BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005 Rhif 3365 (Cy.262)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053365w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3365 (Cy.262)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 6 Rhagfyr 2005 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 


TREFN Y RHEOLIADAU


RHAN I

CYFFREDINOL
1. Enwi, cychwyn a chymhwyso.
2. Dehongli.
3. Egwyddorion cyffredinol o ran ymdrin â sylwadau.

RHAN II

SEFYDLU'R WEITHDREFN SYLWADAU
4. Uwch-swyddog â chyfrifoldeb am gwynion.
5. Swyddog cwynion.
6. Gwybodaeth a hyfforddiant i staff.

RHAN III

NATUR A CHWMPAS Y WEITHDREFN SYLWADAU
7. Cwmpas y weithdrefn sylwadau
8. Sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol
9. Sylwadau y mae'n dod i ran mwy nag un awdurdod lleol i'w hystyried
10. Ymdrin â sylwadau safonau gofal

RHAN IV

YMDRIN Â SYLWADAU A'U HYSTYRIED
11. Gwneud sylwadau
12. Dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynwyr
13. Sylwadau a wneir gan "bersonau eraill" ("other persons") o dan adran 26(3)(e) o'r Ddeddf
14. Tynnu sylwadau'n ôl
15. Penderfyniad Lleol
16. Ystyriaeth Ffurfiol
17. Penodi person annibynnol
18. Ymateb

RHAN V

DYSGU O SYLWADAU
19. Monitro'r modd y gweithredir y weithdrefn sylwadau
20. Adroddiad Blynyddol

RHAN VI

DARPARIAETHAU TROSIANNOL A DIRYMU
21. Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion
22. Dirymu

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 24D(1A), 24D(2), 26(3A)(b), 26(4A), 26(5), 26(5A), 26(6), 26A(3), 59(5) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[
1] a pharagraff 6 o Atodlen 7 iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:—



RHAN I

CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

    (2) Mae unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i'w roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post.

Egwyddorion cyffredinol o ran ymdrin â sylwadau
     3. —(1) Rhaid i unrhyw weithdrefn sylwadau a sefydlir o dan y Ddeddf gael ei gweithredu'n unol â'r egwyddor y dylai lles yr achwynydd, pan wneir sylwadau gan berson y mae adran 24D neu 26(3)(a) yn gymwys iddo, gael ei ddiogelu a'i hybu.

    (2) Pan ellir canfod beth ydynt, dylid ystyried dymuniadau a theimladau'r achwynydd.



RHAN II

SEFYDLU'R WEITHDREFN SYLWADAU

Uwch-swyddog â chyfrifoldeb am gwynion
    
4. Rhaid i bob awdurdod lleol ddynodi uwch-swyddog i fod yn gyfrifol am geisio sicrhau y cydymffurfir â'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn.

Swyddog cwynion
    
5. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau fel swyddog cwynion, i reoli'r gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â'r sylwadau a'u hystyried ac yn benodol—

    (2) Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod lleol i weithredu ar ran y swyddog cwynion gyflawni swyddogaethau'r swyddog cwynion.

    (3) Caniateir i swyddog cwynion—

Gwybodaeth a hyfforddiant i staff
    
6. Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau y caiff ei staff eu hysbysu ynghylch gweithredu'r weithdrefn sylwadau ac y cânt eu hyfforddi'n briodol i'w gweithredu.



RHAN III

NATUR A CHWMPAS Y WEITHDREFN SYLWADAU

Cwmpas y weithdrefn sylwadau
    
7. Mae swyddogaethau canlynol awdurdod lleol yn swyddogaethau cymwys at ddibenion adran 26(3) o'r Ddeddf—

Sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol
    
8. —(1) Pan fo sylwadau'n ymwneud ag unrhyw fater—

rhaid i'r awdurdod lleol ystyried, drwy ymgynghori â'r achwynydd ac ag unrhyw berson neu gorff arall y mae'n briodol ymgynghori ag ef ym marn yr awdurdod, sut y dylid ymdrin â'r sylwadau. Cyfeirir at sylwadau o'r fath at ddibenion y rheoliad hwn fel "sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol".

