BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 953 (Cy.84)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
20 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 13(2) a (3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006[1] a pharagraffau 4(1) a (2) o Atodlen 2 iddi ac sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol o ran Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) (Diwygio) 2007; maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
Diwygio'r prif Reoliadau
2.
Diwygir Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003[2] ("y prif Reoliadau") yn unol â rheoliadau 3 i 15.
Diwygio'r prif Reoliadau
3.
Yn rheoliad 2 (Dehongli)
(a) dileer y diffiniad o "aelodau cyntaf" ("first members");
(b) yn y diffiniad o "corff gwasanaeth iechyd" ("health service body") ar ôl "Ymddiriedolaeth GIG" mewnosoder y geiriau —
"
, un o Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG";
(c) yn y diffiniad o "aelod awdurdod lleol" ("local authority member") yn lle "enwebu" rhodder—
(ch) yn y diffiniad o "aelod" ("member") dileer y canlynol —
"
, aelodau cyswllt ac aelodau cyfetholedig";
(d) yn y diffiniad o "aelod sy'n swyddog" ("officer member") yn lle "rheoliad 3(3)" rhodder y canlynol —
(dd) yn y diffiniad o "aelod nad yw'n swyddog" ("non-officer member")
(i) yn lle "nad yw'n" dal unrhyw swydd”rhodder y canlynol —
"
sy'n dod a fewn categori"; a
(ii) ar y diwedd mewnosoder—
(e) dileer y diffiniad o "aelod cysgodol" ("shadow member").
4.
—(1) Diwygir rheoliad 3 (aelodaeth o Fyrddau Iechyd Lleol) o'r prif Reoliadau yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn lle rheoliad 3(1) rhodder y canlynol —
"
3.
—(1) Bydd aelodau'r Bwrdd fel a ganlyn—
(a) cadeirydd a benodwyd gan y Cynulliad;
(b) os yw'r Cynulliad o'r farn bod hynny'n briodol, is-gadeirydd a benodwyd gan y Cynulliad;
(c) aelodau sy'n swyddogion; ac
(ch) aelodau nad ydynt yn swyddogion.";
(3) Yn rheoliad 3(3)
(i) dileer paragraffau (a) a (b);
(ii) ym mharagraff (c) dileer "hyd at" ac yn lle "bedwar" rhodder "pedwar";
(iii) ym mharagraff (h) dileer "a";
(iv) ym mharagraff (i) dileer "." ac ychwaneger "; a"; a
(v) ar ôl paragraff (i) mewnosoder
"
(j) aelodau cyfetholedig.".
(4) Dileer rheoliad 3(4).
5.
Diwygir rheoliad 4 (Penodi Aelodau Byrddau Iechyd Lleol) o'r prif Reoliadau yn unol â'r rheoliad hwn.
(1) Dileer paragraff (1);
(2) Ym mharagraff (3)
(i) ar ôl "is-gadeirydd" dileer "a'r" a mewnosoder "a benodwyd o dan baragraff (2),";
(ii) ar ôl "aelodau cyfetholedig" mewnosoder "ac aelodau awdurdod lleol"; a
(iii) dileer "yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth y Cynulliad".
(3) Ar ôl paragraff (3) mewnosoder y canlynol —
"
(3A) Mae pob aelod awdurdod lleol i'w benodi gan yr awdurdod lleol ar gyfer ardal y Bwrdd.".
(4) Ym mharagraff (4) —
(a) yn lle "Penodir" rhodder y canlynol —
(b) ar ôl "dro ynghylch penodiadau" mewnosoder
(c) ym mharagraff (5) —
(i) yn lle "baragraff (3)" rhodder y canlynol —
"
baragraffau (3) a (3A)"; a
(ii) yn lle "Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn" rhodder y canlynol —
"
Atodlen 1 neu Atodlen 1A (lle y bônt yn gymwys)";
(ch) ar ôl paragraff (5), mewnosoder y canlynol —
"
(5A) Rhaid i'r person neu'r personau sy'n gyfrifol am wneud unrhyw benodiad o dan baragraffau (3) a (3A) wneud pob ymdrech resymol i benodi aelodau i lenwi unrhyw sedd aelod o'r Bwrdd sy'n wag.".
