BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Dros Dro) ( Amgylchiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 Rhif 1706 (Cy.168)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061706w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 1706 (Cy.168)

TAI, CYMRU

Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Dros Dro) ( Amgylchiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 27 Mehefin 2006 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(5)(a) a (6) o Ddeddf Tai 2004[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tai (Gorchmynion Rheoli Dros Dro) (Amgylchiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 30 Mehefin 2006.

    (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dai yng Nghymru y mae adran 103 o Ddeddf Tai 2004 ("y Deddf") yn gymwys iddynt[
2].

Amgylchiadau rhagnodedig ar gyfer awdurdodi gorchmynion rheoli dros dro y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddynt
     2. —(1) Mae'r amgylchiadau a ganlyn yn amgylchiadau a ragnodwyd at ddibenion adran 103[3] o'r Ddeddf—

    (2) Yn yr erthygl hon nid yw "landlord yn y sector breifat" yn cynnwys landlord cymdeithasol cofrestredig yn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Tai 1996[4]



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Deddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Mehefin 2006



EXPLANATORY NOTE

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r categori o amgylchiadau y mae angen eu bodloni cyn y gall tribiwnlys eiddo preswyl awdurdodi awdurdod tai lleol i wneud gorchymyn rheoli dros dro mewn perthynas â thŷ y mae adran 103 o Ddeddf Tai 2004 ("y Ddeddf") yn gymwys iddo.

Gorchymyn a wneir gan awdurdod tai lleol mewn perthynas â thŷ amlfeddiannaeth fel y'i diffinnir yn adrannau 254 i 259 o'r Ddeddf neu mewn perthynas â thŷ y mae Rhan 3 o'r Ddeddf yn gymwys iddo yw gorchymyn rheoli dros dro. Mae adran 102 o'r Ddeddf yn disgrifio'r amgylchiadau pan fo raid i'r awdurdod tai lleol wneud gorchymyn rheoli dros dro a'r amgylchiadau pan fo ganddo ddisgresiwn i wneud hynny. Rhaid i dribiwnlys eiddo preswyl awdurdodi gwneud gorchymyn o'r fath dan ddisgresiwn.

Mae adran 103 yn gwneud darpariaeth arbennig ynglŷn â thŷ a feddiennir naill ai o dan denantiaeth neu drwydded unigol nad yw'n denantiaeth neu'n drwydded esempt o dan adran 79(3) neu (4) o'r Ddeddf, neu a feddiennir o dan ddwy neu fwy o denantiaethau neu o drwyddedau mewn perthynas â gwahanol anheddau o'i fewn, heb fod yr un ohonynt yn denantiaeth esempt o dan adran 79(3) neu (4) o'r Ddeddf.

O dan adran 103(2) ni chaiff tribiwnlys eiddo preswyl awdurdodi awdurdod tai lleol i wneud gorchymyn rheoli dros dro mewn perthynas â thŷ o'r fath onid yw'r amodau a gynhwysir yn adrannau 103(3) a (4) o'r Ddeddf yn cael eu bodloni.

Yr amod yn adran 103(3) yw bod yr amgylchiadau ynglŷn â'r tŷ yn disgyn o fewn categori o amgylchiadau a ragnodwyd. Yr amod yn adran 103(4) yw bod angen gwneud gorchymyn at ddibenion gwarchod iechyd, diogelwch neu les personau sy'n meddiannu'r tŷ neu sy'n ymweld ag ef neu sy'n ymwneud mewn modd arall â gweithgareddau cyfreithlon yng nghyffiniau'r tŷ.

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhagnodi'r amgylchiadau at ddibenion yr amod yn adran 103(3). Yr amodau hynny yw bod yr ardal y mae'r tŷ wedi ei leoli ynddi yn profi problem sylweddol a chyson sy'n cael ei hachosi gan ymddygiad gwrth-gymdeithasol, ac y gellir priodoli'r broblem, yn gyfangwbl neu'n rhannol, i un sy'n meddiannu'r tŷ, a bod y landlord yn landlord yn y sector breifat a'i fod yn methu â chymryd camau y byddai'n briodol i'r landlord eu cymryd i wrthsefyll y broblem.

Mae arfarniad rheoliadol llawn o'r effeithiau y bydd y Gorchymyn hwn yn ei gael ar gael oddi wrth Uned y Sector Breifat, Yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ; (ffôn:-02920825111);

(
e-bost:—[email protected]).


Notes:

[1] 2004 p. 34. Mae'r pwerau a roddir gan adran 103(5) o'r Ddeddf yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac, o ran Lloegr, gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler y diffiniad o "the appropriate national authority" ("yr awdurdod cenedlaethol priodol") yn adran 261(1).back

[2] Gweler adran 103(1) o Ddeddf Tai 2004. Am ystyr "house" ("tŷ") gweler adrannau 103(7) a 99 o'r Ddeddf.back

[3] Am ystyr "anti-social behaviour" (ymddygiad gwrth-gymdeithasol) gweler adran 57(5) o'r Ddeddf.back

[4] 1996 p. 52.back

[5] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 091370 1


 © Crown copyright 2006

Prepared 7 July 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20061706w.html