BAILII is celebrating 24 years of free online access to the law! Would you
consider making a contribution?
No donation is too small. If every visitor before 31 December gives just £1, it
will have a significant impact on BAILII's ability to continue providing free
access to the law.
Thank you very much for your support!
[New search]
[Help]
OFFERYNNAU STATUDOL
2007 Rhif 1049 (Cy.107)
COMISIYNYDD PLANT,CYMRU
Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) (Diwygio) 2007
|
Wedi'u gwneud |
27 Mawrth 2007 | |
|
Yn dod i rym |
1 Ebrill 2007 | |
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 2 o Atodlen 2 iddi[1].
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2007.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr "y Comisiynydd" ("the Commissioner") yw Comisiynydd Plant Cymru[2]
ystyr "y cyfnod cychwynnol" yw ("the initial period") fel y'i diffinnir yn adran 161(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006[3];
ystyr "y Prif Ysgrifennydd" ("the First Secretary") yw'r person a etholir o dro i dro yn Brif Ysgrifennydd y Cynulliad yn unol ag adran 53(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4];
ystyr "y Prif Weinidog" ("the First Minister") yw'r person a benodi'r o dro i dro yn Brif Weinidog Cymru yn unol ag adran 46 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
ystyr "plant perthnasol" ("relevant children") yw unrhyw blant sy'n preswylio yng Nghymru sy'n cael eu dethol at ddibenion penodiad penodol—
(a) yn y fath fodd ag y gellid ei benderfynu gan y pwyllgor perthnasol yn unol â chylch gwaith y pwyllgor, neu
(b) yn absenoldeb penderfyniad o'r fath, yn y fath fodd ag y caiff y Prif Ysgrifennydd ei benderfynu;
ystyr "pwyllgor perthnasol" ("relevant committee") yw unrhyw bwyllgor y gellid ei sefydlu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dro i dro o dan adran 54(1)(b) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 er mwyn darparu cyngor a phenderfynu materion sy'n berthnasol i benodi'r Comisiynydd.
(4) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriad —
(a) at reoliad â rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn sy'n dwyn y rhif hwnnw;
(b) mewn rheoliad at baragraff â rhif, yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw sy'n dwyn y rhif hwnnw.
Diwygio Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000
2.
Diwygier Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000[5] yn unol â rheoliadau 3 i 6 o'r Rheoliadau hyn.
3.
Yn rheoliad 1(2), yn yr adran ddehongli, ychwaneger y diffiniadau canlynol yn y lle priodol yn ôl trefn yr wyddor:—
"ystyr "y Prif Weinidog" ("the First Minister") yw'r person a benodi'r o dro i dro yn Brif Weinidog Cymru yn unol ag adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006[6];"
ystyr "y cyfnod cychwynnol" yw "the initial period" fel y'i diffinnir yn adran 161(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
4.
Rhodder y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 2:—
"
Penodi'r Comisiynydd
2.
—(1) Hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Ysgrifennydd.
(2) Dim ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth y caiff y Comiiynydd ei benodi o dan baragraff (1)—
(a) cyngor pwyllgor perthansol,
(b) barn plant perthnasol ynghylch unrhyw ymgeiswyr a gaiff eu cyfweld ar gyfer y penodiad, ac
(c) cyngor unrhyw banel dewis, a sefydlwyd er mwyn cyfweld ymgeiswyr, ynghylch eu priodoldeb ar gyfer y penodiad.
(3) Ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnool, caiff y Comisiynydd ei benodi gan y Prif Weinidog.
(4) Ni ellir penodi'r Comisiynydd o dan baragraff (3) ond ar ôl cymryd y canlynol i ystyriaeth—
(a) barn y plant perthnasol am unryw ymgeiswyr y cyfwelir ar gyfer y penodiad, a
(b) cyngor unrhyw banel dewis, a sefydlwyd at ddiben cyfweld ag ymgeiswyr ynghylch eu priodoldeb ar gyfer y penodiad.
(5) Yn ddarostyngedig i reoliad 3, cyfnod swydd y Comisiynydd a benodir o dan y Rheoliadua hyn yw saith mlynedd.
(6) Ni fydd y Comisiynydd yn gymwys i gael ei ailbenodi pan ddaw cyfnod y swydd i ben neu os terfynir hi cyn hynny."
5.
Rhodder y rheoliad canlynol yn lle rheoliad 3:—
"
3.
