BAILII [Home] [Databases] [World Law] [Multidatabase Search] [Help] [Feedback]

Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales


You are here: BAILII >> Databases >> Statutory Instruments made by the National Assembly for Wales >> Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007 Rhif 2333 (Cy.191)
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072333w.html

[New search] [Help]



OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU


2007 Rhif 2333 (Cy.191)

AMAETHYDDIAETH, CYMRU

Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007

  Wedi'u gwneud 8 Awst 2007 
  Wedi'u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 13 Awst 2007 
  Yn dod i rym 4 Medi 2007 

Mae Gweinidogion Cymru wedi'u dynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[1] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[2] ac o ran mesurau sy'n ymwneud â bwydydd (gan gynnwys diodydd) gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol bwydydd[3].

     Cafwyd ymgynghori cyhoeddus agored a thryloyw yn ystod gwaith paratoi'r Rheoliadau canlynol yn unol â gofynion Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor[4] sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd.

     Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol o dan y pwerau a roddwyd gan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972:

Enwi, cychwyn a dehongli
     1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) (Diwygio) 2007 a deuant i rym ar 4 Medi 2007.

    (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2001" ("the 2001 Regulations") yw Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001[
5].

    (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygio Rheoliadau 2001
     2. —(1) Diwygir Rheoliadau 2001 fel a ganlyn.

    (2) Yn rheoliad 2(1), yn lle diffiniadau "Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000", "Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000", "Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001", "Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001", "Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002" a "Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/1999"[
6] rhodder y diffiniadau canlynol—

    (3) Yn lle Atodlen 1, rhodder yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

    (4) Yn Atodlen 3, mewnosoder y cofnodion canlynol yn y mannau priodol—

"Enw'r Amrywogaeth Enwau cyfystyr Lliw'r grawnwin
Acolon            Du
Cabernet Sauvignon            Du
Frühburgunder Pinot Noir Précoce Du
Merlot            Du"


    (5) Yn Atodlen 5 hepgorer—

    (6) Yn Atodlen 6[13], hepgorer y cofnod yng ngholofnau 1 a 2 o'r tabl sy'n ymwneud â chyfanswm echdyniad sych (a geir drwy ddwysfesureg).


Elin Jones
Y Gweinidog dros Faterion Gwledig, un o Weinidogion Cymru

8 Awst 2007



ATODLEN
Rheoliad 2(3)



NODYN ESBONIADOL

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)


Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Gwin) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2193 (Cy.155)), sy'n darparu ar gyfer gorfodi yng Nghymru ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd ynghylch cynhyrchu a marchnata gwin a chynhyrchion cysylltiedig.

Mae'r Rheoliadau hyn—

Mae asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gael oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.


Notes:

[1] 1972 p.68.back

[2] O.S. 2005/2766. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back

[3] O.S. 2003/2901. Yn rhinwedd adrannau 59(1) a 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a pharagraffau 28 a 30 o Atodlen 11 iddi, mae'r swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y dynodiad hwn yn arferadwy gan Weinidogion Cymru.back

[4] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 575/2006 (OJ Rhif L100, 8.4.2006, t.3).back

[5] O.S. 2001/2193 (Cy.155) fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/1776 (Cy.192), O.S. 2004/2599 (Cy.232) ac O.S. 2006/1716 (Cy.178).back

[6] Mewnosodwyd y diffiniad o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1493/99 yn Rheoliadau 2001 gan O.S. 2004/2599 (Cy.232) a'i ddisodli wedyn gan O.S. 2006/1716 (Cy.178). Mewnosodwyd y diffiniadau o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1622/2000, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1623/2000, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 883/2001, Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 884/2001 a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 753/2002 yn Rheoliadau 2001 gan O.S. 2006/1716 (Cy.178).back

[7] OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 389/2007 (OJ Rhif L 97, 12.4.2007, t.5).back

[8] OJ Rhif L 194, 31.7.2000, t.45, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006 (OJ Rhif L 384, 29.12.2006, t.38).back

[9] OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006.back

[10] OJ Rhif L 128, 10.5.2001, t.32, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006.back

[11] OJ Rhif L 118, 4.5.2002, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 382/2007 (OJ Rhif L 95, 5.4.2007, t.12).back

[12] OJ Rhif L 179, 14.7.1999, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L 363, 20.12.2006, t.1).back

[13] Mewnosodwyd Atodlen 6 gan O.S. 2004/2599 (Cy.232).back

[14] OJ Rhif L 54, 5.3.1979, t.124, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1791/2006 (OJ Rhif L363, 20.12.2006, p.1).back

[15] OJ Rhif L 179, 11.7.1985, t.21, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2016/2006 (OJ Rhif L 384, 29.12.2006, t.38).back

[16] OJ Rhif L 208, 31.7.1986, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1631/98 (OJ Rhif L 210, 28.7.98, t.14).back

[17] OJ Rhif L 62, 5.3.1987, t.10, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EEC) Rhif 1097/89 (OJ Rhif L 116, 28.4.89, t.20).back

[18] OJ Rhif L 272, 3.10.1990, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1293/2005 (OJ Rhif L 205, 5.8.2005, t.12).back

[19] OJ Rhif L 149, 14.6.1991, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 2061/96 Senedd Ewrop a'r Cyngor, (OJ Rhif L 277, 30.10.1996, t.1).back

[20] OJ Rhif L 203, 21.7.1992, t.10.back

[21] OJ Rhif L 21, 26.1.1994, t.7.back

[22] OJ Rhif L 86, 31.3.1994, t.1.back

[23] OJ Rhif L 143, 16.6.2000, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1216/2005 (OJ Rhif L 199, 29.7.2005, t.32).back

[24] OJ Rhif L 185, 25.7.2000, p.17, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2030/2006 (OJ Rhif L 414, 30.12.2006, t.40).back

[25] OJ Rhif L 316, 15.12.2000, t.16, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2030/2006.back

[26] OJ Rhif L 145, 31.5.2001, t.12, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2079/2005 (OJ Rhif L 333, 20.12.2005, p .6).back

[27] OJ Rhif L 176, 29.6.2001, t.14.back

[28] OJ Rhif L 345, 29.12.2001, t.35, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2088/2004 (OJ Rhif L 361, 8.12.2004, t.3).back

[29] OJ Rhif L 28, 30.1.2002, t.3.back

[30] OJ Rhif L 114, 30.4.2002, t.1.back

[31] OJ Rhif L 352, 30.12.2002, t.1.back

[32] OJ Rhif L 78, 25.3.2003, t.1, a ddiwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1912/2005 (OJ Rhif L 307, 25.11.2005, t.1).back

[33] OJ Rhif L 35, 6.2.2004, t.1.back

[34] OJ Rhif L 54, 24.2.2006, t.23.back

[35] OJ Rhif L 87, 24.3.2006, t.1.back

[36] OJ Rhif L 231, 24.8.2006, t.1.back

[37] OJ Rhif L 231, 24.8.2006, t.135.back

[38] OJ Rhif L 231, 24.8.2006, t.139.back

[39] OJ Rhif L 239, 1.9.2006, t.1.back

[40] OJ Rhif L 267, 27.9.2006, t.22.back



English version



ISBN 978 0 11 091604 0


 © Crown copyright 2007

Prepared 17 August 2007


BAILII: Copyright Policy | Disclaimers | Privacy Policy | Feedback | Donate to BAILII
URL: http://www.bailii.org/wales/legis/num_reg/2007/20072333w.html