BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free access to the law.
Thank you very much for your support!
[Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback] | ||
Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales |
||
You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 Rhif 399 (Cy.45) URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070399w.html |
[New search] [Help]
Wedi'u gwneud | 14 Chwefror 2007 | ||
Yn dod i rym | 16 Chwefror 2007 |
Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod
3.
—(1) Nid yw'r swyddogaethau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn drwy gyfeirio at y deddfiadau a bennir mewn perthynas â'r swyddogaethau hynny yng ngholofn (2) o'r atodlen honno i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod.
(2) Nid yw swyddogaethau —
(b) dyfarnu ar unrhyw delerau eraill y mae unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad o'r fath yn ddarostyngedig iddynt,
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(3) Nid yw swyddogaeth dyfarnu a ddylid cymryd camau gorfodi, ac ym mha fodd y dylid eu gorfodi —
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod.
(4) Nid yw swyddogaeth —
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(5) Nid yw swyddogaeth gwneud unrhyw gynllun sydd wedi'i awdurdodi neu sy'n ofynnol gan reoliadau o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (cynlluniau ar gyfer lwfansau sylfaenol, lwfansau presenoldeb a lwfansau cyfrifoldeb arbennig i aelodau awdurdodau lleol), neu swyddogaeth diwygio, dirymu neu ddisodli unrhyw gynllun o'r fath, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(6) Nid yw swyddogaethau dyfarnu —
(b) yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau i gael eu gwneud o dan adran 174 o'r Ddeddf honno (lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth);
(c) swm unrhyw lwfans sy'n daladwy yn unol â chynllun o dan adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989, neu reoliadau a wnaed o dan adran 100 o Ddeddf 2000, neu yn ôl pa gyfraddau y mae taliadau o ran unrhyw lwfans o'r fath i gael eu gwneud;
(ch) a ddylid codi tâl am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad nad yw ei dyroddi neu ei ddyroddi yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod; a
(d) pan fo tâl yn cael ei godi am unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded neu gofrestriad o'r fath, swm y tâl;
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(7) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni unrhyw swyddogaeth a grybwyllir ym mharagraff (5) neu (6)(a) i (c).
(8) Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth mewn rheoliadau o dan adran 20 (gweithredu swyddogaethau ar y cyd) o Ddeddf 2000, nid yw swyddogaeth gwneud trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan bwyllgor neu swyddog o dan adran 101(5) o Ddeddf 1972, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(9) Nid yw swyddogaeth gwneud penodiadau o dan adran 102 (penodi pwyllgorau) o Ddeddf 1972 i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(10) Oni ddarperir fel arall gan y Rheoliadau hyn, nid yw swyddogaeth awdurdod lleol y caniateir, yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad (a basiwyd neu a wnaed cyn i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud) iddi gael ei chyflawni gan awdurdod yn unig, i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
Swyddogaethau y caniateir iddynt fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod
4.
—(1) Caniateir i'r y swyddogaethau a bennir yn Atodlen 2 fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod, ond nid oes angen iddynt fod felly.
(2) Ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn atal awdurdod lleol rhag arfer y swyddogaethau hynny sydd wedi'u dirprwyo i weithrediaeth i'r awdurdod.
Swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth awdurdod yn unig
5.
—(1) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth —
rhaid i'r camau a ddynodir gan baragraff (3) ("y camau dynodedig") beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(2) Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (1), cyfrifoldeb gweithrediaeth yw'r swyddogaethau a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.
(3) Y camau dynodedig yw —
(4) O ran swyddogaeth diwygio, addasu, amrywio neu ddiddymu unrhyw gynllun neu strategaeth o ddisgrifiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), (p'un a yw'n gynllun neu strategaeth a gymeradwywyd neu'n un a fabwysiadwyd, cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym) —
(b) nid yw'n gyfrifoldeb i weithrediaeth i unrhyw raddau eraill.
(5) Ac eithrio i'r graddau a grybwyllir ym mharagraff (6), mae swyddogaeth gwneud cais —
i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(6) Awdurdodi gwneud y cais yw'r graddau a grybwyllir yn y paragraff hwn.
(7) Nid yw swyddogaeth gwneud cais o'r math y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (5), i'r graddau a grybwyllwyd ym mharagraff (6), yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(8) Ni fydd adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys ynglŷn â chyflawni —
(9) Mewn cysylltiad â chyflawni swyddogaeth—
mae'r camau a ddynodir gan baragraff (11) ("y camau dynodedig") yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
(10) Yn ddarostyngedig i'r hyn a ddarperir ym mharagraff (9), nid cyfrifoldeb gweithrediaeth yw'r swyddogaeth a grybwyllwyd yn y paragraff hwnnw.
(11) Y camau dynodedig yw —
(b) ailystyried yr amcangyfrifon a'r symiau hynny yn unol â gofynion yr awdurdod;
(c) cyflwyno amcangyfrifon a symiau diwygiedig i'r awdurdod eu hystyried.
