BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007 Rhif 701 (Cy.58)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070701w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 701 (Cy.58)

CŵN, CYMRU

RHEOLI CŵN

Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵ n (Heb Fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007

  Wedi'i wneud 6 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 15 Mawrth 2007 

O ran Cymru, y person priodol fel y'i diffinnir yn adran 66(b) o Ddeddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005[1], at ddibenion arfer y pwerau a roddir gan adran 57(3) a (4) o'r Ddeddf honno, yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mae'n gwneud y Gorchymyn a ganlyn wrth arfer y pwerau hynny:

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheolaethau ar Gŵn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007.

    (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 15 Mawrth 2007.

    (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Gorchymyn hwn—

Tir nad yw Pennod 1 o Ran 6 o'r Ddeddf yn gymwys iddo
    
3. Dynodir unrhyw dir sy'n dod o fewn disgrifiad yng ngholofn gyntaf y tabl yn yr Atodlen yn dir nad yw Pennod 1 (rheolaethau ar gŵn) o Ran 6 (cŵn) o'r Ddeddf yn gymwys iddo, at y dibenion a bennir mewn perthynas â'r disgrifiad penodol yn ail golofn y tabl hwnnw.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
2]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007



ATODLEN
Erthygl 3


TIR NAD YW PENNOD 1 O RAN 6 O'R DDEDDF YN GYMWYS IDDO


Disgrifiad o'r Tir Dibenion nad yw Pennod 1 o Ran 6 o'r Ddeddf yn gymwys iddynt
Tir a osodir at ddefnydd y Comisiynwyr Coedwigaeth o dan adran 39(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967[3] At ddibenion gwneud gorchymyn rheoli o cŵn dan adran 55(1) o'r Ddeddf
Tir sy'n ffordd, neu'n rhan o ffordd At ddibenion gwneud gorchymyn rheoli cŵn o dan adran 55(1) o'r Ddeddf sy'n darparu ar gyfer tramgwydd mewn perthynas â'r mater a ddisgrifir yn adran 55(3)(c) (gwahardd cwn dir)



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


Mae'r Gorchymyn hwn yn dynodi disgrifiadau o dir nad yw Pennod 1 (rheolaethau ar gwn) o ran 6 (cwn) o Ddeddf Cyndogaethau Glan a'r Amgylchedd 2005 ("y Ddeddf") (erthygl 3) yn gymwys iddynt at y dibenion a bennir mewn perthynas a phob un o'r disgrifiadau.

Dynodir dau ddisgrifiad o dir yn y Gorchymyn hwn. Y disgrifiadau yw—

Mae effeithiau'r esemptiadau a wneir gan y Gorchymyn hwn fel a ganlyn:


Notes:

[1] 2005 p. 16.back

[2] 1998 p. 38.back

[3] 1967 p. 10; diwygiwyd adran 39(1) gan O.S. 1999/1747, erthygl 3 ac Atodlen 12, Rhan II, paragraff 4(1) a (28).back



English version



ISBN 978 0 11 091531 9


 © Crown copyright 2007

Prepared 19 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070701w.html