BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 357 (Cy.45)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060357w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 357 (Cy.45)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 14 Chwefror 2006 
  Yn dod i rym 20 Chwefror 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 20 Chwefror 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005
    
2. Diwygir Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005[3] yn unol â rheoliadau 3 i 5.

     3. Yn rheoliad 2(1) (Dehongli)—

     4. Yn lle rheoliad 6 (cyfnod o 10 mis), rhodder y canlynol—

     5. Yn rheoliad 9 (Trosglwyddiadau), dileer paragraff (2) ac yn lle'r cyfeiriad at rif "9.—(1)" rhodder y cyfeiriad at rif "9".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
11]


John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005 (O.S. 2005/360 (Cy.29)) ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1) ("Rheoliad y Cyngor"), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t.1) ("Rheoliad y Comisiwn 795/2004") a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796 /2004 (O.J. L141, 30.4.2004, t.18) ("Rheoliad y Comisiwn 796/2004") mewn perthynas â sefydlu system newydd o gynlluniau cymorth uniongyrchol (gan gynnwys Cynllun y Taliad Sengl) o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Daeth y system newydd hon yn effeithiol ar 1 Ionawr 2005.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau yn y prif Reoliadau at Reoliad y Comisiwn 795/2004 a Rheoliad y Comisiwn 796/2004 i adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i'r rheoliadau hynny ers i'r prif Reoliadau ddod i rym (rheoliad 3).

Maent hefyd yn rhoi rheoliad 6 newydd yn y prif Reoliadau er mwyn awdurdodi ffermwyr i wneud defnydd o'r posibilrwydd, a gyflwynwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 606/2005, o bennu dau ddyddiad gwahanol ar gyfer dechrau'r cyfnod o 10 mis pan fo'n rhaid i barseli o dir cymwys fod ar gael at ddefnydd ffermwr at ddibenion cynllun y taliad sengl (rheoliad 4).

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu paragraff (2) o reoliad 9 o'r prif Reoliadau a thrwy hynny'n caniatáu i'r cyfnod pan fo'n rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o drosglwyddiadau hawl i daliad gael ei benderfynu'n unol â phwerau disgresiynol a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel un o awdurdodau cymwys yr aelod-wladwriaeth, o dan Erthygl 25(3) o Reoliad y Comisiwn 795/2004.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S. 2005/2766.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2005/360 (Cy.29).back

[4] O.J. Rhif L63, 10.3.2005, t.17.back

[5] O.J. Rhif L100, 20.4.05, t.15.back

[6] O.J. Rhif L 177, 9.7.05, t.27.back

[7] O.J. Rhif L273, 19.10.05.back

[8] O.J. Rhif L042, 12.2.05, t.3back

[9] O.J. Rhif L314, 30.11.05, t.10.back

[10] O.J. Rhif L347, 30.12.05, p.61.back

[11] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091274 8


 © Crown copyright 2006

Prepared 22 February 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060357w.html