BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?

No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!



BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2007 Rhif 398 (Cy.44)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070398w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 398 (Cy.44)

COMISIYNYDD POBL HYN CYMRU, CYMRU

Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hyn Cymru 2007

  Wedi'u gwneud 14 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 16 Chwefror 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adrannau 5(4)(b) a 6(5), 8(1), (3) a (5), 10(1), (4), (5) a (9), 14(1), 15(1) a (3) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a pharagraffau 8 a 22 o Atodlen 1 iddi.



RHAN I

Cyffredinol

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007 a deuant i rym ar 16 Chwefror 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

    
2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn —

    (2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad —



RHAN II

Adolygiad o'r Trefniadau

Cyngor a chymorth a ragnodir
     3. Dyma'r math o gyngor a chymorth a ragnodir at ddibenion adran 5(4)(b) o'r Ddeddf —

Rhoi gwybodaeth gan bersonau rhagnodedig
    
4. —(1) Caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo roi gwybodaeth i'r Comisiynydd, wedi'i chofnodi ar unrhyw ffurf, y mae'r Comisiynydd o'r farn ei bod yn angenrheidiol neu'n hwylus ei chael at ddibenion —

    (2) Dyma'r personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) —

    (3) At ddibenion is-baragraffau (2)(b) ac (c) ystyr "person perthnasol" yw'r Cynulliad, unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf sy'n darparu gwasanaethau i berson hŷn yng Nghymru neu ar ei gyfer neu berson sy'n darparu'r cyfryw wasanaethau ar ran y person hwnnw neu o dan drefniant â'r person hwnnw.



RHAN III

Rhoi cymorth

Rhoi cymorth mewn achosion
    
5. —(1) Caiff y Comisiynydd, yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), roi cymorth i berson hŷn yng Nghymru —

    (2) Mae'r achosion a ragnodir at ddibenion adran 8(1)(e) o'r Ddeddf yn achosion sy'n ymwneud â'r canlynol —

    (3) Wrth benderfynu a ddylid rhoi cymorth, caiff y Comisiynydd gymryd i ystyriaeth y cymorth ariannol a'r cymorth arall sydd ar gael i'r person hŷn yng Nghymru mewn perthynas â'r achosion, y gŵyn neu'r sylwadau o dan sylw, gan gynnwys cymorth o dan Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999.

    (4) Nid yw'r rheoliad hwn yn effeithio ar y gyfraith a'r arferion ynghylch pwy gaiff gynrychioli person mewn perthynas ag unrhyw achos.

Amodau
    
6. —(1) Os bydd y Comisiynydd yn penderfynu darparu cymorth ariannol i berson hŷn yng Nghymru yn unol â rheoliad 5 gellir darparu'r cymorth yn ddarostyngedig i'r naill neu'r llall o'r amodau a bennir ym mharagraff (2) neu'n ddarostyngedig i'r ddau.

    (2) Dyma'r amodau —

    (3) At ddibenion paragraff (2)(a) nid yw'n berthnasol a yw'r symiau a delir gan bartïon eraill yn daladwy yn rhinwedd penderfyniad gan lys neu dribiwnlys, cytundeb a wnaed er mwyn osgoi achos neu er mwyn dod ag achos i ben, neu fel arall.



RHAN IV

Archwilio achosion

Archwiliadau
    
7. Yn ddarostyngedig i'r paragraffau canlynol yn y Rhan hon caiff y Comisiynydd archwilio achosion personau penodol sydd neu sydd wedi bod yn bobl hŷn yng Nghymru.

Achosion sy'n destun archwilio
    
8. Yn ddarostyngedig i reoliad 9, caiff y Comisiynydd archwilio achosion personau penodol sydd neu sydd wedi bod yn bobl hŷn yng Nghymru —

os yw'r achosion yn ymwneud â materion ynglŷn â darparu gwasanaethau o'r fath neu ag effaith arfer y swyddogaethau hynny ar y person a enwyd.

