BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 Rhif 702 (Cy.59)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070702w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL


2007 Rhif 702 (Cy.59)

CWN, CYMRU

RHEOLI CWN

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

  Wedi'u gwneud 6 Mawrth 2007 
  Yn dod i rym 15 Mawrth 2007 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sef y person priodol o ran Cymru fel y'i diffinnir yn adran 66(b) o Ddeddf Cymunedau Glân a'r Amgylchedd 2005[1], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55(4) a (5), 56(1), (3), (4) a (5) a 67(1) o'r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn a chymhwyso
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007

    (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn dod i rym ar 15 Mawrth 2007.

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli
    
2. Yn y Rheoliadau hyn—

Ymgynghori cyn gwneud gorchymyn rheoli cwn.
     3. Cyn gwneud gorchymyn rheoli cwn o dan adran 55 o'r Ddeddf, rhaid i Awdurdod—

     4. Rhaid i'r Awdurdod roi copïau o'r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 3(a)—

Gweithdrefnau ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cwn
    
5. Ar ôl gwneud gorchymyn rheoli cwn, rhaid i Awdurdod, ymhen dim llai na saith niwrnod cyn y diwrnod y bydd y gorchymyn yn dod i rym arno—

Diwygio a dirymu gorchmynion rheoli cwn: gofynion gweithdrefnol
    
6. Mae Rheoliadau 3, 4 a 5 yn gymwys i ddiwygio ac i ddirymu gorchymyn rheoli cwn megis petai'r cyfeiriadau yn y rheoliadau hynny at orchymyn (neu orchymyn y bwriedir ei wneud) yn gyfeiriadau at ddiwygio neu at ddirymu gorchymyn (neu at ddiwygio neu ddirymu gorchymyn y bwriedir ei wneud, yn ôl y digwydd).

Tramgwyddau a chosbau a ragnodir
    
7. —(1) At ddibenion adran 55(4) o'r Ddeddf, y tramgwyddau a ragnodir yw'r rhai hynny a osodir ym mharagraff 1 o bob un o Atodlenni 1 i 5.

    (2) Y gosb sydd i'w gosod mewn perthynas ag unrhyw dramgwydd mewn gorchymyn rheoli cwn, ar gollfarn ddiannod, yw dirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

    (3) Caiff gorchymyn rheoli cwn bennu'r amserau neu'r cyfnodau y gellir cyflawni tramgwydd o'u mewn.

Geiriad penodedig i'w ddefnyddio mewn gorchymyn rheoli cwn, a ffurf y gorchymyn
    
8. Rhaid i Awdurdod sy'n gwneud gorchymyn rheoli cwn—

Ffurf gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cwn
    
9. Rhaid i Awdurdod sy'n diwygio gorchymyn rheoli cwn wneud hynny'n unol ag Atodlen 6.

Dyfodiad gorchymyn rheoli cwn i rym
    
10. Rhaid i ddyddiad dyfodiad gorchymyn rheoli cwn (gan gynnwys gorchymyn diwygio gorchymyn rheoli cwn) i rym fod dim llai na 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad gwneud y gorchymyn.



Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[
3]


D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2007



ATODLEN 1
Rheoliadau 7 ac 8


Y TRAMGWYDD O FETHU Â SYMUD YMAITH FAW CI A FFURF Y GORCHYMYN


     1

    (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cwn (a ddisgrifir fel "Gorchymyn Baeddu Tir gan Gwn" yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â symud ymaith faw a ollyngwyd gan y ci ar unrhyw adeg, neu ar unrhyw adeg yn ystod cyfnodau penodol a ragnodir yn y gorchymyn.

    (2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â symud ymaith y baw, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

    (3) Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948[
4], nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.

     2 Mewn unrhyw Orchymyn Baeddu Tir gan Gwn, rhaid gosod y tramgwydd o fethu â symud ymaith faw ci i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

     3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Baeddu Tir gan Gwn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

Ffurf y Gorchymyn

Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007/702 (W.59)

Gorchymyn Baeddu Tir gan Gwn ([X][5]) [X][6]

Mae [X] [7], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

     1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][8].

