BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 363 (Cy.49)
OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU
Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Awdurdodaeth a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2006
|
Wedi'i wneud |
14 Chwefror 2006 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2006 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 10(2), 28(2)(a), 41(1) a (3), 43(1)(b) a 44(2)(b) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005[1], ac wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol gan adrannau 10(3), 28(4) a 41(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Awdurdodaeth a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
(a) ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005,
(b) ystyr "Deddf 1977" ("the 1977 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[2], ac
(c) ystyr "Deddf 2003" ("the 2003 Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[3].
(4) Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni fynegir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac at Atodlenni iddi.
Diwygiadau i Atodlen 2 (materion wedi'u heithrio)
2.
Yn Atodlen 2—
(a) yn lle paragraff 8 rhodder—
"
8.
Action under—
(a) the National Health Service Act 1977,
(b) Part 1 of the National Health Service and Community Care Act 1990,
(c) Part 1 of the Health Act 1999 (with the exception of sections 33 to 38), or
(ch) Part 1 of the Health and Social Care (Community Health and Standards) Act 2003,
where the action is or has been the subject of an inquiry under the Inquiries Act 2005.", a
(b) hepgorer paragraff 10.
Diwygiad i Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig)
3.
Yn Atodlen 3, ar ôl y cofnod sy'n ymwneud â Chyngor Gofal Cymru mewnosoder—
"
The Board of Community Health Councils in Wales"
in relation to all its functions.
Diwygiad i'r diffiniad o "family health service provider in Wales"
4.
Yn adran 41(1), yn y diffiniad o "family health service provider in Wales"—
(a) ym mharagraff (a) yn lle "section 28Q "rhodder "section 28K or 28Q",
(b) ym mharagraff (c) yn lle "primary medical or dental services" rhodder "primary medical services or primary dental services", ac
(c) hepgorer paragraff (d).
Darpariaethau arbed mewn perthynas â'r diffiniad o "family health service provider in Wales"
5.
Mewn perthynas ag unrhyw gŵyn ynglŷn â mater a ddigwyddodd cyn 1 Ebrill 2004—
(a) yn lle paragraff (a) o'r diffiniad o "family health service provider in Wales" (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(a) o'r Gorchymyn hwn) rhodder—
"
(a) individuals undertaking to provide in Wales general medical services or general dental services under Part 2 of the National Health Service Act 1977;" a
(b) yn lle paragraff (c) o'r diffiniad o "family health service provider in Wales" (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) o'r Gorchymyn hwn) rhodder—
"
(c) individuals performing in Wales personal medical services or personal dental services in accordance with arrangements made under section 28C of the National Health Service Act 1977 (except as employees of, or otherwise on behalf of, a health service body or an independent provider);".
Darpariaethau darfodol mewn perthynas â'r diffiniad o "family health service provider in Wales"
6.
—(1) Mewn amgylchiadau ac eithrio'r rhai a ddisgrifir yn erthygl 5 a hyd nes y daw adran 172(1) o Ddeddf 2003 i rym mewn perthynas â chontractau gwasanaethau deintyddol cyffredinol—
(a) (ym mharagraff (a) o'r diffiniad o "family health service provider in Wales" (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(a) o'r Gorchymyn hwn) yn lle "section 28K or 28Q" rhodder "section 28Q";
(b) ym mharagraff (c) o'r diffiniad o "family health service provider in Wales" (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) o'r Gorchymyn hwn) yn lle "primary dental services" rhodder "personal dental services", ac
(c) ar ôl paragraff (c) o'r diffiniad o "family health service provider in Wales" (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) o'r Gorchymyn hwn) mewnosoder—
"
(d) an individual who, at that time, had undertaken to provide in Wales general dental services under Part 2 of that Act."
(2) Hyd nes y daw adran 28C o Ddeddf 1977 i rym o ran Cymru, rhaid cymryd, at ddibenion y rhan honno o'r diffiniad o "family health service provider in Wales" fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) ac fel y'i amnewidiwyd gan erthygl 5(b) o'r Gorchymyn hwn sy'n cyfeirio at drefniadau a wneir o dan yr adran honno, ei fod yn cyfeirio'n unig at gynllun peilot o dan Ran 1 o'r Ddeddf honno.
Darpariaeth drosiannol mewn perthynas â'r diffiniad o "family health service provider in Wales"
7.