6.
Dileer rheoliad 5 (Trefniadau trosiannol ar gyfer penodi aelodau cyntaf Bwrdd Iechyd Lleol).
7.
Yn rheoliad 6 (Gofynion i fod yn gymwys i fod yn aelod o Fwrdd Iechyd Lleol) —
"
sy'n gwneud cais i fod yn aelod o Fwrdd"; a
(b) Ar ôl "gael ei benodi'n aelod" mewnosoder —
"
a rhaid iddo barhau i gyflawni'r gofynion perthnasol tra bo'r person hwnnw'n dal swydd".
8.
Ar ôl rheoliad 7 (Cyfnod penodiad aelodau cyfetholedig) mewnosoder y rheoliad a ganlyn —
"
Deiliadaeth swydd
7A.
—(1) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae person yn dal swydd ac yn gadael swydd fel aelod Bwrdd yn unol â thelerau penodi'r person hwnnw.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 7, 7B, 8 a 9, penodir person i ddal swydd fel aelod nad yw'n swyddog am nid mwy na phedair blynedd.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) caiff person, pan ddaw ei dymor mewn swydd i ben, fod yn gymwys i'w ailethol.
(4) Ni chaiff person ddal swydd fel aelod nad yw'n swyddog ar Fwrdd heb gymeradwyaeth y Cynulliad ymlaen llaw os yw'r person hwnnw wedi dal swydd ar y Bwrdd hwnnw am gyfnod sy'n gyfanswm o ddeng mlynedd neu fwy.
Deiliadaeth swydd — Trefniadau trosiannol
7B.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fydd person wedi'i benodi cyn 1 Ebrill 2007.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), pan fydd person wedi'i benodi i ddal swydd am dymor penodedig, gweddill y tymor hwnnw fydd tymor mewn swydd y person hwnnw ond ni fydd, o dan unrhyw amgylchiadau, yn hwy na phedair blynedd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff 4, pan fydd person wedi'i benodi i ddal swydd ond na phennwyd tymor, bydd y person hwnnw'n dal swydd am ddim mwy na phedair blynedd yn cychwyn ar 1 Ebrill 2007.
(4) Pan fydd aelod awdurdod lleol wedi'i benodi, caiff yr awdurdod lleol derfynu deiliadaeth swydd y person hwnnw drwy roi rhybudd ysgrifenedig i'r person hwnnw."
9.
Yn rheoliad 9 (Terfynu penodiad ac atal dros dro aelodau nad ydynt yn swyddogion) o'r prif Reoliadau ar ôl paragraff (2) mewnosoder y canlynol —
"
(2A) Pan fydd person wedi'i benodi gan awdurdod lleol yn unol â rheoliad 4(3A) caiff yr awdurdod lleol derfynu deiliadaeth swydd y person hwnnw drwy roi rhybudd ysgrifenedig iddo.".
10.
Ar ôl rheoliad 9 (Terfynu penodiad ac atal dros dro aelodau nad ydynt yn swyddogion) o'r prif Reoliadau mewnosoder y canlynol —
"
Terfynu penodiad cadeirydd neu is-gadeirydd
9A.
—(1) Os bydd y Cynulliad yn penderfynu—
(a) nad yw'n fuddiol i'r gwasanaeth iechyd yn yr ardal y mae Bwrdd yn gweithredu drosti; neu
(b) nad yw'n gydnaws â rheoli'r Bwrdd yn dda,
bod person a benodwyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd Bwrdd yn parhau i ddal y swydd honno, caiff y Cynulliad symud y person hwnnw o'r swydd honno.
(2) Os daw i sylw'r Cynulliad bod person a benodwyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd bellach yn anghymwys i'w benodi o dan Ran I o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn, caiff y Cynulliad symud y person hwnnw o'r swydd honno.