Cyflawni swyddogaethau penodedig gan awdurdodau
6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i swyddogaeth o unrhyw un o'r disgrifiadau a bennir yng ngholofn (1) o Atodlen 4 (a allai, oni bai am y paragraff hwn, fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod) beidio â bod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth o dan yr amgylchiadau a bennir yng ngholofn (2) mewn perthynas â'r swyddogaeth honno.
(2) Ni fydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth o'r disgrifiad a bennir ym mharagraff 3 o golofn (1) o Atodlen 4 —
(3) Ym mharagraff (2) ystyr "pwyllgor craffu perthnasol" yw pwyllgor craffu i'r awdurdod y mae ei gylch gwaith yn cynnwys y pŵer i adolygu neu i graffu ar benderfyniadau neu gamau eraill a gymerwyd wrth gyflawni'r swyddogaeth y mae'r dyfarniad yn ymwneud â hi.
(4) Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i ddyfarniad gael ei wneud, rhaid i'r unigolyn neu'r corff y gwneir y dyfarniad ganddo yn unol â pharagraff (2), gyflwyno i'r awdurdod adroddiad y mae'n rhaid iddo gynnwys manylion —
(5) Nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 yn gymwys mewn perthynas â chyflawni swyddogaeth y cyfeiriwyd ati ym mharagraff (1) nad yw, yn rhinwedd y paragraff hwnnw, yn gyfrifoldeb i weithrediaeth i'r awdurdod.
Dirymu
7.
Mae'r canlynol wedi'u dirymu—
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[11].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
14 Chwefror 2007
(1) | (2) |
Y Swyddogaeth | Y ddarpariaeth mewn Deddf neu Offeryn Statudol |
A.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio gwlad a thref a rheoli datblygu |
|
1.
Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am ganiatâd cynllunio. |
Adrannau 70(1)(a) a (b) a 72 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8). |
2.
Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am ddatblygu tir heb gydymffurfio ag amodau a osodwyd o'r blaen. |
Adran 73 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
3.
Y pŵer i roi caniatâd cynllunio ar gyfer datblygiad sydd eisoes wedi'i gyflawni. |
Adran 73A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[12]. |
4.
Y pŵer i wrthod dyfarnu ar gais am ganiatâd cynllunio. |
Adran 70A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[13]. |
5.
Dyletswyddau sy'n ymwneud â gwneud dyfarniadau ar geisiadau cynllunio. |
Adrannau 69, 76 a 92 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ac Erthyglau 8, 10 i 13, 15 i 22 a 25 a 26 o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Datblygu Cyffredinol) 1995 (O.S. 1995/419) a chyfarwyddiadau a wneir odanynt. |
6.
Y pŵer i ddyfarnu ar gais am ganiatâd cynllunio a wneir gan awdurdod lleol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â pherson arall. 1992/1492)[14]. |
Adran 316 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cyffredinol Cynllunio Gwlad a Thref 1992 (O.S. |
7.
Y pŵer i wneud dyfarniadau, i roi cymeradwyaethau ac i gytuno ar faterion penodol eraill sy'n ymwneud ag arfer hawliau datblygu a ganiateir. |
Rhannau 6, 7, 11, 17, 19, 20, 21 i 24, 30 a 31 o Atodlen 2 i Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 (O.S. 1995/418). |
8.
Y pŵer i gytuno ar rwymedigaeth gynllunio sy'n rheoleiddio datblygu tir neu ddefnyddio tir. |
Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[15]. |
9.
Y pŵer i ddyroddi tystysgrif o ddefnydd neu ddatblygiad cyfreithlon presennol neu arfaethedig. |
Adrannau 191(4) a 192(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[16]. |
10.
Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cwblhau. |
Adran 94(2) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
11.
Y pŵer i roi cydsyniad i arddangos hysbysebion. |
Adran 220 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992[17]. |
12.
Y pŵer i awdurdodi mynd ar dir. |
Adran 196A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[18]. |
13.
Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol rhoi'r gorau i ddefnyddio tir. |
Adran 102 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
14.
Y pŵer i gyflwyno hysbysiad torri rheolau cynllunio, hysbysiad torri amod neu hysbysiad stop. |
Adrannau 171C, 187A a 183(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[19]. |
15.
Y pŵer i ddyroddi hysbysiad gorfodi. |
Adran 172 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[20]. |
16.
Y pŵer i wneud cais am waharddeb i atal torri rheol gynllunio. |
Adran 187B o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990[21]. |
17.
Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am gydsyniad sylweddau peryglus, a phwerau cysylltiedig. |
Adrannau 9(1) a 10 o Ddeddf Cynllunio (Sylweddau Peryglus) 1990 (p. 10). |
18.
Y ddyletswydd i ddyfarnu ar amodau y mae hen ganiatadau mwyngloddio, caniatadau cynllunio perthnasol sy'n ymwneud â safleoedd cwsg neu safleoedd Rhan I neu Ran II gweithredol, neu ganiatadau mwynol sy'n ymwneud â safleoedd mwyngloddio, yn ôl y digwydd, i fod yn ddarostyngedig iddynt. |
Paragraff 2(6)(a) o Atodlen 2 i Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, paragraff 9(6) o Atodlen 13 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25) a pharagraff 6(5) o Atodlen 14 i'r Ddeddf honno. |
19.