    (2) Caniateir rhoi'r gorau i ystyried sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol os ymddengys i'r awdurdod lleol ar unrhyw adeg y byddai parhau i'w hystyried yn peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall.

    (3) Pan fydd yr awdurdod lleol yn penderfynu rhoi'r gorau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r achwynydd o'r penderfyniad hwnnw.

    (4) Pan fydd yr awdurdod lleol yn rhoi'r gorau i ystyried unrhyw sylwadau o dan baragraff (2), caiff fynd yn ôl i'w hystyried ar unrhyw adeg.

    (5) Pan roddwyd y gorau i ystyried cwyn o dan baragraff (2) rhaid i'r awdurdod ganfod a yw'r ystyriaeth gydredol yn mynd rhagddi a rhaid iddo hysbysu'r achwynydd pan fydd wedi dod i ben.

    (6) Rhaid i'r awdurdod lleol fynd yn ôl i ystyried unrhyw sylwadau pan roddir y gorau i'r ystyriaeth gydredol neu os daw'r ystyriaeth gydredol i ben a bod yr achwynydd yn gofyn am i'r sylwadau gael eu hystyried o dan y Rheoliadau hyn.

Sylwadau y mae'n dod i ran mwy nag un awdurdod lleol i'w hystyried
     9. Pan fyddai'r sylwadau'n rhai y byddai'n dod i ran mwy nag un awdurdod lleol i'w hystyried, rhaid iddynt gael eu hystyried gan—

Ymdrin â sylwadau safonau gofal
    
10. —(1) Ac eithrio pan fydd paragraff (2) yn gymwys, mewn unrhyw achos pan fydd sylwadau'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef neu â hi o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu Ddeddf Plant 1989, rhaid i'r awdurdod lleol y daw sylwadau o'r fath i'w law, o fewn 2 ddiwrnod gwaith i'r sylwadau ddod i law—

    (2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—

    (3) Mewn unrhyw achos pan fo sylwadau'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef neu hi, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol ("appropriate office") y Cynulliad Cenedlaethol os na fu'n bosibl dod i benderfyniad ar y sylwadau o dan reoliad 15.



RHAN IV

YMDRIN Â SYLWADAU A'U HYSTYRIED

Gwneud sylwadau
    
11. Caniateir gwneud sylwadau ar lafar neu'n ysgrifenedig (gan gynnwys eu gwneud yn electronig).

Dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynwyr
    
12. —(1) Cyn gynted â phosibl ar ôl i'r sylwadau ddod i law rhaid i'r awdurdod lleol—

Sylwadau a wneir gan "bersonau eraill" ("other persons") o dan adran 26(3)(e) o'r Ddeddf
    
13. —(1) Pan ddaw sylwadau gan achwynydd sy'n dod o fewn adran 26(3)(e) o'r Ddeddf i law'r awdurdod lleol, rhaid iddo benderfynu, cyn gynted â phosibl, a oes gan y person hwnnw fuddiant digonol yn lles y plentyn o dan sylw i warantu bod yr awdurdod lleol yn ystyried y sylwadau.

    (2) Wrth ddod i benderfyniad o dan baragraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol ystyried barn y plentyn pan ellir canfod beth ydyw.

    (3) Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu bod gan yr achwynydd fuddiant digonol yna rhaid iddo ystyried y sylwadau.

    (4) Os bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu nad oes gan yr achwynydd fuddiant digonol yna rhaid iddo hysbysu'r achwynydd o'r penderfyniad a'i hysbysu na chymerir unrhyw gamau pellach i ystyried y sylwadau.

    (5) Rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r plentyn o dan sylw o'r penderfyniad a wneir o dan baragraff (1) os yw o'r farn ei bod yn briodol iddo wneud hynny o ystyried beth yw dealltwriaeth y plentyn.

Tynnu sylwadau'n ôl
    
14. —(1) Caiff yr achwynydd neu eiriolwr dynnu sylwadau'n ôl ar lafar neu'n ysgrifenedig ar unrhyw adeg.