Yr amgylchiadau lle gellir gwneud archwiliad
    
9. Dim ond achos person penodol sydd neu sydd wedi bod yn berson hŷn yng Nghymru y caiff y Comisiynydd archwilio —

Y weithdrefn ar gyfer cynnal archwiliad
    
10. —(1) Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu cynnal archwiliad rhaid iddo —

    (2) Os yw'r Comisiynydd yn penderfynu peidio â chynnal archwiliad rhaid iddo baratoi datganiad o'r rhesymau am y penderfyniad hwnnw ac anfon copïau ohono —

Rhoi gwybodaeth mewn cysylltiad ag archwiliad
    
11. —(1) Wrth gynnal archwiliad caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol bod person y mae paragraff (3) yn gymwys iddo yn rhoi unrhyw wybodaeth sy'n ymddangos i'r Comisiynydd ei bod yn angenrheidiol at ddibenion —

    (2) Wrth gynnal archwiliad caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson y mae angen iddo roi gwybodaeth o dan baragraff (1) neu berson arall a gall fod yn atebol am y cyfryw wybodaeth, yn rhoi esboniad, neu gymorth i'r Comisiynydd o ran, —

    (3) Dyma'r personau y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt —

    (4) At ddibenion is-baragraffau 3(b) a (c) ystyr "person perthnasol" yw'r Cynulliad, unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf, unrhyw berson arall sy'n arfer swyddogaeth gan y Cynulliad neu unrhyw berson a grybwyllir yn y cyfryw Atodlen 2, neu unrhyw berson sy'n darparu gwasanaethau i bobl hŷn neu ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru ar ran unrhyw berson a grybwyllir yn Atodlen 3 i'r Ddeddf neu o dan drefniant ag ef.

Presenoldeb tystion
    
12. —(1) Caiff y Comisiynydd, os bernir ei bod yn angenrheidiol at ddibenion archwiliad, ei gwneud yn ofynnol i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo fod yn bresennol yn bersonol gerbron y Comisiynydd i roi gwybodaeth, esboniad neu gymorth.

    (2) Y personau y mae'r paragraff hwn yn berthnasol iddynt yw personau y mae'n ofynnol iddynt —

    (3) Dim ond os rhoddwyd i berson hysbysiad ysgrifenedig rhesymol o ddyddiad arfaethedig ei bresenoldeb a'r wybodaeth, yr esboniad neu'r cymorth y mae ar y Comisiynydd eu hangen y caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i'r person hwnnw fod yn bresennol yn bersonol mewn unrhyw le yn unol â pharagraff (1).

    (4) Mewn cysylltiad â phresenoldeb personol o'r fath, caiff y Comisiynydd, yn ddarostyngedig i adran 10(7) ac (8) o'r Ddeddf, ddyroddi gwysion tystio a gweinyddu llwon neu gadarnhadau a chaiff ganiatáu i berson gael ei gynrychioli gerbron y Comisiynydd.



RHAN V

Swyddogaethau pellach

Y berthynas â phobl hŷn yng Nghymru
    
13. —(1) Rhaid i'r Comisiynydd gymryd camau rhesymol i sicrhau —

    (2) Wrth arfer y swyddogaethau a nodir ym mharagraff (1) rhaid i'r Comisiynydd roi sylw i'r hyn yw anghenion ac amgylchiadau bobl hŷn o'r fath yn ei farn resymol ef.



RHAN VI

Adroddiadau

Adroddiadau
    
14. —(1) Pan ddaw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan IV o'r Rheoliadau hyn i ben, rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.

    (2) Pan ddaw adolygiad ar gyflawni swyddogaethau yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf neu adolygiad ar drefniadau yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf i ben, caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar ei ganfyddiadau.

    (3) Os bydd y Comisiynydd a Chomisiynydd Plant Cymru yn cyflawni eu priod swyddogaethau o dan y Ddeddf a Deddf Safonau Gofal 2000 ynghylch yr un mater caiff y Comisiynydd lunio adroddiad ar y cyd â Chomisiynydd Plant Cymru.

    (4) Rhaid i adroddiad a lunnir o dan baragraff (1), (2) neu (3) nodi —

    (5) Rhaid i'r Comisiynydd anfon copi o'i adroddiad—

Camau pellach yn sgil adroddiad
    
15. —(1) Os yw'r Comisiynydd wedi llunio adroddiad ar ôl iddo archwilio achos yn unol ag adran 10 o'r Ddeddf neu adolygiad o'r trefniadau yn unol ag adran 5 o'r Ddeddf sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â darparydd gwasanaethau rheoledig yng Nghymru, y Cynulliad neu berson a grybwyllir yn Atodlen 2 i'r Ddeddf, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn y fath gyfnod rhesymol ag y caiff y Comisiynydd ei bennu ond sut bynnag dim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad yr anfonir copi o'r adroddiad at y person hwnnw.