(3) Os yw'n ymddangos i'r Cynulliad bod person a benodwyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd wedi methu â chydymffurfio â rheoliad 15, caiff y Cynulliad symud y person hwnnw o'r swydd honno.
(4) Os bydd person a benodwyd yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd wedi methu â mynychu cyfarfod o'r Bwrdd am gyfnod o dri mis, caiff y Cynulliad derfynu aelodaeth y person hwnnw onid yw wedi'i fodloni—
(a) bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a
(b) y bydd y person yn gallu mynychu'r cyfryw gyfarfodydd o fewn y cyfryw gyfnod ag y bydd y Cynulliad o'r farn ei fod yn rhesymol.
(5) Pan fydd person wedi'i benodi'n is-gadeirydd yn unol â rheoliad 10 a bod y person hwnnw wedi'i symud o'r swydd honno o dan unrhyw un neu rai o'r paragraffau uchod caiff y person barhau i fod yn aelod nad yw'n swyddog oni fydd y Bwrdd yn terfynu ei aelodaeth fel arall.
(6) Cyn gwneud penderfyniad i derfynu aelodaeth cadeirydd neu is-gadeirydd o dan unrhyw un neu rai o'r paragraffau uchod, caiff y Cynulliad atal dros dro ddeiliadaeth swydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd hwnnw am y cyfryw gyfnod ag y bydd o'r farn ei fod yn rhesymol.
(7) Ni chaiff cadeirydd neu is-gadeirydd y mae ei aelodaeth wedi'i hatal dros dro o dan baragraff (5) gyflawni swyddogaethau unrhyw aelod o'r Bwrdd.
9B.
Caiff unrhyw aelod ymddiswyddo o fod yn aelod drwy hysbysu'r Bwrdd yn ysgrifenedig ond yn ddarostyngedig i delerau penodi'r person hwnnw.".
11.
—(1) Diwygir rheoliad 10 (Penodi is-gadeirydd) o'r prif Reoliadau yn unol â'r rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 10(1) ar ôl "aelod sy'n swyddog" mewnosoder y canlynol—
"
, yn aelod cyfetholedig neu'n aelod cyswllt".
(3) Ar ôl rheoliad 10(1), mewnosoder y paragraff canlynol —
"
(1A) Pan fydd aelod nad yw'n swyddog wedi'i benodi'n is-gadeirydd o dan y rheoliad hwn bydd yr aelod hwnnw'n parhau i fod yn aelod nad yw'n swyddog at ddiben y Rheoliadau hyn.
(1B) Pan fydd y Bwrdd yn penodi is-gadeirydd rhaid iddo wneud hynny'n unol ag Atodlen 1A".
12.
Yn rheoliad 13 (Cyfarfodydd a thrafodion) o'r prif Reoliadau ar ôl paragraff (3) mewnosoder —
"
(3A) Ni fydd y ffaith bod sedd aelod o'r Bwrdd yn wag neu unrhyw ddiffyg ym mhenodi person yn aelod yn peri bod trafodion y Bwrdd yn annilys.".
13.
Yn rheoliad 16 (Trefniadau gan Fyrddau ar gyfer arfer eu swyddogaethau) o'r prif Reoliadau
(a) ym mharagraff (1)(c)(iv) dileer "neu"; a
(b) ar ôl paragraff (1)(c)(iv) mewnosoder —
14.
—(1) Diwygir Atodlen 1 o'r prif Reoliadau yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Ym mharagraff (1) —
(a) ar ôl "is-gadeirydd" yn lle "," rhodder "a'r"; a
(b) dileer "a'r aelodau cyntaf".
(3) Ym mharagraff (2) yn lle "i'r Bwrdd" rhodder y canlynol —
"
i'r person sy'n gyfrifol am wneud unrhyw benodiad o dan reoliad 4(3), (3A) a (4)".
15.