Y pŵer i'w gwneud yn ofynnol bod tir yn cael ei gynnal yn iawn. |
Adran 215(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
20.
Y pŵer i ddyfarnu ar gais am gydsyniad adeilad rhestredig, a phwerau cysylltiedig. |
Adrannau 16(1) a (2), 17 a 33(1) o Ddeddf Cynllunio Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9). |
21.
Y pŵer i ddyfarnu ar geisiadau am gydsyniad ardal gadwraeth. |
Adran 16(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990, fel y'i cymhwysir gan adran 74(3) o'r Ddeddf honno[22]. |
22.
Dyletswyddau sy'n ymwneud â cheisiadau am gydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth. |
Adran 13(1) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a rheoliadau 3 i 13 o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 a pharagraff 127 o gylchlythyr y Swyddfa Gymreig 61/96: Cynllunio a'r Amgylchedd Hanesyddol: Adeiladau Hanesyddol ac Ardaloedd Cadwraeth. |
23.
Y pŵer i gyflwyno hysbysiad cadw adeilad, a phwerau cysylltiedig. |
Adrannau 3(1) a 4(1) Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
24.
Y pŵer i ddyroddi hysbysiad gorfodi adeilad rhestredig. |
Adran 38 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
25.
Pwerau i gaffael adeilad rhestredig y mae angen ei drwsio a chyflwyno hysbysiad trwsio. |
Adrannau 47 a 48 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
26.
Y pŵer i wneud cais am waharddeb mewn perthynas ag adeilad rhestredig. |
Adran 44A o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[23]. |
27.
Y pŵer i wneud gwaith brys. |
Adran 54 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990. |
28.
Pŵer yn gysylltiedig â gweithio mwynau. |
Atodlen 9 i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
29.
Pŵer yn gysylltiedig â llwybrau troed a llwybrau ceffylau. |
Adran 257 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
30.
Pŵer ynghylch tystysgrifo datblygiadau amgen priodol. |
Adran 17 o Ddeddf Iawndal Tir 1961 (p.33). |
31.
Dyletswyddau mewn perthynas â gorchmynion prynu. |
Adrannau 137-144 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
32.
Pwerau sy'n ymwneud â hysbysiadau malltod. |
Adrannau 149-171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. |
B.
Swyddogaethau trwyddedu a chofrestru (i'r graddau nad oes unrhyw baragraff arall yn yr Atodlen hon yn ymdrin â hwy) |
|
1.
Y pŵer i ddyroddi trwyddedau sy'n awdurdodi defnyddio tir fel safle carafannau ("trwyddedau safle"). |
Adran 3(3) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p.62). |
2.
Y pŵer i drwyddedu defnyddio anheddau symudadwy a safleoedd gwersylla. |
Adran 269(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p.49) |
3.
Y pŵer i drwyddedu cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat. |
(a) o ran cerbydau hacnai, Deddf Cymalau Heddluoedd Tref 1847 (10 a 11 Vict. p. 89), fel y'i hestynnwyd gan adran 171 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875 (38 a 39 Vict. p. 55), ac adran 15 o Ddeddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67); ac adrannau 47, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Lleol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p. 57); (b) o ran cerbydau hurio preifat, adrannau 48, 57, 58, 60 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
4.
Y pŵer i drwyddedu gyrrwyr cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat. |
Adrannau 51, 53, 54, 59, 61 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
5.
Y pŵer i drwyddedu gweithredwyr cerbydau hacnai a cherbydau hurio preifat. |
Adrannau 55 i 58, 62 a 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976. |
6.
Y pŵer i gofrestru hyrwyddwyr pyllau. |
Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 (p. 2)[24]. |
7.
Y pŵer i roi trwyddedau betio ar gyfer traciau. |
Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963[25]. |
8.
Y pŵer i drwyddedu cynlluniau betio ar gyfer traciau ar y cyd â'i. |
Atodlenni 5ZA i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963[26]. |
9.
Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â mangreoedd sydd â pheiriannau chwarae. |
Atodlen 9 i Ddeddf Hapchwarae 1968 (p. 65) [27]. |
10.
Y pŵer i gofrestru cymdeithasau sy'n dymuno hyrwyddo loterïau. |
Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 (p. 32)[28]. |
11.
Y pŵer i roi trwyddedau mewn perthynas â mangreoedd lle darperir difyrion â gwobrau. |
Atodlen 3 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 [29]. |
12.
Y pŵer i ddyroddi trwyddedau adloniant. |
Adran 12 o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12). |
13.
Y pŵer i drwyddedu siopau rhyw a sinemâu rhyw. |
Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, adran 2 ac Atodlen 3. |
14.
Y pŵer i drwyddedu perfformiadau hypnotiaeth. |
Deddf Hypnotiaeth 1952 (p.46). |
15.
Y pŵer i drwyddedu mangreoedd ar gyfer aciwbigiadau, tatws, tyllu clustiau ac electrolysis. |
Adrannau 13 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982. |
16.
Y pŵer i drwyddedu cychod pleser a llongau pleser. |
Adran 94 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907 (p. 53)[30]. |
17.