    (2) Os yw'r Comisiynydd wedi llunio adroddiad ar ôl adolygu cyflawni swyddogaethau yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â pherson a grybwyllir ym mharagraff (1) o'r rheoliad hwn, caiff y Comisiynydd ofyn mewn ysgrifen i'r person y gwneir yr argymhelliad mewn perthynas ag ef roi'r wybodaeth berthnasol i'r Comisiynydd o fewn y fath gyfnod rhesymol ag y caiff y Comisiynydd ei bennu ond sut bynnag dim hwyrach na 3 mis ar ôl y dyddiad yr anfonir copi o'r adroddiad at y person hwnnw.

    (3) At ddibenion paragraffau (1) a (2) ystyr "yr wybodaeth berthnasol" yw y fath wybodaeth, esboniad neu gymorth i alluogi'r Comisiynydd i benderfynu a yw'r person o dan sylw wedi cydymffurfio â'r argymhelliad neu a fydd yn cydymffurfio ag ef, neu esboniad ar y rheswm dros beidio â chymryd camau o'r fath neu dros beidio â bwriadu eu cymryd.

    (4) Pan wneir gofyniad o dan baragraff (1) neu gais o dan baragraff (2) rhaid iddo gynnwys datganiad y gall methiant i ymateb o fewn yr amser a bennir o dan y paragraff perthnasol gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.

    (5) Os yw'r Comisiynydd yn credu'n rhesymol, pan gaiff yr wybodaeth berthnasol, nad yw'r camau a gymerwyd neu y bwriedir eu cymryd er mwyn cydymffurfio â'r argymhelliad neu nad yw'r rheswm am beidio â chymryd camau o'r fath neu am beidio â bwriadu eu cymryd, yn ddigonol, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad ysgrifenedig at y person o dan sylw yn nodi'r diffygion, sef hysbysiad y mae angen ymateb iddo o fewn un mis o ddyddiad ei anfon.

    (6) Os na chaiff y Comisiynydd ymateb o fewn 1 mis i ddyddiad anfon yr hysbysiad ysgrifenedig o dan baragraff (5) neu os yw'n anfodlon ar yr ymateb, caiff y Comisiynydd anfon hysbysiad atodol sy'n mynnu ymateb atodol o fewn 1 mis o ddyddiad ei anfon.

    (7) Rhaid i'r hysbysiad atodol gynnwys datganiad y gall methiant i roi'r hyn sy'n ymateb atodol boddhaol ym marn y Comisiynydd, neu fethiant i ymateb o gwbl, gael ei gyhoeddi mewn unrhyw fodd y mae'r Comisiynydd yn credu ei fod yn briodol.

    (8) Rhaid i'r Comisiynydd gadw cofrestr yn cynnwys manylion —

    (9) Rhaid i unrhyw gofrestr a gedwir o dan baragraff (8) fod yn agored i'w harchwilio gan unrhyw berson ar bob adeg resymol yn swyddfeydd y Comisiynydd a chaiff y Comisiynydd wneud trefniadau i gopïau o'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio mewn unrhyw fan arall neu fannau eraill neu drwy unrhyw fodd arall y mae'n credu eu bod yn briodol.

    (10) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau archwilio a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb.

Adroddiadau i'r Cynulliad
    
16. —(1) Caiff y Comisiynydd wneud adroddiad i'r Cynulliad mewn cysylltiad ag arfer unrhyw un o'i swyddogaethau cyffredinol yn unol ag adran 2 o'r Ddeddf.

    (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad blynyddol i'r Cynulliad, y mae'n rhaid iddo gynnwys —

    (3) Rhaid i'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (2) gael ei lunio yn 2008.

    (4) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i'r Comisiynydd, erbyn 1 Hydref bob blwyddyn fan bellaf, anfon copi o'r adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), (2) a (3) —

Cyhoeddi adroddiadau
    
17. —(1) Rhaid i'r Comisiynydd sicrhau, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol, bod yr adroddiadau a lunnir o dan reoliadau 14 ac 16 ar gael mewn fformatau sydd yn hygyrch i bobl hŷn.

    (2) Rhaid i'r Comisiynydd drefnu bod copïau o adroddiadau a lunnir o dan reoliadau 14 ac 16 ar gael i'w harchwilio yn swyddfa'r Comisiynydd ar bob adeg resymol ac mewn unrhyw fannau eraill neu drwy unrhyw gyfrwng arall, gan gynnwys drwy gyfrwng electronig, y mae'r Comisiynydd yn credu eu bod yn briodol.

