygl 5(1)(a).



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Medi 2005



YR ATODLEN
Erthygl 3


Materion y mae'n rhaid rhoi gwybodaeth amdanynt i denantiaid diogel


     1. Amlinelliad o effaith darpariaethau Rhan 5 o'r Ddeddf o ran—

     2. —(1) Y ffaith ei bod yn debygol y tynnir costau cychwynnol gan denant diogel sy'n arfer ei hawl i brynu.

    (2) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at gostau cychwynnol yn cynnwys costau o ran—

     3. —(1) Y ffaith ei bod yn debygol y bydd tenant diogel yn gorfod gwneud taliadau rheolaidd fel perchennog tŷ annedd.

    (2) Mae'r cyfeiriad ym mharagraff (1) at daliadau rheolaidd yn cynnwys taliadau o ran—

     4. Risg adfeddiannu'r tŷ annedd os na wneir y taliadau morgais yn rheolaidd.

     5. Er mwyn cynnal yr eiddo mewn cyflwr da, y ffaith ei bod yn debygol y bydd yn rhaid i berchennog tŷ annedd dynnu gwariant a allai gynnwys talu taliadau gwasanaeth (blynyddol yn ogystal ag o ran gwaith mawr) lle bo'n briodol.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae Rhan 5 o Ddeddf Tai 1985 ("y Ddeddf") yn rhoi i denantiaid diogel landlordiaid penodol hawl i brynu eu cartrefi, yn ddarostyngedig i eithriadau penodedig. Mae adran 189 o Ddeddf Tai 2004 yn mewnosod adrannau 121AA a 121B newydd yn Rhan 5 o'r Ddeddf, gan ddisodli'r ddyletswydd yn adran 104(1)(b) o'r Ddeddf sy'n ymwneud â landlordiaid yn darparu gwybodaeth mewn cysylltiad â'r hawl i brynu. O dan yr adrannau newydd hyn rhaid i landlord tenantiaid diogel yn awr roi i'r tenantiaid hynny ddogfen sy'n cynnwys gwybodaeth ar y materion (ac yn gyfyngedig i'r materion hynny) a bennir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn gorchymyn. Caiff landlordiaid ddarparu gwybodaeth yn y ffurf y maent yn ystyried ei bod yn briodol, cyhyd â'i bod yn cwmpasu'r materion penodedig. Rhaid bod y ddogfen ar gael ym mhrif swyddfeydd y landlord ac mewn lleoedd eraill y mae'n ystyried sydd yn briodol, a rhaid rhoi copi o fersiwn gyfredol y ddogfen yn ddi-dâl i unrhyw berson sy'n gofyn amdani.

Mae erthygl 3 yn darparu bod y materion a nodir yn yr Atodlen yn cael eu pennu fel y rhai y mae'n rhaid darparu gwybodaeth amdanynt. Mae erthygl 4 yn pennu pryd y mae'n rhaid cyhoeddi'r ddogfen. Mae erthygl 5 yn rhoi manylion pryd y mae'n rhaid rhoi'r ddogfen i denantiaid diogel. Mae'n rhaid anfon y ddogfen at y tenantiaid cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei chyhoeddi gyntaf, pryd bynnag y diwygir hi, a beth bynnag o leiaf unwaith bob pum mlynedd. Rhaid rhoi copi o'r ddogfen i bob tenant newydd ar yr adeg y llofnodir y denantiaeth.

Mae adrannau 121AA a 121B o'r Ddeddf yn cyfeirio'n unig at denantiaid diogel sy'n arfer yr hawl i brynu neu'r hawl i gaffael ar delerau rhentu i forgeisio. Ni phennir yr wybodaeth ar yr hawl i gaffael ar delerau rhentu i forgeisio oherwydd bod adran 190 o Ddeddf Tai 2004 yn darparu nad yw'n bosibl ar ôl 18 Gorffennaf 2005 i arfer yr hawl honno. Bydd ceisiadau a wnaed cyn y dyddiad hwnnw yn parhau i fod yn ddilys.

Drwy adran 171C(1) o'r Ddeddf ac adran 17(2) o Ddeddf Tai 1996, mae Rhan 5 o'r Ddeddf yn gymwys hefyd i'r tenantiaid hynny sydd â'r hawl i brynu a ddiogelwyd neu'r hawl i gaffael. Yn unol â hynny, mae adrannau 121AA a 121B, a'r Gorchymyn hwn hefyd yn gymwys i'r tenantiaid hynny.


Notes:

[1] 1985 p.68. Mewnosodwyd adrannau 121AA a 121B gan adran 189 o Ddeddf Tai 2004 (p.34). Drwy adran 270(3) o'r Ddeddf honno daeth adran 189 i rym ar 18 Ionawr 2005. Drwy adran 267 o Ddeddf Tai 2004 mae cyfeiriadau at Ddeddf Tai 1985 i'w trin fel cyfeiriadau at y Ddeddf honno fel y'i diwygiwyd yn rhinwedd Deddf Tai 2004.back

[2] Gweler O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 121AA, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo.back

[3] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091187 3


 © Crown copyright 2005

Prepared 13 October 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052681w.html