BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 Rhif 3342 (Cy.303)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063342w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2006 Rhif 3342 (Cy.303)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006

  Wedi'u gwneud 13 Rhagfyr 2006 
  Yn dod i rym 1 Ionawr 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran 2(2) a enwyd, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorthdaliadau a Grantiau Amaethyddol (Apelau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ionawr 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —

Darparu gweithdrefn apelio
    
3. —(1) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol sefydlu gweithdrefn neu weithdrefnau er mwyn ystyried penderfyniad perthnasol ymhellach, a hynny ar ran y Cynulliad Cenedlaethol, a bydd y weithdrefn honno neu'r gweithdrefnau hynny yn gweithio fel apêl yn erbyn y penderfyniad perthnasol dan sylw.

    (2) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlir yn unol â pharagraff (1) osod unrhyw ddyddiadau cau y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn eu hystyried yn angenrheidiol er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ffermwr gyflwyno iddo wybodaeth a dogfennau sy'n gymwys ac i roi hysbysiad o'i fwriad i apelio yn erbyn penderfyniad perthnasol.

    (3) Caiff unrhyw weithdrefn a sefydlir o dan baragraff (1) ddarparu ar gyfer apelio ar lafar neu'n ysgrifenedig i'r personau hynny y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu penodi at y diben hwnnw (heb fod mwy na thri ohonynt), gyda'r bwriad eu bod yn llunio adroddiad o'u casgliadau a'u hargymhellion o ran sut y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar yr apêl.

    (4) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn sefydlu unrhyw weithdrefn o'r fath a grybwyllir ym mharagraff (3), caiff—

Diwygio
    
4. —(1) Dileer y darpariaethau a ganlyn —

Dirymiadau
     5. Dirymir Rheoliadau Cynllun y Taliad Sengl ac Amrywiol Gynlluniau Cymorth Uniongyrchol (Apelau) (Cymru) 2004[17]) drwy hyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[18].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 December 2006



YR ATODLEN
Rheoliad 2


YSTYR "Y DDEDDFWRIAETH GYMUNEDOL"


     1. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1083/2006 dyddiedig 11 Gorffennaf 2006 yn gosod darpariaethau cyffredinol Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a'r Gronfa Gydlyniant ac yn diddymu Rheoliad (EC) 1260/1999.

     2. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1698/2005 dyddiedig 20 Medi 2005 ar gefnogi datblygiad gwledig gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig (EAFRD).

     3. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1290/2005 dyddiedig 21 Mehefin 2005 ar gyllido'r polisi amaethyddol cyffredin.

     4. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796/2004 dyddiedig 21 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer traws-gydymffurfio, modiwleiddio a'r system integredig gweinyddu a rheoli y darperir ar eu cyfer yn Rheoliad y Cyngor Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.

     5. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 795/2004 dyddiedig 21 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer gweithredu cynllun y taliad sengl y darperir ar ei gyfer yn Rheoliad y Cyngor Rhif 1782/2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr.

     6. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 dyddiedig 29 Medi 2003 sy'n sefydlu rheolau cyffredin ar gyfer cynlluniau cymorth uniongyrchol o dan y polisi amaethyddol cyffredin ac yn sefydlu cynlluniau cymorth penodol i ffermwyr ac yn diwygio Rheoliadau (EEC) Rhif 2019/93, (EC) Rhif 1452/2001, (EC) Rhif 1453/2001, (EC) Rhif 1454/2001, (EC) Rhif 1868/94, (EC) Rhif 1251/1999, (EC) Rhif 1254/1999, (EC) Rhif 1673/2000, (EEC) Rhif 2358/71 ac (EC) Rhif 2529/2001.

     7. Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 dyddiedig 17 Mai 1999 ar gymorth ar gyfer cefnogi datblygu gwledig gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop (EAGGF) ac yn diwygio a diddymu Rheoliadau penodol.

     8. Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1973/2004 dyddiedig 29 Hydref 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1782/2004 parthed y cynlluniau cymorth y darperir ar eu cyfer yn nheitlau IV a IVa o'r Rheoliad hwnnw a'r defnydd o dir sydd wedi ei neilltuo ar gyfer cynhyrchu defnyddiau crai.

     9. Rheoliad y Cyngor (EEC) 2078/92 dyddiedig 30 Mehefin 1992 ar ddulliau cynhyrchu amaethyddol sy'n gydnaws â gofynion diogelu'r amgylchedd a chynhaliaeth cefn gwlad.

     10. Rheoliad y Comisiwn (EC) 817/2004 dyddiedig 29 Ebrill 2004 yn gosod rheolau manwl ar gyfer cymhwyso Rheoliad y Cyngor 1257/1999 ar gymorth ar gyfer datblygu gwledig gan Gronfa Cyfarwyddo a Gwarantu Amaethyddiaeth Ewrop.



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i sefydlu gweithdrefn apelio i ffermwyr sy'n gwrthwynebu ei benderfyniadau mewn cysylltiad â chyllido elfennau penodol o'r polisi amaethyddol cyffredin a chynlluniau sy'n gysylltiedig ag ef.

Mae rheoliad 2 yn cynnwys darpariaethau dehongli ac, yn benodol, mae'n gosod y ddeddfwriaeth Gymunedol berthnasol y dichon y gweithdrefnau apelau fod yn gymwys iddynt.

Mae rheoliad 3 yn galluogi'r Cynulliad i sefydlu un neu fwy o weithdrefnau apelau. Mae'n darparu y caiff unrhyw weithdrefn apelau a sefydlir yn y modd hwn fod ar ffurf cyflwyniadau llafar neu ysgrifenedig i bersonau a benodir gan y Cynulliad Cenedlaethol gyda'r bwriad iddynt wneud argymhelliad i'r Cynulliad Cenedlaethol ar sut y dylid penderfynu'n derfynol ar y mater; ac y caiff y Cynulliad dalu taliadau a lwfansau i unrhyw berson o'r fath a benodir ac i godi ffi (heb fod yn uwch na £100), o ran costau'r weithdrefn.

Mae rheoliad 4 a 5, yn eu tro, yn diwygio a dirymu deddfwriaeth gynharach, er mwyn galluogi i'r drefn apelau a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn gael ei hymestyn i faterion oedd yn ddarostyngedig i'r ddeddfwriaeth honno.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau ohono gan Adran Amgylchedd. Cynllunio a Chefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.


Notes:

[1] O.S 2005/2766.back

[2] 1972 p.68.back

[3] O.S. 1987/2026.back

[4] O.S. 1994/239.back

[5] O.S. 1994/238.back

[6] O.S. 1993/1211.back

[7] O.S. 1993/1210.back

[8] O.S. 1987/2027.back

[9] O.S. 1994/3099.back

[10] O.S. 1994/3101.back

[11] O.S. 1994/3102.back

[12] O.S. 1994/3100.back

[13] O.S. 1997/829.back

[14] O.S. 1988/1291.back

[15] O.S. 1992/905.back

[16] O.S. 2001/2537 (Cy.212).back

[17] O.S. 2004/2919 (Cy.258).back

[18] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091482 1


 © Crown copyright 2006

Prepared 8 January 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2006/20063342w.html