BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006 Rhif 1387 (Cy.137)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061387w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1387 (Cy.137)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 23 Mai 2006 
  Yn dod i rym Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer ei bwerau o dan adran 321(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (fel y'i haddaswyd gan adran 321B(3) o'r Ddeddf honno) [1], paragraff 6A(3) o Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (fel y'i haddaswyd gan baragraff 8(3) o'r Atodlen honno)[2] a pharagraff 6A(3) o'r Atodlen i Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (fel y'i haddaswyd gan baragraff 8(3) o'r Atodlen honno)[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Mehefin 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn–

    (2) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebu electronig at unrhyw un o ddibenion y Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni'n electronig–

    (3) Mae paragraffau (4) i (8) yn gymwys pan fo cyfathrebiad electronig yn cael ei ddefnyddio gan berson er mwyn cyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall i unrhyw berson arall ("y derbynnydd") neu i'w anfon neu i'w hanfon ato.

    (4) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fo'r hysbysiad neu'r ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig-

    (5) Ym mharagraff (4), ystyr "yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys" yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad neu'r ddogfen arall ar gael i'r derbynnydd o leiaf i'r un graddau â phe bai wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiadwy.

    (6) Os caiff y derbynnydd y cyfathrebiad electronig y tu allan i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr "diwrnod gwaith" yw diwrnod nad yw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.

    (7) Bydd gofyniad yn y Rheoliadau hyn i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi'i gyflawni pan fo'r ddogfen honno yn bodloni'r meini prawf ym mharagraff (4), ac mae "ysgrifenedig" ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

    (8) Caniateir cydymffurfio â gofyniad yn y Rheoliadau hyn i anfon mwy nag un copi o ddatganiad neu ddogfen arall drwy anfon un copi yn unig o'r datganiad neu'r ddogfen arall o dan sylw a hynny ar ffurf electronig.

Y rheoliadau penodol sy'n gymwys mewn achosion penodol
     3. —(1) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r awdurdod cyfarwyddo yn ystyried rhoi neu pan fo wedi rhoi cyfarwyddyd o dan unrhyw un o'r darpariaethau canlynol–

    (2) Mae rheoliad 4 yn gymwys i bob cynrychiolydd penodedig.

    (3) Mae rheoliadau 5 i 14 yn gymwys o ran achos lle mae cynrychiolydd penodedig wedi'i benodi o dan–

Swyddogaethau cynrychiolydd penodedig
    
4. —(1) Swyddogaeth gyntaf cynrychiolydd penodedig yw cynrychioli buddiannau'r person yr effeithir arno drwy wneud y canlynol–

    (2) Ail swyddogaeth y cynrychiolydd penodedig yw cynrychioli buddiannau'r person yr effeithir arno drwy wneud y canlynol–

    (3) Trydedd swyddogaeth cynrychiolydd penodedig yw sicrhau bod y copïau o'r dystiolaeth gaeedig neu'r dystiolaeth gaeedig bosibl yn cael eu dychwelyd i'r person a'u darparodd cyn gynted ag y bo'n ymarferol –

p'un bynnag yw'r olaf.

    (4) Pedwaredd swyddogaeth cynrychiolydd penodedig yw gwneud ceisiadau i'r llys ynghylch unrhyw un o swyddogaethau eraill y cynrychiolydd penodedig.

    (5) At ddibenion unrhyw un neu rai o'r swyddogaethau, caiff y cynrychiolydd penodedig drafod unrhyw fater sy'n ymwneud â'r dystiolaeth gaeedig neu'r dystiolaeth gaeedig bosibl–

Cydnabod archiad am gyfarwyddyd
    
5. —(1) Caiff unrhyw berson ofyn am gyfarwyddyd drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cyfarwyddo i'r diben hwnnw.

    (2) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael archiad am gyfarwyddyd, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo gydnabod mewn ysgrifen bod yr archiad wedi dod i law.

