BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 Rhif 2913 (Cy.210) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20052913w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 18 Hydref 2005 | ||
Yn dod i rym | 31 Hydref 2005 |
Addasu adran 28D(7) o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
3.
Yn adran 28D(7)(a) o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995[4] (Strategaethau a chynlluniau hygyrchedd), ar ôl y geiriau "maintained schools" mewnosoder y geiriau "and maintained nursery schools".
Addasu adran 579(1) o Ddeddf 1996
4.
Yn adran 579(1) o Ddeddf 1996[5] (Dehongli cyffredinol), yn y diffiniad o "proprietor", ar ôl "foundation special school" mewnosoder "or a maintained nursery school,".
Offerynnau llywodraethu
5.
Er gwaethaf y ffaith bod adran 20(1) o Ddeddf 2002 wedi dod i rym a bod adran 37(1) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 12 iddi[6] wedi'u diddymu, mae holl offerynnau llywodraethu ysgolion a gynhelir i aros mewn grym hyd nes bod offeryn llywodraethu newydd a wneir yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005[7] yn cymryd eu lle.
Ysgolion newydd
6.
—(1) Er gwaethaf y ffaith bod adran 34 o Ddeddf 2002 wedi dod i rym a bod adran 44 o Ddeddf 1998[8] wedi'i diddymu, mae adran 44 o Ddeddf 1998 a Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999[9] i barhau i fod yn gymwys o ran corff llywodraethu dros dro a gyfansoddwyd cyn 31 Hydref 2005.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys—
Ysgolion meithrin a gynhelir
7.
—(1) Er gwaethaf y ffaith bod y diffiniad o "maintained school" yn adran 39 o Ddeddf 2002[10] wedi dod i rym, nid oes angen i'r gofynion a osodir gan adrannau 19(1) ac 20(1) o Ddeddf 2002[11] i'r graddau y maent yn ymwneud ag ysgolion meithrin a gynhelir gael eu bodloni tan 31 Mawrth 2006.
(2) Hyd nes y bydd offeryn llywodraethu mewn grym ar gyfer ysgol feithrin a gynhelir o dan adran 20(1) o Ddeddf 2002, dim ond er mwyn galluogi'r offeryn llywodraethu i gael ei wneud a galluogi'r corff llywodraethu i gael ei gyfansoddi ar gyfer yr ysgol honno y mae'r darpariaethau perthnasol yn cael effaith.
(3) Gan hynny, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid i barhau i gael yr un swyddogaethau hynny tan yr amser hwnnw, o ran ysgolion meithrin a gynhelir ag yr oedd ganddynt yn union cyn cychwyn y darpariaethau perthnasol.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr "y darpariaethau perthnasol" yw'r darpariaethau yn Neddf Addysg 2002 a gafodd eu dwyn i rym gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) 2005[12] a darpariaethau'r Rheoliadau hyn, i'r graddau y mae swyddogaethau yn cael eu rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu neu benaethiaid gan neu o dan y darpariaethau hynny o ran ysgolion meithrin a gynhelir.
Ysgolion meithrin a gynhelir a chyllidebau dirprwyedig
8.
Mae cymhwyso Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf 1998 i ysgolion meithrin a gynhelir, a hwnnw'n gymhwyso a wnaed drwy beri i adran 45 o Ddeddf 1998 gael ei diwygio gan baragraff 99(2) o Atodlen 21 i Ddeddf 2002[13], i gael effaith yn y cyfnod sy'n dod i ben yn union cyn 1 Ebrill 2006 ddim ond at ddibenion ariannu ysgolion meithrin a gynhelir mewn unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.
Aelodaeth o bwyllgorau addysg
9.
Er gwaethaf yr amnewidiad o adran 499(9)(b) o Ddeddf 1996 a wnaed gan baragraff 50 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002[14], mae rhiant-lywodraethwr a benodwyd neu a etholwyd i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan adran 36 o Ddeddf 1998 i'w drin fel rhiant-lywodraethwr hefyd at ddibenion adran 499(6) ac (8) o Ddeddf 1996.
Diwygio Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001
10.
—(1) Mae Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001[15] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn lle'r diffiniad o "ysgol", rhodder y canlynol—
Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000
11.
—(1) Mae Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000[16] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2)(a) a (b), ar ôl y geiriau "ysgol arbennig sefydledig" mewnosoder y geiriau "neu ysgol feithrin a gynhelir".
(3) Yn rheoliad 7 yn lle'r geiriau "Rheoliad 41 o Reoliadau Addysg (Llywodraethu Ysgolion) (Cymru) 1999" rhodder y geiriau "rheoliad 50 o Reoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cymru) 2005[17]".
(4) Mewnosoder ar ddiwedd rheoliad 9 y canlynol—
(5) Mewnosoder ar ddiwedd rheoliad 10 y canlynol—
Diwygio Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000
12.
—(1) Mae Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000[18] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) mewnosoder ar ôl y geiriau "ysgol arbennig gymunedol" y geiriau "neu ysgol feithrin a gynhelir".
Diwygio Rheoliadau Addysg (Talu am Gyflenwadau Anghenion Addysgol Arbennig) 1999
13.
Mae Rheoliadau Addysg (Talu am Gyflenwadau Anghenion Addysgol Arbennig) 1999[19] yn cael eu diwygio drwy fewnosod yn rheoliad 1(2) ar ôl "foundation special school" y geiriau "or maintained nursery school".
Diwygio Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002
14.
