BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007 Rhif 375 (Cy.35)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070375w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 375 (Cy.35)

ARBED YNNI, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 13 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 14 Chwefror 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol gan arfer y pŵer a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 15 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990[1], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 14 Chwefror 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Darpariaethau Dirymu a Darpariaethau Trosiannol
     3. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau 2000.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae Rheoliadau 2000 yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw achos pan fo cais am grant wedi'i wneud cyn 14 Chwefror 2007 o dan Rheoliadau hynny.

    (3) Os yw person wedi gwneud cais am grant o dan Reoliadau 2000 ond nad yw'r cais wedi'i gymeradwyo neu ei wrthod cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, neu os yw'r cais wedi'i gymeradwyo ond na ddechreuwyd ar yr un o'r gweithfeydd, rhaid i'r asiantaeth ardal, pan fydd y ceisydd yn gofyn am hynny, ymdrin â'r cais fel pe byddai wedi'i wneud o dan y Rheoliadau hyn.

Pwerau'r Cynulliad
    
4. —(1) Caiff y Cynulliad benodi un person neu fwy, a phob un o'r cyfryw bersonau i'w alw'n asiantaeth ardal, i gyflawni o ran Cymru neu o ran unrhyw ardal o Gymru y cyfryw swyddogaethau ag y byddo'r Cynulliad yn eu pennu at ddiben dyfarnu grantiau a threfnu i gyflawni'r gweithfeydd o dan HEES a HEES a Mwy neu mewn cysylltiad mewn ffordd arall â hynny.

    (2) Caiff y Cynulliad ddwyn i ben benodiad o dan baragraff (1).

    (3) Wrth ddyfarnu grant neu drefnu ar gyfer ei ddyfarnu, caiff y Cynulliad osod y cyfryw amodau ag y gwêl yn dda.

    (4) Pan fydd y Cynulliad wedi gwneud trefniant gyda pherson heblaw'r ceisydd, ar gyfer ariannu gweithfeydd y mae grant yn daladwy mewn cysylltiad â hwy, caiff dalu'r cyfan neu ran o unrhyw grant i'r person arall hwnnw.

Personau a gaiff wneud cais am grant
    
5. —(1) Caniateir i gais gweithfeydd am grant o dan HEES mewn cysylltiad ag annedd gael ei ystyried os y person y daw'r cais oddi wrtho yw deiliad yr annedd a'i fod yn meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac os yw ar yr adeg y gwneir y cais—

    (2) Caniateir i gais gweithfeydd am grant o dan HEES a Mwy mewn cysylltiad ag annedd gael ei ystyried os y person y daw'r cais oddi wrtho yw deiliad yr annedd a'i fod yn meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac os yw ar yr adeg y gwneir y cais—

    (3) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fudd-dal y dreth gyngor, budd-dal tai a chymhorthdal incwm (bob un ohonynt fel y darperir ar eu cyfer yn Rhan VII o Ddeddf 1992) ac i lwfans ceiswyr gwaith ar sail incwm (o fewn yr ystyr yn Neddf Ceiswyr Gwaith 1995[9]).

    (4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i'r canlynol—

    (5) Caniateir ystyried cais am grant rhannol oddi wrth berson sydd wedi cyrraedd ei drigain oed neu sy'n byw gyda phartner sydd wedi cyrraedd ei drigain oed, a'r person neu'r partner hwnnw'n meddiannu'r annedd fel ei unig breswylfa neu ei brif breswylfa ac naill ai'n berchen ar rydd?ddaliad yr annedd neu â buddiant lesddaliadol ynddi o ddim llai nag 21 o flynyddoedd.

    (6) Yn achos anheddau amlfeddiannaeth, mae'r asiantaeth ardal i benderfynu nifer y deiliaid cymwys yn yr annedd sy'n destun cais. Os bydd nifer y deiliaid cymwys yn fwy na 50% o gyfanswm nifer y deiliaid yn yr annedd, caniateir i gais mewn cysylltiad â'r annedd gael ei ystyried.

