BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006 Rhif 3101 (Cy.285)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063101w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3101 (Cy.285)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006

  Wedi'u gwneud 21 Tachwedd 2006 
  Yn dod i rym 1 Rhagfyr 2006 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 1 Rhagfyr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005[3].

Diwygio Rheoliad 2(1) o'r prif Reoliadau
     3. Mae Rheoliad 2(1) wedi'i ddiwygio yn unol â pharagraffau (a) — (ch)—

Diwygio rheoliad 6 o'r prif Reoliadau
     4. Yn Rheoliad 6(5) o'r prif Reoliadau, yn lle'r geiriau "31 Ionawr" rhodder y geiriau "9 Chwefror".

Diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau
    
5. —(1) Mae Atodlen 1 i'r prif Reoliadau wedi'i diwygio'n unol â pharagraffau (2) i (8):

    (2) Ar ôl paragraff 7(3) mewnosoder—

    (3) Ym mharagraff 9 yn lle'r Rhif "15" , rhodder y Rhif "17".

    (4) Ym mharagraff 11(2), yn lle'r gair "baragraff" rhodder y gair "is-baragraff".

    (5) Ym mharagraff 12 rhodder "12(1)" yn lle "12" ac ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder y canlynol —

    (6) Ym mharagraff 13, mae is-baragraff (4) wedi'i ddileu.

    (7) Ym mharagraff 14(2)(a), yn lle'r geiriau "baragraffau 11(3) a 13(4)" rhodder y geiriau "baragraff 11(3)".

    (8) Ar ôl paragraff 15, ychwaneger y canlynol —



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[12].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Tachwedd 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn sy'n gymwys o ran Cymru yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Neilltir) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/45, Cy.4) ("y prif Reoliadau").

Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth yng Nghymru i weinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L. 270, 21.10.2003, t.1) ("Rheoliad y Cyngor"), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L. 141, 30.4.2004, t.1) a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 (O.J. Rhif L. 345, 20.11.2004, t.1) ynglŷn â'r rhwymedigaeth i neilltuo tir o dan y Cynllun Taliad Sengl ar gyfer ffermwyr ("y Cynllun"). Daeth y Cynllun i rym ar 1 Ionawr 2005.

Yn benodol, mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 i'r prif Reoliadau, o ran y cyflyrau amaethyddol ac amgylcheddol da sy'n gymwys i dir sydd wedi'i neilltuo o dan y Cynllun hwn, fel a ganlyn —


Notes:

[1] O.S. 2005/2766.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 2005/45.back

[4] O.J. Rhif L236, 31.08.2006, t. 20.back

[5] O.J. Rhif L227 19.08.2006, t.23.back

[6] O.J. Rhif L175, 29.06.2006, t.1.back

[7] O.S. 2005/3367 (Cy.264).back

[8] O.J. Rhif L198, 22.7.1991, t. 1 — 15.back

[9] O.J. Rhif L137, 25.5.2006, t. 9 — 14.back

[10] O.S. 1986/1510.back

[11] O.S. 2005/1435.back

[12] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091454 6


 © Crown copyright 2006

Prepared 30 November 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063101w.html