    (2) Rhaid i'r awdurdod lleol ysgrifennu cyn gynted â phosibl at yr achwynydd ac at unrhyw eiriolwr i gadarnhau bod y sylwadau wedi'u tynnu'n ôl.

Penderfynu'n Lleol
    
15. —(1) Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i benderfynu ar y sylwadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac, yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (4), o fewn 10 niwrnod gwaith gan gychwyn—

    (2) Caniateir estyn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) pan geir cais gan yr achwynydd am wneud hynny neu gyda chytundeb yr achwynydd hyd at 10 niwrnod gwaith ychwanegol.

    (3) Nid oes angen i'r weithdrefn a ddilynir gan yr awdurdod lleol pan fydd yn ceisio penderfynu ar faterion o dan baragraff (1) gynnwys person annibynnol.

    (4) Pan fo achwynydd wedi gofyn am eiriolwr caiff yr awdurdod lleol estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) hyd at 10 niwrnod gwaith ychwanegol er mwyn galluogi eiriolwr i gael ei benodi ar yr amod—

    (5) At ddibenion paragraff (1), mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu ar gyfer cymorth arall at ddibenion penderfynu ar y sylw.

    (6) Os penderfynir ar y sylw o dan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod lleol roi cadarnhad ysgrifenedig i'r achwynydd o'r penderfyniad y cytunir arno.

    (7) Os na phenderfynwyd ar y sylwadau o fewn 20 o ddiwrnodau gwaith, rhaid i'r awdurdod lleol, cyn gynted ag y bo'n ymarferol, hysbysu'r achwynydd yn ysgrifenedig:

    (8) Caiff yr achwynydd ofyn ar lafar neu'n ysgrifenedig am i'r sylwadau gael eu hystyried yn ffurfiol o dan reoliad 16, a hynny ar unrhyw adeg o fewn 30 o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y gwnaed y sylwadau gyntaf.

Ystyriaeth Ffurfiol
    
16. —(1) Pan fo'r achwynydd wedi gofyn am i'r sylwadau gael eu hystyried yn ffurfiol, yn ddarostyngedig i reoliadau 8, 9 a 10, rhaid i'r awdurdod lleol ymchwilio i'r sylwadau i'r graddau y mae hynny'n angenrheidiol ac yn y dull mwyaf priodol ym marn yr awdurdod ar gyfer penderfynu ar y sylwadau'n gyflym ac yn effeithlon.

    (2) Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cofnod ysgrifenedig ffurfiol o'r sylwadau cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a'i anfon at yr achwynydd ynghyd â gwahoddiad i'r achwynydd wneud sylwadaeth ar ba mor gywir yw'r cofnod.

    (3) Rhaid i'r awdurdod lleol ystyried unrhyw sylwadaethau a wneir gan yr achwynydd o dan baragraff (2) a rhaid iddo, yng ngoleuni'r sylwadaethau hynny, wneud unrhyw ddiwygiadau sy'n angenrheidiol i'r cofnod er mwyn sicrhau ei fod, ym marn yr awdurdod, yn gofnod cywir o'r sylwadaethau.

    (4) Ac eithrio pan wnaed trefniadau o dan reoliad 15(5), caiff yr awdurdod lleol, mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu ar gyfer cymorth arall at ddibenion penderfynu ar y sylwadau.

    (5) Rhaid i'r awdurdod lleol—

    (6) Caiff yr awdurdod lleol—

    (7) Pan gaiff unrhyw berson ei gyf-weld yn unol â pharagraff 6(a) rhaid i'r awdurdod lleol—

    (8) Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i roi gwybod i'r achwynydd am hynt ei ystyriaeth ffurfiol o'r sylwadau.

Penodi person annibynnol
    
17. —(1) Rhaid i'r trefniadau a wneir o dan reoliad 16 gynnwys penodi person annibynnol.

    (2) Rhaid i'r person annibynnol gymryd rhan mewn unrhyw ystyriaeth o sylwadau gan yr awdurdod lleol o dan reoliad 16.