Cyhoeddusrwydd
    
6. —(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael archiad am gyfarwyddyd, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo roi cyhoeddusrwydd i'r ffaith bod archiad wedi dod i law a hynny yn y modd a ragnodir gan y rheoliad hwn.

    (2) Yn achos archiad sy'n ymwneud â chais am ganiatâd cynllunio ar gyfer datblygiad–

rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r archiad yn y modd a bennir ym mharagraff (3).

    (3) Rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i archiad sy'n dod o dan baragraff (2) ("archiad paragraff (2)") gan roi hysbysiad–

    (4) Yn achos archiad am gyfarwyddyd nad yw'n archiad paragraff (2), os datblygiad mawr yw'r datblygiad arfaethedig y mae'r archiad yn ymwneud ag ef, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i'r archiad gan roi hysbysiad–

    (5) Mewn achos nad yw paragraff (2) na pharagraff (4) yn gymwys iddo, rhaid rhoi cyhoeddusrwydd i archiad am gyfarwyddyd gan roi hysbysiad–

    (6) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraffau (3), (4) neu (5)–

    (7) Pan fo'r hysbysiad, heb fod unrhyw fai ar yr awdurdod cyfarwyddo nac unrhyw fwriad ganddo i wneud hynny, wedi'i dynnu ymaith, wedi'i guddio neu wedi'i ddifwyno cyn bod y cyfnod o 2 wythnos y cyfeirir ato ym mharagraff (3)(a), (4)(a)(i) neu (5)(a) wedi treiglo, rhaid ymdrin â'r awdurdod cyfarwyddo fel un sydd wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu'r hysbysiad ac, os oes angen, i roi hysbysiad newydd yn ei le.

    (8) Yn y rheoliad hwn–

Gwybodaeth i'w hanfon at y partïon
     7. —(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i hysbysiad o'r archiad am gyfarwyddyd gael ei roi yn unol â rheoliad 6, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo–

    (2) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cael ei hysbysu gan y cynrychiolydd penodedig bod y cynrychiolydd penodedig wedi derbyn cyfarwyddiadau gan y person yr effeithir arno, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo anfon at y cynrychiolydd penodedig–

Gweithdrefn sylwadau ysgrifenedig
    
8. —(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, sylwadau ysgrifenedig y person sy'n gwneud yr archiad am gyfarwyddyd sy'n ffurfio'r archiad am gyfarwyddyd.

    (2) Rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael y sylwadau ysgrifenedig, anfon–

    (3) Os yw'r naill barti neu'r llall yn cyflwyno unrhyw sylwadau pellach, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddynt ddod i law, anfon copi ohonynt at y parti arall.

    (4) Rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo fynd ati i benderfynu ar archiad am gyfarwyddyd gan gymryd i ystyriaeth ddim ond y sylwadau sydd wedi'u cyflwyno o fewn y terfynau amser perthnasol.

    (5) Ym mharagraff (4) ystyr "terfynau amser perthnasol" yw'r terfynau amser a ragnodir gan reoliadau 6(6)(c) a 7(1)(a) neu, pan fo'r awdurdod cyfarwyddo wedi arfer ei bŵer o dan reoliad 14, unrhyw derfyn amser diweddarach.

Penderfyniad i gynnal gwrandawiad a dyddiad y gwrandawiad
    
9. —(1) Pan fo'r awdurdod cyfarwyddo o'r farn y gellid datrys un neu ragor o faterion ynglŷn â'r archiad yn fwy boddhaol drwy gynnal gwrandawiad y byddai'r partïon yn bresennol ynddo, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig yn unol â hynny i'r partïon.

    (2) Rhaid i'r dyddiad a bennir gan yr awdurdod cyfarwyddo ar gyfer cynnal gwrandawiad beidio â bod yn hwyrach na 6 wythnos ar ôl dyddiad yr hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1).

    (3) Oni fydd yr awdurdod cyfarwyddo yn cytuno gyda'r partïon ar gyfnod hysbysu llai, rhaid iddo roi iddynt ddim llai na 2 wythnos o hysbysiad ysgrifenedig o'r dyddiad, yr amser a'r lle a bennwyd ganddo ar gyfer cynnal y gwrandawiad.