    (7) At ddibenion y rheoliad hwn—

Y dibenion y caniateir cymeradwyo grant ar eu cyfer
     6. —(1) Caniateir cymeradwyo cais am grant at un neu fwy o'r dibenion a ganlyn—

    (2) Pan fydd cais wedi'i gymeradwyo at un neu fwy o'r dibenion a nodir ym mharagraff (1) caniateir hefyd gymeradwyo grant ar gyfer darparu unrhyw un neu rai o'r canlynol—

    (3) Nid oes unrhyw gais i'w gymeradwyo onid yw'r annedd a thestun pob categori o weithfeydd a grybwyllir yn y cais yn bodloni'r cyfryw amodau ag a bennir o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad.

    (4) Rhaid i bob gwaith gydymffurfio â'r cyfryw safonau ag a fyddo wedi'u pennu o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad a hynny o ran deunyddiau, crefftwaith, a pherfformiad testun y gwaith o ran effeithlonrwydd ynni.

    (5) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr "gwagle to" ("roof space") yw gwagle rhwng to annedd a nenfwd unrhyw ystafell a ddefnyddir at ddibenion llety preswyl neu sydd ar gael i'w defnyddio at y diben hwnnw, pan nad yw'r gwagle hwnnw wedi'i wahanu'n gyfan gwbl o'r to gan unrhyw ystafell arall.

Uchafswm y grant
     7. —(1) Ni chaiff asiantaeth ardal dalu cyfanswm grant mewn cysylltiad â chais gweithfeydd o dan HEES neu HEES a Mwy sy'n fwy na'r lleiaf o'r canlynol—

    (2) Caiff y Cynulliad benderfynu gwahanol uchafsymiau o dan baragraff (1)—

    (3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn, caiff asiantaeth ardal, gyda chydsyniad y Cynulliad, bennu—

ar gyfer unrhyw gategori neu gyfuniad o gategorïau o weithfeydd a gynhwysir o fewn y Cynllun HEES neu'r Cynllun HEES a Mwy.

    (4) Yn achos cais grant rhannol, 25% o'r uchafswm grant a benderfynir gan y Cynulliad mewn cysylltiad â HEES yw'r uchafswm grant y caniateir ei dalu i geisydd.

Ceisiadau am grant
    
8. —(1) Mae cais am grant i'w wneud i'r asiantaeth ardal ar gyfer yr ardal y mae'r annedd wedi'i lleoli ynddi.

    (2) Rhaid i gais fod yn gais ysgrifenedig, wedi'i lofnodi naill ai gan y ceisydd neu gan berson a bennir neu berson o ddisgrifiad a bennir gan yr asiantaeth ardal a rhaid iddo fod ar y cyfryw ffurf, yn ddarostyngedig i baragraff (3) o'r rheoliad hwn, ag a bennir gan yr asiantaeth ardal.

    (3) Rhaid i'r cais gynnwys y cyfryw fanylion ag a fyddo'n cael eu pennu o bryd i'w gilydd gan yr asiantaeth ardal gyda chydsyniad y Cynulliad a rhaid iddo gynnwys—



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
30].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae adran 15(1) o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1990 (fel y'i diwygiwyd gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996) yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddyfarnu, neu drefnu i ddyfarnu, grantiau tuag at gostau gwaith neu gyngor i wella inswleiddio thermol neu i leihau neu atal fel arall wastraff ynni mewn anheddau.

Mae pŵer yr Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adran hon bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999.

Mae Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000 ("Rheoliadau 2000") yn nodi'r cynlluniau ar gyfer darparu grantiau i bersonau ar incwm isel sy'n bersonau y mae ganddynt blant, neu sy'n bobl hŷn, yn bobl anabl neu'n bobl sy'n wael eu hiechyd. Roedd Rheoliadau 2000 yn darparu ar gyfer hawl i dderbyn grant, ar gyfer penderfynu gan y Cynulliad gategorïau'r gweithfeydd, y lefelau uchaf o grantiau sydd ar gael, at ba ddibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo, a'r dull o wneud cais am grant.