Y pŵer i drwyddedu masnachu mewn marchnadoedd ac ar y stryd. |
Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 ac Atodlen 4 iddi. |
18.
Y ddyletswydd i gadw rhestr o bersonau sydd â'r hawl i werthu gwenwynau nad ydynt yn feddyginiaeth. |
Adrannau 3(1)(b)(ii), 5, 6 ac 11 o Ddeddf Gwenwynau 1972(p. 66) [31]. |
19.
Y pŵer i drwyddedu delwyr helgig a lladd a gwerthu helgig. |
Adrannau 5, 6, 17, 18 a 21 i 23 o Ddeddf Anifeiliaid Hela 1831 (p. 32); adrannau 2 i 16 o Ddeddf Trwyddedau Helwriaeth 1860 (p. 90), adran 4 o Ddeddf Tollau Cartref a Chyllid y Wlad 1883 (p. 10), adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Lleol 1894 (p. 73), ac adran 213 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70). |
20.
Y pŵer i gofrestru a thrwyddedu mangreoedd ar gyfer paratoi bwyd. |
Adran 19 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (p. 16). |
21.
Y pŵer i drwyddedu iardiau sgrap. |
Adran 1 o Ddeddf Delwyr Metel Sgrap 1964 (p. 69). |
22.
Y pŵer i ddyroddi, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch (cyffredinol neu arbennig) ar gyfer meysydd chwaraeon. |
Deddf Diogelwch Meysydd Chwaraeon 1975 (p. 52)[32]. |
23.
Y pŵer i ddyroddi, dileu, diwygio neu amnewid tystysgrifau diogelwch ar gyfer standiau rheoledig mewn meysydd chwaraeon. |
Rhan III o Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). |
24.
Dyletswydd i hyrwyddo diogelwch rhag tân. |
Adran 6 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 (p.21). |
25.
Y pŵer i drwyddedu mangreoedd ar gyfer bridio cwn. |
Adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60) ac adran 1 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999 (p. 11). |
26.
Y pŵer i drwyddedu siopau anifeiliaid anwes a sefydliadau eraill lle caiff anifeiliaid eu bridio neu eu cadw er mwyn cynnal busnes. |
Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 (p. 35)[33]; adran 1 o Ddeddf Sefydliadau Byrddio Anifeiliaid 1963(p. 43)[34]; Deddfau Sefydliadau Marchogaeth 1964 a 1970 (1964 p. 70 a 1970 p. 70)[35]; adran 1 o Ddeddf Bridio Cwn 1973 (p. 60)[36], ac adrannau 1 ac 8 o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cwn (Lles) 1999. |
27.
Y pŵer i gofrestru hyfforddwyr ac arddangoswyr anifeiliaid. |
Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Perfformio (Rheoleiddio) 1925 (p. 38)[37]. |
28.
Y pŵer i drwyddedu swau. |
Adran 1 o Ddeddf Trwyddedu Swau 1981 (p. 37). |
29.
Y pŵer i drwyddedu anifeiliaid gwyllt peryglus. |
Adran 1 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (p. 38). |
30.
Y pŵer i orfodi rheoliadau mewn perthynas â sgil-gynhyrchion anifeiliaid. |
Rheoliad 49 o Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1292 (Cy.127)). |
31.
Y pŵer i drwyddedu cyflogi plant. |
Rhan II o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1933 (p. 12), is-ddeddfau a wneir o dan y Rhan honno, a Rhan II o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963 (p. 37). |
32.
Y pŵer i gymeradwyo mangreoedd ar gyfer gweinyddu priodasau a chofrestru partneriaethau sifil. |
Adran 46A o Ddeddf Priodasau 1949 (p. 76), adran 6A o Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004 (p.33) a Rheoliadau Priodasau a Phartneriaethau Sifil (Mangreoedd a Gymeradwywyd) 2005 (O. S. 2005/3168 [38]. |
33.
Y pŵer i gofrestru tir comin neu feysydd gleision trefi neu bentrefi, ac eithrio os yw'r pwer yn arferadwy ar gyfer rhoi effaith i'r canlynol yn unig— 3(a)cyfnewid tiroedd y mae gorchymyn o dan adran 19(3) o Ddeddf Caffael Tir 1981 (p.67) neu baragraff 6(4) o Atodlen 3 iddi yn rhoi effaith iddo (p. 67); neu 3(b)gorchymyn o dan adran 147 o Ddeddf Amgáu Tiroedd 1845 (p. 8 a 9 Vict. p. 118). |
Rheoliad 6 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Tir Newydd) 1969 (O.S. 1969/1843). |
34.
Y pŵer i gofrestru amrywiadau ar hawliau comin. |
Rheoliad 29 o Reoliadau Cofrestru Tiroedd Comin (Cyffredinol) 1966 (O.S. 1966/1471)[39]. |
35.
Y pŵer i ddyroddi trwydded i gasglu ar gyfer achosion elusennol. |
Adran 68 o Ddeddf Elusennau 1992. |
36.
Y pŵer i roi cydsyniad ar gyfer gweithredu uchelseinydd. |
Atodlen 2 i Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p. 40). |
37.
