BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 951 (Cy.82)
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) a'r Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
21 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
21 Ebrill 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 53(11) a (12), 56(5), 105 a 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) a'r Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2007 ac maent yn dod i rym ar 21 Ebrill 2007.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "Deddf 1972" ("the 1972 Act") yw Deddf Llywodraeth Leol 1972[2].
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001
2.
Yn rheoliad 10 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001[3]—
(a) ym mharagraff (1), yn lle "(2) a (3)", rhodder "(2) i (3)"; a
(b) yn lle paragraff (2), rhodder—
"
(2) Nid yw paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol bod dogfen ar gael i'w harchwilio os yw'n ymddangos i'r swyddog priodol ei bod yn datgelu gwybodaeth esempt o ddisgrifiad syn dod o fewn Rhan 4 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 (Disgrifiadau o Wybodaeth Esempt: Cymru).
(2A) Mae paragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol (er gwaethaf paragraff (2)) bod y ddogfen ar gael i'w harchwilio os yw'r wybodaeth yn wybodaeth o ddisgrifiad sydd am y tro yn dod o fewn—
(a) paragraff 14 o Atodlen 12A i Deddf 1972 (ac eithrio i'r graddau bod yr wybodaeth yn ymwneud ag unrhyw delerau a gynigir neu sydd i'w cynnig gan yr awdurdod neu iddo yn ystod trafodaethau am gontract); neu
(b) paragraff 17 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972.".
Diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
3.
Yn rheoliad 26 o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001[4]—
(a) Ym mharagraff (1)(i) ar ôl "Atodlen 12A" mewnosoder ", Rhan 4 i 6";
(b) Ym mharagraff (9) yn lle "paragraff (2) o Ran III" rhodder "paragraff 22(2) o Ran 6".
Cymhwyso Atodlen 12A i Ddeddf 1972 at Bwyllgorau Safonau
4.
Pan fydd cyfarfod o bwyllgor safonau, neu is-bwyllgor o bwyllgor safonau yn cael ei gynnull i ystyried mater a atgyfeirir iddo o dan ddarpariaethau adran 70(4) neu (5) neu 71(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, bydd darpariaethau Rhan 4 i 6 o Atodlen 12A i Ddeddf 1972 yn gymwys fel pe bai'r disgrifiadau canlynol o wybodaeth esempt yn cael eu mewnosod ar ôl paragraff 18 o'r Atodlen honno
"
(18A) Information which is subject to any obligations of confidentiality.
(18B) Information which relates in anyway to matters concerning national security.
(18C) The deliberations of a standards committee or of a sub-committee of a standards committee established under the provisions of Part 3 of the Local Government Act 2000 in reaching any finding on a matter referred to it.".
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
21 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran prif gynghorau yng Nghymru.
Mae Gorchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad i Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn diwygio Atodlen 12A i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac, o wneud hynny, yn newid Rhif au'r paragraffau yn Atodlen 12A. Caiff y cyfeiriadau at Atodlen 12A yn rheoliad 10 o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 eu diwygio gan reoliad 2 o'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 26 o Reoliadau'r Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 hefyd yn cyfeirio at Atodlen 12A a chaiff y cyfeiriadau hynny eu diwygio gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn.
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth sy'n addasu cymhwysiad Atodlen 12A pan fo pwyllgor safonau yn cyfarfod i ddelio â honiad o dorri cod ymddygiad.
Notes:
[1]
2000 p.22.back
[2]
1972 p.70.back
[3]
O.S. 2001/2290.back
[4]
O.S. 2001/2283.back
[5]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091559 3
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
4 April 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070951w.html