BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb heb Awdurdod) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 125 (Cy.18)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060125w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 125 (Cy.18)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb heb Awdurdod) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 24 Ionawr 2006 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 63 a 138(7) ac (8) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb heb Awdurdod) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb heb Awdurdod) (Cymru) 1999
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb heb Awdurdod) (Cymru) 1999[2] fel a ganlyn.

    (2) Mae'r gair "unauthorised" yn cael ei hepgor ym mhob un o'r mannau lle y mae'n ymddangos yn y darpariaethau canlynol—

    (3) Hepgorir y diffiniad o "unauthorised absence targets" yn rheoliad 3(1).

    (4) Yn lle rheoliadau 7 ac 8 rhoddir y canlynol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

24 Ionawr 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r darpariaethau sy'n ymwneud â thargedau absenoldeb yn Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb heb Awdurdod) (Cymru) 1999 ("Rheoliadau 1999").

Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn newid enw Rheoliadau 1999 i "The Education (School Performance and Absence Targets) (Wales) Regulations 1999" (Rheoliadau Addysg (Perfformiad Ysgol a Thargedau Absenoldeb) (Cymru) 1999) ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer rheoliadau 7 ac 8 newydd yn Rheoliadau 1999. Mae'r rheoliadau newydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol a gynhelir (ac eithrio ysgolion arbennig a sefydlir mewn ysbytai) osod targedau absenoldeb. Yn flaenorol, o dan Reoliadau 1999 nid oedd yn ofynnol ond i ysgolion a gynhelir ac sy'n darparu addysg uwchradd osod targedau absenoldeb.


Notes:

[1] 1998 p.31. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1998 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru: gweler Erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cofnod o ran Deddf 1998 yn Atodlen 1 iddo. Diwygiwyd adran 63 o Ddeddf 1998 gan adran 53 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32).back

[2] O.S. 1999/1811, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/2914 (Cy.253).back

[3] O.S. 1995/2089.back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091258 6


 © Crown copyright 2006

Prepared 31 January 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060125w.html