BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 Rhif 979 (Cy.102)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060979w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 979 (Cy.102)

LLYWODRAETH LEOL, CYMRU

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006

  Wedi 29 Mawrth 2006 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 95, 96 a 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Awdurdodau Gwerth Gorau) (Pŵer i Fasnachu) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru[
2] sydd—

Pŵer i fasnachu mewn gweithgareddau sy'n gysylltiedig â swyddogaethau
     2. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), awdurdodir awdurdod gwerth gorau i wneud unrhyw beth at ddiben masnachol y mae wedi'i awdurdodi i'w wneud er mwyn cyflawni un o'i swyddogaethau cyffredin[4].

    (2) Cyn arfer y pwŵer a roddir gan baragraff (1), rhaid i'r awdurdod gwerth gorau—

    (3) Rhaid i awdurdod gwerth gorau adennill costau unrhyw lety, nwyddau, gwasanaethau, staff neu unrhyw beth arall y mae'n ei gyflenwi i gwmni[5] yn unol ag unrhyw gytundeb neu drefniant i hwyluso'r broses o arfer y pwŵer a roddir gan baragraff (1).

    (4) Yn yr erthygl hon ystyr "achos busnes" yw datganiad cynhwysfawr ynghylch—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Mawrth 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru sy'n gynghorau sir, yn gynghorau bwrdeistref sirol, yn awdurdodau Parciau Cenedlaethol neu'n awdurdodau tân ac achub.

Mae erthygl 2 yn awdurdodi awdurdod gwerth gorau y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo i fasnachu ym maes unrhyw un o'i swyddogaethau cyffredin yn ddarostyngedig i amodau sy'n ei gwneud yn ofynnol i achos busnes gael ei baratoi a'i gymeradwyo ymlaen llaw, ac i unrhyw gostau a dynnir gan yr awdurdod gael eu hadennill, sef costau o ran unrhyw beth y mae'n ei gyflenwi, gan gynnwys llety, nwyddau, gwasanaethau neu staff, i gwmni y mae'r pŵer masnachu yn cael ei arfer drwyddo. O dan adran 95(4) o'r Ddeddf, rhaid i'r pŵer i fasnachu gael ei arfer drwy gwmni.


Notes:

[1] 2003 p.26.back

[2] Gweler adran 124 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gael y diffiniad o "best value authority".back

[3] 2004 p.21.back

[4] Gweler adran 95(7) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gael ystyr "ordinary functions".back

[5] Gweler adran 95(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i gael ystyr "company".back

[6] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091314 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 10 April 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20060979w.html