BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 854 (Cy.78)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007
|
Wedi'u gwneud |
14 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
23 Mawrth 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 51(3) ac 89(4) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru [2]):
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Gorchmynion Drafft) (Cymru) 2007.
(2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Mawrth 2007.
(3) Yn y rheoliadau hyn mae cyfeiriad at adran yn gyfeiriad at adran o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
(4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Cyhoeddi etc. gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a)
2.
—(1) Mae'r materion a ganlyn wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(a) (gorchmynion o dan adran 16(1)) —
(a) rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi (yn unol ag is-baragraff (b) a pharagraff (3) is-baragraffau (a) i (c)) dim hwyrach na dau fis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu'r corff corfforaethol;
(b) rhaid i grynodeb o'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi —
(i) mewn o leiaf un papur newydd sy'n cylchredeg yn yr ardal a wasanaethir, neu a fydd yn cael ei gwasanaethu, gan y sefydliad y mae'r gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef,
(ii) drwy ei osod mewn o leiaf un man amlwg yn yr ardal honno, a
(iii) yn achos gorchymyn drafft sy'n ymwneud â sefydliad sydd eisoes yn bod, drwy ei osod mewn lle amlwg wrth brif fynedfa'r sefydliad hwnnw neu gerllaw iddi.
(2) Rhaid i'r crynodeb ddatgan y gellir cael copi o'r Gorchymyn drafft yn rhad ac am ddim gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(3) Rhaid i Gynulliad Cenedlaethol Cymru anfon copi o'r gorchymyn drafft—
(a) at awdurdod addysg lleol yr ardal y lleolir y sefydliad o'i mewn neu lle y bwriedir ei leoli; a
(b) corff llywodraethu unrhyw sefydliad yn y sector addysg bellach, neu gorff llywodraethu unrhyw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol sy'n darparu addysg addas at ofynion pobl dros oed ysgol gorfodol nad ydynt dros bedair ar bymtheg mlwydd oed, ac yn y ddau achos sydd yn yr ardal a wasanaethir neu a fydd yn cael ei gwasanaethu gan y sefydliad y mae'r gorchymyn drafft yn ymwneud ag ef; ac
(c) unrhyw berson arall yr ymddengys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod ganddo fuddiant; ac
(ch) unrhyw berson sy'n gofyn amdano.
Cyhoeddi etc. gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b)
3.
—(1) Mae'r materion ym mharagraff (2) wedi'u rhagnodi at ddibenion adran 51(3) mewn perthynas â gorchmynion y cyfeirir atynt yn adran 51(3)(b) (gorchmynion a wneir o dan adran 16(3)).
(2) Rhaid i'r gorchymyn drafft gael ei gyhoeddi dim hwyrach na dau fis cyn y dyddiad a bennir ynddo ar gyfer sefydlu'r corff corfforaethol drwy anfon copi at—
(a) corff llywodraethu'r sefydliad y cyfeirir ato ynddo;
(b) yr awdurdod addysg lleol, os oes un, sy'n cynnal y sefydliad ac, yn achos ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig sydd o natur grefyddol at ddibenion Rhan II o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, awdurdod priodol unrhyw enwad crefyddol dan sylw; ac
(c) unrhyw berson yr ymddengys i Gynulliad Cenedlaethol Cymru fod ganddo fuddiant.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
J. Marek
Dirprwy Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
14 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Rheoliadau hyn (sydd yn gymwys o ran Cymru) yn rhagnodi amser a dull cyhoeddi gorchmynion drafft y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu'u gwneud ar gyfer sefydlu corfforaethau addysg bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adrannau 16(1) a (3) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992.
Notes:
[1]
1992 p.13back
[2]
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672)back
[3]
1998 p38back
English version
ISBN
978 0 11 091537 1
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
21 March 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070854w.html