     2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1][9].

Y Tramgwydd
     3

    (1) Os bydd ci yn bawa ar unrhyw adeg [yn ystod y cyfnodau a bennir yn Atodlen 2][10] ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo a bod person sydd â chyfrifoldeb dros y ci ar y pryd yn methu â symud y baw ci oddi ar y tir ar unwaith, bydd y person hwnnw yn euog o dramgwydd oni bai—

    (2) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—

    (3) At ddibenion yr erthygl hon —

Y Gosb
     4

Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol

[Dyddiad]

[Cymal ardystio]

[ATODLEN] [ATODLEN 1][11]

[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt][12]

[ATODLEN 2

[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]][13]



ATODLEN 2
Rheoliadau 7 ac 8


Y TRAMGWYDD O BEIDIO Â CHADW CI AR DENNYN A FFURF Y GORCHYMYN


     1

    (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cwn (a ddisgrifir fel "Gorchymyn Cwn ar Dennyn" yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i beidio â chadw'r ci ar dennyn neu ar dennyn â'i hyd ar y mwyaf wedi'i ragnodi yn y gorchymyn, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu rhagnodi.

    (2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fethu â chadw'r ci ar dennyn, neu os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

     2 Mewn unrhyw Orchymyn Cadw Cwn ar Dennyn rhaid gosod y tramgwydd o beidio â chadw ci ar dennyn i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

     3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cadw Cwn ar Dennyn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

Ffurf y Gorchymyn

Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

Gorchymyn Cwn ar Dennyn ([X][
14]) [X][15]

Mae [X] [16], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

     1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][17].

     2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1][18].

Y Tramgwydd
     3

    (1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg][yn ystod yr [amserau] [cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2][19], ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cadw'r ci ar dennyn [heb fod yn hwy na [X o centimetrau / o fetrau][20],oni bai—

    (2) At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno;

Y Gosb
     4

Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol

[Dyddiad]

[Cymal ardystio]

[ATODLEN] [ATODLEN 1][21]

[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt][22]

[ATODLEN 2

[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]][23]



ATODLEN 3
Rheoliadau 7 ac 8


Y TRAMGWYDD O BEIDIO Â RHOI CI AR DENNYN A'I GADW ARNO, DRWY GYFARWYDDYD A FFURF Y GORCHYMYN


     1

    (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cwn yn gymwys iddo (a ddisgrifir fel "Gorchymyn Cwn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd" yn y ffurf a osodir isod), i beidio â rhoi'r ci ar dennyn, ac wedi hynny ei gadw arno, neu ar dennyn nad yw'n hwy na'r hyd mwyaf a ragnodir yn y gorchymyn, yn ystod amserau a chyfnodau a gaiff eu rhagnodi, pan geir cyfarwyddyd i wneud hynny gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod.

    (2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan y person hwnnw esgus rhesymol dros fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd i roi ci ar dennyn a'i gadw arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

     2 Mewn unrhyw Orchymyn Cwn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd, rhaid gosod i lawr yn llawn y tramgwydd o beidio rhoi ci ar dennyn a'i gadw yno, drwy gyfarwyddyd, fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

     3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cwn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

Ffurf y Gorchymyn

Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

Gorchymyn Cwn ar Dennyn drwy Gyfarwyddyd ([X][
24]) [X][25]

Mae [X][26] a elwir yn y Gorchymyn hwn "yr awdurdod") yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

     1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][27].

     2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1][28].

Y Tramgwydd
     3

    (1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2][29], ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, os na fydd y person hwnnw yn cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan swyddog awdurdodedig o Awdurdod i roi ci ar dennyn [nad yw'n hwy na X o centimetrau / o fetrau] a'i gadw arno [30], oni bai—

    (2) At ddibenion yr erthygl hon —

    (3) Yn y Gorchymyn hwn ystyr "swyddog awdurdodedig o Awdurdod" yw cyflogai o'r Awdurdod sydd wedi'i awdurdodi yn ysgrifenedig gan yr Awdurdod at ddibenion rhoi cyfarwyddiadau o dan y Gorchymyn hwn.

