BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 837 (Cy.72)
GALLUEDD MEDDYLIOL, CYMRU
Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Colli Galluedd yn ystod Prosiect Ymchwil) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
13 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
|
At y diben a grybwyllir yn |
|
rheoliad 1(1)(a) |
1 Gorffennaf 2007 | |
|
At bob diben arall |
1 Hydref 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 30(6), 34(1), (2) a (3), 64(1) a 65(1) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005[1].
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Colli Galluedd yn ystod Prosiect Ymchwil) (Cymru) 2007 a deuant i rym —
(a) ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyaeth at ddibenion Atodlen 1 i gael eu gwneud i gorff priodol ac i gael eu penderfynu ganddo,
(b) ar 1 Hydref 2007 at bob diben arall.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005;
mae i "corff priodol" yr ystyr a roddir i "appropriate body" gan adran 30(4) o'r Ddeddf a chan Reoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007[2].
mae i "P" yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 2;
mae i "R" yr ystyr a roddir iddo yn rheoliad 3.
Cymhwyso
2.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo'r canlynol yn wir—
(a) bod person ("P") wedi cydsynio cyn 31 Mawrth 2008 i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil ("y prosiect") a ddechreuodd cyn 1 Hydref 2007 ond
(b) cyn i'r prosiect ddod i ben, bod P yn colli galluedd i gydsynio i gymryd rhan ynddo, ac
(c) y byddai ymchwil at ddibenion y prosiect o ran P, heblaw am y Rheoliadau hyn, yn anghyfreithlon yn rhinwedd adran 30 o'r Ddeddf.
Ymchwil y caniateir ei gyflawni er bod cyfranogwr yn colli galluedd
3.
Er i P golli galluedd, caniateir i ymchwil at ddibenion y prosiect gael ei gyflawni gan ddefnyddio gwybodaeth neu ddeunydd sy'n ymwneud â P —
(a) os yw'r prosiect yn bodloni'r gofynion a osodir yn Atodlen 1;
(b) os cafwyd yr holl wybodaeth neu'r deunydd sy'n ymwneud â P a ddefnyddir yn yr ymchwil cyn i P golli galluedd;
(c) os yw'r wybodaeth honno neu'r deunydd hwnnw naill ai—
(i) yn ddata o fewn ystyr adran 1 o Ddeddf Diogelu Data 1998, neu
(ii) yn ddeunydd sy'n gelloedd dynol neu'n DNA dynol a/neu yn eu cynnwys; ac
(ch) os yw'r person sy'n cynnal y prosiect ("R") yn cymryd y camau hynny sy'n ymwneud â P a osodir yn Atodlen 2.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Mawrth 2007
ATODLEN 1Rheoliad 3
Gofynion y mae'n rhaid i'r prosiect eu bodloni
1.
Mae protocol a gymeradwywyd gan gorff priodol ac sy'n cael effaith mewn cysylltiad â'r prosiect yn darparu bod ymchwil yn cael ei gyflawni sy'n ymwneud â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn y prosiect ond sy'n colli galluedd i gydsynio i barhau i gymryd rhan ynddo.
2.
Rhaid bod y corff priodol wedi'i fodloni bod trefniadau rhesymol ar waith i sicrhau y bydd gofynion Atodlen 2 yn cael eu bodloni.
ATODLEN 2Rheoliad 3
Camau y mae'n rhaid i'r person sy'n cynnal y prosiect eu cymryd
1.
Rhaid i R gymryd camau rhesymol i ddarganfod pwy yw person—
(a) heblaw rhywun sydd yn ei swydd broffesiynol neu er mwyn tâl, yn gofalu am P neu mae ganddo ddiddordeb yn lles P, a
(b) sy'n barod i R ymgynghori ag ef o dan yr Atodlen hon.
2.
Os nad yw R yn gallu darganfod pwy yw person o'r fath rhaid i R, yn unol â chanllawiau a ddyroddir gan yr awdurdod priodol, enwebu person—
(a) sy'n barod i R ymgynghori ag ef o dan yr Atodlen hon, ond
(b) nad oes ganddo unrhyw gysylltiad â'r prosiect.
3.
Rhaid i R roi i'r person a enwir o dan baragraff 1, neu a enwebir o dan baragraff 2, wybodaeth am y prosiect a rhaid iddo ofyn i'r person hwnnw—
(a) am gyngor a ddylid cyflawni ymchwil o'r fath a arfaethir mewn perthynas â P, a
(b) beth, ym marn y person hwnnw, fyddai dymuniadau a theimladau P yn debygol o fod wrth i ymchwil o'r fath gael ei gyflawni pe bai'r galluedd gan P ynglyn â'r mater.
4.
Pe bai'r person yr ymgynghorir ag ef ar unrhyw adeg yn cynghori R y byddai dymuniadau a theimladau P ym marn y person hwnnw, yn debygol o arwain P i dynnu'n ôl oddi wrth y prosiect pe bai'r galluedd ganddo ynglyn â'r mater, rhaid i R sicrhau bod P yn cael ei dynnu oddi ar y prosiect.
5.
