BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005 Rhif 3370 (Cy.267)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053370w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2005 Rhif 3370 (Cy.267)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005

  Wedi'u gwneud 6 Rhagfyr 2005 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwydydd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd yn agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006, ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—

Ffioedd
     3. —(1) Rhaid i'r Asiantaeth, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol mewn unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ffi rheolaethau swyddogol o ran y rheolaethau swyddogol hynny cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw.

    (2) Os nad yw'r Asiantaeth yn gallu cydymffurfio â pharagraff (1) am nad oes digon o wybodaeth ar gael iddi i'w galluogi i gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol ar gyfer unrhyw gyfnod cyfrifyddu o ran unrhyw fangre o'r fath a bennir yn paragraff hwnnw, rhaid iddi hysbysu gweithredydd y fangre honno o ffi interim, sef y swm y mae'r Asiantaeth yn ei amcangyfrif (gan ystyried yr wybodaeth sydd ganddi) yw'r ffi rheolaethau swyddogol.

    (3) Os yw'r Asiantaeth wedi hysbysu gweithredydd o ffi interim yn unol â pharagraff (2), a bod gwybodaeth ddigonol yn dod ar gael i'r Asiantaeth gyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol, rhaid iddi gyfrifo'r ffi honno ac—

    (4) Mae unrhyw ffi a hysbysir i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3) yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi.

    (5) Os cafodd unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd eu defnyddio i gyfrifo ffi y mae angen ei hysbysu i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3), rhaid gwrthgyfrifo'r costau hynny yn erbyn swm y ffi honno wrth gyfrifo'r ffi wirioneddol a hysbysir oddi tano, ar yr amod na wneir ad-daliad i'r gweithredydd perthnasol.

    (6) Os yw swm o dan baragraph (3)(b) i gael ei gredydu i weithredydd, caiff yr Asiantaeth, os yw'n dewis gwneud hynny, dalu'r cyfryw swm i'r gweithredydd o dan sylw yn hytrach na'i gredydu i'r gweithredydd.

Tynnu rheolaethau swyddogol yn ôl
    
4. Os cafodd yr Asiantaeth ddyfarniad wedi'i gofnodi yn erbyn gweithredydd unrhyw fangre am unrhyw swm sy'n daladwy o dan reoliad 3(4) ac os yw'r gweithredydd yn methu â bodloni'r dyfarniad o fewn cyfnod rhesymol wedyn, caniateir i'r Asiantaeth (ni waeth beth fo unrhyw rwymedi cyfreithiol arall sydd yn agored iddi) wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol pellach yn y mangreoedd hynny hyd nes y bodlonir y dyfarniad.

Gwybodaeth
    
5. —(1) Rhaid i unrhyw berson pan hawlir hynny gan yr Asiantaeth, roi—

    (2) Bydd unrhyw berson sydd—

yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol.

Dirymu
    
6. Dirymir Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998[9].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Rhagfyr 2005



ATODLEN 1
Rheoliad 2(1)


DIFFINIADAU O DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL


ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC[
11];

ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd;

ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd[12] fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B;

ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[13], fel y'i diwygiwyd gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E;

ystyr "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl[14], fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E;

ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirhad cydymffurfedd â chyfraith bwyd, iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid[15] fel y'i darllenir gyda Rheoliad C a Rheoliad E;

ystyr "Rheoliad A" ("Regulation A") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden;

ystyr "Rheoliad B" ("Regulation B") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd;

ystyr "Rheoliad C" ("Regulation C") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 a 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004;

ystyr "Rheoliad D" ("Regulation D") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig; ac

ystyr "Rheoliad E" ("Regulation E") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004.



ATODLEN 2
Rheoliad 2(1)


CYFRIFO FFI RHEOLAETHAU SWYDDOGOL


Y ffi rheolaethau swyddogol
     1. Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r lleiaf o—

     2. —(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r ffi rheolaethau swyddogol a gyfrifir o dan baragraff 1 am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (swm A), pan ychwanegir hi at y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy o ran pob cyfnod cyfrifyddu blaenorol sy'n dod o fewn yr un cyfnod ariannol (swm B), yn cynhyrchu cyfanswm (swm C) sy'n fwy na swm y ffi rheolaethau swyddogol a fyddai'n daladwy o dan baragraff 1 pe bai'r cyfnodau cyfrifyddu hynny yn un cyfnod cyfrifyddu (swm D).