Y Gosb
     4

Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

[Dyddiad]

[Cymal ardystio]

[ATODLEN] [ATODLEN 1][31]

[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt][32]

[ATODLEN 2

[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]][33]



ATODLEN 4
Rheoliadau 7 ac 8


Y TRAMGWYDD O GANIATÁU I GI FYND AR DIR Y MAE WEDI'I WAHARDD ODDI ARNO A FFURF Y GORCHYMYN


     1

    (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (3), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros gi ar dir y mae gorchymyn rheoli cwn (a ddisgrifir fel "Gorchymyn Gwahardd Cwn" yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, i fynd â'r ci ar y cyfryw dir, neu i ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, yn ystod amserau neu gyfnodau o'r fath ag a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.

    (2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â'r ci ar y tir, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â rheolaeth dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) i'r person hwnnw fethu â gwneud hynny.

    (3) Nid yw'r tramgwydd yn gymwys i berson sydd wedi'i gofrestru fel person dall mewn cofrestr a luniwyd o dan adran 29 o Deddf Cymorth Gwladol 1948, i berson byddar mewn perthynas â chi a hyfforddwyd gan Hearing Dogs for Deaf People (elusen gofrestredig Rhif 293358), nac i berson ag arno anabledd sy'n effeithio ar ei symudedd, ei ddeheurwydd llaw, ei gydlynedd corfforol neu ei allu i godi, i gario neu i symud teclynnau beunyddiol mewn modd arall, mewn perthynas â chi wedi ei hyfforddi gan Dogs for the Disabled (elusen gofrestredig Rhif 700454), Support Dogs (elusen gofrestredig Rhif 1088281) neu Canine Partners for Independence (elusen gofrestredig Rhif 803680) ac y mae'r person hwnnw yn dibynnu arno am gymorth.

     2 Mewn unrhyw Orchymyn Gwahardd Cwn, rhaid gosod y tramgwydd o fynd â chi ar dir y mae wedi'i wahardd oddi arno, neu ganiatáu iddo fynd arno neu aros arno, i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 3 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

     3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Gwahardd Cwn sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

Ffurf y Gorchymyn

Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

Gorchymyn Gwahardd Cwn [X][
34] [X][35]

Mae [X][36], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

     1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][37].

     2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1][38].

Y Tramgwydd
     3

    (1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros gi yn euog o dramgwydd [ar unrhyw adeg] [yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2][39] os bydd y person hwnnw yn mynd â'r ci ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, neu yn caniatáu iddo fynd arno neu aros arno oni bai—

    (2) Nid oes dim yn yr erthygl hon yn gymwys i berson—

    (3) At ddibenion yr erthygl hon —

Y Gosb
     4

Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 3 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

[Dyddiad]

[Cymal ardystio]

[ATODLEN] [ATODLEN 1][40]

[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt][41]

[ATODLEN 2

[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]][42]



ATODLEN 5
Rheoliadau 7 ac 8


Y TRAMGWYDD O FYND Â MWY NA NIFER PENODEDIG O GWN AR DIR A FFURF Y GORCHYMYN


     1

    (1) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), bydd yn dramgwydd wrth fod â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci ar dir y mae gorchymyn rheoli cwn (a ddisgrifir fel "Gorchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig)" yn y ffurf a osodir isod) yn gymwys iddo, mynd â mwy na'r uchafswm o gwn a bennir yn y gorchymyn ar y tir hwnnw yn ystod yr amserau neu'r cyfnodau a gaiff eu pennu yn y gorchymyn.

    (2) Nid oes tramgwydd yn cael ei gyflawni pan fo gan berson esgus rhesymol dros fynd â mwy na'r nifer penodedig o gwn ar y tir, nac os yw perchennog y tir, meddiannydd y tir neu berson neu awdurdod arall sydd â chyfrifoldeb dros y tir wedi cydsynio (yn gyffredinol neu'n benodol) iddo wneud hynny.