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau 2000 ac yn eu hailddeddfu gyda diwygiadau.

Mae rheoliad 3 yn cynnwys darpariaethau dirymu a darpariaethau trosiannol. Os yw person wedi gwneud cais o dan Reoliadau 2000, ac nad yw'r gweithfeydd wedi'u dechrau, caniateir ymdrin â'r cais yn unol â'r Rheoliadau hyn.

Yn rhinwedd adran 17 o Ddeddf Dehongli 1978, mae penderfyniadau a wneir o dan reoliad 7(2) o Reoliadau 2000 yn parhau i fod yn effeithiol fel pe baent wedi'u gwneud o dan reoliad 7(2) o'r Rheoliadau hyn.

Yn ychwanegol at fân ddiwygiadau a rhai drafftio, gwneir y newidiadau canlynol i sylwedd Rheoliadau 2000.

Mae rheoliad 5(1) yn cynnwys yn y rhestr o bersonau sy'n gymwys i wneud cais am grant Cynllun Effeithlonrwydd Ynni Cartref ("HEES") (a) unrhyw berson sy'n derbyn credyd treth plant a chredyd treth gwaith (y darperir ar eu cyfer gan Ddeddf Credydau Treth 2002) ac y mae ganddo incwm perthnasol sy'n llai na £15,460 a (b) person sy'n derbyn budd-dal, neu sy'n byw gyda phartner sy'n derbyn budd-dal, a hwnnw'n un o blith budd-daliadau penodol a phenodedig, ac sy'n fenyw feichiog, neu sy'n byw gyda phartner sy'n fenyw feichiog, y mae tystysgrif mamolaeth wedi'i rhoi mewn cysylltiad â hi.

Mae rheoliad 5(2) yn darparu bod y rhai sy'n 80 oed neu'n hŷn, neu sydd â phartneriaid sy'n 80 oed neu'n hŷn, yn gymwys i gael cymorth o dan HEES a Mwy.

Mae rheoliad 5(2) hefyd yn newid rhestr y personau sy'n gymwys i wneud cais am Grant HEES a Mwy er mwyn iddi gynnwys y rhai sy'n derbyn Credyd Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae'r Rheoliadau'n cyfeirio at "partner" yn lle "priod" ac mae rheoliad 5(7) yn darparu bod "partner" yn cynnwys partner sifil.

Mae rheoliad 6(1)(g) yn ymestyn rhestr y dibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo ar eu cyfer er mwyn iddi gynnwys systemau gwres canolog tanwydd solet a systemau sy'n cynhyrchu trydan.

Mae rheoliad 6(1)(i) yn ymestyn rhestr y dibenion y caiff grantiau eu cymeradwyo ar eu cyfer er mwyn iddi gynnwys systemau gwresogi aer a chynhesu dwr sy'n seiliedig ar ffynonellau ynni sy'n rhai adnewyddadwy.


Notes:

[1] 1990 p.27; diwygiwyd adran 15 gan adran 142 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 (p.53).back

[2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back

[3] 1992 p.4. Diwygiwyd Rhan VII (budd-daliadau cysylltiedig ag incwm) gan Ddeddf Credydau Treth 2002 (p. 21) adran 60. Mae diwygiadau niferus eraill i'r Ddeddf hon.back

[4] O.S. 2000/2959 (Cy. 190).back

[5] O.S.1976/615; diwygiwyd rheoliad 2(3) gan O.S. 1987/409 a 2001/2931.back

[6] O.S.1987/235; diwygiwyd rheoliad 2 gan O.S. 2001/2931.back

[7] 2002 p.21; mae adran 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer credyd treth plant a chredyd treth gwaith, ac mae adran 11 a rheoliad 9 o O.S. 2002/2005 fel y'u hamnewidir gan reoliad 8 o O.S. 2003/701 yn gwneud darpariaeth ar gyfer yr elfen anabledd. Diwygiwyd y Ddeddf ddiwethaf gan Ran 1 o Atodlen 2 i Ddeddf Budd-dal Plant 2005 (p.6).back