Ar ôl Atodlen 1 mewnosoder y canlynol —
"
Atodlen 1A
Gweithdrefnau ar gyfer Penodi Aelodau Cyfetholedig ac Is-gadeiryddion
(1) Mae'r Atodlen hon yn gymwys i ddewis a phenodi —
(a) aelodau cyfetholedig a benodir o dan reoliad 4(4); a
(b) is-gadeiryddion a benodir o dan reoliad 10.
(2) Rhaid i'r Bwrdd sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer dewis a phenodi personau'n aelodau cyfetholedig ac yn is-gadeiryddion a rhaid i'r trefniadau hynny roi sylw i —
(a) y gofyniad bod dewis a phenodi aelodau'n agored ac yn dryloyw; a
(b) yr angen am sicrhau bod aelod sydd i'w benodi'n bodloni'r gofynion cymhwystra a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 a bod yr aelod yn bodloni 'r meini prawf dewis a'r safonau hyfedredd a gymhwysir gan y Bwrdd i aelodau eraill nad ydynt yn swyddogion."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
20 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/149 (Cy.19)) ("Rheoliadau 2003"). Mae Rheoliadau 2003 yn gwneud darpariaethau ar gyfer cyfansoddiad ac aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol gan gynnwys eu gweithdrefnau a'u trefniadau gweinyddol. Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rheoliadau 2003 i wneud darpariaeth i awdurdodau lleol benodi personau i'w cynrychioli ar y Bwrdd. Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer deiliadaeth holl benodiadau Bwrdd ac ar gyfer terfynu penodiadau aelodau Bwrdd.
2.
Mae'r Rheoliadau—
(a) yn gwneud diwygiadau i reoliad 2 o Reoliadau 2003 er mwyn cynnwys Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG yn y diffiniad o gorff gwasanaeth iechyd (rheoliad 3);
(b) yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau 2003 i'w gwneud yn glir bod gwahaniaeth, at ddiben y Rheoliadau hynny, rhwng cadeirydd neu is-gadeirydd a benodir gan y Cynulliad ac aelodau eraill o'r Bwrdd (rheoliad 4);
(c) yn darparu bod pob aelod sy'n cynrychioli'r awdurdod lleol ar gyfer ardal y Bwrdd yn cael ei benodi gan yr awdurdod lleol (rheoliad 5(3);
(ch) yn darparu, pan fydd sedd wag ar Fwrdd, bod yn rhaid i'r Bwrdd hwnnw wneud pob ymdrech resymol i lenwi'r sedd wag honno (rheoliad 5(4));
(d) yn dileu darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol ar gyfer penodi aelodau cyntaf y Bwrdd. Gan fod y Byrddau eisoes wedi'u sefydlu nid oes angen y ddarpariaeth hon mwyach (rheoliad 6);
(dd) yn darparu ar gyfer penodi aelodau nad ydynt yn swyddogion am ddim mwy na phedair blynedd, ac yn darparu, pan fydd aelod nad yw'n swyddog yn gwasanaethu ar Fwrdd am fwy na deng mlynedd, bod yn rhaid i'r Bwrdd geisio cymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Maent hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau trosiannol ar gyfer aelodau presennol (rheoliad 8);
(e) yn gwneud darpariaeth, pan fydd person wedi'i benodi gan awdurdod lleol, y caiff yr awdurdod lleol hwnnw derfynu'r penodiad ar unrhyw adeg (rheoliad 9);
(f) yn darparu bod penodiad cadeirydd neu is-gadeirydd yn cael ei derfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 10); ac
(ff) yn darparu, pan fydd is-gadeirydd wedi'i benodi gan y Bwrdd ond bod ei benodiad yn cael ei derfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol, bod y person hwnnw'n parhau'n aelod nad yw'n swyddog (rheoliad 11).
Notes:
[1]
2006 p.42.back
[2]
O.S. 2003/149 (Cy.19).back
[3]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091548 7
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
25 April 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20070953w.html