    (2) Os yw'r paragraff hwn yn gymwys, y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd am gyfnod cyfrifyddu yw'r swm y mae swm D yn fwy na swm B.

    (3) Yn y paragraff hwn ystyr "cyfnod ariannol" yw cyfnod sy'n dechrau ar y dydd Llun sy'n union ar ôl y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn unrhyw flwyddyn ac sy'n diweddu ar y dydd Sul olaf ym mis Mawrth yn y flwyddyn ganlynol.

     3. Ni fydd y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yn is na 45% o'r ffi safonol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw.

Rhywogaeth Math Cyfradd fesul math o anifail mewn Ewros
Bucholion anifeiliaid buchol 6 wythnos oed neu fwy pan gigyddir hwy 4.5
           anifeiliaid buchol yn llai na 6 wythnos oed pan gigyddir hwy 2.5
Equidae ac uncarnolion            4.4
Moch gan gynnwys baeddod gwyllt pwysau carcas llai na 25 kg 0.5
           pwysau carcas mwy na neu'n gytbwys â 25 kg 1.3
Defaid, geifr ac anifeiliaid eraill sy'n cnoi cil nas rhestrir yn rhywle arall yn y Tabl hwn pwysau carcas llai na 12 kg 0.175
           pwysau carcas rhwng 12 a 18 kg yn gynhwysol 0.35
           pwysau carcas mwy na 18 kg 0.5
Dofednod, cwningod, adar hela bach a helfilod daear pob brwyliad; holl ieir cast; dofednod eraill, cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso llai na 2 kg 0.01
           dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear sy'n pwyso o leiaf 2 kg (ac eithrio'r rheini sy'n oedolion ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg) 0.02
           dofednod (nad ydynt yn frwyliaid neu'n ieir cast), cwningod, adar hela bach a helfilod daear (sydd i gyd yn oedolion) ac sy'n pwyso o leiaf 5 kg 0.04
Estrysiaid ac adar di-gêl eraill            1.3
Mamaliaid tir ac adar o fath nas crybwyllir uchod            1.3

Y ffi safonol
     4. Caiff y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, (a fynegir mewn Ewros), sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, ei gyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda yno neu yn ôl y digwydd eu trin yno yn y cyfnod.

     5. Caiff y ffi safonol am gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd sefydliad trin anifeiliaid hela o ran anifeiliaid hela gwyllt a gafodd eu trin yno yn ystod y cyfnod hwnnw ei chyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod.

     6. Cyfrifir y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela drwy luosi gan 3 y nifer o dunelli o gig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad o dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw i'w dorri neu i dynnu'r esgyrn yno.

     7. Trosir y ffi safonol (a fynegir mewn Ewros) i bunnoedd drwy ei luosi â'r gyfradd drosi Ewro / punnoedd sy'n gymwys yn y flwyddyn y cyflawnwyd yr arolygiad.

     8. —(1) Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw.

    (2) Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw.

    (3) Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny.

    (4) Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn.

    (5) At ddibenion y paragraff hwn ystyr "aneffeithlonrwydd" yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol—

    (6) At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.

    (7) Os yw'n ymddangos i'r Asiantaeth a'r gweithredydd, ar ôl unrhyw adolygiad o'r fath, ei bod yn briodol i wneud hynny, caniateir iddynt drwy gytundeb pellach amrywio unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

    (8) Os bydd unrhyw oriau gwaith neu arferion gwaith wedi cael eu hamrywio yn unol ag is-baragraff (7), rhaid eu trin fel pe baent wedi cael eu cytuno yn unol ag is-baragraff (6).

    (9) Ni ellir codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn o ran unrhyw gostau uwch a dynnwyd oherwydd unrhyw amrywiad mewn oriau gwaith neu arferion gwaith nad yw'n newid oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd yn unol ag is-baragraff (6).

     9. —(1) Caiff gweithredydd nad yw'n cytuno y gellir cyfiawnhau ffi ychwanegol o dan baragraff 8 ofyn am benderfyniad ar y cwestiwn gan berson a enwebwyd at y diben yn unol ag is-baragraff (3)(a).

    (2) Rhaid gwneud cais o dan is-baragraff (1) o fewn wythnos ar ôl i'r Asiantaeth roi hysbysiad i'r gweithredydd o dan baragraff 8(3).

    (3) Os bydd gweithredydd yn gwneud cais o dan is-baragraff (1)—

    (4) Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.