Y pŵer i roi trwydded ar gyfer gweithfeydd stryd. |
Adran 50 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p. 22). |
38.
Dyletswydd i gofrestru symudiadau moch. |
Rheoliadau 21(3) and (4) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod (O.S. 2004/996 (Cy.104)). |
39.
Y pŵer i orfodi rheoliadau mewn perthynas â symud moch. |
Rheoliad 27(1) o Orchymyn Moch (Cofnodion, Adnabod a Symud) (Cymru) 2004 (O.S. 2004 /996 (Cy.104)). |
40.
Y pŵer i ddyroddi trwydded i symud gwartheg o farchnad. |
Erthygl 5(2) o Reoliadau Adnabod Gwartheg 1998 (O.S. 1998/871). |
41.
Y pŵer i roi hawl i rannau o adeiladau gael eu defnyddio i storio seliwloid. |
Adran 1 o Ddeddf Ffilmiau Seliwloid a Sinematograff 1922 (p. 35). |
42.
Y ddyletswydd i orfodi a gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 852/2004 a 853/2004 mewn perthynas â gweithredwyr busnesau bwyd fel y'u pennir ymhellach yn rheoliad 5 o Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) 2006. |
Rheoliad 5 o Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) 2006[40]. |
43.
Swyddogaethau mewn perthynas â sefydlu Pwyllgor Trwyddedu. |
Adran 6 o Ddeddf Trwyddedu 2003 (p.17). |
C.
Swyddogaethau sy'n ymwneud ag iechyd a diogelwch yn y gwaith |
|
Swyddogaethau o dan unrhyw un o'r "darpariaethau statudol perthnasol" o fewn ystyr Rhan I (iechyd, diogelwch a lles mewn cysylltiad â gwaith, a rheoli sylweddau peryglus) o Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974, i'r graddau y mae'r swyddogaethau hynny'n cael eu cyflawni mewn fordd wahanol i'w cyflawni yn rhinwedd swyddogaeth yr awdurdod fel cyflogwr. | Rhan I o Ddeddf Iechyd Diogelwch yn y Gwaith etc. 1974 (p. 37). |
Ch.
Swyddogaethau sy'n ymwneud ag etholiadau |
|
1.
Y ddyletswydd i benodi swyddog cofrestru etholiadol. |
Adran 8(2A) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2)[41]. |
2.
Y pŵer i ddyrannu swyddogion mewn perthynas ag angenrheidiau'r swyddog cofrestru. |
Adran 52(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983[42]. |
3.
Y pŵer i ddileu cynghorau cymuned. |
Adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
4.
Y pŵer i wneud gorchmynion ar gyfer grwpio cymunedau. |
Adran 29 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
5.
Y pŵer i wneud gorchmynion i ddileu grwpiau a gwahanu cynghorau cymuned oddi wrth grwpiau. |
Adran 29A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
6.
Y ddyletswydd i benodi swyddog canlyniadau ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. |
Adran 35 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
7.
Y ddyletswydd i roi cymorth yn etholiadau'r Senedd Ewropeaidd. |
Adran 6(7) ac (8) o Ddeddf Etholiadau Senedd Ewrop 2002. |
8.
Y ddyletswydd i rannu'r etholaeth yn rhanbarthau pleidleisio. |
Adran 18 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
9.
Y pŵer i rannu adrannau etholiadol yn rhanbarthau pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. |
Adran 31 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
10.
Pwerau mewn perthynas â chynnal etholiadau. |
Adran 39(4) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
11.
Y pŵer i dalu treuliau a dynnir yn briodol gan swyddogion cofrestru etholiadol. |
Adran 54 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. |
12.
Y pŵer i lenwi lleoedd gwag os na cheir digon o enwebiadau. |
Adran 21 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985. |
13.
Y ddyletswydd i ddatgan bod lle gwag mewn swydd mewn achosion penodol. |
Adran 86 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 |
14.
Y ddyletswydd i roi hysbysiad cyhoeddus o le gwag achlysurol. |
Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
15.
Y pŵer i wneud penodiadau dros dro i gynghorau cymuned. |
Adran 91 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
16.
Y pŵer i ddyfarnu ar ffioedd ac amodau ar gyfer rhoi copïau o ddogfennau etholiadol neu ddarnau allan ohonynt. |
Rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986 (O.S. 1986/2214) a rheol 48(3) o Reolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) 1986 (O.S. 1986/2215). |
17.
Y pŵer i gyflwyno cynigion i'r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer gorchymyn o dan adran 10 (cynlluniau peilot ar gyfer etholiadau lleol yng Nghymru a Lloegr) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000. |
Adran 10 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2). |
18.
Swyddogaethau etholiadol amrywiol o dan Ran II, O.S. 2003/284. |
Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2003, OS 2003/284[43]. |
D.
Swyddogaethau sy'n ymwneud ag enw a statws ardaloedd ac unigolion |
|
1.
Y pŵer i newid enw sir, neu enw bwrdeistref sirol. |
Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
2.
Y pŵer i newid enw cymuned. |
Adran 76 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
3.