     2 Mewn unrhyw Orchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig) , rhaid gosod y tramgwydd o fynd â mwy na nifer penodedig o gwn ar dir i lawr yn llawn fel y'i datgenir yn erthygl 4 yn ffurf y gorchymyn a roddir isod.

     3 Ym mhob dim arall, rhaid i Orchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig) sy'n darparu ar gyfer y tramgwydd hwnnw fod yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

Ffurf y Gorchymyn

Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

Gorchymyn Cwn (Uchafswm Penodedig) [X][
43] [X][44]

Mae [X] [45], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

     1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][46].

     2 Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i'r tir a bennir yn [Yr Atodlen] [Atodlen 1][47].

     3 Ar dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, yr uchafswm o gwn y caiff person fynd â hwy arno yw [X][48].

Y Tramgwydd
     4

    (1) Bydd person sydd â chyfrifoldeb dros fwy nag un ci yn euog o dramgwydd [ar unrhyw amser][yn ystod [yr amserau] [y cyfnodau] a bennir yn Atodlen 2][49], os bydd y person hwnnw yn mynd â mwy na'r uchafswm o gwn a bennir yn erthygl 3 o'r Gorchymyn ar unrhyw dir y mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys iddo, oni bai—

    (2) At ddibenion yr erthygl hon cymerir bod person y mae ci fel rheol yn ei feddiant â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar unrhyw adeg onid oes rhyw berson arall â chyfrifoldeb dros y ci hwnnw ar yr adeg honno.

Y Gosb
     5

Bydd person sy'n euog o dramgwydd o dan erthygl 4 yn agored, o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

[Dyddiad]

[Cymal ardystio]

[ATODLEN] [ATODLEN 1][50]

[Manyleb/disgrifiad o'r tir, neu'r tiroedd, y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo neu iddynt][51]

[ATODLEN 2

[Manyleb o'r amserau neu'r cyfnodau pan fydd y tramgwydd yn gymwys]][52]



ATODLEN 6
Rheoliadau 7 ac 8


FFURF GORCHYMYN SY'N DIWYGIO GORCHYMYN RHEOLI CWN


     1 Bydd gorchymyn sy'n diwygio gorchymyn rheoli cwn yn y ffurf a roddir isod, neu mewn ffurf sy'n sylweddol gyfatebol.

     2 Pan fo'r disgrifiad o'r tramgwydd yn cael ei ddiwygio, rhaid gwneud y diwygiad drwy dynnu allan yr erthygl gyfan sy'n gosod y tramgwydd, a bydd yr erthygl a roddir i mewn yn ei lle yn gosod i lawr y tramgwydd fel y byddai'n ofynnol ei ddatgan petai yn cael ei gynnwys mewn gorchymyn rheoli cwn sy'n cael ei wneud o'r newydd.

Ffurf y Gorchymyn

Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005

Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cwn (Darpariaethau Amrywiol) 2007 (OS 2007/702 (W.59)

Gorchymyn 702 (W.59)[
53] (Diwygio) [X][54]

Mae [X][55], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

     1 Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar [X][56].

     2 Diwygir [XXXX][57] fel a ganlyn:

[mewnosoder y diwygiadau][58].

[Dyddiad]

[Cymal ardystio]



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae Pennod 1 (rheolaethau ar gwn) o Ran 6 (cwn) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (p. 16) ("Deddf 2005") yn sefydlu cyfundrefn newydd ar gyfer rheoli cwn gan gynghorau sir, cynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau cymuned ("awdurdodau"). Mae'r Bennod honno yn galluogi awdurdodau i wneud gorchmynion rheoli cwn mewn perthynas ag unrhyw dir yn eu hardal sydd yn agored i'r awyr, yn ddarostyngedig i fod unrhyw dir wedi'i eithrio drwy orchymyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn Rheolaethau ar Gwn (Heb fod yn Gymwys i Dir Dynodedig) (Cymru) 2007 (O.S. 2007 Rhif 702 (W.59) yn dynodi, at ddibenion penodedig, y disgrifiadau a ganlyn o dir fel tir nad yw Pennod 1 o Rhan 6 o Ddeddf 2005 yn gymwys iddo—