Costau amser
     10. Cyfrifir y costau amser a gynhyrchir gan unrhyw fangre yn unrhyw gyfnod cyfrifyddu (yn ddarostyngedig i baragraffau 11 a 12) drwy—

     11. Rhaid i gostau amser o ran unrhyw reolaethau swyddogol gynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd o dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau swyddogol hynny.

     12. Wrth benderfynu cyfanswm yr amser a dreuliwyd yn arfer rheolaethau swyddogol, rhaid cyfrifo unrhyw amser a dreuliwyd gan arolygydd—

     13. Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu graddau gwahanol i arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd, gan ystyried am lefel cymwysterau a phrofiad arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau o arolygydd ac ystyried y gost o arfer rheolaethau swyddogol o ran arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd.

     14. Rhaid cyfrifo tâl yr awr i unrhyw arolygydd neu ddosbarth o arolygydd fel ei fod yn adlewyrchu—

     15. At ddibenion paragraff 14(b), ystyr "costau gweinyddol" yw'r holl gostau a dynnir yn rhesymol wrth arfer rheolaethau swyddogol gan gynnwys yn benodol gostau—

     16. Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 13 os yw'n ymddangos iddi, o ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 14 a 15, ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.

     17. Cyn penderfynu neu amrywio'r tâl yn ôl yr awr yn unol â pharagraffau 13 i 16, rhaid i'r Asiantaeth ymghynghori â'r gweithredwyr hynny y mae'n debygol yr effeithir arnynt gan y tâl hwnnw yr awr.

Diffiniadau
     18. —(1) Yn yr Atodlen hon—

    (2) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon, heblaw'r rheini a ddiffinnir yn is-baragraff (1), ac unrhyw ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau milfeddygol a rheolaethau a gwmpesir gan Gyfarwyddebau 89/662/EEC, 90/425/EEC, 90/675/EEC a 91/496/EEC (fel y'u diwygiwyd a'u cydgrynhoi gan Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC[16]) yr un ystyr ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny a grybwyllir yn y Gyfarwyddeb a enwyd gyntaf uchod.



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


     1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 (O.S. 1998/2095, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2001/1302 (Cy.79) ac O.S. 2001/3831 (Cy.317)), sy'n rhychwantu Prydain Fawr gyfan, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

     2. Yr oedd Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 yn rhoi ar waith o ran Prydain Fawr ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau a rheolaethau milfeddygol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ffioedd yn cael eu casglu am arolygiadau o gig coch ffres, cig dofednod ffres, cig cwningod, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt a rheolaethau arnynt o dan Gyfarwyddebau penodol y Cyngor. Atodir testun diwygiedig ac a gydgrynhowyd o Gyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC yn OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1.

     3. Yng ngoleuni diwygiadau i drefn y Gymuned ar lywodraethu hylendid bwyd sy'n dod yn effeithiol ar 1 Ionawr 2006, Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33; mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12), addesir Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC gydag effaith o 1 Ionawr 2006 ymlaen fel bydd yn ofynnol o'r dyddiad hwnnw ymlaen gasglu ffioedd am reolaethau swyddogol ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).

     4. Yng ngoleuni'r addasiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC a ddisgrifir ym mharagraff 3, mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith ddarpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sydd bellach yn ei gwneud yn ofynnol bod ffioedd i'w casglu am arolygiadau ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt a rheolaethau arnynt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004.

     5. Mae'r Rheoliadau hyn—

     6. Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gosod sut y mae cyfrifo ffi'r rheolaethau swyddogol.

     7. Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol llawn ar gyfer yr Offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.


Notes:

[1] O.S. 2005/1971.back

[2] 1972 p. 68.back

[3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[4] 1992 p.4.back

[5] O.S. 1995/539, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (W.252).back

[6] O.S. 1995/540, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (W.252).back

[7] O.S. 1995/731.back

[8] O.S. 1995/2148, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (W.252).back

[9] O.S. 1998/2095, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1302 (Cy.79), ac O.S. 2001/3831 (Cy.317).back

[10] 1998 p.38.back

[11] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back

[12] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back

[13] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back

[14] OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back

[15] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back

[16] Mae testun Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC wedi cael ei atodi i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC yn OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1. Addaswyd Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC gan Gyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33); mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back



English version



ISBN 0 11 091248 9


 © Crown copyright 2005

Prepared 6 January 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2005/20053370w.html