Y pŵer i roi teitl henadur mygedol neu i dderbyn rhywun yn rhyddfreiniwr mygedol. |
Adran 249 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
4.
Y pŵer i ddeisebu o blaid siarter i roi statws bwrdeistref sirol. |
Adran 245A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
Dd.
Y pŵer i wneud, diwygio, dirymu neu ailddeddfu is-ddeddfau |
Unrhyw ddarpariaeth mewn unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys Deddf leol), pryd bynnag y cafodd ei phasio, ac adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 300)[44]. |
E.
Y pŵer i hyrwyddo neu i wrthwynebu Mesurau lleol neu bersonol. |
Adran 239 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
F.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau etc. |
|
1.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau llywodraeth leol, etc. |
Rheoliadau o dan adran 7, 12 neu 24 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 (p.11)[45]. |
2.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â phensiynau, lwfansau ac arian rhodd. |
Rheoliadau o dan adran 18(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). |
3.
Swyddogaethau o dan gynlluniau pensiwn sy'n bodoli eisoes o ran personau sy'n cael eu cyflogi gan awdurdodau tân ac achub yn unol ag adran 1 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. |
Adrannau 34 a 36 o Ddeddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. |
Ff.
Swyddogaethau amrywiol |
|
1.
Y ddyletswydd i gymeradwyo datganiad awdurdod o'i gyfrifon, ei incwm, a'i wariant a'i fantolen neu ei gofnod o dderbyniadau a thaliadau (yn ôl y digwydd). |
Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2005 [46]. |
2.
Swyddogaethau sy'n ymwneud â physgodfeydd môr. |
Adrannau 1, 2, 10 a 19 o Ddeddf Rheoleiddio Pysgodfeydd Môr 1966(p. 38). |
3.
Pwerau sy'n ymwneud â chadw coed. |
Adrannau 197 i 214D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 (O.S. 1999/1892). |
4.
Pwerau sy'n ymwneud â diogelu gwrychoedd (perthi) pwysig. |
Rheoliadau Gwrychoedd (Perthi) 1997 (O.S. 1997/1160). |
5.
Y pŵer i wneud rheolau sefydlog. |
Adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 a pharagraff 42 o Atodlen 12 iddi. |
6.
Penodi a diswyddo staff. |
Adran 112 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac adrannau 7 ac 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. |
7.
Y pŵer i wneud rheolau sefydlog ynghylch contractau. |
Adran 135 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
8.
Y pŵer i ystyried adroddiadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru. |
Adran 19 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10). |
9.
Y pŵer i wneud gorchymyn yn nodi lle fel lle cyhoeddus dynodedig at ddibenion pwerau heddlu mewn perthynas ag yfed alcohol. |
Adran 13(2) o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Heddlu 2001 (p.16). |
10.
Y pwerau mewn perthynas â chofrestru gweithredwyr achub cerbydau modur. |
Rhan 1 o Ddeddf Cerbydau (Troseddau) 2001 (p.3). |
11.
Y pŵer i benodi swyddogion at ddibenion penodol (penodi "priod swyddogion"). |
Adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
12.
Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn bennaeth gwasanaeth taledig yr awdurdod, ac i ddarparu staff, etc. |
Adran 4(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42). |
13.
Y ddyletswydd i ddynodi swyddog yn swyddog monitro, ac i ddarparu staff, etc. |
Adran 5(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. |
14.
Y ddyletswydd i ddyfarnu ar derfyn benthyca fforddiadwy. |
Adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.22). |
15.
Cymeradwyo strategaeth fuddsoddi flynyddol yn unol â chanllawiau. |
Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003. |
16.
Y ddyletswydd i wneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol. |
Adran 151 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p.11). |
(c) i unrhyw bwyllgor neu is-bwyllgor i gorff o'r fath,
a dirymu unrhyw benodiad o'r fath.
20.
Y pŵer i wneud taliadau neu i ddarparu budd-daliadau eraill mewn achosion camweinyddu etc.[57].
21.
Cyflawni unrhyw swyddogaeth gan awdurdod sy'n gweithredu fel awdurdod harbwr.
22.
Swyddogaethau ynglyn â chyfrifo sylfaen treth gyngor yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
23.
Swyddogaethau trwyddedu yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Trwyddedu 2003 ac eithrio adran 6.
24.
Swyddogaethau ynglŷn â gamblo yn unol ag unrhyw un o'r canlynol —
(1) | (2) |
Cynlluniau a strategaethau | Y Cyfeiriad |
Y Cynllun Addysg Sengl | Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 O.S. 2006/877 (Cy.82)). |
Cynllun Perfformiad Gwerth Gorau | Adran 6(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27). |
Strategaeth Gymunedol | Adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). |
Strategaeth i Ostwng Troseddau ac Anhrefn | Adrannau 5 a 6 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37). |
Y Strategaeth Iechyd a Lles | Adran 24 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynolion Gofal Iechyd 2002 (p.17). |
Y Cynllun Trafnidiaeth Lleol | Adran 108 o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p.38). |
Cynlluniau ac addasiadau sydd gyda'i gilydd yn ffurfio'r Cynllun Datblygu | Adran 10A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8). |
Y Cynllun Iaith Gymraeg | Adran 5 o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 (p.38). |
Y Cynllun Cyfiawnder Ieuenctid | Adran 40 o Ddeddf Troseddau ac Anhrefn 1998 (p.37). |
Pwerau i gymeradwyo Cynllun Strategol Partneriaeth Pobl Ifanc a Phartneriaeth Fframwaith Plant a Phobl Ifanc | Adrannau 123,124 a 125 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21). |
Y Strategaeth Tai | Adran 87 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26). |
(1) | (2) |
Y swyddogaeth | Yr amgylchiadau |
1.
