![]() |
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | |
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig (Cymru) 2006 Rhif 867 (Cy.79) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060867w.html |
[New search] [Help]
Wedi'i wneud | 21 Mawrth 2006 | ||
Yn dod i rym | 31 Mawrth 2006 |
1. | Enwi, cychwyn a chymhwyso |
2. | Dehongli |
3. | Hysbysu am glefyd mewn anifeiliaid buchol |
4. | Hysbysu am glefyd mewn carcasau |
5. | Hysbysu am glefyd mewn samplau labordy |
6. | Samplo llaeth i'w brofi am dystiolaeth o lewcosis buchol ensootig |
7. | Ymchwiliad milfeddygol i fodolaeth lewcosis buchol ensootig |
8. | Pwerau arolygwyr milfeddygol i wahardd neu reoli symud anifeiliaid buchol |
9. | Marcio anifeiliaid yr effeithiwyd arnynt |
10. | Cyfyngiadau ar ddefnyddio semen |
11. | Glanhau a diheintio |
12. | Darpariaethau arbennig ar gyfer anifeiliaid a fewnforir |
13. | Cymhwyso adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i lewcosis buchol ensootig |
14. | Hysbysu am gigydda arfaethedig |
15. | Pwerau arolygwyr |
16. | Tramgwyddau |
17. | Gorfodi |
18. | Dirymu |
YR ATODLEN | Profi hematolegol ar anifeiliaid buchol |
(2) At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981 wrth ei gymhwyso i'r Gorchymyn hwn, estynnir diffiniad "disease" yn adran 88(1) drwy hyn i gynnwys pob ffurf ar lewcosis buchol.
(3) Rhaid i bob hysbysiad, trwydded neu gymeradwyaeth a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn fod yn ysgrifenedig a gellir eu gwneud yn ddarostyngedig i amodau a gellir eu diwygio, eu hatal dros dro, neu eu dirymu yn ysgrifenedig unrhyw bryd.
Hysbysu am glefyd mewn anifeiliaid buchol
3.
—(1) Rhaid i berson sy'n meddu ar anifail yr effeithiwyd arno neu anifail dan amheuaeth neu berson sydd â rheolaeth ar yr anifail hwnnw, neu lawfeddyg milfeddygol sy'n archwilio'r anifail hwnnw, hysbysu'r canlynol am y ffaith honno cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl —
(2) Pan hysbysir arolygydd awdurdod lleol o dan baragraff (1) o'r erthygl hon, rhaid i'r arolygydd hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol sy'n gyfrifol am yr ardal honno ar unwaith.
(3) Rhaid i berson sy'n meddu ar anifail yr effeithiwyd arno neu anifail dan amheuaeth neu berson â gofal yr anifail hwnnw, ei gadw yn y fangre lle y'i cedwir hyd nes i arolygydd milfeddygol ei archwilio.
Hysbysu am glefyd mewn carcasau
4.
—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n meddu ar garcas anifail buchol sy'n dangos arwyddion newidiadau tiwmorol (heblaw haemangiomâu, papilomâu, neu ddafadennau) yn y nodau lymff neu unrhyw ran ohono neu berson â gofal y carcas hwnnw, hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol sy'n gyfrifol am yr ardal honno am ffaith honno cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl.
(2) Rhaid i berson sy'n meddu ar garcas y mae paragraff (1) o'r erthygl hon yn gymwys iddo, neu berson â gofal y carcas hwnnw, ei gadw yn y fangre lle y'i cedwir hyd nes i arolygydd milfeddygol ei archwilio neu hyd nes i arolygydd milfeddygol benderfynu nad oes angen archwiliad.
Hysbysu am glefyd mewn samplau labordy
5.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) isod, pan fydd archwiliad mewn labordy o sampl a gymerwyd oddi wrth anifail buchol yn dangos tystiolaeth o fodolaeth lewcosis buchol ensootig, rhaid i'r person â gofal y labordy hysbysu'r Rheolwr Milfeddygol Rhanbarthol ar gyfer yr ardal lle y cymerwyd y sampl neu'r ardal lle mae'r labordy am y ffaith honno o fewn 24 awr.
(2) Nid yw'r rhwymedigaeth i hysbysu ym mharagraff (1) yn gymwys pan fydd lewcosis buchol ensootig wedi'i gyflwyno i sampl labordy yn fwriadol.
Samplo llaeth i'w brofi am dystiolaeth o lewcosis buchol ensootig
6.