    (3) Rhaid i'r person annibynnol gymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau a gynhelir gan yr awdurdod lleol ynghylch y cam i'w gymryd yng ngoleuni ei ganfyddiadau mewn perthynas â'r sylwadau a'r casgliadau y mae'n dod iddynt.

Ymateb
    
18. —(1) Rhaid i'r awdurdod lleol baratoi ymateb ysgrifenedig i'r sylwadau—

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 13, rhaid anfon yr ymateb at yr achwynydd o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith yn cychwyn ar y dyddiad y daeth cais gan yr achwynydd am ystyriaeth ffurfiol i law'r awdurdod lleol.

    (3) Os, yn achos—

nad yw'n bosibl anfon yr ymateb o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r achwynydd o'r rheswm am yr oedi, o'r dyddiad y mae'n disgwyl anfon yr ymateb a rhaid iddo anfon yr ymateb hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.

    (4) Rhaid i'r ymateb gynnwys gwybodaeth am—

    (5) Rhaid anfon copïau o'r ymateb a baratoir yn unol â pharagraff (1)—



RHAN V

DYSGU O SYLWADAU

Monitro'r modd y gweithredir y weithdrefn sylwadau
     19. Rhaid i bob awdurdod lleol fonitro'r trefniadau y mae wedi'u gwneud gyda'r bwriad o sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn drwy gadw cofnod o bob un o'r sylwadau a ddaeth i law, o ganlyniad pob un o'r sylwadau, a pha un a gydymffurfiwyd â'r terfynau amser a bennir yn rheoliadau 15 a 18.

Adroddiad Blynyddol
    
20. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi adroddiad blynyddol ar ei berfformiad o ran ymdrin â sylwadau a'u hystyried, a hynny at ddibenion—

    (2) Rhaid llunio'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o fewn 12 mis i ddyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn.



RHAN VI

DARPARIAETHAU TROSIANNOL A DIRYMU

Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion
    
21. —(1) Pan na orffennwyd ystyried y sylwadau hyn yn unol â Rheoliadau 1991 ar yr adeg pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym yna bydd y paragraffau canlynol yn gymwys i'r weithdrefn.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) bydd y sylwadau'n cael eu hystyried yn unol â Rheoliadau 1991 yr arbedwyd eu darpariaethau perthnasol at y diben hwnnw'n unig.

    (3) Os bod yr achwynydd, yn unol â rheoliad 8(2) o Reoliadau 1991, wedi hysbysu'r awdurdod lleol ei fod yn dymuno i'r mater gael ei gyfeirio at banel ond nad oes panel wedi'i benodi yn unol â'r rheoliad hwnnw, yna rhaid i'r awdurdod lleol drin hysbysiad yr achwynydd fel cais am i'r sylwadau gael eu hystyried ymhellach yn unol â darpariaethau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 26ZB o'r Ddeddf.

    (4) Os bydd yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad yn unol â rheoliad 8(1) o Reoliadau 1991 ac nad yw'r achwynydd wedi hysbysu'r awdurdod lleol ei fod yn dymuno i'r mater gael ei gyfeirio at banel ac nad yw'r amser ar gyfer rhoi hysbysiad o'r fath wedi dod i ben, yna rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'r achwynydd yn ei roi fod yn gais am i'r sylwadau gael eu hystyried ymhellach, neu fel cais am i'r sylwadau gael eu hystyried ymhellach y mae'n rhaid ei drin, a hynny'n unol â darpariaethau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 26ZB o'r Ddeddf.

Dirymu
    
22. —(1) Dirymir Rheoliadau'r Weithdrefn Sylwadau (Plant) 1991[8] ac eithrio i'r graddau sy'n angenrheidiol at ddibenion rheoliad 21.

    (2) Dirymir rheoliad 4(2) o Reoliadau Gwasanaethau Eiriolaeth a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2004[9]



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a Deddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 i'r darpariaethau ar gyfer y gweithdrefnau o dan Ddeddf Plant 1989 (y Ddeddf) ar gyfer ystyried sylwadau, gan gynnwys cwynion.