Nid yw'r ffaith bod person yn rhoddai i atwrneiaeth arhosol a roddwyd gan P, neu os yw'n ddirprwy i P, yn atal y person hwnnw rhag bod yn berson yr ymgynghorir ag ef o dan baragraffau 1 i 4.
6.
Rhaid i R sicrhau na wneir dim byd i P yn ystod yr ymchwil a fyddai'n groes i—
(a) penderfyniad ymlaen llaw gan P sydd yn effeithiol, neu
(b) unrhyw ffurf arall ar ddatganiad a wnaed gan P ac na chafodd ei dynnu'n ôl wedyn,
y mae R yn ymwybodol ohonynt.
7.
Rhaid tybio bod buddiannau P yn gorbwyso rhai gwyddoniaeth a chymdeithas.
8.
Os bydd P yn dangos (mewn unrhyw fodd) ei fod yn dymuno bod yr ymchwil ynglyn ag ef yn dod i ben, rhaid dod ag ef i ben yn ddi-oed.
9.
Rhaid dod â'r ymchwil i ben yn ddi-oed os bydd gan R ar unrhyw adeg sail resymol dros gredu nad yw un neu fwy o'r gofynion a osodir yn Atodlen 1 bellach yn cael ei fodloni neu eu bodloni ac nad oes bellach unrhyw drefniadau rhesymol ar waith i sicrhau bod gofynion yr Atodlen hon yn cael eu bodloni ynglyn â P.
10.
Rhaid i R gynnal yr ymchwil yn unol â'r ddarpariaeth a wnaed yn y protocol y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o Atodlen 1 ar gyfer ymchwil i gael ei gyflawni ynglŷn â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan yn y prosiect ond sy'n colli galluedd i gydsynio i gymryd rhan ynddo.
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Caiff y Rheoliadau hyn eu gwneud o dan adrannau 30, 34, 64 a 65 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p.9) ("y Ddeddf"). Maent yn darparu ar gyfer ymchwil penodol, sy'n ymwneud â phobl heb y galluedd i gydsynio iddo, i gyflawni'n gyfreithlon yr hyn y byddai fel arall yn rhaid cydymffurfio â gofynion adran 30 o'r Ddeddf.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran cyflawni ymchwil yng Nghymru.
Mae rheoliad 1 yn darparu i'r Rheoliadau ddod i rym ar 1 Gorffennaf 2007 at ddibenion galluogi ceisiadau ar gyfer cymeradwyo protocolau ymchwil o dan y Rheoliadau i gael eu gwneud a'u penderfynu ac at bob diben arall ar 1 Hydref 2007.
Mae rheoliad 2 yn darparu bod y Rheoliadau'n gymwys pan fo prosiect ymchwil wedi dechrau cyn 1 Hydref 2007 a bod person ("P") wedi cydsynio, cyn 31 Mawrth 2008, i gymryd rhan yn y prosiect ond ei fod wedyn wedi colli'r galluedd i barhau i gydsynio.
Mae rheoliad 3 yn darparu y gellir cyflawni ymchwil sy'n defnyddio gwybodaeth neu ddeunydd a gasglwyd cyn i P golli galluedd. Rhaid bod yr wybodaeth neu'r deunydd naill ai'n ddata o fewn ystyr Deddf Diogelu Data 1998 (p.29) neu'n ddeunydd sy'n gelloedd dynol neu'n DNA neu'n eu cynnwys. Yn ychwanegol, mae'n darparu bod yn rhaid cydymffurfio â gofynion Atodlenni 1 a 2.
Mae Atodlen 1 yn darparu bod yn rhaid bod corff priodol wedi cymeradwyo protocol ar gyfer y prosiect o ran ymchwil sydd i'w gyflawni ynglŷn â pherson sydd wedi cydsynio i gymryd rhan ac yna wedi colli galluedd. Rhaid bod y corff priodol hefyd wedi'i fodloni bod trefniadau rhesymol ar gael i sicrhau y byddir yn cydymffurfio ag Atodlen 2.
Diffinnir "corff priodol" yn rheoliad 1 drwy gyfeirio at Reoliadau Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (Corff Priodol) (Cymru) 2007 2007/833 (Cy.71). "Corff priodol" yw pwyllgor—
(i) a sefydlwyd i gynghori ar foeseg ymchwil ymwthiol ynglyn â phobl nad yw'r galluedd ganddynt i gydsynio iddo neu i gynghori ar faterion sy'n cynnwys y foeseg honno; a
(ii) a gydnabyddir at y dibenion hynny gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae i "ymchwil ymwthiol" yr ystyr a roddir i "intrusive research" yn adran 30(2) o'r Ddeddf.
Mae Atodlen 2 yn gosod gofynion o ran ymgynghori ynghylch cyfranogiad P yn y prosiect, o ran parchu ei ddymuniad a'i wrthwynebiad ac o ran tybio bod ei fuddiannau'n gorbwyso buddiannau gwyddoniaeth a chymdeithas.
Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a gosodwyd copi ohono yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Notes:
[1]
2005 p.9. Enwir adran 64(1) oherwydd yr ystyr a roddir ynddi i "prescribed".back
[2]
O.S. 2007/833 (Cy.71).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091545 6
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
23 March 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070837w.html