Mabwysiadu neu gymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol), ac eithrio cynllun neu strategaeth i reoli benthyciadau neu wariant cyfalaf yr awdurdod neu gynllun y cyfeirir ato neu strategaeth y cyfeirir ati yn Atodlen 3. |
Mae'r awdurdod yn dyfarnu mai ef ddylai benderfynu a ddylid mabwysiadu neu gymeradwyo'r cynllun neu'r strategaeth. |
2.
Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth —
(b) sy'n ymwneud â chyllideb yr awdurdod, neu ei fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf. |
Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno —
(ii) y cynllun neu'r strategaeth a gymeradwy-wyd neu a fabwysiadwyd am y tro gan yr awdurdod mewn perthynas â'i fenthyciadau neu ei wariant cyfalaf; a
(b) heb ei awdurdodi o dan drefniadau gweithrediaeth yr awdurdod, ei reoliadau ariannol, ei reolau sefydlog neu ei reolau neu ei weithdrefnau eraill i wneud dyfarniad yn y termau hynny. |
3.
Dyfarnu ar unrhyw fater wrth gyflawni swyddogaeth —
(b) y mae'r awdurdod wedi mabwysiadu neu wedi cymeradwyo cynllun neu strategaeth (p'un a yw'n statudol neu'n anstatudol ) mewn perthynas â hi. |
Mae'r unigolyn neu'r corff y mae'r dyfarniad i gael ei wneud ganddo yn rhinwedd unrhyw un o adrannau 14 i 17 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 neu ddarpariaeth a wneir o dan adran 18 neu 20 o'r Ddeddf honno, o blaid dyfarnu ar y mater mewn termau sy'n groes i'r cynllun neu, yn ôl y digwydd, i'r strategaeth a fabwysiadwyd neu a gymeradwywyd gan yr awdurdod. |
[3] Diwygiwyd adran 173(4) gan Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p.42), Atodlen 11, paragraff 26. Gwnaed arbediad perthnasol gan erthygl 3(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (Cychwyn Rhif 11 ac Arbedion) 1991 (O.S. 1991/344).back
[4] 1993 p.28, sef Deddf y mae diwygiadau iddi nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[5] 1985 p.68. Yr oedd diwygiadau perthnasol yn is-adran (3) o adran 32 ac is-adran (1)(a) o adran 43 wedi'u gwneud gan baragraff 3(a), (d) ac (e) o'r Atodlen i O.S. 1997/74.back
[6] 1992 p.14; mewnosodwyd adrannau 52I, 52J, 52T a 52U gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (p.27), Atodlen 1, paragraff 1.back
[7] O.S. 2001/2291 (Cy.179).back
[8] O.S. 2002/783 (Cy.84).back
[9] O.S. 2003/153 (Cy.23).back
[10] O.S. 2004/3093 (Cy.267)back
[12] Mewnosodwyd adran 73A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), Atodlen 7, paragraff 8.back
[13] Mewnosodwyd adran 70A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991, adran 17.back
[14] Amnewidiwyd adran 316 gan adran 20 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1992/1982 a 1998/2800.back
[15] Amnewidiwyd adran 106 gan adran 12(1) o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[16] Amnewidiwyd adrannau 191 a 192 gan adran 10 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[17] O.S. 1992/666, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[18] Mewnosodwyd adran 196A gan adran 11 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. I gael gwybod o dan ba amgylchiadau y caniateir i'r hawl gael ei harfer, gweler adrannau 196A i 196C o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.back
[19] Mewnosodwyd adrannau 171C a 187A gan adrannau 1 a 2 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991. Amnewidiwyd is-adrannau (1) i (5A) o adran 183 gan adran 9 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[20] Amnewidiwyd adran 172 gan adran 5 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991.back
[21] Mewnosodwyd adran 187B gan adran 3 o Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991back
[22] Gweler hefyd Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (O.S. 1990/1519), y mae diwygiadau iddynt nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back
[23] Mewnosodwyd adran 44A gan Ddeddf Cynllunio ac Iawndal 1991 (p.34), adran 25, Atodlen 3, paragraff 7.back
[24] Diddymwyd Atodlen 2 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[25] Diddymwyd Atodlen 3 i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. I gael darpariaethau trosiannol ynglŷn â thrwydded betio ar gyfer trac sydd i fod i ddod i ben yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 ac sy'n diweddu ar 30 Awst 2007, gweler O.S. 2006/1758, erthygl 2. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[26] Mewnosodwyd Atodlen 5ZA gan O.S. 1995/3231, erthygl 5(6). Diddymwyd Atodlen 5ZA i Ddeddf Betio, Hapchwarae a Loterïau 1963 gan adran 356(3)(f) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae'r diddymiad i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[27] Diddymwyd Atodlen 9 i Ddeddf Hapchwarae 1968 gan adran 356(g) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. I gael darpariaethau trosiannol ynglyn ag adnewyddu neu roi trwyddedau, gweler O.S. 2006/1758, erthyglau 5 a 6. Mae adran 358(1) o Ddeddf 2005 yn darparu bod y diddymiad hwnnw i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[28] Diddymwyd Atodlen 1 i Ddeddf Loterïau a Difyrion 1976 gan adran 356(3)(i) a (4) o Ddeddf Gamblo 2005 ac Atodlen 17 iddi. Mae diddymu Atodlen 1 i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w benodi o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[29] Wedi'i diddymu gan Ddeddf Gamblo 2005, adran 356(3)(i),(4), Atodlen 17. I gael gweld y darpariaethau trosiannol mewn perthynas ag unrhyw drwydded o dan adran 16 sydd i fod i ddod i ben yn y cyfnod sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 ac sy'n diweddu ar 30 Awst 2007. Gweler O.S. 2006/1758, erthygl 7. Mae diddymiad Atodlen 3 i'w ddwyn i rym ar ddyddiad sydd i'w bennu o dan adran 358(1) o Ddeddf 2005. Nid yw'r diddymiad wedi'i ddwyn i rym.back
[30] Wedi'i diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 (p.7), Atodlen 6, paragraff 1, adran 18 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 (p.57) ac adran 186 o Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980 (p.65). Amnewidiwyd adran 94(8) gan Orchymyn Dadreoleiddio (Deddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd) 1997 (O.S. 1997/1187).back
[31] Diwygiwyd adran 5 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 13(1). Gweler O.S. 1973/1851 ac O.S. 1977/2128.back
[32] Wedi'i diwygio gan Ddeddf Diogelwch Rhag Tân a Diogelwch Lleoedd Chwaraeon 1987 (p.27). Gweler, yn benodol, Ran II o'r Ddeddf honno, ac Atodlen 2 iddi.back
[33] Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, Atodlen 6, paragraff 17 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988 (p.29), adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.back
[34] Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adran 35(1) a (2) ac Atodlen 6, paragraff 18 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) o'r Atodlen.back
[35] Diwygiwyd adran 1 gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, adran 1(6), Atodlen 6, Atodlen 34, paragraff 15 a chan Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988, adran 3(2) a (3) a'r Atodlen.back
[36] Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1974, adrannau 35(1) a (2) a 42, Atodlen 6, paragraff 2(1) ac Atodlen 8.back
[37] Diwygiwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980, Atodlen 6, paragraff 6, a chan adran 3 o Ddeddf Amddiffyn Anifeiliaid (Diwygio) 1988.back
[38] Mewnosodwyd adran 46A gan adran 1 o Ddeddf Priodasau 1994 (p.34).back
[39] Diwygiwyd gan adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 (p.30).back
[40] O.S. 2006/31 (Cy.5) fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Bwyd (Hylendid) (Cymru) (Diwygio) 2006 (O.S. 2006 / 1534 (Cy.151)).back
[41] Wedi'i deddfu'n wreiddiol fel Deddf Etholiadau Cynulliad Ewrop 1978 a'i hailenwi yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 (p.58). Amnewidiwyd Atodlen 1 gan Ddeddf Etholiadau Seneddol Ewrop 1999 (p.1), Atodlen 2.back
[42] Amnewidiwyd is-adran (4) o adran 52 gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50).back
[43] Dirymodd O.S. 2003/284 Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 1999 (O.S. 1999/450) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) (Diwygio) 2002 (O.S. 2002/834). Mae O.S. 2003/284 yn atgynhyrchu O.S. 1999/450 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/834 gan wneud darpariaethau ychwanegol.back
[44] Cymhwysir adran 14 o Ddeddf Dehongli 1978 i is-ddeddfau sy'n cael eu gwneud o dan adran 235 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 gan adran 22(1) o Ddeddf Dehongli 1978 a pharagraff 3 o Ran I o Atodlen 2 iddi.back
[45] O ran adran 7 gweler hefyd adran 99 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Diwygiwyd adran 12 o Ddeddf Blwydd-dal 1972 gan adran 10 o Ddeddf Pensiynau (Darpariaethau Amrywiol) 1990 (p.7).back
[46] O.S. 2005/368 (Cy.34).back
[49] Rhan IIA o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) ac is-ddeddfwriaeth o dan y rhan honno.back
[50] Gweler Deddf Atal a Rheoli Llygredd 1999 (p.24), Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (p.25), Rhan I o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (p.43) a Deddf Aer Glân 1993 (p.11).back
[51] Adran 8 o Ddeddf Sŵn a Niwsans Statudol 1993 (p.40).back
[52] Adran 80(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.back
[53] Adran 79 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990.back
[56] Adran 278 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (p.66), a amnewidiwyd gan Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (p.22), adran 23.back
[57] Adran 92 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.back