—(1) Rhaid i unrhyw berson sy'n prynu llaeth oddi wrth berchennog buches odro yng Nghymru neu'r person â gofal amdani i'w ailwerthu fel llaeth neu gynnyrch llaeth—
(2) Mae person yn esempt o'r dyletswydd a osodir gan baragraff (1) uchod, os yw'r person hwnnw dim ond yn prynu llaeth amrwd wedi'i ragbacio i'w ailwerthu—
(3) Ym mharagraff (2) uchod, ystyr "defnyddiwr olaf" yw unrhyw berson sy'n prynu llaeth heblaw at ddibenion—
(4) Ni chaiff unrhyw berson mewn unrhyw ddull na modd drin, ac eithrio drwy ychwanegu cadwolyn yn unol â pharagraff (1)(ch) uchod, unrhyw sampl neu ei label, nac ymyrryd â hwy a bernir bod person wedi trin neu ymyrryd â sampl os yw'r person yn gwneud unrhyw beth mewn perthynas ag ef sy'n debygol o effeithio ar ganlyniad y profi sy'n ofynnol o dan yr erthygl hon.
(5) Rhaid i'r person â gofal am labordy a gymeradwywyd gydymffurfio â'r darpariaethau canlynol fel un o amodau'r gymeradwyaeth —
(6) Os bydd unrhyw berson yn methu â chymryd unrhyw gam sy'n ofynnol o dan ddarpariaethau paragraff (1) uchod, caiff arolygydd milfeddygol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, gymryd y cam hwnnw, neu beri ei gymryd, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw dreuliau y mae wedi mynd iddynt yn rhesymol wrth wneud hynny oddi wrth y person sydd wedi methu â chymryd y cam gofynnol.
Ymchwiliad milfeddygol i fodolaeth lewcosis buchol ensootig
7.
—(1) Pan fydd rheswm i gredu, ar sail gwybodaeth a gafwyd o dan erthyglau 3, 4, 5, neu 6 neu fel arall, bod lewcosis buchol ensootig yn bodoli neu wedi bodoli yn ystod y 56 o ddyddiau blaenorol yn unrhyw fangre, rhaid i arolygydd milfeddygol gymryd y camau hynny sy'n angenrheidiol cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl i gadarnhau —
(2) Pan fydd arolygydd milfeddygol yn cynnal ymchwiliad o dan yr erthygl hon i fodolaeth lewcosis buchol ensootig, rhaid i—
roi'r cyfleusterau rhesymol hynny, a chydymffurfio â'r gofynion rhesymol hynny, sy'n angenrheidiol at ddibenion yr ymchwiliad.
(3) Rhaid i arolygydd milfeddygol sy'n mynd i fangre o dan ddarpariaethau'r erthygl hon roi'r rhesymau dros fynd iddi, os bydd y meddiannydd neu'r person â gofal yr anifeiliaid buchol yn y fangre yn gofyn amdanynt.
Pwerau arolygwyr milfeddygol i wahardd neu reoli symud anifeiliaid buchol
8.
Os oes gan arolygydd milfeddygol seiliau rhesymol dros gredu y gall symud unrhyw anifail buchol o'r naill le i'r llall greu perygl lledaenu lewcosis buchol ensootig, caiff arolygydd milfeddygol, at ddibenion atal y clefyd rhag cael ei ledaenu, gyflwyno hysbysiad i berchennog neu feddiannydd y lle hwnnw neu i berchennog yr anifail buchol, neu i'r person a gofal amdano—
Marcio anifeiliaid yr effeithiwyd arnynt
9.
—(1) Rhaid i berchennog anifeiliaid buchol neu'r person a gofal amdanynt ac a gedwir ar y fangre, os mynnir hynny gan hysbysiad a gyflwynwyd gan arolygydd milfeddygol, farcio'r anifeiliaid hynny mewn dull a benna'r arolygydd milfeddygol.
(2) Caiff arolygydd milfeddygol baentio, stampio, clipio, tagio neu farcio anifeiliaid buchol a gedwir yn unrhyw fangre mewn dull arall.
(3) Ni chaiff unrhyw berson newid, tynnu, dileu, difwyno, na cheisio newid, tynnu, dileu, neu ddifwyno'r marc hwnnw.
Cyfyngiadau ar ddefnyddio semen
10.
Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i'r perchennog neu'r person sydd â gofal dros unrhyw anifeiliaid yr effeithir arnynt neu unrhyw anifeiliaid amheus a gedwir ar unrhyw fangre a hwnnw'n hysbysiad sy'n gwahardd defnyddio semen o anifeiliaid o'r fath. neu sy'n cyfyngu ar ei ddefnyddio.
Glanhau a diheintio
11.