    (4) Caiff yr awdurdod cyfarwyddo amrywio'r dyddiad a bennir ar gyfer cynnal y gwrandawiad, p'un a yw'r dyddiad a amrywir o fewn y cyfnod o 6 wythnos a grybwyllwyd ym mharagraff (2) neu beidio; ac mae paragraff (3) yn gymwys i amrywiad o ran dyddiad yn yr un modd ag yr oedd yn gymwys i'r dyddiad a bennwyd yn wreiddiol.

    (5) Caiff yr awdurdod cyfarwyddo amrywio'r amser neu'r lle ar gyfer cynnal gwrandawiad a rhaid iddo roi i'r partïon yr hysbysiad hwnnw y mae'n ymddangos iddo ei fod yn rhesymol o unrhyw amrywiad.

Y weithdrefn ar gyfer gwrandawiad
    
10. —(1) Oni ddarperir fel arall yn y Rheoliadau hyn, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo benderfynu'r weithdrefn mewn gwrandawiad.

    (2) Rhaid i wrandawiad fod ar ffurf trafodaeth sy'n cael ei harwain gan yr awdurdod cyfarwyddo a chaniateir croesholi os yw'r awdurdod cyfarwyddo o'r farn ei fod yn angenrheidiol i sicrhau archwiliad trylwyr o'r prif faterion.

    (3) Ar ddechrau'r gwrandawiad rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo nodi beth, yn ei farn ef, yw'r prif faterion sydd i'w hystyried yn y gwrandawiad a nodi unrhyw faterion y bydd angen iddo gael esboniad pellach arnynt gan y partïon.

    (4) Nid oes dim ym mharagraff (3) sy'n atal y partïon rhag cyfeirio at faterion y maent yn credu eu bod yn berthnasol i'r broses o ystyried yr archiad am gyfarwyddyd ond nad oeddent yn faterion a nodwyd gan yr awdurdod cyfarwyddo yn unol â'r paragraff hwnnw.

    (5) Caiff yr awdurdod cyfarwyddo–

    (6) Pan fydd yn gwneud ei benderfyniad, caiff yr awdurdod cyfarwyddo anwybyddu unrhyw sylwadau ysgrifenedig, tystiolaeth neu ddogfen arall sy'n dod i law ar ôl diwedd y gwrandawiad.

Amser ychwanegol
    
11. Ar unrhyw adeg mewn unrhyw achos penodol caiff yr awdurdod cyfarwyddo ganiatáu amser ychwanegol ar gyfer cymryd unrhyw gam sy'n ofynnol ei gymryd neu y galluogir ei gymryd yn rhinwedd y Rheoliadau hyn, a dehonglir yn unol â hynny gyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at ddiwrnod erbyn pryd, neu gyfnod o fewn pryd, y mae'n ofynnol cymryd unrhyw gam neu y galluogir ei gymryd.

Hysbysiadau drwy'r post
    
12. Caniateir i hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu hanfon o dan y Rheoliadau hyn gael eu hanfon neu eu darparu–

Tynnu'n ôl gydsyniad i ddefnyddio cyfathrebu electronig
    
13. Pan na fo person bellach yn fodlon derbyn defnyddio cyfathrebu electronig at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni'n electronig, rhaid i'r person roi hysbysiad ysgrifenedig–

a bydd y cam hwnnw o dynnu'n ôl neu ddirymu yn derfynol a daw yn weithredol ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad ond heb fod yn llai na 7 niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.

Hysbysu o benderfyniad
    
14. —(1) Cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl penderfynu a ddylid rhoi cyfarwyddyd neu beidio, rhaid i'r awdurdod cyfarwyddo hysbysu unrhyw berson a gyflwynodd sylwadau iddo mewn perthynas â'r cyfarwyddyd o'i benderfyniad; ond nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol neu sy'n caniatáu i'r awdurdod cynorthwyo roi rhesymau dros ei benderfyniad, os byddai rhoi rhesymau yn arwain at ddatgeliad cyhoeddus o dystiolaeth gaeedig.

