BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Sylweddau Peryglus) (Diwygiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006 Rhif 1388 (Cy.138)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061388w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1388 (Cy.138)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Sylweddau Peryglus) (Diwygiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 23 Mai 2006 
  Yn dod i rym Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 82B(8) a 93 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[1] a chan adran 30B(2), (3) ac (8)(b) o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990[2], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn[3]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig, Ardaloedd Cadwraeth a Sylweddau Peryglus) (Diwygiadau sy'n ymwneud â Thir y Goron) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 7 Mehefin 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
    
2. —(1) Diwygir Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[4]fel a ganlyn.

    (2) Ar ôl rheoliad 5A (cyhoeddusrwydd ar gyfer ceisiadau sy'n effeithio ar osodiad adeiladau rhestredig) mewnosoder–

Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992
     3. —(1) Diwygir Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992[6]fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 14 (cais am yr hyn a fernir yn ganiatâd), ar ôl "section 11" mewnosoder "or 30B".

    (3) Yn rheoliad 15 (amodau ar yr hyn a fernir yn ganitatâd), ar ôl "section 11(7)(b)" mewnosoder "and section 30B(8)(b)".

    (4) Yn Atodlen 2 (ffurfiau, hysbysiadau a thystysgrifau rhagnodedig) yn Ffurf 8–



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

23 Mai 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn addasu darpariaethau a geir mewn dwy set o Reoliadau i'r graddau y mae'r darpariaethau hynny yn ymwneud â chaniatâd adeilad rhestredig, ardal gadwraeth neu sylweddau peryglus ac y mae a wnelont â thir y Goron.

Diwygiodd adran 83 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ("Deddf 2004") Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 drwy fewnosod adran 82B newydd ynddi. Mae hon yn gwneud darpariaeth ar gyfer ceisiadau brys am waith ar adeiladau ar dir y Goron sy'n rhestredig neu sydd mewn ardaloedd cadwraeth ac yn darparu i geisiadau o'r fath gael eu gwneud yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol. Mae adran 82B(8) yn gosod dyletswydd ar yr Ysgrifennydd Gwladol i roi cyhoeddusrwydd i'r cais yn unol ag unrhyw ofynion a ragnodwyd. Yn unol â hyn, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519) i ragnodi'r gofynion hynny i roi cyhoeddusrwydd (rheoliad 2).

Diwygiodd adran 79 o Ddeddf 2004 Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 drwy fewnosod adran 30B newydd. Mae'r adran honno, o ran darpariaeth drosiannol, yn barnu bod caniatâd sylweddau peryglus wedi cael ei roi mewn perthynas â sylweddau peryglus sy'n bresennol ar dir y Goron cyn y dyddiad y mae Rhan 7 o Ddeddf 2004 (sy'n cymhwyso'r Deddfau Cynllunio i'r Goron) yn cael ei chychwyn. Mae adran 30B yn ei gwneud yn ofynnol i gais gael ei wneud am yr hyn a fernir yn ganiatâd sylweddau peryglus yn y ffurf ragnodedig a chan gynnwys yr wybodaeth ragnodedig. Mae hefyd yn darparu y gall yr hyn a fernir yn ganiatâd fod yn ddarostyngedig i amodau penodol — gan gynnwys unrhyw amod sy'n rhagnodedig. Yn unol â hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1992 (O.S. 1992/656) er mwyn rhagnodi ffurf a chynnwys y cais a'r amodau y bydd yr hyn a fernir yn ganiatâd yn ddarostyngedig iddynt (rheoliad 3).

Yn rhinwedd erthygl 3 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), ynghyd ag adran 118(3) o Ddeddf 2004, mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol yn y materion hyn bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ni luniwyd asesiad effaith reoleiddiol lawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'r offeryn yn effeithio o gwbl ar gostau busnesau, elusennau, cyrff gwirfoddol na'r sector cyhoeddus.


Notes:

[1] 1990 p. 9. Mewnosodwyd adran 82B gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5), adran 83(1). Gweler adran 91 i gael ystyr "prescribed".back

[2] 1990 p.10. Mewnosodwyd adran 30B gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004, adran 79(3). Gweler adran 39(2) i gael ystyr "prescribed".back

[3] Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a Deddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 i"r graddau yr maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 ac Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel y"u hestynnwyd gan adran 118(3) o Ddeddf 2004.back

[4] O.S. 1990/1519.back

[5] Mewnosodwyd adran 82B gan Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p. 5), adran 83(1).back

[6] O.S. 1992/656. Gwnaed diwygiadau perthnasol gan O.S. 1999/981.back

[7] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091351 5


 © Crown copyright 2006

Prepared 20 June 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061388w.html