    (3) Rhaid i'r Comisiynydd gyhoeddi'r trefniadau archwilio a enwyd mewn ffordd a fydd yn dod â hwy i sylw personau y mae'n debyg, ym marn resymol y Comisiynydd, y bydd ganddynt ddiddordeb ynddynt.



RHAN VII

Amrywiol

Blynyddoedd ariannol
    
18. —(1) At ddibenion paragraff 22 o Atodlen 1 i'r Ddeddf pennir y cyfnodau canlynol —

Gwybodaeth
    
19. Os yw gwybodaeth y mae'n ofynnol iddi gael ei rhoi o dan baragraff (1) o reoliad 4, paragraff (1) o reoliad 11 neu baragraff (1) o reoliad 15 yn wybodaeth sy'n cael ei chadw drwy gyfrwng cyfrifiadur neu ar unrhyw ffurf arall, caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sydd â gofal y cyfrifiadur neu'r ddyfais arall sy'n cadw'r wybodaeth honno, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, drefnu bod yr wybodaeth ar gael, neu gyflwyno'r wybodaeth, ar ffurf weladwy a darllenadwy.

    
20. Os yw person yn rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd yn unol â pharagraff (1) o reoliad 11 neu'n bresennol gerbron y Comisiynydd yn unol â rheoliad 12, caiff y Comisiynydd dalu i'r person hwnnw, os yw'n credu bod hynny'n briodol —

yn unol ag unrhyw raddfeydd ac o dan unrhyw amodau y caiff y Comisiynydd eu pennu.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2].


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

14 Chwefror 2007



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â swyddogaethau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ("y Comisiynydd") a sefydlwyd o dan Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2006 ("y Ddeddf").

Mae Rhan I o'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau dehongli.

Mae Rhan II yn ymwneud â rôl y Comisiynydd yn adolygu trefniadau eiriolaeth, cwynion a chwythu'r chwiban. Mae'n rhagnodi'r math o gyngor a threfniadau cymorth y caiff y Comisiynydd eu hadolygu fel rhan o'i bŵer i adolygu trefniadau eiriolaeth (rheoliad 3). Mae hefyd yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd i'w gwneud yn ofynnol i gael gwybodaeth oddi wrth bersonau rhagnodedig at ddibenion penodol (rheoliad 4).

Mae Rhan III yn rhoi pŵer i'r Comisiynydd ddarparu cymorth ariannol a chymorth arall i bobl hŷn yng Nghymru, yn rhagnodi'r achosion a'r gweithdrefnau pan ganiateir rhoi cymorth o'r fath mewn cysylltiad â hwy (rheoliad 5) ac yn darparu amodau y caniateir eu gosod mewn cysylltiad â rhoi cymorth (rheoliad 6).

Mae Rhan IV yn rhoi swyddogaethau i'r Comisiynydd ynghylch archwilio achosion personau penodol sydd neu sydd wedi bod yn bobl hŷn yng Nghymru (rheoliad 7). Mae'n pennu'r mathau o achos a all gael eu harchwilio (rheoliad 8) ac o dan ba amgylchiadau y gall archwiliad gael ei wneud (rheoliad 9). Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnal archwiliad (rheoliad 10), rhoi gwybodaeth i'r Comisiynydd mewn cysylltiad ag archwiliad (rheoliad 11), a phresenoldeb tystion gerbron y Comisiynydd (rheoliad 12).

Mae Rhan V yn gwneud darpariaeth bellach ar gyfer y trefniadau ynghylch perthynas y Comisiynydd â phobl hŷn yng Nghymru (rheoliad 13).

Mae Rhan VI yn gwneud darpariaeth ar gyfer adroddiadau penodol a chamau i'w cymryd i'w rhoi ar waith (rheoliadau 14 a 15), ynghylch adroddiadau i'r Cynulliad (rheoliad 16) ac ynghylch cyhoeddi adroddiadau (rheoliad 17).

Mae Rhan VII yn cynnwys darpariaethau amrywiol ynghylch cyfnod y flwyddyn ariannol gychwynnol a'r blynyddoedd ariannol canlynol (rheoliad 18); ynghylch y modd y rhoddir gwybodaeth (rheoliad 19); ynghylch talu treuliau a lwfansau mewn perthynas â rhoi gwybodaeth (rheoliad 20).


Notes:

[1] 2006 p. 30back

[2] 1998 p.38.back



English version



ISBN 0 11 091510 0


 © Crown copyright 2007

Prepared 21 February 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070398w.html