BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 2928 (Cy.263)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062928w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 2928 (Cy.263)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 8 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 17 Tachwedd 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 68(1), 69(1), 74(1) a 74A o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970[1].

Bu ymgynghori agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[2] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

Enwi, cymhwyso a chychwyn
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) (Diwygio) 2006, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 17 Tachwedd 2006.

Diwygiadau i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006
    
2. —(1) Diwygir Rhan I o Atodlen 3 i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006[3] yn unol â pharagraffau (2) i (4).

    (2) Ar ôl paragraff (18), mewnosoder y paragraff a ganlyn-

    (3) Ym mharagraff 23(1), hepgorer y geiriau "and by paragraph 19 of Schedule 4 to the 2001 Regulations".

    (4) Ym mharagraff 26, yn lle'r ymadrodd "under paragraph 25 above or under paragraph 19 of Schedule 4 to the 2001 Regulations" rhodder "under paragraphs 18A or 25 above".

Dirymiadau
     3. Dirymir y darpariaethau canlynol—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

8 Tachwedd 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


    
1. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 (OS 2006/116 (Cy.14)) ("Rheoliadau 2006") drwy fewnosod ynddynt ddarpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y ganran o bob deunydd bwyd anifeiliaid a gaiff ei gynnwys mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd i'w ddatgan, gyda goddefiant heb fod yn fwy na ±15% , ar label y bwyd anifeiliaid cyfansawdd neu ar ddogfen sy'n mynd gyda'r bwyd anifeiliaid, (rheoliad 2(2)). Cynhwysid y ddarpariaeth hon yn flaenorol yn Rheoliadau Porthiant (Cymru) 2001 (OS 2001/343 (Cy.15)) fel y'i diwygiwyd gan OS 2003/1850 (Cy.200) ("Rheoliadau 2001") (rheoliad 3).

    
2. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu darpariaeth yn Rheoliadau 2001 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod union ganran pob deunydd bwyd anifeiliaid mewn bwyd anifeiliaid cyfansawdd i'w datgelu i gwsmeriaid sy'n gofyn hynny (rheoliad 4).

    
3. Rhoddwyd ar waith, o ran Cymru, gan ddarpariaethau Rheoliadau 2001, y cyfeirir atynt ym mharagraffau 1 a 2 uchod, Erthygl 1.4 ac Erthygl 1.1(b), yn y drefn honno, o Gyfarwyddeb 2002/2/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diwygio Cyfarwyddeb y Cyngor 79/373/EEC ar gylchrediad bwydydd anifeiliaid cyfansawdd (OJ Rhif L63, 6.3.2002, t.23).

    
4. Yn sgil rhoi'r Erthyglau ar waith, ataliwyd y darpariaethau dros dro drwy orchymyn yr Uchel Lys hyd oni fyddai canlyniad achos a gyfeiriwyd at Lys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) yn hysbys. Yn ystod cyfnod atal y darpariaethau dros dro, dirymwyd y cyfan o Reoliadau 2001 ac eithrio'r darpariaethau a ataliwyd dros dro a rhoddwyd Rheoliadau 2006 yn eu lle.

    
5. Yn ei ymateb yn sgil cyfeirio'r achos ato mae'r ECJ yn awr wedi dyfarnu bod Erthygl 1.4 o Gyfarwyddeb 2002/2/EC yn ddilys yn gyfreithiol, ond nad yw Erthygl 1.1(b) yn ddilys yn gyfreithiol.

    
6. Cafodd asesiad rheoliadol llawn o'r effaith a fydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.


Notes:

[1] 1970 p.40. Trosglwyddwyd swyddogaethau "the Secretary of State", i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Cafodd adran 74A ei mewnosod gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p. 68), Atodlen 4, paragraff 6.back

[2] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back

[3] O.S. 2006/116 (Cy.14)back

[4] O.S. 2001/343 (Cy.15). Yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2003/1850 (Cy.200).back

[5] O.S. 2003/1850 (Cy.200).back

[6] 1998 p.38.back



ISBN 0 11 091433 3


 © Crown copyright 2006

Prepared 17 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20062928w.html