BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2007 Rhif 582 (Cy.54)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070582w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 582 (Cy.54)

Y DRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 27 Chwefror 2007 
  Yn dod i rym 1 Ebrill 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan baragraffau 1(1) a 5(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] ac a freinir bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru[2]:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) (Cymru) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Atafaelu enillion: swm i'w ddidynnu
    
2. —(1) Yn lle Atodlen 4 i Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992[3] rhodder yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    (2) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys o ran gorchymyn atafaelu enillion a wnaed cyn 1 Ebrill 2007.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

27 Chwefror 2007



YR ATODLEN
Rheoliad 2








NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992. Mae rheoliad 2 o'r Rheoliadau hyn yn cyflwyno tablau diwygiedig o ddidyniadau o enillion wythnosol, misol a dyddiol ynghylch gorchmynion atafaelu enillion a gaiff eu gwneud yn unol â Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992.

Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn, ac mae ar gael o Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol, Yr Adran Llywodraeth Leol a Diwylliant, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (ffôn 02920825111).


Notes:

[1] 1992 p.14.back

[2] Trosglwyddwyd y pŵ er i wneud rheoliadau o dan baragraffau 1(1) a 5(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 o ran Cymru oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.back

[3] O.S. 1992/613.back

[4] 1998 p.38back



English version



ISBN 0 11 091518 6


 © Crown copyright 2007

Prepared 6 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070582w.html