—(1) Mae Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002[20] wedi'u diwygio fel a ganlyn—
(2) Mae rheoliadau 2(a) a 3(1) i (3) o Reoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002 yn gymwys, o ran yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyhoeddi o ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan baragraff (1), fel petai "30 Ebrill 2006" a "31 Gorffennaf 2006" wedi'u rhoi yn lle "30 Ebrill 2002" a "31 Gorffennaf 2002" yn rheoliad 3(2) a (3).
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995
15.
Mae rheoliad 2 o Reoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995[21] yn cael ei ddiwygio drwy fewnosod yn y diffiniad o "proprietor", ar ôl y geiriau "foundation special school", y geiriau "or a maintained nursery school".
Eithriadau
16.
Er gwaethaf y ffaith bod adran 52 (11) o Ddeddf Addysg 2002[22] wedi dod i rym ac er gwaethaf rheoliad 7 o'r Rheoliadau hyn, mae Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003[23] yn gymwys o ran ysgolion meithrin a gynhelir mewn perthynas â gwaharddiadau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006 yn unig.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002
17.
—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002[24] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), yn lle'r diffiniad o "ysgol", rhodder y canlynol—
Diwygio Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003
18.
—(1) Mae Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003[25] wedi'u diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(3), ar ôl y geiriau "ysgol sefydledig arbennig" mewnosoder y geiriau "neu ysgol feithrin a gynhelir".
(3) Ym mharagraff 5(a) o Atodlen 1, mewnosoder ar ôl y geiriau "yr awdurdod" y geiriau "neu ysgol feithrin a gynhelir".
(4) Yn Atodlen 2—
Diwygio Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004
19.
—(1) Mae Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004[26] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(2) mewnosoder ar ôl y geiriau "ysgolion a gynhelir" y geiriau ", ac eithrio ysgolion meithrin a gynhelir,".
(3) Ychwaneger ar ôl rheoliad 1(2) y canlynol—
Diwygio Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003
20.
—(1) Mae Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003[27] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer o reoliad 4(5) y geiriau "ond heb gynnwys ysgol feithrin".
Arolygiadau Ysgolion
21.
Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed i'r diffiniad o "appropriate body" yn adran 11(4) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 gan baragraff 60 o Atodlen 21, mae'r cyfeiriadau at "appropriate body" yn adrannau 16(4) a 17 o'r Ddeddf honno o ran arolygiad o ysgol feithrin a gynhelir a ddigwyddodd cyn bod corff llywodraethu wedi'i gyfansoddi ar gyfer yr ysgol honno i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at yr awdurdod addysg lleol, ac nid yw'r diwygiad a wnaed gan baragraff 64 i adran 18(1)(a) o'r Ddeddf honno i gael effaith o ran arolygiad o'r fath.
22.
—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998[28] yn cael eu diwygio drwy fewnosod yn rheoliad 5(1)(a) a (b) ar ôl y gair "voluntary" y geiriau ", maintained nursery school".
(2) Mae'r cyfeiriadau at ddarpariaethau yn Neddf Arolygiadau Ysgolion 1996 a Deddf 1998 yn Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998[29] yn gyfeiriadau at y darpariaethau hynny, fel y'u diwygiwyd gan Ddeddf 2002, ond pan fo adroddiad arolygwyr ar ysgol feithrin a gynhelir wedi dod i law cyn bod corff llywodraethu wedi'i gyfansoddi ar gyfer yr ysgol, mae rheoliadau 8 a 10 yn cael effaith fel petai'r awdurdod addysg lleol oedd yr awdurdod priodol.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999
23.
—(1) Mae Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999[30] yn cael eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(3)(a) hepgorer y geiriau "(except in the case of a nursery school)".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[31].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Hydref 2005
[4] 1995 p.50. Mewnosodwyd adran 28D gan adran 14(1) o Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10).back
[5] Cafodd y diffiniad o "proprietor" ei ddiwygio gan adran 140(1) o Ddeddf 1998 a pharagraff 183(a)(iii) o Atodlen 30 iddi.back
[6] Daw adran 20(1) o Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005, a diddymir adran 37(1) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 12 iddi gan adran 215(2) o Ddeddf 2002, a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi, ar 31 Hydref 2005, yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).back
[7] O.S. 2005/2914 (Cy. 211).back
[8] Daw adran 34 o Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005, a diddymir adran 44 o Ddeddf 1998 gan adran 215(2) o Ddeddf 2002, a Rhan 3 o Atodlen 22 iddi, ar 31 Hydref 2005, yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).back
[10] Daw adran 39 o Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).back
[11] Daw adrannau 19 a 20 o Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).back
[12] O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).back
[13] Daw paragraff 99 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).back
[14] Daw paragraff 50 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).back
[15] O.S. 2001/3711 (Cy.307).back
[16] O.S. 2000/3027 (Cy.195), fel y'u diwygiwyd gan O.S. 2002/1396 (Cy.138).back
[17] O.S. 2005/2914 (Cy.211).back
[18] O.S. 2000/2030 (Cy. 143).back
[20] O.S. 2002/157 (Cy.23).back
[21] O.S. 1995/2089 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1997/2624, 2001/1109 (Cy. 53).back
[22] Daw adran 52(11) o Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).back
[23] O.S. 2003/3227 (Cy.308), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1805 (Cy. 193).back
[24] O.S. 2002/122 (Cy.16).back
[25] O.S. 2003/3118 (Cy.296).back
[26] O.S. 2004/2506 (Cy.224).back
[27] O.S. 2003/2909 (Cy.275).back
[28] O.S. 1998/1866 fel y'i diwygiwyd gan adran 73(1) a (3)(a) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), O.S. 1999/1440, 2001/3710, 2004/784.back
[29] O.S. 1998/1866 fel y'i diwygiwyd gan adran 73(1) a (3)(a) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21), O.S. 1999/1440, 2001/3710, 2004/784.back