Y canlynol yw'r prif wahaniaethau rhwng y gweithdrefnau a sefydlwyd o dan Reoliadau 1991 a'r rhai a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn: estyn swyddogaethau awdurdodau lleol y gellir gwneud sylwadau arnynt o dan adran 26 (maent wedi'u cyfyngu hyd yn hyn i swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Ddeddf)(rheoliad 7); cyflwyno gofyniad am i awdurdodau lleol geisio penderfynu'n anffurfiol ar yr holl sylwadau o dan weithdrefn y Ddeddf (ar hyn o bryd dim ond i sylwadau a wneir o dan adran 24D y mae penderfynu'n lleol yn gymwys) (rheoliad 15); a dileu'r cam o'r weithdrefn y mae panel ynghlwm wrtho (caniateir yn lle hynny ystyriaeth bellach o sylwadau achwynwyr gan banel annibynnol a sefydlir o dan reoliadau ar wahân a wneir o dan adran 26ZB o'r Ddeddf).

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol ddynodi swyddog hyn a chanddo gyfrifoldebau mewn perthynas â sylwadau ac mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benodi swyddog cwynion.

Mae rheoliad 6 yn gosod gofynion o ran hyfforddi staff awdurdod lleol.

Mae rheoliad 8 yn sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sut y mae'n rhaid ymdrin â sylwadau pan fo person neu gorff arall yn eu hystyried ar yr un pryd. Mae hyn y caniatáu i'r awdurdod lleol atal ystyriaeth dros dro pe byddai parhau â hi'n peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall. Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer penderfynu pa awdurdod lleol fydd yn ystyried sylwadau pan fo mwy nag un yn ymwneud â'r mater.

Caniateir gwneud sylwadau ar lafar neu'n ysgrifenedig (rheoliad 11) a chaniateir eu tynnu'n ôl ar lafar neu'n ysgrifenedig (rheoliad 14).

Un o'r categorïau o bobl a gaiff wneud sylwadau o dan adran 26 o Ddeddf 1989, yn unol ag adran 26(3)(e), yw unrhyw bersonau eraill (ond nid y plentyn, y rhiant, y rhiant maeth neu berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn) y mae ganddynt, ym marn yr awdurdod lleol, fuddiant digonol yn lles y plentyn i warantu bod sylw'r person hwnnw'n cael ei ystyried gan yr awdurdod. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benderfynu a oes gan yr achwynydd fuddiant digonol o'r fath ac iddo hysbysu'r achwynydd a'r plentyn os yn briodol o'r penderfyniad hwnnw.

Mae rheoliad 16 yn sefydlu'r weithdrefn ar gyfer ystyriaeth ffurfiol o'r sylwadau pan na chafwyd penderfyniad lleol o dan reoliad 15. Rhaid i'r weithdrefn o dan reoliad 16 gynnwys person annibynnol a benodir o dan reoliad 17; nid oes angen i'r weithdrefn o dan reoliad 15 gynnwys y person annibynnol.

Mae rheoliad 18 yn nodi'r gofynion mewn perthynas â'r ymateb sydd i'w anfon gan yr awdurdod lleol gan gynnwys ymateb ynghylch hawl yr achwynydd i ofyn am i banel annibynnol ystyried y sylwadau ymhellach o dan y weithdrefn a sefydlir o dan adran 26ZB o'r Ddeddf.

Mae rheoliad 19 yn nodi sut y mae awdurdodau lleol i fonitro'r trefniadau y maent wedi'u gwneud a hynny gyda'r bwriad o sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau.


Notes:

[1] 1989 p.41. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr. Trosglwyddwyd y gwaith o arfer y pwerau o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cyfeiriad at Ddeddf Plant 1989 yn Atodlen 1 iddo.back

[2] 2002 p.38.back

[3] 1971 p.80.back

[4] O.S. 1991/894; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/2033, 2001/2874.back

[5] O.S. 2004/1448 (Cy.148).back

[6] 2000 p.14.back

[7] O.S. 2005/3366 (Cy.263).back

[8] O.S. 1991/894.back

[9] O.S. 2004/1448 (Cy.148).back

[10] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091239 X


 © Crown copyright 2005

Prepared 14 December 2005


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053365w.html