BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Amrywiol Ynghylch Nyrsys Sy'n Rhagnodi'n Annibynnol, Rhagnodwyr Atodol, Nyrsys-ragnodwyr Annibynnol a Fferyllwyr-ragnodwyr Annibynnol) (Cymru) 2007 Rhif 205 (Cy.19)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070205w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 205 (Cy.19)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Amrywiol Ynghylch Nyrsys Sy'n Rhagnodi'n Annibynnol, Rhagnodwyr Atodol, Nyrsys-ragnodwyr Annibynnol a Fferyllwyr-ragnodwyr Annibynnol) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 30 Ionawr 2007 
  Yn dod i rym 1 Chwefror 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau'n arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 28V, 41, 42, 43, 77 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygiadau Amrywiol Ynghylch Nyrsys Sy'n Rhagnodi'n Annibynnol, Rhagnodwyr Atodol, Nyrsys-ragnodwyr Annibynnol a Fferyllwyr-ragnodwyr Annibynnol) (Cymru) 2007.

    (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Chwefror 2007.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

    (4) Yn y Rheoliadau hyn—

Diwygio'r Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar
     2. —(1) Diwygir rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn lle'r diffiniad o "nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol" rhodder—

    (3) Yn lle'r diffiniad o "cofrestr proffesiwn nyrsys a bydwragedd" rhodder—

    (4) Yn lle'r diffiniad o "rhagnodydd atodol" rhodder—

    (5) Yn y safleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau canlynol—

    (6) Yn y diffiniad o "rhagnodydd" ("prescriber"), hepgorer y gair "ac" sy'n dod ar ôl y geiriau "nyrs annibynnol sy'n rhagnodi" a mewnosoder ar ôl y geiriau "rhagnodydd atodol;"—

Diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol 1992.
     3. —(1) Diwygir Rheoliad 2(1) o Reoliadau Gwasanaethau Fferyllol 1992 yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

    (2) Yn lle'r diffiniad o "independent nurse prescriber" rhodder—

    (3) Yn lle'r diffiniad o "nurses and midwives' professional register" rhodder—

    (4) Yn lle'r diffiniad o "supplementary prescriber" rhodder—

    (5) Yn y safleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder y diffiniadau canlynol—

    (6) Yn y diffiniad o "prescriber" ar ôl y geiriau "an independent nurse prescriber" mewnosoder y canlynol ", a nurse independent prescriber, a pharmacist independent prescriber".

Diwygio rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Contractau GMS Cymru
    
4. —(1) Diwygir Rheoliad 2(1) o'r Rheoliadau Contractau GMS Cymru yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Yn lle'r diffiniad o "independent nurse prescriber" rhodder—

    (3) Yn y safleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau canlynol—

    (4) Yn y diffiniad o "relevant register", ar ôl y geiriau "the Pharmacy (Northern Ireland) Order 1976;" mewnosoder y canlynol—

    (5) Yn y diffiniad o "prescriber", ym mharagraff (b) dileer y gair "and", ac ar ôl paragraff "(c) supplementary prescriber," mewnosoder—

Diwygio Atodlen 6 i'r Rheoliadau Contractau GMS Cymru
    
5. —(1) Diwygir Atodlen 6 (amodau contract eraill) i'r Rheoliadau Contractau GMS Cymru yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

    (2) Ym mharagraff 49(3) a (4) (amodau sy'n berthnasol i ddarparu gwasanaethau gweinyddu) ar ôl "independent nurse prescriber", ym mhob man y ceir y geiriau hynny, mewnosoder ", nurse independent prescriber, a pharmacist independent prescriber or a supplementary prescriber whose name is registered in the Nursing and Midwifery Register and against whose name is recorded in that register an annotation or entry signifying that he or she is qualified to order drugs, medicines and appliances as a supplementary prescriber".

    (3) Ym mharagraff 64(1) a (2) (sy'n ymwneud â nyrsys sy'n rhagnodi'n annibynnol a rhagnodwyr atodol), ar ôl "independent nurse prescriber", ym mhob man y ceir y geiriau hynny, mewnosoder ", a nurse independent prescriber, a pharmacist independent prescriber".

