BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006 Rhif 949 (Cy.98)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060949w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 949 (Cy.98)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006

  Wedi 28 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 70(1) a (2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1]:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Ymchwiliadau Safonau) 2006 a daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

    (3) Yn y Gorchymyn hwn—

Cymhwyso darpariaethau Deddf 2000
     2. At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny—

Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau
    
3. At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau'r Ddeddf honno fel y'u rhestrir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2005 gydag addasiadau
    
4. At ddibenion ymchwiliadau o dan adran 69 o Ddeddf 2000, bydd darpariaethau Deddf 2005 fel y'u rhestrir yn Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn yn gymwys yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ddangosir yn yr Atodlen honno.

Y Gyfraith Ddifenwi
    
5. At ddibenion y gyfraith ddifenwi, bydd gan unrhyw ddatganiad (boed mewn ysgrifen neu ar lafar) a wneir gan—

mewn perthynas ag arfer swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran III o Ddeddf 2000 fraint absoliwt.

Dirymu
    
6. Dirymir Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001[3].



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 [4].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2006



ATODLEN 1
Erthygl 2

Adran Pwnc
Adran 60(1) Cynnal ymchwiliadau
Adran 61 Y weithdrefn mewn perthynas ag ymchwiliadau
Adran 62(1), (2), (3), (5), (6), (8), (9), (10) ac (11) Ymchwiliadau: darpariaethau pellach
Adran 63(3) Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth



ATODLEN 2
Erthygl 3


Cymhwyso darpariaethau yn Neddf 2000 gydag addasiadau


Adran 60(4)
     1. Mae adran 60(4) o Ddeddf 2000 (Cynnal ymchwiliadau) yn gymwys fel petai'r canlynol yn cael ei roi yn lle'r is-adran honno—

Adran 60(5)
     2. Bydd adran 60(5) o Ddeddf 2000 (Cynnal ymchwiliadau) yn gymwys fel pe bai—

Adran 60(6)
     3. Bydd adran 60(6) o Ddeddf 2000 (Cynnal ymchwiliadau) yn gymwys fel pe bai—

Adran 62(4)
     4. Bydd Adran 62(4) o Ddeddf 2000 (Ymchwiliadau: darpariaethau pellach) yn gymwys fel pe bai—

Adran 63(1)
     5. Bydd adran 63(1) o Ddeddf 2000 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai—

Adran 63(2)
     6. Bydd adran 63(2) o Ddeddf 2000 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai—



ATODLEN 3
Erthygl 4


Cymhwyso darpariaethau Deddf 2005 gydag addasiadau


Adran 26(2)
     1. Bydd adran 26(2) o Ddeddf 2005 (Cyfyngiadau ar ddatgelu gwybodaeth) yn gymwys fel pe bai'r paragraff canlynol yn cael ei fewnosod ar ôl paragraff (j),—



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


O dan adran 70 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, (fel y'i diwygiwyd) ("Deddf 2000"), caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud darpariaeth mewn perthynas ag ymchwiliadau safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("Yr Ombwdsmon"). Mae'r ymchwiliadau hyn yn ymwneud ag ymddygiad aelodau neu aelodau cyfetholedig o awdurdod perthnasol yng Nghymru pan fo honiad wedi'i wneud fod aelod neu aelod cyfetholedig o'r fath wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod perthnasol neu y gall fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad o'r fath.

Mae'r Gorchymyn hwn yn darparu ar gyfer cymhwyso adrannau 60 i 63 o Ddeddf 2000 ac adrannau 26 i 32 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ("Deddf 2005") i ymchwiliadau safonau. Mewn rhai achosion, cymhwysir darpariaethau yn yr adrannau hynny gydag addasiadau.

Mae erthygl 2 (drwy gyfeirio at Atodlen 1 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(1); 61; 62(1) i (3), (5), (6) ac (8) i (11); a 63(3) o Ddeddf 2000 at ymchwiliad safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno.

Mae erthygl 3 (drwy gyfeirio at Atodlen 2 i'r Gorchymyn) yn cymhwyso adrannau 60(4) i (6), 62(4) a 63(1) a (2) o Ddeddf 2000 at ymchwiliad safonau o dan adran 69 o'r Ddeddf honno yn y ffurf wedi'i haddasu a restrir yn Atodlen 2.

Mae erthygl 4, drwy addasu'r darpariaethau yn adran 26 o Ddeddf 2005 (sy'n ymwneud â datgelu gwybodaeth gan yr Ombwdsmon), yn caniatáu i'r Ombwdsmon ddatgelu gwybodaeth a gafwyd mewn cysylltiad ag ymchwiliad o dan Ran 2 o Ddeddf 2005 at ddibenion ymchwiliad safonau o dan adran 69 o Ddeddf 2000 (ac mae Atodlen 3 i'r Gorchymyn yn cyfeirio at hynny).

Yn rhinwedd erthygl 5, mae braint absoliwt, at ddibenion y gyfraith ddifenwi, yn cael ei hestyn i ddatganiadau aelodau o staff yr Ombwdsmon, personau sy'n gweithredu ar ran yr Ombwdsmon a phersonau sy'n cynorthwyo'r Ombwdsmon gydag arfer swyddogaethau'r Ombwdsmon o dan Ran III o Ddeddf 2000.

Mae erthygl 6 yn dirymu Gorchymyn Comisiynydd Lleol yng Nghymru (Ymchwiliadau Safonau) 2001.


Notes:

[1] 2000 p.22. Diwygir adran 70(2) gan baragraff 14(a) o Atodlen 4 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 ac mae O.S. 2005/2800 (Cy.199) (C.116) yn cyfeirio at hynny.back

[2] 2005 p.10.back

[3] O.S. 2001/2286 (Cy.174).back

[4] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091317 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 10 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060949w.html