—(1) Caiff arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i feddiannydd unrhyw fangre lle y mae neu lle y bu anifail yr effeithiwyd arno neu anifail dan amheuaeth, neu garcas y fath anifal, ac sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r meddiannydd, ar draul y meddiannydd ei hun, lanhau a diheintio—
(2) Os na chydymffurfir â gofynion hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) uchod, caiff arolygydd milfeddygol, heb ragfarnu unrhyw achos am dramgwydd sy'n codi o'r methiant hwnnw, gyflawni neu beri cyflawni'r gwaith glanhau a diheintio, a chaiff y Cynulliad Cenedlaethol adennill unrhyw dreuliau y mae arolygydd milfeddygol wedi mynd iddynt yn rhesymol oddi wrth y person sydd wedi methu â chydymffurfio â'r gofynion hynny.
(3) At ddibenion arfer y pwerau o dan baragraff (1) uchod caiff arolygydd milfeddygol, drwy ddangos ei awdurdod pan ofynnir iddo wneud hynny, fynd i mewn i fangre y cyflwynwyd hysbysiad o dan yr erthygl hon mewn cysylltiad ag ef, a chaiff fynd ag unrhyw berson y barna ei fod yn angenrheidiol gydag ef, a rhaid i'r arolygydd milfeddygol, os bydd y meddiannydd neu'r person â gofal y fangre yn gofyn iddo wneud hynny, ddweud wrtho beth yw'r rhesymau dros fynd i mewn i'r fangre.
Darpariaethau arbennig ar gyfer anifeiliaid a fewnforir
12.
Ni fydd darpariaethau'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â mangreoedd a gymeradwyd o dan Orchymyn Menwforio Anifeiliaid 1977[3] a dim ond mewn perthynas ag anifeiliaid buchol a fewnforir o'r amser a bennir yn y drwydded a ddyroddir ar gyfer yr anifeiliaid hynny o dan erthygl 11(5) o'r Gorchymyn hwnnw y byddant yn gymwys.
Cymhwyso adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 i lewcosis buchol ensootig
13.
Mae adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn gymwys i lewcosis buchol ensootig.
Hysbysu am gigydda arfaethedig
14.
—(1) Pan fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn arfaethu cigydda anifail buchol o dan y pwerau a gynhwysir yn adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 wrth iddi gael ei chymhwyso i lewcosis buchol ensootig, rhaid i arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad cigydda arfaethedig i berchennog yr anifail neu i'r person sydd â gofal amdano ac sy'n hysbysu'r person hwnnw am y cigydda arfaethedig ac yn ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw ildio'r anifail i gael ei gigydda (neu i gadw'r anifail tra erys am gael ei gigydda) a'i ynysu i'r graddau y mae'n ymarferol oddi wrth anifeiliaid nas pennir yn yr hysbysiad.
(2) Rhaid i'r person y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw iddo beidio â symud yr anifail o'r fangre neu o ran ohoni ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol ac yn unol â'r telerau ynddi.
Pwerau arolygwyr
15.
—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, bydd gan arolygydd, ar ôl dangos os gofynnir iddo neu iddi, ryw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos awdurdod yr arolygydd, hawl ar bob adeg resymol i fynd i mewn i unrhyw fangre a feddiennir fel mangre preifat.
(2) Caiff arolygydd—
Tramgwyddau
16.
Bydd unrhyw berson sy'n mynd yn groes i unrhyw ddarpariaeth o'r Gorchymyn hwn neu'n methu â chydymffurfio â hi heb awdurdod neu esgus cyfreithlon yn euog o dramgwydd yn erbyn Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981.
Gorfodi
17.
Yr awdurdod lleol sy'n gorfodi'r Gorchymyn hwn yn ei ardal ddaearyddol.
Dirymu
18.
I'r graddau y mae yn gymwys i Gymru, mae Gorchymyn Lewcosis Buchol Ensootig 1997[4] drwy hyn wedi'i ddirymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2006
Oedran yr Anifail Buchol | Ystod annormal: y nifer o lymffosytau fesul milimetr ciwbig | Unedau S.I. |
O dan flwydd oed | Mwy nag 11,000 | mwy nag 11.0 |
Blwydd ond o dan 2 flwydd | Mwy na 10,000 | mwy na 10.0 |
2 flwydd ond o dan 3 blwydd | Mwy nag 8,500 | mwy nag 8.5 |
3 blwydd ond o dan 4 blwydd | Mwy na 7,500 | mwy na 7.5 |
4 blwydd ond o dan 5 mlwydd | Mwy na 6,500 | mwy na 6.5 |
5 mlwydd ond o dan 6 mlwydd | Mwy na 6,000 | mwy na 6.0 |
6 blwydd a throsodd | Mwy na 5,500 | mwy na 5.5 |