BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006 Rhif 2840 (Cy.256)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062840w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2840 (Cy.256)

GWASANAETHAU CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 25 Hydref 2006 
  Yn dod i rym 1 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 57(1), (3), (6) a (7) a 64(6) o Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001[1] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Tachwedd 2006.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiadau i Reoliadau 2004
    
2. Diwygir Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004[2] fel a ganlyn—



Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

25 Hydref 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004 ("Rheoliadau 2004").

Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliad 3 o Reoliadau 2004 er mwyn darparu bod pob person y mae awdurdodau lleol Cymru wedi penderfynu darparu gwasanaethau gofal yn y gymuned iddo yn berson rhagnodedig at ddibenion Rheoliadau 2004.

Mae Rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliad 5 o Reoliadau 2004 gyda'r effaith bod rhaid i'r awdurdodau lleol wneud taliadau uniongyrchol, yn hytrach na darparu gwasanaethau'n uniongyrchol, i bob person rhagnodedig o dan reoliad 3 os yw'r person hwnnw wedi cytuno i dderbyn taliadau o'r fath ac nad yw wedi ei eithrio fel arall rhag eu derbyn o dan Reoliadau 2004.


Notes:

[1] 2001 p.15. Mae adran 66 o Ddeddf 2001 yn diffinio "rheoliadau" fel "rheoliadau wedi'u gwneud gan yr awdurdod perthnasol" a'r "awdurdod perthnasol" fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru (a'r Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr). Gweler adran 57(8) o Ddeddf 2001 i gael y diffiniad o "prescribed".back

[2] O.S. 2004/1748back

[3] 1998 p. 38.back



English version



ISBN 0 11 091421 X


 © Crown copyright 2006

Prepared 1 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062840w.html