[8] 2002 p.16. Diwygiwyd y Ddeddf ddiwethaf gan O.S. 2006/343.back

[9] 1995 p.18 fel y'i diwygiwyd gan adran 254 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, a Rhan 7 o Atodlen 24 iddi.back

[10] Gweler adran 5 o Ddeddf Anafiadau a Chlefydau Diwydiannol (Hen Achosion) 1975 (p.16) a ddiddymwyd, gydag arbedion, gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol (Darpariaethau Canlyniadol) 1992 (p.6).back

[11] O.S. 1983/686; diwygiwyd erthyglau 14, 15 ac 16 gan O.S. 2001/420 ac erthygl 16 gan O.S. 1984/1675.back

[12] Diwygiwyd adran 71(3) gan adran 67(1) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p.30).back

[13] 1992 (p.5); diwygiwyd adran 139(11) gan adran 722 o Ddeddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p.1) ac Atodlen 6 iddi, a chan adran 254 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 a pharagraff 65 o Ran 4 o Atodlen 24 iddi.back

[14] O.S. 1983/883; diwygiwyd erthygl 10 gan O.S. 2005/851, 1996/1638 ac 1993/598.back

[15] 1917 p.51, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[16] O.S. 1983/883; ychwanegwyd erthygl 26A gan O.S. 1983/1116 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1983/1521, 1986/592, 1990/1308, 1991/766, 1992/710, 1995/766, 1997/286 a 2001/409.back

[17] O.S. 1983/686; ychwanegwyd erthygl 25A gan O.S. 1983/1164 ac fe'i diwygiwyd gan O.S. 1983/1540, 1986/628, 1990/1300, 1991/708, 1992/702, 1995/455, 1997/812 a 2001/420.back

[18] O.S. 2006/213.back

[19] O.S. 2006/214.back

[20] O.S. 2006/215.back

[21] O.S. 2006/216.back

[22] O.S. 1987/1967 fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S 2005/337.back

[23] 1976 p.80; mae adrannau 2 a 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer meddiannaeth warchodedig, ac adrannau 4 a 5 ar gyfer tenantiaeth statudol. Diwygiwyd adran 3 gan adran 76(3) o Ddeddf Tai 1980 (p.51) ac adran 81 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 ac Atodlen 8 iddi, adran 4 gan y darpariaethau hynny ac adran 155, a pharagraff 72 o Atodlen 23, i'r Ddeddf Rhenti 1977 (p. 42) ac adrannau 39 a 140 o Ddeddf Tai 1988 (p. 50) ac Atodlen 4 (Rhan II) ac Atodlen 18 iddi, a diwygiwyd adran 5 ddiwethaf gan adrannau 128 a 137 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16), ac Atodlen 6 iddi. Gwnaed diwygiadau eraill i Ddeddf 1976 nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back

[24] 1977 p.42, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan baragraff 94 o Ran 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Diwygio Cyfraith Gyfansoddiadol 2005 (p.4).back

[25] 1985 p.68, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S. 2005/1379.back

[26] 1996 p.52, fel y'i diwygiad ddiwethaf gan adran 179 o Ddeddf Tai 2004 (p.34).back

[27] 1985 p.68; amnewidiwyd paragraff 12 o Atodlen 1 gan baragraff 12 o Atodlen 6 i Ddeddf Elusennau 1992 (p.41).back

[28] 1988 p.50, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan O.S 2005/1379.back

[29] 1976 p. 76back

[30] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091507 0


 © Crown copyright 2007

Prepared 20 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070375w.html