Cyhyd â bod contractau rhagosodedig a wnaed yn unol ag adran 176(3) o Ddeddf 2003 (gwasanaethau meddygol cyffredinol: trosiannol) mewn bod, bernir bod unrhyw gyfeiriad at gontract gwasanaethau meddygol cyffredinol neu at gontract o dan adran 28Q o Ddeddf 1977 yn y diffiniad o "family health service provider in Wales" fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(a) ac fel y'i amnewidiwyd gan erthygl 5(a) o'r Gorchymyn hwn, yn cynnwys cyfeiriad at gontract rhagosodedig.
Tribiwnlysoedd Prisio yng Nghymru
8.
—(1) Mae tribiwnlys prisio yng Nghymru yn dribiwnlys perthnasol at ddibenion y Ddeddf.
(2) Nid oes dim yn Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005[4] yn rhwystro person rhag gwneud cwyn i'r Ombwdsmon parthed gweithredu perthnasol gan aelod o staff gweinyddol tribiwnlys prisio yng Nghymru cyn 15 Chwefror 2006.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5].
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2006
EXPLANATORY NOTE
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Fe'i gwneir o dan adrannau 10(2), 28(2)(a) 41(1) a (3), 43(1)(b) a 44(2)(b) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) ("y Ddeddf").
Mae adran 10(2) yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad"), drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 2 i'r Ddeddf (materion wedi'u heithrio) drwy ychwanegu at, tynnu ymaith neu newid cofnod yn yr Atodlen honno. Mae Atodlen 2 yn gosod amryw faterion nad oes gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ("yr Ombwdsmon") yn rhinwedd adran 10(1), yr hawl i ymchwilio iddynt. Mae adran 10(3) yn darparu bod rhaid i'r Cynulliad, cyn gwneud gorchymyn o dan adran 10(2), ymgynghori â'r Ombwdsmon.
Mae erthygl 2 yn gosod paragraff 8 newydd yn Atodlen 2 pan ddaw Deddf Ymchwiliadau 2005 i rym (p. 12). Mae Adran 49 o Ddeddf Ymchwiliadau 2005 ac Atodlen 3 iddi yn diddymu adran 84 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49). Mae'r hyn a amnewidir gan erthygl 2(a) o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y newidiadau canlyniadol angenrheidiol i Atodlen 2. Mae erthygl 2(b) yn hepgor paragraff 10 o Atodlen 2. Mae Adran 4 o'r Ddeddf yn nodi pwy a all wneud cwyn i'r Ombwdsmon. Effaith adran 4(2) yw na all awdurdod rhestredig sy'n gweithredu yn y cyfryw swyddogaeth wneud cwyn i'r Ombwdsmon. Bernir felly bod paragraff 10 o Atodlen 2 yn ddianghenraid.
Mae erthygl 3 yn diwygio Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig) drwy ychwanegu cyfeiriad at y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru fel awdurdod rhestredig, i ddod ag ef o fewn cylch gorchwyl yr Ombwdsmon.
Mae adran 41(3) yn darparu y caiff y Cynulliad, drwy Orchymyn, ddiwygio'r diffiniad o "family health service provider in Wales" (gweler adran 41(1)). Mae adran 41(4) yn darparu bod rhaid i'r Cynulliad ymgynghori ag unrhyw bersonau sydd yn ei dyb ef yn briodol cyn gwneud gorchymyn o'r fath.
Mae erthyglau 4 i 7 yn peri bod y diffiniad o "family health service provider in Wales" yn fwy cyfatebol i'r diffiniad yn adran 2A (2) o Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 (p. 46).
Mae adran 41(1) yn darparu, ymhlith pethau eraill, mai ystyr "relevant tribunal" yn y Ddeddf yw tribiwnlys (gan gynnwys tribiwnlys o un person yn unig) a bennir drwy orchymyn wedi'i wneud gan y Cynulliad.
Mae erthygl 8 yn darparu bod tribiwnlys prisio yng Nghymru yn dribiwnlys perthnasol at ddibenion y Ddeddf. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol (yn erthygl 8(2)) parthed gweithrediadau staff gweinyddol tribiwnlysoedd prisio yng Nghymru cyn 15 Chwefror 2006 o ran apeliadau a gychwynnwyd ac y gorffennwyd â hwy cyn y dyddiad hwnnw. Ar y dyddiad hwnnw daw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3364) i rym yn llawn. Mae'r rheoliadau hyn yn diddymu'r tribiwnlysoedd prisio blaenorol ac yn gosod rhai newydd yn eu lle.
Notes:
[1]
2005 p. 10.back
[2]
1977 p. 49.back
[3]
2003 p. 43.back
[4]
O.S. 2005/3364 (Cy.261).back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
0 11 091275 6
| © Crown copyright 2006 |
Prepared
22 February 2006
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060363w.html