BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2006 Rhif 3316 (Cy.301)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063316w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3316 (Cy.301)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 12 Rhagfyr 2006 
  Yn dod i rym 30 Mehefin 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 10(3), (4)(b) a (5) a 93(1)(b) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[1], ac sydd bellach yn arferadwy o ran Cymru gan Gynulliad Cenedlaethol[2], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Diwygio) (Cymru) 2006.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2007.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
    
2. Ar ôl rheoliad 3A (datganiadau dylunio a mynediad) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[3], mewnosoder—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Rhagfyr 2006



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)


Mae rheoliad 3 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 ("Rheoliadau 1990") yn gwneud darpariaeth o ran ceisiadau i awdurdodau cynllunio lleol ar gyfer cydsyniad adeilad rhestredig neu gydsyniad ardal gadwraeth.

Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod rheoliad 3B newydd i Reoliadau 1990. Mae erthygl 3B newydd yn gymwys o ran Cymru ac mae'n darparu o ran y gofyniad i ddatganiadau mynediad fynd gyda cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig. Mae'r ddarpariaeth newydd o ganlyniad i adran 42 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 a fewnosododd y gofyniad "datganiadau mynediad" yn Neddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.


Notes:

[1] 1990 p.9. Diwygiwyd adran 10 gan adran 42(6) i (8) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5). Gweler adran 91(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 i gael y diffiniad o "prescribed".back

[2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672). Gweler y cofnod ar gyfer Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 yn Atodlen 1 i Orchymyn 1999 fel y'i diwygiwyd gan adran 118(3) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.back

[3] O.S. 1990/1519, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r offeryn hwn.back

[4] Gweler adran 38(4) o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (p.5) i gael ystyr "development plan" a'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn erthygl 3 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref a Phrynu Gorfodol 2004 (Cychwyn Rhif 6, Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2005 (O.S. 2005/2847) (C.118).back

[5] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091474 0


 © Crown copyright 2006

Prepared 20 December 2006


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063316w.html