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi, mewn perthynas â gorchmynion rheoli cwn a wneir o dan adran 55 o Ddeddf 2005—

Mae mwy o wybodaeth ar Bennod 1 o Ran 6 o Ddeddf 2005 i'w chael yn y Nodiadau Esboniadol i Ddeddf 2005 sydd ar gael yn http://www.opsi.gov.uk/acts/en2005/ukpgaen_20050016_en.pdf


Notes:

[1] 2005 p. 16.back

[2] 2000 p. 37; am "access authority" gweler adran 1(2) ac am "access land" gweler adran 1(1).back

[3] 1998 p.38.back

[4] back

[5] Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back

[6] Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.back

[7] Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.back

[8] Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back

[9] Penner pa un sy'n berthnasol.back

[10] Penner cyfnodau os mai dim ond yn ystod cyfnodau penodol o'r flwyddyn y mae'r Gorchymyn yn gymwys.back

[11] Penner pa un sy'n berthnasol.back

[12] Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back

[13] Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.back

[14] Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back

[15] Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.back

[16] Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilyddol sy'n gwneud y Gorchymyn.back

[17] Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back

[18] Penner pa un sy'n berthnasol.back

[19] Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.back

[20] Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn.back

[21] Penner pa un sy'n berthnasol.back

[22] Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back

[23] Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.back

[24] Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back

[25] Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.back

[26] Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.back

[27] Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back

[28] Penner pa un sy'n berthnasol.back

[29] Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.back

[30] Os yw hyn i gael ei bennu, mewnosoder uchafswm hyd y tennyn.back

[31] Penner pa un sy'n berthnasol.back

[32] Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back

[33] Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.back

[34] Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back

[35] Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.back

[36] Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.back

[37] Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back

[38] Penner pa un sy'n berthnasol.back

[39] Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.back

[40] Penner pa un sy'n berthnasol.back

[41] Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back

[42] Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.back

[43] Dynoder, yn benodol neu'n gyffredinol, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back

[44] Mewnosoder blwyddyn gwneud y Gorchymyn.back

[45] Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.back

[46] Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back

[47] Penner pa un sy'n berthnasol.back

[48] Mewnosoder yr uchafswm.back

[49] Penner pa rai bynnag o'r opsiynau mewn cromfachau sgwar sy'n gymwys.back

[50] Penner pa un sy'n berthnasol.back

[51] Dynoder, naill ai'n benodol neu drwy ddisgrifiad, y tir y mae'r Gorchymyn yn gymwys iddo.back

[52] Os yw'n gymwys, cynhwyser Atodlen 2 yn pennu amserau neu gyfnodau.back

[53] Mewnosoder enw llawn (gan gynnwys blwyddyn gwneud) y Gorchymyn sydd i'w ddiwygio.back

[54] Mewnosoder flwyddyn gwneud y Gorchymyn diwygio.back

[55] Mewnosoder enw'r awdurdod cyntaf neu'r awdurdod eilaidd sy'n gwneud y Gorchymyn.back

[56] Mewnosoder y dyddiad y daw'r Gorchymyn i rym arno, sef o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl gwneud y Gorchymyn.back

[57] Mewnosoder enw llawn (gan gynnwys blwyddyn gwneud) y Gorchymyn sydd i'w ddiwygio.back

[58] Er enghraifft: "Yn lle [Paragraff X o] Erthygl [X] rhodder [y paragraff / yr Erthygl] a ganlyn:…", "ar ôl y geiriau [X] mewnosoder y geiriau a ganlyn: “ yn lle "[X]", rhodder y geiriau "[X]"", etc.].back



English version



ISBN 978 0 11 091533 3


 © Crown copyright 2007

Prepared 20 March 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070702w.html