    (2) Pan fo cyfarwyddyd yn cael ei roi, rhaid i'r awdurdod cyfawryddo anfon, yr un pryd ag y bydd yn hysbysu o'i benderfyniad yn unol â pharagraff (1), gopi o'r cyfarwyddyd at y cynrychiolydd penodedig a'r person a wnaeth archiad am y cyfarwyddyd.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Mai 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae adran 321 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ("Deddf 1990") yn darparu bod pob ymchwiliad cynllunio i'w gynnal yn gyhoeddus ac eithrio i'r graddau y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") neu'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran tir yng Nghymru, yn cyfarwyddo fel arall y byddai'n groes i ddiogelwch gwladol ar sail buddiannau gwladol neu ddiogelwch mangreoedd neu eiddo.

Mae adrannau 321 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5)) ("Deddf 2004")) a 321B o Ddeddf 1990 yn gwneud darpariaeth i Gwnsler Cyffredinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") benodi personau ("cynrychiolwyr penodedig") i gynrychioli buddiannau unrhyw berson a gaiff ei atal rhag gwrando neu archwilio unrhyw dystiolaeth mewn ymchwiliad lleol os rhoddir cyfarwyddyd adran 321 gan y Cynulliad Cenedlaethol neu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae paragraffau 6, 6A ac 8 o Atodlen 3 i Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraffau 6, 6A ac 8 o'r Atodlen i Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 yn gwneud darpariaeth debyg mewn perthynas â'r Deddfau hynny.

Yn rhinwedd y cofnodion ynghylch y Deddfau uchod yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (fel y'i hamrywir gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S.2000/253) (Cy. 5) yn achos Deddf 1990), mae'r pŵer i roi cyfarwyddyd o dan y darpariaethau hynny o ran Cymru yn arferadwy gan naill ai'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r Ysgrifennydd Gwladol ar yr un pryd. Yn y Rheoliadau hyn cyfeirir at y naill a'r llall fel "yr awdurdod cyfarwyddo".

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r weithdrefn sydd i'w dilyn gan yr awdurdod cyfarwyddo pan fydd yn ystyried a fydd yn rhoi cyfarwyddyd diogelwch gwladol. Mae'r darpariaethau hynny'n ymwneud â chyhoeddusrwydd (rheoliad 6), sylwadau ysgrifenedig (rheoliad 8), gwrandawiadau (rheoliadau 9 a 10) a hysbysiadau o benderfyniadau yr awdurdod cyfarwyddo (rheoliad 14).

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi hefyd swyddogaethau cynrychiolwyr penodedig (rheoliad 4).

Mae'r opsiynau ar gyfer trin achosion sy'n cynnwys materion diogelwch gwladol yn effeithio'n bennaf ar y llywodraeth ganolog ac ni fydd ganddynt unrhyw effaith ar gostau busnesau, elusennau, cyrff gwirfoddol na rhannau eraill o'r sector preifat. Ychydig iawn fydd y costau i'r llywodraeth ganolog. O ganlyniad nid oes asesiad llawn o effaith y Rheoliadau wedi'i baratoi ar gyfer yr offeryn hwn.


Notes:

[1] 1990 p.8. Mewnosodwyd is-adrannau (5) i (12) o adran 321, ac adran 321B, gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adrannau 80(1) ac 81(1) yn y drefn honno.back

[2] 1990 p.9. Mewnosodwyd paragraffau 6A ac 8(3) gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, adrannau 80(3) ac 81(2) yn y drefn honno.back

[3] 1990 p.10. Mewnosodwyd paragraffau 6A ac 8(3) gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, adrannau 80(4) ac 81(3) yn y drefn honno.back

[4] 2000 p.7.back

[5] 1981 p.69. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000, adran 51 ac Atodlen 5, Rhan I.back

[6] O.S. 1999/293 y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i"r offeryn hwn.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091353 1


 © Crown copyright 2006

Prepared 20 June 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061387w.html