—(1) Hyd at ddiwedd y cyfnod cychwynnol caiff y Prif Ysgrifennydd ryddhau'r Comisiynydd o'i swydd cyn i gyfnod y swydd ddod i ben—
(a) ar gais y Comisiynydd,
(b) ar sail camymddwyn,
(c) os bydd wedi'i fodloni nad yw'r Comisiynydd yn alluog oherwydd gwendid meddyliol neu gorfforol i gyflawni swyddogasethau'r Comisiynydd.
(2) Ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol caiff unrhyw swyddogaethau a oedd yn arferadwy yn union cyn diwedd y cyfnod cychwynnol gan y Prif Ysgrifennydd o dan baragraff (1) eu harfer gan y Prif Weinidog."
6.
Ychwaneger y rheoliad canlynol yn union ar ôl rheoliad 4.—(1)
"
(2) Mae unrhyw beth a gaiff ei wneud gan y Prif Ysgrifennydd o dan y Rheoliadau hyn i'w drin ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol fel pe bai wedi cael ei wneud gan y Prif Weinidog."
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]
D. Elis-Thomas
Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru
27 Mawrth 2007
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penodi Comisiynydd Plant Cymru sef swydd a sefydlwyd o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.
Mae'r Rheoliadau'n diwygio Rheoliadau Comisiynydd Plant Cymru (Penodi) 2000 o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r Rheoliadau yn gwneud darpariaeth amgen ar gyfer penodi Comisiynydd a'i ryddhau o'i swydd gan ddibynnu ar pryd y mae'r penodi neu'r rhyddhau o'r swydd yn digwydd. Mae'r Rheoliadau'n cymryd i ystyriaeth newidiadau sydd i gael eu gwneud yn effeithiol o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a'u bwriad yw sicrhau na fydd y newidiadau hyn yn peri bod oedi neu aflonyddwch wrth benodi'r Comisiynydd.
Mae'r Rheoliadau yn gwneud diwygiadau er mwyn darparu y gall y Comisiynydd gael ei benodi gan Brif Ysgrifennydd y Cynulliad, fel y'i diffinnir yn Neddf Llywodraeth Cymru 1998, os caiff y penodiad ei wneud cyn bod Prif Weinidog newydd yn cael ei benodi o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Dim ond wrth ddilyn cyngor gan unrhyw bwyllgor o'r Cynulliad a sefydlwyd er mwyn cynghori ynghylch y penodiad, ar ôl i ymgeiswyr gael eu cyfweld gan banel dewis, ynghylch eu priodoldeb i gael eu penodi, y gall penodiad gael ei wneud yn ystod y cyfnod yma. Mae'r Prif Ysgrifennydd o dan ddyletswydd hefyd i gymryd i ystyriaeth farn plant yng Nghymru ynghylch y penodiad arfaethedig.
Yn dilyn penodi Prif Weinidog newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 penodir y Comisiynydd gan y Prif Weinidog, heb gyngor gan y pwyllgor perthnasol, ond ar ôl i'r Prif Weinidog gymryd i ystyriaeth farn plant yng Nghymru, a chyngor unrhyw banel dewis.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfnod y swydd, a'r amgylchiadau pan ellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd. Hyd nes y penodir Prif Weinidog newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan y Prif Ysgrifennydd. Ar ôl penodi Prif Weinidog newydd gellir rhyddhau'r Comisiynydd o'i swydd gan y Prif Weinidog.
O ran eglurder ynghylch cyfrifoldeb cyfreithiol ar gyfer arfer swyddogaethau gan y Prif Ysgrifennydd, mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaeth atodol i ymdrin â swyddogaethau sy'n cael eu harfer felly fel petaent yn swyddogaethau sy'n cael eu harfer gan y Cynulliad o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae'r Rheoliadau'n darparu hefyd y bydd unrhyw beth a wneir gan y Prif Ysgrifennydd yn union cyn penodi Prif Weinidog newydd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn cael ei drin ar ôl penodi'r Prif Weinidog fel pe bai wedi cael ei wneud gan y Prif Weinidog.
Notes:
[1]
2000 p.14back
[2]
Sefydliwyd Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru gan adran 72(1) o Ddeddf Safonau Gofal 2000back
[3]
2006 p.32back
[4]
1998 p.38back
[5]
2000/3121 (Cy.199)back
[6]
2006 p.32back
[7]
1998 p.38.back
English version
ISBN
978 0 11 091554 8
| © Crown copyright 2007 |
Prepared
10 April 2007
|
BAILII:
Copyright Policy |
Disclaimers |
Privacy Policy |
Feedback |
Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20071049w.html