    (4) Yn y pennawd i baragraff 64, ar ôl "independent nurse prescribers" mewnosoder ", nurse independent prescribers, pharmacist independent prescribers".



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
9]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Ionawr 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau i'r setiau canlynol o Reoliadau:

    
1. Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar");

    
2. Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) 1992 ("y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol"); a

    
3. Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004 ("y Rheoliadau Contractau GMS").

Mae angen y newidiadau o ganlyniad i ychwanegu dau gategori newydd o ragnodwyr at Orchymyn Meddyginiaethau drwy Bresgripsiwn yn Unig (I'w Defnyddio gan Bobl) 1997 ("y Gorchymyn POM").

Y ddau gategori newydd yw: nyrsys-ragnodwyr annibynnol a fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol.

Caiff nyrsys-ragnodwyr annibynnol ragnodi'n unol ag Erthygl 3A o'r Gorchymyn POM. Caiff fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol ragnodi'n unol ag Erthygl 3B(2)(c) o'r Gorchymyn POM.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd nyrs yng Nghymru, sydd wedi'i chofrestru yn y Gofrestr Nyrsio a Bydwreigiaeth, yn gallu rhagnodi fel nyrs-ragnodydd annibynnol pan fydd wedi llwyddo mewn cwrs a achredwyd. Bydd fferyllydd yn gallu rhagnodi fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol ar yr amod y bydd y gofrestr fferyllol berthnasol yn dangos ei fod wedi cymhwyso i archebu cyffuriau, meddyginiaethau a chyfarpar fel fferyllydd-ragnodydd annibynnol.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru'r diffiniad o "supplementary prescriber" a geir yn y Rheoliadau Gwasanaethau Fferyllol a "rhagnodydd atodol" a geir yn y Rheoliadau Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar i gynnwys optometryddion. Mae optometryddion eisoes yn gynwysedig yn y diffiniad o ragnodydd atodol yn y Rheoliadau Contractau GMS Cymru.

Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diweddaru'r diffiniad o "nyrs sy'n rhagnodi'n annibynnol".


Notes:

[1] 1977 p.49; mewnosodwyd adran 28V gan adran 175(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43) ("Deddf 2003"); amnewidiwyd adran 41 gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15) ("Deddf 2001") ac fe'i diwygiwyd gan Atodlen 11, paragraffau 7, 18(1), (2) a (3) o Ddeddf 2003, gan O.S. 2003/1590 ac O.S. 2005/2011; amnewidiwyd adran 42 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Diwygio) 1986 (p.66), adran 3(1); fe'i hestynnwyd gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 17; ac fe'i diwygiwyd gan O.S.1987/2202, erthygl 4; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 12(3); gan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), Atodlen 1, paragraff 30; gan Ddeddf 2001, adrannau 20(6), 43(2), (3) a (4) a chan Atodlen 6, Rhan 1; a chan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002, Atodlen 2, paragraff 17; diwygiwyd adran 43 gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 31; gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 21(2); gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997, adran 29(1) ac Atodlen 2, paragraffau 3 ac 14; gan Ddeddf 1990, Atodlen 9, paragraff 18(2) a chan Ddeddf 2001, adrannau 20(1) a (7), 42(2) a 43(5); diwygiwyd adran 77 gan Ddeddf 2003, Atodlen 11, paragraffau 7 a 28; diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 37(6). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672.back

[2] O.S.2004/478 (Cy.48); yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2006/358 (Cy.46).back

[3] O.S. 2001/1358 (Cy.86); yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2003/2624 (Cy.252), 2004/1018 (Cy.115), 2004/1771, 2005/1915 (Cy.158).back

[4] O.S. 1992/662; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S.1996/698, 1998/681, 1999/696, 2001/1396 (Cy.91), 2002/3189 (Cy.305), 2003/2624 (Cy.252) a 2005/1013 (Cy.67).back

[5] O.S. 2001/253.back

[6] 1954 p.61.back

[7] O.S. 1976/1213.back

[8] O.S. 1997/1830, yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 2006/915back

[9] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091496 1


 © Crown copyright 2007

Prepared 7 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070205w.html